ERTHYGL ASTUDIO 50
“Byddi Di Gyda Mi ym Mharadwys”
“Byddi di gyda mi ym Mharadwys.”—LUC 23:43.
CÂN 145 Addewid Duw am Baradwys
CIPOLWG a
1. Beth ddywedodd Iesu wrth droseddwr yn fuan cyn iddyn nhw farw? (Luc 23:39-43)
ROEDD Iesu, a’r ddau droseddwr, yn dioddef marwolaeth hir a phoenus. (Luc 23:32, 33) Mae’n amlwg o’r ffordd roedd y troseddwyr wedi bod yn siarad am Iesu nad oedden nhw’n ddisgyblion iddo. (Math. 27:44; Marc 15:32) Ond er hynny, roedd un ohonyn nhw wedi newid ei agwedd. Dywedodd: “Iesu, cofia fi pan fyddi di’n mynd i mewn i dy Deyrnas.” Atebodd Iesu: “Yn wir rydw i’n dweud wrthot ti heddiw, byddi di gyda mi ym Mharadwys.” (Darllen Luc 23:39-43.) Er roedd llawer wedi clywed Iesu yn pregethu bod “Teyrnas y nefoedd wedi dod yn agos,” dydy hi ddim yn ymddangos bod y troseddwr hwn wedi derbyn y neges honno. Wnaeth Iesu ddim dweud y byddai’n cael mynd i’r Deyrnas honno yn y nef chwaith. (Math. 4:17) Roedd Iesu yn sôn am y Baradwys fyddai ar y ddaear yn y dyfodol. Ond sut rydyn ni’n gwybod hynny?
2. Beth sy’n dangos mai Iddew oedd y troseddwr?
2 Dywedodd y troseddwr hwnnw wrth y llall: “Onid wyt ti’n ofni Duw o gwbl, nawr dy fod ti wedi derbyn yr un farnedigaeth?” (Luc 23:40) Felly, mae’n debygol iawn roedd y dyn hwn yn Iddew, oherwydd roedd yr Iddewon yn addoli un Duw, tra oedd pobl y cenhedloedd yn credu mewn llawer o dduwiau. (Ex. 20:2, 3; 1 Cor. 8:5, 6) Petasai’r dyn ddim yn Iddew byddai wedi gofyn, “Onid wyt ti’n ofni’r Duwiau o gwbl?” Ar ben hynny, roedd Iesu wedi cael ei anfon at “ddefaid coll tŷ Israel,” nid at bobl y cenhedloedd. (Math. 15:24) Felly, mae’n debyg roedd y troseddwr yn gwybod am yr atgyfodiad oherwydd roedd Duw eisoes wedi datgelu hynny i’r Israeliaid. Ac fel mae ei eiriau yn awgrymu, efallai bod y troseddwr wedi cymryd y byddai Jehofa yn atgyfodi Iesu i reoli dros Ei Deyrnas, ac yn gobeithio y byddai Duw hefyd yn ei atgyfodi yntau.
3. Yn ôl pob tebyg, beth ddaeth i feddwl y troseddwr pan wnaeth Iesu sôn am Baradwys? Esbonia. (Genesis 2:15)
3 Am ei fod yn Iddew, byddai’r troseddwr wedi bod yn gyfarwydd â hanes Adda ac Efa, ac yn gwybod am y Baradwys roedd Jehofa wedi ei chreu iddyn nhw. Mae ’na siawns go dda roedd hefyd yn deall y byddai’r Baradwys roedd Iesu yn sôn amdani yn ardd hyfryd yma ar y ddaear.—Darllen Genesis 2:15.
4. Beth dylai geiriau Iesu i’r troseddwr wneud inni feddwl amdano?
4 Onid ydy geiriau Iesu wrth y troseddwr yn gwneud iti feddwl am sut bydd bywyd ym Mharadwys? Fel mae’n digwydd, rydyn ni’n dysgu llawer am Baradwys o deyrnasiad heddychlon y Brenin Solomon. Mae’r Beibl yn dweud bod Iesu yn fwy na Solomon, felly yn sicr bydd Iesu a’i gyd-reolwyr yn troi’r ddaear yn Baradwys hyfryd. (Math. 12:42) Ond, beth sy’n rhaid i ni fel ‘defaid eraill’ ei wneud er mwyn cael byw am byth ym Mharadwys?—Ioan 10:16.
SUT BYDD BYWYD YM MHARADWYS?
5. Sut rwyt ti’n dychmygu bywyd ym Mharadwys?
5 Meddylia am y Baradwys. Wyt ti’n meddwl am ardd hyfryd yn debyg i Eden? (Gen. 2:7-9) Neu, ydy proffwydoliaeth Micha yn dod i dy feddwl, sy’n dweud y “bydd pawb yn eistedd dan ei winwydden a’i goeden ffigys ei hun.” (Mich. 4:3, 4) A dweud y gwir, mae ’na lawer o adnodau yn dweud y bydd ’na ddigonedd o fwyd. Felly, a wyt ti’n dychmygu eistedd o gwmpas bwrdd yn mwynhau gwledd yng nghwmni dy deulu a ffrindiau? (Salm 72:16; Esei. 65:21, 22) Efallai dy fod ti’n gallu clywed y chwerthin yn barod, a phersawr planhigion a blodau wrth iti anadlu’r awyr iach. Ac wrth gwrs, mae dy anwyliaid sydd wedi eu hatgyfodi yno hefyd! Dydy hyn ddim yn freuddwyd; mae’n sicr o ddigwydd. Ond bydd ’na hefyd waith i’w wneud yma ar y ddaear.
6. Beth byddwn ni’n ei wneud ym Mharadwys? (Gweler y llun.)
6 Mae Jehofa eisiau inni fwynhau ein gwaith, ac mae wedi ein dylunio ni i wneud hynny. (Preg. 2:24) Byddwn ni’n hynod o brysur yn ystod y Mil Blynyddoedd. Meddylia gymaint o bobl fydd angen dillad, bwyd, a rhywle i fyw. Heb sôn am y rhai sy’n goroesi Armagedon, bydd miliynau yn cael eu hatgyfodi. Bydd gynnon ni hefyd y fraint, fel roedd gan Adda ac Efa, o droi’r ddaear yn Baradwys. Ac wrth gwrs, o’r rhai sy’n cael eu hatgyfodi, bydd llawer ohonyn nhw yn gwybod fawr ddim am Jehofa a’i bwrpas, tra bydd eraill, wnaeth farw cyn dyddiau Iesu, angen dysgu mwy am bethau felly. Yn sicr, mae hynny’n waith cyffrous i edrych ymlaen ato!
7. Beth gallwn ni fod yn sicr ohono, a pham?
7 Does dim dwywaith amdani, bydd bywyd ym Mharadwys yn heddychlon, yn drefnus, ac yn llawn bendithion. Sut rydyn ni’n gwybod hynny? Drwy hanes teyrnasiad y Brenin Solomon, mae Jehofa wedi rhoi cipolwg inni o sut bydd bywyd yn y byd newydd pan fydd Iesu yn rheoli.
TEYRNASIAD Y BRENIN SOLOMON—BLAS O BARADWYS
8. Sut cafodd geiriau Salm 37:10, 11, 29 eu cyflawni ar ôl i’r Brenin Dafydd eu hysgrifennu? (Gweler “Cwestiynau Ein Darllenwyr” yn y rhifyn hwn.)
8 Cafodd y Brenin Dafydd ei ysbrydoli i ysgrifennu am sut bydd bywyd pan fydd brenin doeth a ffyddlon yn teyrnasu yn y dyfodol. (Darllen Salm 37:10, 11, 29.) Wrth siarad am y Baradwys sydd i ddod, rydyn ni’n aml yn cyfeirio at Salm 37:11, ac am reswm da hefyd. Defnyddiodd Iesu yr adnod honno yn ei Bregeth ar y Mynydd i ddangos y byddai’n cael ei chyflawni yn y dyfodol. (Math. 5:5) Ond gwnaeth geiriau Dafydd hefyd ddangos sut byddai bywyd yn nyddiau’r Brenin Solomon. Roedd y cyfnod hwnnw yn un arbennig oherwydd roedd pobl Dduw yn byw mewn heddwch, mewn gwlad lle roedd “llaeth a mêl yn llifo.” Roedd Duw wedi addo: “Os byddwch chi’n ufudd a ffyddlon, a gwneud beth dw i’n ddweud . . . bydda i’n rhoi heddwch a llonydd i chi. Byddwch yn gallu gorwedd i gysgu heb fod ofn.” (Lef. 20:24; 26:3, 6) A dyna sut roedd hi pan oedd Solomon yn frenin dros Israel. (1 Cron. 22:9; 29:26-28) Ar ben hynny, doedd pobl ddrwg “ddim i’w gweld yn unman.” (Salm 37:10) Felly, cafodd Salm 37:10, 11, 29 ei gyflawni yn y gorffennol, ond bydd hefyd yn cael ei gyflawni yn y dyfodol.
9. Beth ddywedodd brenhines Sheba am deyrnasiad y Brenin Solomon?
9 Roedd hyd yn oed brenhines Sheba wedi clywed am heddwch a llwyddiant Israel o dan teyrnasiad y Brenin Solomon. Ond roedd hi eisiau ei weld â’i llygaid ei hun, felly aeth hi ar y daith hir i Jerwsalem. (1 Bren. 10:1) Roedd teyrnas Solomon wedi creu gymaint o argraff arni, dywedodd: “Doedden nhw ddim wedi dweud yr hanner wrtho i! . . . Mae’r bobl yma wedi eu bendithio’n fawr—y gweision sy’n gweini arnat ti o ddydd i ddydd ac yn cael clywed dy ddoethineb di.” (1 Bren. 10:6-8) Ond, dim ond blas oedd hynny o beth sydd gan Jehofa ar ein cyfer o dan deyrnasiad ei Fab, Iesu.
10. Sut mae Iesu yn well na Solomon?
10 Roedd Solomon yn ddyn amherffaith, ac oherwydd hynny gwnaeth ef gamgymeriadau difrifol wnaeth achosi problemau i bobl Dduw. Ond mae Iesu yn well na Solomon ym mhob ffordd. Sut? Mae’n berffaith; dydy ef ddim yn gwneud camgymeriadau. (Luc 1:32; Heb. 4:14, 15) Llwyddodd i aros yn ffyddlon o dan brofion dychrynllyd Satan. Mae ef wedi profi tro ar ôl tro fydd ef byth yn pechu, nac yn brifo’r rhai sydd o dan ei ofal. Yn sicr, ef ydy’r Brenin gorau bydden ni wedi gallu gobeithio amdano!
11. Pwy fydd yn helpu Iesu?
11 Bydd y 144,000 yn gweithio gyda Iesu i ofalu am bobl Dduw, ac i gyflawni pwrpas Duw ar gyfer y ddaear. (Dat. 14:1-3) Pan oedden nhw’n dal ar y ddaear, aeth y rhai hynny drwy bob math o dreialon. Felly byddan nhw’n gallu cydymdeimlo â ni fydd yn aros ar y ddaear. Gad inni weld yn union beth byddan nhw’n ei wneud.
GWAITH YR ENEINIOG
12. Pa waith bydd Jehofa yn ei roi i’r 144,000?
12 Roedd rhaid i’r Brenin Solomon ofalu am filiynau o bobl mewn dim ond un wlad. Ond mae gan Iesu a’i gyd-reolwyr lawer mwy o waith i’w wneud na hynny. O dan Deyrnas Dduw, bydd rhaid iddyn nhw ofalu am biliynau o bobl, a hynny ledled y byd. Am fraint anhygoel mae Jehofa wedi ei rhoi i’r 144,000!
13. Pa gyfrifoldeb arbennig fydd gan yr eneiniog?
13 Fel Iesu, bydd y 144,000 hefyd yn frenhinoedd ac yn offeiriaid. (Dat. 5:10) O dan Gyfraith Moses, roedd yr offeiriaid yn helpu’r bobl i aros yn iach yn gorfforol ac yn ysbrydol. Roedd y Gyfraith yn “gysgod o’r pethau da sy’n dod.” Wrth reswm felly, bydd gan yr eneiniog y cyfrifoldeb arbennig o helpu pobl Dduw i aros yn iach ac yn agos at Jehofa. (Heb. 10:1) Sut byddan nhw’n cyfathrebu â ni fydd ar y ddaear? Dydyn ni ddim yn gwybod ar hyn o bryd, ond gallwn ni fod yn hollol sicr y bydd Jehofa yn trefnu inni gael yr arweiniad rydyn ni ei angen yn y byd newydd.—Dat. 21:3, 4.
BETH SY’N RHAID I’R ‘DEFAID ERAILL’ EI WNEUD ER MWYN CAEL BYW YM MHARADWYS?
14. Beth ydy’r berthynas rhwng y ‘defaid eraill’ a’r rhai eneiniog?
14 Gwnaeth Iesu gyfeirio at y rhai eneiniog fel ei ‘braidd bychan.’ (Luc 12:32) Ond gwnaeth ef hefyd sôn am grŵp arall, sef y ‘defaid eraill.’ Mae’r ddau grŵp hyn yn unedig fel un praidd. (Ioan 10:16) Maen nhw’n gweithio gyda’i gilydd yn barod, a byddan nhw’n dal i wneud hynny yn y byd newydd. Ond wrth gwrs, erbyn hynny bydd y ‘praidd bychan’ yn y nef, a bydd gan y ‘defaid eraill’ y gobaith o fyw am byth ar y ddaear. Gad inni weld beth sy’n rhaid i’r ‘defaid eraill’ ei wneud er mwyn cael byw ym Mharadwys.
15. (a) Sut mae’r ‘defaid eraill’ yn gweithio gyda brodyr Crist? (b) Sut gelli di efelychu’r brawd yn y siop? (Gweler y llun.)
15 Chafodd y troseddwr wnaethon ni sôn amdano gynnau, ddim y cyfle i ddangos gymaint roedd yn gwerthfawrogi beth roedd Iesu wedi ei wneud drosto. Ond mae gynnon ni’r cyfle i wneud hynny. Nawr ydy’r amser i ddangos sut rydyn ni’n teimlo am Iesu. Un ffordd gallwn ni wneud hynny ydy drwy ddangos ein bod ni’n caru brodyr eneiniog Iesu. Mae hynny’n bwysig iawn iddo. A dweud y gwir, bydd ef yn ein barnu ni ar sail hynny yn y dyfodol. (Math. 25:31-40) Gallwn ni gefnogi brodyr Crist drwy bregethu’n selog a gwneud disgyblion. (Math. 28:18-20) Maen nhw wedi rhoi gymaint o adnoddau inni allu gwneud hynny, fel y llyfr Mwynhewch Fywyd am Byth!, ac rydyn ni eisiau manteisio’n llawn arnyn nhw. Os nad wyt ti’n cynnal astudiaeth Feiblaidd ar hyn o bryd, beth am osod y nod o gynnig astudiaethau i gymaint o bobl â phosib?
16. Beth gallwn ni ei wneud nawr i baratoi am fywyd yn y byd newydd?
16 Does dim rhaid inni ddisgwyl tan y byd newydd i wneud newidiadau. Gallwn ni baratoi nawr drwy fod yn onest a byw bywyd cytbwys, a hefyd drwy fod yn ffyddlon i Jehofa, ein cymar, a’n brodyr a’n chwiorydd. Os ydyn ni’n ufudd i Jehofa nawr yn y byd drwg hwn, bydd hi’n haws inni fod yn ufudd iddo ym Mharadwys. Felly, defnyddia’r amser sydd gen ti nawr i ddatblygu sgiliau a rhinweddau sy’n dangos dy fod ti’n paratoi i fyw yn y byd newydd. Gweler yr erthygl “Wyt Ti’n Barod i ‘Etifeddu’r Ddaear’?” yn y rhifyn hwn.
17. A ddylen ni adael i bechodau ein gorffennol ein llethu? Esbonia.
17 Rhywbeth arall dylen ni drio ei wneud ydy stopio teimlo’n euog am gamgymeriadau’r gorffennol. Dydy aberth Iesu byth yn esgus inni “ddal ati i bechu yn fwriadol.” (Heb. 10:26-31) Ond os ydyn ni wedi edifarhau go iawn, wedi gofyn i Jehofa a’r henuriaid am help, ac wedi newid ein ffyrdd, gallwn ni fod yn hollol sicr bod Jehofa wedi maddau inni’n llwyr. (Esei. 55:7; Act. 3:19) Cofia beth ddywedodd Iesu wrth y Phariseaid: “Rydw i wedi dod i alw, nid pobl gyfiawn, ond pechaduriaid.” (Math. 9:13) Yn syml, mae aberth Iesu yn bwerus, ac mae’n fwy na digon i dalu am ein holl bechodau.
GELLI DI FYW AM BYTH YM MHARADWYS
18. Beth rwyt ti eisiau ei ofyn i’r troseddwr wnaeth farw wrth ymyl Iesu?
18 Dychmyga dy hun ym Mharadwys, yn cyfarfod y troseddwr wnaeth siarad â Iesu. Am beth fyddwch chi’n siarad? Heb os, bydd y ddau ohonoch chi yn llawn diolch am beth wnaeth Iesu drostoch chi. Mae’n debyg byddi di’n ysu eisiau gwybod beth ddigwyddodd yn ystod oriau diwethaf Iesu ar y ddaear, a sut roedd y troseddwr yn teimlo am beth wnaeth Iesu addo iddo. Ac efallai bydd ef eisiau gwybod sut roedd bywyd yn nyddiau diwethaf system Satan. Am fraint bydd hi i astudio gyda phobl fel y dyn hwnnw!—Eff. 4:22-24.
19. Pam na fydd bywyd ym Mharadwys yn ddiflas? (Gweler y llun ar y clawr.)
19 Bydd bywyd ym Mharadwys yn bell o fod yn ddiflas. Bydd ’na ddigonedd o bobl diddorol i’w cyfarfod a gwaith gwerth chweil i’w wneud. Ond yn fwy na hynny, bydden ni’n dod i adnabod ein Tad nefol yn well ac yn well bob dydd, ac yn mwynhau’r holl bethau mae ef wedi eu rhoi inni. Mae ’na gymaint o bethau i’w dysgu amdano ef a’i greadigaeth, ddown ni byth i ben! A bydd ein cariad tuag at Dduw ond yn mynd yn ddyfnach yr hiraf byddwn ni’n byw. Yn wir, rydyn ni mor ddiolchgar i Jehofa ac Iesu am roi y gobaith inni o fyw am byth ym Mharadwys!
CÂN 22 Mae’r Deyrnas Wedi ei Sefydlu—Gad Iddi Ddod!
a Wyt ti’n aml yn meddwl am sut bydd bywyd ym Mharadwys? Mae’n ddigon i godi calon. A’r mwyaf rydyn ni’n meddwl am y byd newydd sydd o’n blaenau ni, y mwyaf awyddus byddwn ni i rannu addewidion gwych Jehofa â phobl eraill. Bydd yr erthygl hon yn cryfhau ein ffydd yn y baradwys gwnaeth Iesu sôn amdani.
b DISGRIFIAD O’R LLUN: Mae brawd sy’n edrych ymlaen at ddysgu’r rhai sy’n cael eu hatgyfodi yn dysgu eraill yn barod.