Cwestiynau Ein Darllenwyr
A oedd Dafydd yn gor-ddweud pethau pan ysgrifennodd y byddai’n moli enw Duw “am byth” yn Salm 61:8?
Nac oedd. Mae geiriau Dafydd yn hollol gywir.
Meddylia am beth wnaeth ef ysgrifennu yn yr adnod honno a rhai tebyg: “Byddaf yn canu mawl i dy enw am byth, wrth i mi gadw fy addewidion i ti bob dydd.” “Bydda i’n dy addoli o waelod calon, O ARGLWYDD fy Nuw, ac yn anrhydeddu dy enw am byth.” “Dw i’n mynd i . . . dy foli di am byth bythoedd!”—Salm 61:8; 86:12; 145:1, 2.
Doedd Dafydd ddim yn gor-ddweud pethau, nac yn meddwl na fyddai byth yn marw. Roedd yn gwybod yn iawn bod Jehofa wedi dweud y byddai pobl yn marw o ganlyniad i bechod, ac yn cyfaddef ei fod ef ei hun wedi pechu. (Gen. 3:3, 17-19; Salm 51:4, 5) Roedd yn deall bod hyd yn oed dynion ffyddlon fel Abraham, Isaac, a Jacob wedi marw, ac y byddai ei fywyd ef ei hun yn dod i ben ryw ddydd. (Salm 37:25; 39:4) Felly beth mae geiriau Dafydd yn Salm 61:8 yn ei ddangos? Roedd yn benderfynol o foli Duw am byth, hynny ydy, ar hyd ei oes.—2 Sam. 7:12.
Fel rydyn ni’n gweld o uwchysgrifau Salm 18, 51, a 52, roedd Dafydd weithiau’n ysgrifennu am ei fywyd ei hun. Yn Salm 23, mae Dafydd yn disgrifio Jehofa fel bugail sy’n arwain, yn adfywio, ac yn amddiffyn ei braidd. Roedd Dafydd yn fugail tebyg, ac roedd ef eisiau gwasanaethu Duw am ‘weddill ei fywyd.’—Salm 23:6.
Cofia hefyd, Jehofa wnaeth ysbrydoli Dafydd i ysgrifennu, gan gynnwys beth wnaeth ef ei ysgrifennu am y dyfodol pell. Er enghraifft, yn Salm 110, soniodd Dafydd am adeg pan fyddai ei Arglwydd, neu’r Meseia, yn eistedd ar ochr dde Duw yn y nef, ac yn cael grym anhygoel. I wneud beth? I drechu gelynion Duw a ‘chosbi’r cenhedloedd’ ar y ddaear. Roedd Dafydd yn un o gyndadau y Meseia, yr un a fyddai’n rheoli o’r nef ac yn “offeiriad am byth.” (Salm 110:1-6) Dywedodd Iesu ei hun fod y broffwydoliaeth yn Salm 110 yn sôn amdano ef, ac y byddai’n cael ei chyflawni eto yn y dyfodol.—Math. 22:41-45.
Cafodd Dafydd ei ysbrydoli i ysgrifennu nid yn unig am ei amser ei hun, ond hefyd am y dyfodol pan fyddai’n cael ei atgyfodi, ac yn gallu moli Jehofa am byth. Felly mae hyn yn ein helpu ni i weld bod Salm 37:10, 11, 29 yn sôn am sut roedd pethau yn adeg Israel gynt, yn ogystal â sut bydd pethau ledled y byd pan fydd Duw yn cyflawni ei holl addewidion yn y dyfodol.—Gweler paragraff 8 yr erthygl “Byddi Di Gyda Mi ym Mharadwys” yn y rhifyn hwn.
Mae Salm 61:8, ac adnodau tebyg, yn ei gwneud hi’n amlwg roedd Dafydd eisiau dod â chlod i Jehofa yn Israel ar hyd ei oes. Maen nhw hefyd yn dangos beth bydd Dafydd yn ei wneud yn y dyfodol unwaith i Jehofa ei atgyfodi.