Cwestiynau Ein Darllenwyr
Pan ddywedodd Satan wrth Efa na fyddai hi’n marw pe byddai hi’n bwyta o goeden gwybodaeth da a drwg, a oedd ef yn cyflwyno’r syniad sy’n gyffredin heddiw sef anfarwoldeb yr enaid?
Nac oedd. Ni ddywedodd y Diafol wrth Efa pe byddai hi’n bwyta’r ffrwyth a waharddwyd gan Dduw, y byddai’n ymddangos ei bod hi wedi marw tra byddai rhan anweledig ohoni (yr hyn a elwir yn enaid anfarwol gan rai) yn dal i fyw yn rhywle arall. Honiad Satan drwy’r sarff oedd, pe byddai Efa’n bwyta ffrwyth y goeden honno, ‘na fyddai hi’n marw o gwbl.’ Yr awgrym oedd y byddai hi’n dal i fyw, ac yn mwynhau bywyd gwell ar y ddaear, bywyd yn annibynnol ar Dduw.—Gen. 2:17; 3:3-5.
Os nad oedd dysgeidiaeth anfarwoldeb yr enaid, fel y dysgir heddiw, wedi tarddu o Eden, pryd dechreuodd y ddysgeidiaeth hon? Ni allwn ddweud i sicrwydd. Ond fe wyddon ni y cafodd pob gau addoliad ei ddinistrio yn ystod y Dilyw yn nyddiau Noa. Ni wnaeth unrhyw syniadau crefyddol anghywir oroesi’r Dilyw oherwydd dim ond Noa a’i deulu—gwir addolwyr—a oroesodd.
Felly, yn ei ffurf bresennol, mae’n rhaid bod y ddysgeidiaeth am anfarwoldeb enaid dyn wedi dechrau ar ôl y Dilyw. Pan ddrysodd Duw’r ieithoedd ym Mabel a’r bobl yn cael eu gwasgaru “drwy’r byd i gyd,” mae’n eithaf tebyg yr aethon nhw â’r syniad fod gan fodau dynol enaid anfarwol gyda nhw. (Gen. 11:8, 9) Ni waeth pryd dechreuodd y syniad anghywir hwn, gallwn fod yn sicr mai “tad pob celwydd,” Satan y Diafol, oedd y tu ôl iddo a’i fod yn hapus i weld y syniad yn cael ei ledaenu o gwmpas y byd.—Ioan 8:44.