Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Wyt Ti’n Cofio?

Wyt Ti’n Cofio?

A fedri di ateb y cwestiynau hyn ar sail rhifynnau 2019 o’r Tŵr Gwylio?

Beth yw ystyr addewid Duw: “Fydd yr arfau sydd wedi eu llunio i dy daro di ddim yn llwyddo”? (Esei. 54:17)

Gallwn fod yn hyderus y bydd Duw yn ein hamddiffyn ni rhag “pobl greulon.” (Esei. 25:4, 5) Fydd ein gelynion byth yn llwyddo i achosi unrhyw niwed parhaol inni.—w19.01, tt. 6-7.

Sut roedd y ffordd y deliodd Duw â’r Canaaneaid a’r Israeliaid anffyddlon yn adlewyrchu ei gyfiawnder?

Gwnaeth Duw farnu’r rhai a oedd yn cymryd rhan mewn gweithredoedd rhywiol aflan neu’n gwneud cam â merched a phlant diamddiffyn. Roedd yn bendithio pobl pan oedden nhw’n ffyddlon iddo ac yn trin ei gilydd yn deg.—w19.02, tt. 22-23.

Beth dylen ni ei wneud os ydyn ni’n bresennol pan fydd anghrediniwr yn gweddïo?

Gallwn aros yn ddistaw a pharchus ond peidio â dweud “amen” na dal dwylo’r rhai sy’n bresennol. Gallwn ddewis dweud ein gweddi ni’n hunain yn ddistaw bach.—w19.03, t. 31.

Pa mor ddifrifol yw cam-drin plant yn rhywiol?

Mae cam-drin plant yn rhywiol yn pechu yn erbyn y dioddefwr, y gynulleidfa, yr awdurdodau seciwlar, a Duw. Pan fydd cyfreithiau seciwlar yn gofyn am adrodd cyhuddiadau o gamdriniaeth, mae’r henuriaid yn ufuddhau iddyn nhw.—w19.05, tt. 9-10.

Sut gelli di newid neu wella dy brif agwedd meddwl?

Dyma’r camau pwysig: Siarad â Jehofa mewn gweddi. Myfyrio a gofyn cwestiynau i ti dy hun. Dewis cwmni da.—w19.06, t. 11.

Beth gallwn ni ei wneud nawr i baratoi ar gyfer erledigaeth?

Mae angen inni gryfhau ein cyfeillgarwch â Jehofa. Bydda’n argyhoeddedig ei fod yn ein caru ni ac na fydd ef byth yn cefnu arnon ni. Darllena’r Beibl bob dydd, a gweddïa’n rheolaidd. Creda y bydd bendithion Teyrnas Dduw yn dod yn wir. Dysga dy hoff adnodau a chaneuon o fawl ar gof.—w19.07, tt. 2-4.

Beth gallwn ni ei wneud i helpu ein perthnasau i gael eu hachub?

Mae’n bwysig inni ddangos cydymdeimlad, gadael i’n hesiampl dda roi tystiolaeth dda, a bod yn amyneddgar ac yn gwrtais.—w19.08, tt. 15-17.

Sut rydyn ni’n cael ein hadfywio, fel yr addawodd Iesu yn Mathew 11:28?

Mae gennyn ni arolygwyr Cristnogol cariadus, y ffrindiau gorau, a’r gwaith gorau.—w19.09, t. 23.

Sut gall Duw roi inni’r awydd a’r nerth i weithredu? (Phil. 2:13)

Wrth inni ddarllen Gair Duw a myfyrio arno, gall Duw roi egni inni, a bydd hynny’n rhoi inni’r awydd i wneud ei ewyllys ynghyd â’r nerth i weithredu. Gall ei ysbryd wella’r galluoedd sydd gennyn ni’n barod.—w19.10, t. 21.

Pa gamau doeth y dylen ni eu cymryd cyn gwneud penderfyniad pwysig?

Dyma’r pum cam: Gwna ymchwil drylwyr. Gweddïa am ddoethineb. Meddylia am dy gymhellion. Bydda’n benodol. Bydda’n realistig.—w19.11, tt. 27-29.

Ydy’r syniad o enaid anfarwol yn tarddu o beth ddywedodd Satan wrth Efa?

Nac ydy. Dywedodd Satan wrth Efa na fyddai hi’n marw; ni ddywedodd y byddai’n ymddangos yn farw yn unig. Ni fyddai unrhyw syniadau crefyddol anghywir wedi goroesi’r Dilyw. Mae’n debyg y dechreuodd y syniad am enaid anfarwol cyn i Dduw wasgaru’r bobl oedd yn adeiladu tŵr Babel.—w19.12, t. 15.