Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 52

Rieni—Hyfforddwch Eich Plant i Garu Jehofa

Rieni—Hyfforddwch Eich Plant i Garu Jehofa

“Mae plant yn etifeddiaeth oddi wrth Jehofa.”—SALM 127:3, NWT.

CÂN 134 Ymddiriedolaeth gan Jehofa Yw Plant

CIPOLWG *

1. Pa gyfrifoldeb y mae Jehofa wedi ei roi i rieni?

CREODD Jehofa y cwpl cyntaf a rhoi’r awydd i gael plant iddyn nhw. Mae’r Beibl yn dweud: “Mae plant yn etifeddiaeth oddi wrth Jehofa.” (Salm 127:3, NWT) Beth mae hynny’n ei olygu? Dychmyga fod ffrind agos yn gofyn iti edrych ar ôl swm mawr o arian iddo. Sut byddet ti’n teimlo? Mae’n debyg y byddet ti’n ei hystyried hi’n fraint ei fod ef yn dy drystio di. Ond efallai y byddi di’n poeni am sut i gadw’r arian yn saff. Mae Jehofa, ein Ffrind agosaf, yn rhoi i rieni rywbeth sy’n llawer mwy gwerthfawr nag arian. Mae’n rhoi iddyn nhw’r cyfrifoldeb o edrych ar ôl eu plant a sicrhau eu bod nhw’n hapus.

2. Pa gwestiynau y byddwn ni’n eu trafod?

2 Pwy a ddylai ddewis a fydd cwpl priod yn cael plant neu beidio a phryd? A beth gall rhieni ei wneud i helpu eu plant i gael bywyd hapus? Ystyria rai o’r egwyddorion yng Ngair Duw sy’n gallu helpu cyplau Cristnogol i wneud penderfyniadau doeth.

PARCHA BENDERFYNIAD Y CWPL

3. (a) Pwy sy’n penderfynu a fydd cwpl priod yn cael plant neu beidio? (b) Pa egwyddor Feiblaidd dylai ffrindiau a theulu’r cwpl ei chadw mewn cof?

3 Mewn rhai diwylliannau, mae ’na ddisgwyl i gyplau ddechrau cael plant cyn gynted â phosib. Efallai fod y teulu ac eraill yn eu rhoi nhw o dan bwysau i ddilyn yr arferiad hwnnw. Dywed Jethro, brawd yn Asia, “Yn y gynulleidfa, mae rhai cyplau sydd â phlant yn rhoi pwysau ar gyplau sydd heb blant i gael plentyn.” Mae brawd arall yn Asia, Jeffrey, yn dweud, “Mae rhai yn dweud wrth gyplau sydd heb blant na fydd ganddyn nhw unrhyw un i ofalu amdanyn nhw pan fyddan nhw’n mynd yn hen.” Fodd bynnag, dylai pob cwpl benderfynu drostyn nhw eu hunain a ddylen nhw gael plant neu beidio. Dyna eu penderfyniad a’u cyfrifoldeb nhwthau. (Gal. 6:5) Wrth gwrs, mae ffrindiau a theulu eisiau i gwpl sydd newydd briodi fod yn hapus. Ond mae’n rhaid i bawb gofio mai’r cwpl sy’n penderfynu a ddylen nhw gael plant neu beidio.—1 Tim. 5:13, BCND.

4-5. Pa ddau bwnc y mae’n rhaid i gyplau eu trafod, a phryd yw’r amser gorau i gael trafodaeth o’r fath? Esbonia.

4 Dylai cwpl sy’n penderfynu cael plant drafod dau gwestiwn pwysig: Yn gyntaf, pryd maen nhw eisiau cael plant? Yn ail, faint o blant maen nhw eisiau? Beth yw’r amser gorau i gwpl gael trafodaeth o’r fath? A pham mae’r ddau bwnc hynny mor bwysig?

5 Yn y rhan fwyaf o achosion, peth da fyddai i gwpl drafod y pwnc o gael plant cyn iddyn nhw briodi. Pam felly? Un rheswm da yw oherwydd ei bod hi’n bwysig iddyn nhw fod o’r un farn ynglŷn â’r mater hwn. Hefyd, bydd rhaid iddyn nhw ystyried a ydyn nhw’n barod am y cyfrifoldeb hwnnw. Mae rhai cyplau wedi penderfynu aros am o leiaf flwyddyn neu ddwy ar ôl eu priodas cyn cael plant, oherwydd bydd dod yn rhieni yn cymryd llawer o amser ac egni. Maen nhw’n rhesymu y bydd disgwyl am ychydig yn rhoi amser iddyn nhw ddod i arfer â bywyd priodasol ac agosáu at ei gilydd.—Eff. 5:33.

6. Sut mae’r amseroedd rydyn ni’n byw ynddyn nhw wedi effeithio ar rai cyplau?

6 Mae Cristnogion eraill wedi penderfynu efelychu tri mab Noa a’u gwragedd. Ni chafodd y tri chwpl hynny blant yn syth. (Gen. 6:18; 9:18, 19; 10:1; 2 Pedr 2:5) Cymharodd Iesu ein dyddiau ni ag “amser Noa,” ac nid oes unrhyw amheuaeth nad ydyn ni’n byw yn ystod “adegau ofnadwy o anodd.” (Math. 24:37; 2 Tim. 3:1) Am y rheswm hwnnw, mae rhai cyplau wedi penderfynu eu bod nhw eisiau gohirio cael plant er mwyn iddyn nhw allu gwneud mwy yng ngwasanaeth Jehofa.

Wrth benderfynu a ddylen nhw gael plant a faint o blant i’w cael, mae cyplau doeth yn “amcangyfri’r gost” (Gweler paragraff 7) *

7. Sut gall yr egwyddorion yn Luc 14:28, 29 a Diarhebion 21:5 helpu cyplau?

7 Wrth benderfynu a ddylen nhw gael plant a faint o blant i’w cael, mae cyplau doeth yn “amcangyfri’r gost.” (Darllen Luc 14:28, 29.) Mae rhieni profiadol yn gwybod bod magu plant nid yn unig yn gofyn am arian ond hefyd yn gofyn am amser ac egni. Felly, mae’n bwysig i gwpl ystyried cwestiynau fel hyn: ‘A fyddai’n rhaid i’r ddau ohonon ni weithio i ddarparu ar gyfer anghenion sylfaenol y teulu? Ydyn ni’n cytuno ar beth yw ein “hanghenion sylfaenol”? Os byddai’n rhaid i’r ddau ohonon ni weithio, pwy fyddai’n edrych ar ôl ein plant? Pwy fyddai’n dylanwadu ar eu meddyliau a’u gweithredoedd?’ Pan fydd cyplau’n trafod y cwestiynau hyn mewn ffordd bwyllog, maen nhw’n rhoi ar waith y geiriau yn Diarhebion 21:5.Darllen.

Bydd gŵr cariadus yn gwneud popeth a allai i gefnogi ei wraig (Gweler paragraff 8)

8. Pa heriau y dylai cyplau eu disgwyl, a beth bydd gŵr cariadus yn ei wneud?

8 Mae plentyn yn gofyn am amser ac egni gan y ddau riant ac mae’n haeddu’r gofal hwnnw. Felly, os yw cwpl yn cael nifer o blant o fewn cyfnod byr, gall y rhieni ei chael hi’n anodd roi’r sylw sydd ei angen ar bob plentyn. Mae rhai cyplau sydd wedi cael nifer o blant ifanc wedi dweud eu bod nhw’n teimlo bod pethau wedi mynd yn drech na nhw. Efallai bydd y fam yn teimlo’n flinedig ar hyd yr amser. A all hynny effeithio ar ei gallu i astudio, i weddïo, ac i bregethu’n aml? Gallai hefyd fod yn anodd iddi ganolbwyntio yn ystod cyfarfodydd Cristnogol ac elwa arnyn nhw. Wrth gwrs, bydd gŵr cariadus yn gwneud yr hyn a allai i gefnogi ei wraig pan fydd angen sylw ar eu plant, a hynny yn y cyfarfodydd ac yn y cartref. Er enghraifft, gallai helpu ei wraig i wneud y gwaith o gwmpas y tŷ. Fe fydd yn gweithio’n galed i sicrhau bod pawb yn elwa ar raglen reolaidd o Addoliad Teuluol. A bydd tad Cristnogol yn mynd yn rheolaidd ar y weinidogaeth gyda’i deulu.

DYSGU PLANT I GARU JEHOFA

9-10. Beth mae’n rhaid i rieni ei wneud i helpu eu plant?

9 Beth yw rhai o’r pethau y gall rhieni eu gwneud i helpu eu plant i ddysgu caru Jehofa? Sut gallan nhw amddiffyn eu plant rhag peryglon y byd drwg hwn? Ystyria rai pethau y gall rhieni eu gwneud.

10 Gweddïa am help Jehofa. Sylwa ar yr esiampl a osododd Manoa a’i wraig, a ddaeth yn rhieni i Samson. Pan glywodd fod ei wraig ac yntau yn mynd i gael mab, dyma Manoa yn ymbil ar Jehofa am arweiniad ar sut i fagu eu plentyn.

11. Sut gall rhieni efelychu esiampl Manoa, sydd wedi ei chofnodi yn Barnwyr 13:8?

11 Gwnaeth Nihad ac Alma, o Bosnia a Hertsegofina, ddysgu oddi wrth esiampl Manoa. Maen nhw’n esbonio: “Fel Manoa, gwnaethon ni ymbil ar Jehofa am ei gyfarwyddyd ar sut i fod yn rhieni da. A gwnaeth Jehofa ateb ein gweddïau mewn gwahanol ffyrdd—trwy’r Ysgrythurau, y llenyddiaeth Feiblaidd, y cyfarfodydd, a’r cynadleddau.”—Darllen Barnwyr 13:8.

12. Pa esiampl a osododd Joseff a Mair ar gyfer eu plant?

12 Gosoda esiampl dda. Mae’r hyn rwyt ti’n ei ddweud yn bwysig; sut bynnag, mae’n debyg bydd yr hyn rwyt ti’n ei wneud yn gwneud mwy o argraff ar dy blentyn. Gallwn fod yn sicr y gwnaeth Joseff a Mair osod esiampl wych ar gyfer eu plant, gan gynnwys Iesu. Roedd Joseff yn gweithio’n galed er mwyn cefnogi ei deulu. Yn ogystal â hynny, roedd Joseff yn eu hannog i werthfawrogi pethau ysbrydol. (Deut. 4:9, 10) Er nad oedd y Gyfraith yn gofyn i Joseff fynd â’i deulu i Jerwsalem “bob blwyddyn” er mwyn dathlu gŵyl y Pasg, dyna a wnaeth. (Luc 2:41, 42) Efallai fod rhai tadau yr adeg honno yn meddwl bod mynd â’r holl deulu ar y daith honno yn rhy anodd, yn cymryd gormod o amser, neu’n rhy gostus. Ond eto, yn amlwg roedd Joseff yn gwerthfawrogi pethau ysbrydol ac yn dysgu ei blant i wneud yr un peth. Hefyd, roedd Mair yn adnabod yr ysgrythurau’n dda. Trwy ei geiriau a’i gweithredoedd, yn sicr fe wnaeth hi ddysgu ei phlant i garu Gair Duw.

13. Sut gwnaeth un cwpl ddilyn esiampl Joseff a Mair?

13 Roedd Nihad ac Alma, y soniwyd amdanyn nhw’n gynharach, eisiau dilyn esiampl Joseff a Mair. Sut gwnaeth hynny eu helpu i fagu eu mab i garu Duw a’i wasanaethu? Maen nhw’n dweud, “Trwy ein bywydau, roedden ni’n ceisio dangos i’n mab pa mor dda yw hi i fyw yn ôl egwyddorion Jehofa.” Mae Nihad yn ychwanegu, “Rhaid iti fod y math o berson rwyt ti eisiau i dy blentyn ei fod.”

14. Pam mae angen i rieni wybod pwy mae eu plant yn cymdeithasu â nhw?

14 Helpa dy blant i ddewis ffrindiau da. Mae’n rhaid i’r fam a’r tad wybod pwy mae eu plant yn cymdeithasu â nhw a beth maen nhw’n ei wneud. Mae hynny’n golygu bod rhaid i’r rhieni wybod pwy mae eu plant yn cyfathrebu â nhw drwy’r cyfryngau cymdeithasol ac ar eu ffonau symudol. Gall y ffrindiau hynny ddylanwadu ar sut mae’r plant yn meddwl ac yn ymddwyn.—1 Cor. 15:33.

15. Beth gall rhieni ei ddysgu oddi wrth esiampl Jessie?

15 Beth gall rhieni ei wneud os nad ydyn nhw’n gwybod llawer am gyfrifiaduron a dyfeisiau symudol? Dywed Jessie, tad yn Ynysoedd y Philipinau: “Doedden ni ddim yn gwybod llawer am dechnoleg. Ond wnaeth hynny ddim ein stopio ni rhag dysgu ein plant am beryglon posib dyfeisiau electronig.” Ni wnaeth Jessie wahardd ei blant rhag defnyddio dyfeisiau o’r fath oherwydd nad oedd yntau’n gwybod llawer amdanyn nhw. Mae’n esbonio: “Fe wnes i annog fy mhlant i ddefnyddio eu dyfeisiau electronig er mwyn dysgu iaith newydd, i baratoi ar gyfer y cyfarfodydd, ac i ddarllen y Beibl bob dydd.” Os wyt ti’n rhiant, a wyt ti wedi darllen a thrafod gyda dy blant y cyngor cytbwys am decstio a rhannu lluniau ar lein sydd ar gael yn yr adran “Arddegau” ar jw.org®? A wyt ti wedi adolygu â nhw’r fideos Pwy Sy’n Rheoli—Ti Neu Dy Ddyfeisiau? a Defnyddio Dy Ben Wrth Gymdeithasu Ar-Lein? * Gall y deunydd hwnnw fod yn werthfawr wrth iti ddysgu dy blant sut i ddefnyddio dyfeisiau electronig yn ddoeth.—Diar. 13:20.

16. Beth mae llawer o rieni wedi ei wneud, a beth oedd y canlyniad?

16 Mae llawer o rieni yn gwneud ymdrech lew i drefnu cyfleoedd i’w plant gymdeithasu â’r rhai sy’n gosod esiampl dda o ran gwasanaethu Duw. Er enghraifft, roedd N’Déni a Bomine, cwpl yn y Traeth Ifori, yn aml yn gwahodd arolygwr y gylchdaith i aros yn eu tŷ. Mae N’Déni yn dweud: “Cafodd hyn effaith dda ar ein mab. Dechreuodd arloesi a nawr mae’n gwasanaethu fel dirprwy arolygwr y gylchdaith.” A elli di drefnu cyfleoedd o’r fath i dy blant?

17-18. Pryd dylai rhieni ddechrau hyfforddi eu plant?

17 Dechreua hyfforddi dy blant cyn gynted â phosib. Y mwyaf cynnar mae rhieni yn dechrau hyfforddi eu plant, y gorau yw. (Diar. 22:6) Ystyria Timotheus, a deithiodd ymhen amser gyda’r apostol Paul. Gwnaeth mam Timotheus, Eunice, a’i fam-gu Lois ei hyfforddi ‘ers iddo fod yn blentyn.’—2 Tim. 1:5; 3:15.

18 Llwyddodd cwpl arall yn y Traeth Ifori, Jean-Claude a Peace, i fagu chwech o blant a phob un ohonyn nhw’n caru ac yn gwasanaethu Jehofa. Beth helpodd nhw i fod yn llwyddiannus? Gwnaethon nhw ddilyn esiampl Eunice a Lois. Maen nhw’n dweud, “Gwnaethon ni ddysgu Gair Duw iddyn nhw o’u plentyndod, gan ddechrau ychydig ar ôl iddyn nhw gael eu geni.”—Deut. 6:6, 7.

19. Beth mae’n ei olygu i ddysgu Gair Duw i dy blant?

19 Beth mae’n ei olygu i “ddysgu” Gair Jehofa i dy blant? Yn Deuteronomium 6:7, mae’r gair Hebraeg a drosir “dysgu” yn golygu “dysgu ac atgoffa drwy ailadrodd yn aml.” Er mwyn gwneud hynny, mae angen i rieni dreulio amser gyda’u plant ifanc yn aml. Weithiau gall rhieni deimlo’n ddigalon gan fod rhaid iddyn nhw ailadrodd cyfarwyddiadau i’w plant. Fodd bynnag, gall rhieni geisio gweld hyn fel cyfle i helpu eu plant i ddeall Gair Duw a’i roi ar waith.

Mae angen i rieni benderfynu sut i hyfforddi pob un o’u plant (Gweler paragraff 20) *

20. Esbonia sut mae Salm 127:4 yn berthnasol o ran magu plant.

20 Adnabod dy blant yn dda. Mae Salm 127 yn cymharu plant â saethau. (Darllen Salm 127:4.) Yn union fel y mae saethau yn gallu cael eu gwneud o wahanol ddeunydd ac yn amrywio o ran maint, mae pob plentyn yn wahanol. Felly, mae angen i rieni benderfynu sut i hyfforddi pob un o’u plant. Mae cwpl yn Israel heddiw, sydd wedi llwyddo i fagu dau o blant i wasanaethu Jehofa, yn dweud beth wnaeth eu helpu nhw, “Gwnaethon ni gynnal astudiaeth Feiblaidd gyda phob plentyn ar wahân.” Wrth gwrs, bydd pob penteulu yn penderfynu a ydy astudio yn y ffordd honno’n angenrheidiol neu’n bosib.

BYDD JEHOFA’N DY HELPU DI

21. Pa help gall rhieni ei ddisgwyl oddi wrth Jehofa?

21 Gall rhieni weithiau deimlo ei bod hi’n rhy anodd i ddysgu eu plant, ond mae plant yn rhodd oddi wrth Jehofa. Y mae Ef wastad ar gael i helpu. Mae’n barod i wrando ar weddïau rhieni. Ac mae’n ateb y gweddïau hynny drwy gyfrwng y Beibl, ein cyhoeddiadau, ac esiampl rhieni profiadol eraill yn y gynulleidfa ynghyd â’r cyngor maen nhw’n ei roi.

22. Beth sydd ymhlith y pethau gorau y gall rhieni eu rhoi i’w plant?

22 Mae rhai pobl yn dweud ei bod hi’n cymryd 20 mlynedd i fagu plentyn, ond nid yw rhieni’n stopio bod yn rhieni mewn gwirionedd. Ymhlith y pethau gorau y gallan nhw eu rhoi i’w plant y mae cariad, amser, a hyfforddiant wedi ei seilio ar y Beibl. Bydd pob plentyn yn ymateb yn wahanol i’r hyfforddiant hwnnw. Sut bynnag, mae llawer ohonyn nhw sydd wedi cael eu magu gan rieni sy’n caru Jehofa yn teimlo’n debyg i Joanna Mae, chwaer yn Asia: “Wrth imi edrych yn ôl ar yr hyfforddiant ges i oddi wrth fy rhieni, dw i mor ddiolchgar y gwnaethon nhw fy nisgyblu a fy nysgu i garu Jehofa. Rhoddon nhw fwy na jest bywyd imi, rhoddon nhw fywyd llawn ystyr imi.” (Diar. 23:24, 25) Mae miliynau o’n brodyr a’n chwiorydd yn teimlo’r un fath.

CÂN 59 Dewch, Molwch Jah!

^ Par. 5 A ddylai cwpl priod gael plant? Os ydyn nhw, faint o blant dylen nhw eu cael? A sut gallan nhw hyfforddi eu plant i garu Jehofa a’i wasanaethu? Mae’r erthygl hon yn trafod esiamplau o’n dyddiau ni ac yn cyfeirio at egwyddorion Beiblaidd sy’n gallu ein helpu i ateb y cwestiynau hynny.

^ Par. 15 Gweler hefyd Questions Young People Ask—Answers That Work, Volume 1, pen. 36, a Volume 2, pen. 11.

^ Par. 60 DISGRIFIADAU O’R LLUNIAU: Cwpl Cristnogol yn trafod a fyddan nhw’n cael plant neu beidio, gan feddwl am y pethau da ynghyd â’r cyfrifoldebau.

^ Par. 64 DISGRIFIADAU O’R LLUNIAU: Cwpl yn astudio gyda’u plant ar wahân oherwydd bod oedrannau a galluoedd y plant yn wahanol.