Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 52

Sut Gelli Di Frwydro Digalondid?

Sut Gelli Di Frwydro Digalondid?

“Rho dy feichiau trwm i’r ARGLWYDD; bydd e’n edrych ar dy ôl di.”—SALM 55:22.

CÂN 33 Bwrw Dy Faich ar Jehofa

CIPOLWG a

1. Sut gall digalondid effeithio arnon ni?

 RYDYN ni’n wynebu problemau bob dydd ac yn delio â nhw y gorau a gallwn ni. Ond mae’n llawer anoddach delio â phroblemau pan fyddwn ni’n ddigalon. Felly mae’n rhaid inni ystyried digalondid fel lleidr sy’n gallu dwyn ein hyder, ein dewrder, a’n llawenydd. Mae Diarhebion 24:10, BCND yn dweud: “Os torri dy galon yn nydd cyfyngder, yna y mae dy nerth yn wan.” Ydy, mae’n ddigon gwir y gall digalondid sugno’r egni rydyn ni ei angen i ddelio â phroblemau bywyd yn llwyddiannus.

2. Beth all wneud inni deimlo’n ddigalon, a beth byddwn ni’n ei ystyried yn yr erthygl hon?

2 Gall llawer o bethau—yn fewnol ac yn allanol—ein digalonni ni. Gall y pethau hynny gynnwys amherffeithrwydd, gwendidau, a salwch. Hefyd gall hynny gynnwys peidio â chael aseiniad oedden ni ei eisiau yng ngwasanaeth Jehofa, neu orfod tystiolaethu mewn tiriogaeth sy’n ymddangos yn anffrwythlon. Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n ystyried rhai pethau gallwn ni eu gwneud i ddelio â digalondid.

WRTH DDELIO AG AMHERFFEITHRWYDD A GWENDIDAU

3. Beth all ein helpu pan deimlwn yn ddrwg amdanon ni’n hunain a’n camgymeriadau?

3 Mae’n ddigon hawdd inni deimlo’n ddrwg amdanon ni’n hunain a’n camgymeriadau. O ganlyniad, gallwn ni gredu na fydd Jehofa byth yn ein croesawu i’w fyd newydd oherwydd ein ffaeleddau. Gall agwedd felly fod yn beryglus iawn. Sut dylen ni deimlo am ein camgymeriadau? Mae’r Beibl yn datgan bod pob bod dynol ar wahân i Iesu Grist “wedi pechu.” (Rhuf. 3:23) Ond dydy Awdur y Beibl ddim yn pigo beiau nac yn disgwyl inni fod yn berffaith. Yn hytrach, mae’n Dad cariadus sydd eisiau ein helpu. Mae hefyd yn amyneddgar. Mae’n gwybod ei bod hi’n anodd inni wneud y peth iawn, a’i bod yn anodd peidio â theimlo’n ddrwg amdanon ni’n hunain, ac mae’n barod i’n helpu.—Rhuf. 7:18, 19.

Mae Jehofa’n ymwybodol o’r daioni a wnaethon ni yn y gorffennol a’r daioni rydyn ni’n ei wneud nawr (Gweler paragraff 5) d

4-5. Yn unol â 1 Ioan 3:19, 20, pam wnaeth y ddwy chwaer ddim ildio i ddigalondid?

4 Ystyria esiamplau Deborah a Maria. b Pan oedd hi’n blentyn, doedd teulu Deborah ddim yn garedig iawn tuag ati a bydden nhw’n aml yn ei bychanu. Prin oedd hi’n cael ei chanmol. Felly datblygodd agwedd negyddol tuag at ei hun. Pan oedd hi’n gwneud camgymeriadau bach, roedd hi’n teimlo ei bod yn fethiant llwyr. Roedd gan Maria broblem debyg. Byddai ei pherthnasau yn codi cywilydd arni. O ganlyniad, roedd hi’n brwydro â theimladau o fod yn ddiwerth. Hyd yn oed ar ôl dod i’r gwir, roedd hi’n teimlo nad oedd hi’n ddigon da i fod yn un o Dystion Jehofa!

5 Ond eto, wnaeth y ddwy chwaer ddim stopio gwasanaethu Jehofa. Pam? Un rheswm oedd y bydden nhw’n bwrw eu beichiau ar Jehofa drwy weddïo’n daer arno. (Salm 55:22) Daethon nhw i dderbyn bod ein Tad nefol cariadus yn gwybod sut mae profiadau’r gorffennol a’n meddyliau negyddol wedi effeithio arnon ni. Ond mae hefyd yn gweld y da sydd yn ein calonnau—rhinweddau efallai nad ydyn ni’n gweld ynon ni’n hunain.—Darllen 1 Ioan 3:19, 20.

6. Beth gall rhywun ei wneud ar ôl iddo faglu?

6 Gall rhywun sy’n brwydro i drechu rhyw arfer drwg sydd wedi gwreiddio’n ddwfn faglu a theimlo’n siomedig drosto’i hun. Wrth gwrs, mae’n naturiol i deimlo rywfaint o euogrwydd pan fyddwn ni’n pechu. (2 Cor. 7:10) Ond, ddylen ni ddim mynd i eithafion a chondemnio’n hunain, gan feddwl: ‘Dw i’n fethiant llwyr. Fydd Jehofa byth yn maddau imi.’ Dydy hynny ddim yn wir, a gall meddwl fel ’na achosi inni stopio gwasanaethu Jehofa. Cofia beth ddarllenon ni yn Diarhebion 24:10—bydd ein nerth yn wan pan fyddwn ni’n ddigalon. Yn hytrach, sicrha dy fod ti a Jehofa yn deall eich gilydd drwy fynd ato mewn gweddi a gofyn iddo faddau iti. (Esei. 1:18) Pan fydd Jehofa’n gweld bod wir ddrwg gen ti a dy fod yn gwneud ymdrech fawr i newid, bydd yn maddau iti. Ar ben hynny, dos at yr henuriaid. Byddan nhw’n amyneddgar wrth dy helpu i wella’n ysbrydol.—Iago 5:14, 15.

7. Pam na ddylen ni ddigalonni os ydyn ni’n ei chael hi’n anodd gwneud yr hyn sy’n iawn?

7 Mae Jean-Luc, henuriad yn Ffrainc, yn dweud wrth y rhai sy’n brwydro â gwendid: “Yn llygaid Jehofa nid un sydd byth yn gwneud camgymeriad yw rhywun cyfiawn, ond un sy’n difaru ei gamgymeriadau ac sydd wastad yn edifarhau.” (Rhuf. 7:21-25) Felly paid â meddwl dy fod yn dda i ddim os wyt ti’n brwydro â gwendid. Cofia dydy’r un ohonon ni’n hollol gyfiawn; rydyn ni i gyd angen y caredigrwydd anhaeddiannol mae Jehofa’n ei roi drwy’r pridwerth.—Eff. 1:7; 1 Ioan 4:10.

8. At bwy gallwn ni droi pan fyddwn ni’n ddigalon?

8 Gallwn droi at ein brodyr a chwioryddein teulu ysbrydolam anogaeth! Gallan nhw wrando arnon ni pan fyddwn ni angen siarad a chodi’n calonnau â geiriau caredig. (Diar. 12:25; 1 Thes. 5:14) Mae Joy, chwaer yn Nigeria sydd wedi brwydro digalondid, yn dweud: “Wn i ddim lle byddwn ni oni bai am y brodyr a chwiorydd. Mae eu hanogaeth yn profi bod Jehofa yn ateb fy ngweddïau. Dw i hyd yn oed wedi dysgu ganddyn nhw sut i annog eraill sy’n ddigalon.” Ond, mae’n rhaid inni gofio na fydd ein brodyr a chwiorydd bob amser yn gwybod bod angen anogaeth arnon ni. Felly, efallai bydd rhaid i ni gymryd y cam cyntaf i fynd at frawd neu chwaer aeddfed a dweud wrthyn nhw ein bod ni angen help.

WRTH DDELIO Â SALWCH

9. Sut mae Salm 41:3 a 94:19 yn ein calonogi ni?

9 Tro at Jehofa am gymorth. Pan fyddwn ni’n sâl, ac yn enwedig os ydyn ni’n delio â salwch hirdymor, efallai y cawn ni drafferth cadw’n bositif. Er nad ydy Jehofa yn ein gwella drwy wyrth y dyddiau hyn, mae’n ein cysuro ni ac yn rhoi’r nerth sydd ei angen arnon ni i ddal ati. (Darllen Salm 41:3; 94:19.) Er enghraifft, efallai bydd yn cymell ein cyd-Gristnogion i’n helpu o gwmpas y tŷ, neu i nôl neges. Efallai bydd yn cymell ein brodyr i weddïo gyda ni. Neu efallai y bydd yn helpu ni i gofio geiriau o gysur yn ei Air, fel y gobaith anhygoel o fywyd perffaith heb salwch na phoen yn y byd newydd sydd i ddod.—Rhuf. 15:4.

10. Beth helpodd Isang i beidio â digalonni ar ôl ei ddamwain?

10 Cafodd Isang, sy’n byw yn Nigeria, ddamwain wnaeth ei barlysu. Dywedodd ei ddoctor wrtho na fyddai byth yn cerdded eto. “O’n i wedi torri ’nghalon ac yn anobeithio,” meddai Isang. A wnaeth ef aros yn ddigalon? Naddo! Beth a’i helpodd? “Wnaeth fy ngwraig a minnau erioed stopio gweddïo ar Jehofa ac astudio ei Air,” esboniodd Isang. “Oedden ni hefyd yn benderfynol o gyfri’n bendithion, gan gynnwys ein gobaith o fyw ym myd newydd Duw.”

Gall hyd yn oed y rhai sydd â chyfyngiadau corfforol gael rhan ffrwythlon a llewyrchus yn y weinidogaeth (Gweler paragraffau 11-13)

11. Sut llwyddodd Cindy i fod yn llawen pan oedd hi’n ddifrifol wael?

11 Cafodd Cindy, sy’n byw ym Mecsico, ei diagnosio â salwch a allai ei lladd. Sut gwnaeth hi ymdopi? Pan oedd hi’n cael triniaeth, gosododd nod o roi tystiolaeth bob dydd. Dywedodd: “Drwy wneud hynny, o’n i’n gallu canolbwyntio ar eraill yn lle meddwl am y llawdriniaeth, y boen, neu pa mor ofnadwy o’n i’n teimlo. Felly, wrth sgwrsio â doctoriaid neu nyrsys, byddwn i’n holi am eu teuluoedd. Wedyn byddwn i’n gofyn pam wnaethon nhw ddewis swydd mor heriol. Ar ôl hynny, oedd hi’n hawdd gweld pa bynciau allai gyffwrdd â’u calonnau. Dywedodd nifer ohonyn nhw mai prin byddai claf yn gofyn iddyn nhw, ‘Sut ’dych chi’n cadw?’ Diolchodd llawer imi am feddwl amdanyn nhw. Wnaeth rhai hyd yn oed rannu eu manylion cyswllt. O’n i’n gwybod y byddai Jehofa yn fy helpu i ddal ati yn ystod y cyfnod anodd hwn. Ond ges i’n synnu gan faint o lawenydd ges i ganddo!”—Diar. 15:15.

12-13. Sut mae rhai sy’n sâl neu’n fregus wedi cael rhan yn y weinidogaeth, a gyda pha ganlyniadau?

12 Efallai bod rhai sy’n sâl neu’n fregus yn ddigalon am nad ydyn nhw’n gallu gwneud cymaint ag y bydden nhw’n hoffi yn y weinidogaeth. Ac eto, mae llawer wedi llwyddo i dystiolaethu. Yn yr Unol Daleithiau, roedd chwaer o’r enw Laurel yn gorwedd yn gaeth mewn peiriant a elwir ysgyfaint haearn am 37 o flynyddoedd! Gwnaeth hi hefyd ddioddef canser, sawl llawdriniaeth, ac afiechydon y croen. Ond wnaeth hyd yn oed y problemau difrifol hynny ddim ei stopio hi rhag pregethu. Y canlyniad? Helpodd o leiaf 17 o bobl i ddysgu am Jehofa! c

13 Mae gan Richard, henuriad yn Ffrainc, syniad da ar gyfer y rhai sy’n gaeth i’w tŷ neu gartref nyrsio. “Dw i’n awgrymu eu bod nhw’n rhoi ychydig o’n llenyddiaeth ar arddangosfa fach i bobl gael gweld. Bydd hynny’n tynnu sylw pobl ac yn arwain at sgyrsiau. Gall hyn galonogi ein brodyr a chwiorydd annwyl sy’n methu mynd o dŷ i dŷ bellach.” Gall y rhai sy’n gaeth i’r tŷ rannu yn y weinidogaeth drwy ysgrifennu llythyrau neu dystiolaethu dros y ffôn i bobl maen nhw’n adnabod.

PAN NAD YDYN NI’N CAEL BRAINT

14. Pa esiampl ragorol osododd y Brenin Dafydd?

14 Oherwydd ein cyfyngiadau oedran, iechyd, neu ffactorau eraill, efallai na fyddwn ni’n gymwys i gael aseiniad oedden ni eisiau yng ngwasanaeth Jehofa. Gallwn ni ddysgu oddi wrth y Brenin Dafydd yn hyn o beth. Pan na chafodd Dafydd ei ddewis i adeiladu teml Duw—rhywbeth roedd Dafydd yn gobeithio’n arw ei wneud—rhoddodd ei gefnogaeth lwyr i’r un roedd Duw wedi ei benodi i’r aseiniad. Gwnaeth Dafydd hyd yn oed gyfrannu’n hael at y prosiect. Am esiampl ragorol inni ei dilyn!—2 Sam. 7:12, 13; 1 Cron. 29:1, 3-5.

15. Sut gwnaeth Hugues drechu digalondid?

15 Oherwydd problemau iechyd, stopiodd y brawd Hugues yn Ffrainc wasanaethu fel henuriad, ac oedd yn methu gofalu am y pethau lleiaf o gwmpas y tŷ. Dywedodd: “I gychwyn, o’n i’n teimlo’n dda i ddim ac yn ddigalon ofnadwy . Ond ymhen amser, gwelais pa mor bwysig oedd hi i dderbyn fy nghyfyngiadau, a ches i lawenydd o wasanaethu Jehofa o fewn y cyfyngiadau hynny. Dw i’n benderfynol o beidio â rhoi’r ffidil yn y to. Fel Gideon a’i dri chant o ddynion—pob un ohonyn nhw wedi blino’n lân—bydda i’n dal ati i frwydro!”—Barn. 8:4.

16. Beth gallwn ni ei ddysgu o esiampl yr angylion?

16 Mae’r angylion ffyddlon yn esiampl wych. Yn ystod teyrnasiad y Brenin Ahab, gwahoddodd Jehofa’r angylion i awgrymu ffyrdd i dwyllo’r brenin drwg. Rhoddodd nifer o angylion awgrymiadau. Ond dewisodd Duw un angel a dweud wrtho y byddai ei awgrym ef yn llwyddo. (1 Bren. 22:19-22) A wnaeth yr angylion ffyddlon eraill ddigalonni, gan feddwl efallai, ‘Pam wnes i drafferthu?’ Does gynnon ni ddim rheswm dros feddwl eu bod nhw. Mae’r angylion yn wirioneddol ostyngedig ac maen nhw eisiau i’r anrhydedd i gyd fynd i Jehofa.—Barn. 13:16-18; Dat. 19:10.

17. Beth dylen ni ei wneud os ydyn ni’n ddigalon am ein bod ni heb gael rhyw aseiniad penodol?

17 Cofia mai’r anrhydedd mwyaf y gallen ni ei gael yw bod yn un o Dystion Jehofa a phregethu am ei Deyrnas. Gall aseiniadau fynd a dod, ond nid dyna sy’n gwneud ni’n werthfawr i Dduw. Drwy fod yn wylaidd ac yn ostyngedig byddwn ni’n werthfawr i Jehofa a’n brodyr a chwiorydd. Erfynia ar Jehofa i dy helpu di i aros yn wylaidd ac yn ostyngedig. Myfyria ar y nifer o esiamplau da o weision gostyngedig yn y Beibl. Bydda’n fodlon i wasanaethu dy frodyr mewn unrhyw ffordd y gelli di.—Salm 138:6; 1 Pedr 5:5.

PAN FYDD Y DIRIOGAETH YN YMDDANGOS YN ANFFRWYTHLON

18-19. Sut gelli di gael llawenydd yn y weinidogaeth hyd yn oed pan fydd y diriogaeth yn ymddangos yn anffrwythlon?

18 Wyt ti weithiau yn teimlo’n ddigalon am fod y diriogaeth yn ymddangos yn anffrwythlon neu am fod llawer ddim gartref? Yn y fath sefyllfa, sut gallwn ni aros yn llawen neu gael mwy o lawenydd? Mae ’na rai syniadau ymarferol yn y blwch “ Sut i Gael Mwy o Lawenydd yn Dy Weinidogaeth.” Mae hi hefyd yn bwysig cael yr agwedd gywir tuag at y weinidogaeth. Beth mae hynny’n ei olygu?

19 Cofia mai’r prif reswm rydyn ni’n pregethu yw cyhoeddi enw Duw a dweud wrth eraill am ei Deyrnas. Dywedodd Iesu yn glir y byddai cymharol ychydig yn ei ddilyn. (Math. 7:13, 14) Pan ydyn ni ar y weinidogaeth mae gynnon ni’r fraint o weithio gyda Jehofa, Iesu, a’r angylion. (Math. 28:19, 20; 1 Cor. 3:9; Dat. 14:6, 7) Mae Jehofa’n denu’r rhai sydd eisiau ei wasanaethu ato. (Ioan 6:44) Os nad ydy rhywun yn ymateb yn ffafriol i’n neges y tro hwn, efallai y bydd yn gwrando y tro nesaf.

20. Beth gall Jeremeia 20:8, 9 ein dysgu am frwydro digalondid?

20 Gallwn ddysgu llawer oddi wrth y proffwyd Jeremeia. Cafodd ei aseinio i diriogaeth anodd iawn. Roedd y bobl yno yn ei wawdio a gwneud hwyl am ei ben “drwy’r amser.” (Darllen Jeremeia 20:8, 9.) Ar un adeg aeth mor ddigalon roedd yn teimlo ei fod eisiau stopio pregethu. Ond wnaeth ef ddim. Pam? Roedd “neges yr ARGLWYDD” fel tân y tu mewn i Jeremeia, ac roedd yn methu ei dal i mewn! Mae’r un peth yn wir amdanon ninnau pan ydyn ni’n llenwi ein meddyliau a’n calonnau â Gair Duw. Dyna iti reswm arall dros astudio’r Beibl a myfyrio arno yn ddyddiol. O ganlyniad, bydd ein llawenydd yn cynyddu, ac efallai bydd ein gweinidogaeth yn fwy ffrwythlon.—Jer. 15:16.

21. Sut gelli di ennill y frwydr yn erbyn digalondid?

21 “Gall digalondid fod yn arf pwerus mae Satan yn ei ddefnyddio yn ein herbyn,” meddai Deborah, a ddyfynnwyd gynnau. Ond mae Jehofa Dduw yn llawer mwy pwerus na Satan a’i arfau. Felly pan wyt yn digalonni am ba bynnag reswm, erfynia ar Jehofa am ei gymorth. Bydd yn dy helpu di i ddelio â dy amherffeithion a dy wendidau. Bydd yn gefn iti yn ystod salwch. Bydd ef yn dy helpu i gadw agwedd gytbwys tuag at aseiniadau yn ei wasanaeth. A bydd yn dy helpu di i gael agwedd bositif tuag at dy weinidogaeth. Yn fwy na dim, bwria dy bryderon ar dy Dad nefol. Gyda’i help ef, gelli di ennill y frwydr yn erbyn digalondid.

CÂN 41 Plîs Gwrando ar Fy Ngweddi

a Mae pob un ohonon ni’n digalonni weithiau. Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n trafod rhai pethau penodol gallwn ni eu gwneud pan fyddwn ni’n teimlo’n ddigalon. Fel y gwelwn ni, gallwn ni ennill y frwydr yn erbyn digalondid gyda help Jehofa.

b Newidiwyd rhai enwau.

c Cei di ddarllen hanes Laurel Nisbet yn rhifyn Ionawr 22, 1993, y Deffrwch! Saesneg.

d DISGRIFIAD O’R LLUN: Roedd chwaer wedi digalonni am gyfnod, ond mae hi’n cofio ei gwasanaeth yn y gorffennol ac yn gweddïo ar Jehofa. Mae’n teimlo’n sicr ei fod ef yn cofio beth mae hi wedi ei wneud a beth mae hi’n ei wneud nawr.