Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 51

Heddwch Ynghanol Creisis

Heddwch Ynghanol Creisis

“Peidiwch â gadael i’ch calonnau gael eu cynhyrfu na gadael iddyn nhw gilio mewn ofn.”—IOAN 14:27.

CÂN 112 Jehofa, Duw Heddwch

CIPOLWG a

1. Beth ydy “heddwch Duw,” a sut rydyn ni ar ein hennill o’i gael? (Philipiaid 4:6, 7)

 BETH ydy “heddwch Duw”? Does gan y byd ddim syniad, ond rydyn ni’n gwybod ei fod yn fath o heddwch sy’n dod o gael perthynas agos â’n Tad nefol. Mae’n gwneud inni deimlo’n saff. (Darllen Philipiaid 4:6, 7.) Rydyn ni’n mwynhau gael perthynas mor agos â’r “Duw sy’n rhoi heddwch,” ac yn mwynhau cwmni pobl eraill sy’n ei garu hefyd. (1 Thes. 5:23) Os ydyn ni’n adnabod Jehofa, yn gwrando arno, ac yn ei drystio, bydd yr heddwch mae’n ei roi yn tawelu ein calonnau pan ydyn ni’n mynd drwy adegau anodd.

2. Pam gallwn ni fod yn sicr ei bod hi’n bosib cael heddwch Duw?

2 Os ydyn ni’n wynebu creisis fel pandemig, trychineb, aflonyddwch sifil, neu erledigaeth, mae’n ddigon hawdd poeni, neu fynd i banics. Gallwn ni hyd yn oed feddwl bod heddwch allan o’n cyrraedd. Ond cofia eiriau Iesu: “Peidiwch â gadael i’ch calonnau gael eu cynhyrfu na gadael iddyn nhw gilio mewn ofn.” (Ioan 14:27) Mae llawer o’n brodyr a’n chwiorydd wedi dilyn cyngor Iesu, a gyda help Jehofa, wedi llwyddo i gael heddwch Duw ynghanol treialon.

HEDDWCH YN YSTOD PANDEMIG

3. Sut gallai epidemig, neu bandemig, amharu ar ein heddwch?

3 Gall bywyd newid yn llwyr yn ystod epidemig, neu bandemig. Jest meddylia am effeithiau COVID-19. Yn ôl un adroddiad, roedd hanner y bobl gafodd eu holi wedi cael trafferth cysgu yn ystod y pandemig hwnnw. Ar ben hynny, roedd ’na gynnydd aruthrol mewn achosion o orbryder, iselder, camddefnydd o alcohol a chyffuriau, a thrais yn y cartref. Ac yn drist iawn, roedd y nifer o bobl wnaeth drio lladd eu hunain yn llawer uwch nag arfer. Felly sut gelli di dawelu dy bryderon a mwynhau heddwch Duw os ydy clefyd heintus yn mynd ar led yn dy ardal di?

4. Sut mae gwybod am broffwydoliaeth Iesu am y dyddiau diwethaf yn rhoi heddwch inni?

4 Dywedodd Iesu y byddai heintiau “mewn un lle ar ôl y llall,” yn ystod y dyddiau olaf. (Luc 21:11) Mae gwybod hynny yn rhoi heddwch inni oherwydd rydyn ni’n gweld bod pethau yn digwydd yn union fel ddywedodd Iesu. Mae hefyd yn ein helpu ni i ddilyn cyngor Iesu i ‘beidio â dychryn.’—Math. 24:6.

Gall gwrando ar recordiadau sain o’r Beibl dy helpu di i gael heddwch meddwl yn ystod pandemig (Gweler paragraff 5)

5. (a) Sut mae Philipiaid 4:8, 9 yn ein helpu ni i wybod beth i weddïo amdano yn ystod pandemig? (b) Sut byddi di ar dy ennill o wrando ar recordiadau sain o’r Beibl?

5 Gwnaeth y pandemig COVID-19 ysgwyd byd un chwaer o’r enw Desi. b Bu farw ei hewythr, ei chefnder, a’i doctor oherwydd y feirws. Felly nid yn unig roedd hi’n ofni dal y feirws ei hun, roedd hi hefyd yn ofni ei basio ymlaen i’w mam oedd mewn oed. Ar ben hynny, roedd ’na beryg y byddai hi’n colli ei swydd oherwydd y pandemig. Felly roedd hi hefyd yn poeni am sut byddai hi’n gallu fforddio bwyd a rhent. Roedd pethau fel hyn yn ei chadw hi’n effro yn y nos. Ond drwy weddïo’n benodol ar Jehofa am iddi beidio â chynhyrfu, ac i aros yn bositif, gwnaeth hi lwyddo i gadw ei heddwch. (Darllen Philipiaid 4:8, 9.) Roedd hi hefyd yn gwrando ar Jehofa yn “siarad” â hi fel petai, drwy wrando ar recordiadau sain o’r Beibl. Dywedodd: “Oedd lleisiau caredig y darllenwyr yn tawelu fy mhryderon, ac yn fy atgoffa i gymaint mae Jehofa yn gofalu amdana i.”—Salm 94:19.

6. Sut bydd mynd i’r cyfarfodydd a gwneud astudiaeth bersonol yn dy helpu di?

6 Bydd unrhyw bandemig yn effeithio ar dy rwtîn. Ond paid byth â gadael iddo dy stopio di rhag mynd i’r cyfarfodydd a gwneud astudiaeth bersonol. Wrth edrych ar ein cyhoeddiadau a’n fideos, byddi di’n gweld bod ’na lawer o frodyr a chwiorydd yn mynd drwy sefyllfa debyg, ac yn llwyddo i aros yn ffyddlon. (1 Pedr 5:9) Bydd sôn am bethau positif o’r Beibl yn y cyfarfodydd yn codi dy galon, a bydd gen ti hefyd y cyfle i galonogi dy frodyr a dy chwiorydd. (Rhuf. 1:11, 12) Mae Jehofa eisoes wedi helpu llawer o’i bobl pan oedden nhw’n sâl, yn ofni, neu’n unig. Bydd myfyrio ar hynny yn cryfhau dy ffydd ac yn dy wneud di’n fwy sicr byth y bydd yn dy helpu dithau hefyd.

7. Pa wers gelli di ei dysgu oddi wrth yr apostol Ioan?

7 Hyd yn oed os ydyn ni’n gorfod cadw pellter cymdeithasol oherwydd pandemig, mae’n bwysig cadw cysylltiad â’n brodyr a’n chwiorydd. Roedd yr apostol Ioan mewn sefyllfa debyg ar un adeg. Roedd yn ysu am gael gweld ei ffrind Gaius wyneb yn wyneb. (3 Ioan 13, 14) Roedd yn deall doedd hynny ddim yn bosib, ond aeth ati i feddwl am ffyrdd eraill o gadw cysylltiad. Felly, gwnaeth ef ysgrifennu llythyr ato. Gallwn ni wneud rhywbeth tebyg os nad ydy hi’n bosib inni weld ein ffrindiau wyneb yn wyneb. Beth am godi’r ffôn, gwneud galwad fideo, neu anfon neges? Bydd hyn yn tawelu dy feddwl ac yn gwneud iti deimlo’n llai unig. Ac os ydy pryder yn dy lethu di, cysyllta â’r henuriaid, a gad iddyn nhw dy gysuro di.—Esei. 32:1, 2.

HEDDWCH YN WYNEB TRYCHINEB

8. Sut gallai trychineb amharu dy heddwch di?

8 A wyt ti erioed wedi dioddef oherwydd llifogydd, daeargryn, neu dân? Os felly, efallai bod y pryder wedi aros ymhell ar ôl i’r trychineb orffen. Mae’n ddigon naturiol i alaru, i anobeithio, neu hyd yn oed i deimlo’n flin ar ôl colli anwylyn neu eiddo. Ond dydy hynny ddim yn golygu dy fod ti’n meddwl gormod o bethau materol, nac yn dangos diffyg ffydd; es di drwy gyfnod anodd. Bydd rhai yn disgwyl iti ymateb yn negyddol, ond mae hi’n dal yn bosib iti gael heddwch. (Job 1:11) Gad inni weld sut.

9. Sut gwnaeth Iesu ein paratoi ni ar gyfer trychinebau?

9 Dydy rhai o bobl y byd ddim yn disgwyl y byddai trychinebau yn effeithio arnyn nhw’n bersonol. Ond rydyn ni’n wahanol, oherwydd rydyn ni’n gwybod bod Iesu wedi rhagfynegi y bydd ’na fwy a mwy o “ddaeargrynfeydd mawr” a thrychinebau eraill cyn i’r diwedd ddod. (Luc 21:11) Gwnaeth ef hefyd ein rhybuddio ni y byddai “drygioni yn cynyddu.” Mae hynny yn sicr yn wir heddiw oherwydd mae pethau fel trosedd, trais, a therfysgaeth mor gyffredin. (Math. 24:12) Mae pethau fel hyn yn gallu effeithio ar bawb, p’un a ydyn nhw’n un o bobl Jehofa neu ddim. Dydy hi ddim yn arwydd bod Jehofa wedi cefnu arnon ni. (Esei. 57:1; 2 Cor. 11:25) Efallai na fydd Jehofa yn ein hamddiffyn ni rhag pob trychineb, ond fe fydd yn sicr o roi inni bopeth rydyn ni ei angen i gael heddwch ac i beidio â chynhyrfu.

10. Pam mae paratoi ar gyfer trychineb yn dangos bod gynnon ni ffydd? (Diarhebion 22:3)

10 Bydd yn haws inni beidio â chynhyrfu yn ystod argyfwng os ydyn ni wedi paratoi amdano. Ond dydy paratoi o flaen llaw ddim yn golygu nad oes gynnon ni ffydd yn Jehofa. I’r gwrthwyneb a dweud y gwir, byddwn ni’n dangos ein bod gynnon ni hyder yn ei allu i ofalu amdanon ni. Wedi’r cwbl, mae ef wedi dweud wrthon ni yn ei Air i baratoi am drychinebau a allai ddigwydd. (Darllen Diarhebion 22:3.) Ac mae’r gyfundrefn wedi ein hatgoffa ni dro ar ôl tro, drwy erthyglau, cyfarfodydd, a chyhoeddiadau, i baratoi ar gyfer argyfwng. c Felly os ydyn ni’n trystio Jehofa, byddwn ni’n dilyn y cyngor hwnnw nawr, cyn i drychineb daro.

Gall paratoi o flaen llaw dy helpu di i oroesi trychineb (Gweler paragraff 11) d

11. Beth rwyt ti’n ei ddysgu o esiampl Margaret?

11 Roedd rhaid i un chwaer o’r enw Margaret ffoi o’i chartref ar ôl i dân gychwyn yn ei hardal. Ond roedd pawb yn trio ffoi ar unwaith, felly roedd y lonydd yn brysur iawn, a’r traffig yn sefyll yn stond. Roedd y mwg yn drwchus yn yr aer, ac roedd rhaid i Margaret aros yn ei char am gyfnod. Ond roedd hi wedi paratoi. Roedd hi’n cadw map yn ei phwrs, ac roedd hi hyd yn oed wedi gyrru ar hyd lonydd gwahanol o flaen llaw, fel bod hi’n gyfarwydd â ffyrdd eraill o ddianc os oedd rhaid. Am fod Margaret wedi paratoi, gwnaeth hi oroesi’r trychineb.

12. Pam rydyn ni’n dilyn cyfarwyddiadau?

12 Er mwyn ein hamddiffyn ni a chadw trefn, efallai bydd y llywodraeth yn gofyn inni wneud pethau fel aros adref, ffoi, neu ddilyn rhyw gyfarwyddiadau eraill. Mae rhai pobl yn llusgo eu traed oherwydd dydyn nhw ddim eisiau gadael dim byd ar ôl. Ar y llaw arall, mae pobl Dduw yn dilyn cyngor y Beibl: “Er mwyn yr Arglwydd, ufuddhewch i bob awdurdod dynol, p’run ai i frenin sy’n uwch na chi neu i lywodraethwyr sydd wedi cael eu hanfon ganddo.” (1 Pedr 2:13, 14) Ond rydyn ni hefyd yn cael arweiniad gan gyfundrefn Duw i’n cadw ni’n saff. Rydyn ni’n cael ein hatgoffa’n aml i sicrhau bod gan yr henuriaid ein manylion cyswllt diweddaraf, fel eu bod nhw’n gallu cysylltu â ni mewn argyfwng. Ydy hynny’n rhywbeth rwyt ti angen ei wneud? Ac yn ystod argyfwng, cawn ni gyfarwyddiadau ynglŷn ag aros lle rydyn ni, ffoi, sut i gael gafael ar fwyd a phethau eraill angenrheidiol, neu pryd a sut i helpu eraill. Mae’n hynod o bwysig ein bod ni’n gwrando, oherwydd fel arall gallwn ni beryglu ein bywydau ni’n hunain, a bywydau’r henuriaid sy’n gofalu amdanon ni. (Heb. 13:17) Dywedodd Margaret: “Dw i’n hollol sicr fy mod i yma heddiw oherwydd mod i wedi dilyn cyfarwyddyd yr henuriaid a’r gyfundrefn.”

13. Beth sydd wedi rhoi heddwch a llawenydd i lawer o Gristnogion sydd wedi gorfod ffoi?

13 Beth sydd wedi helpu llawer o frodyr a chwiorydd sydd wedi gorfod ffoi oherwydd trychineb, rhyfel, neu aflonyddwch sifil? Maen nhw wedi gwneud eu gorau i addasu i’w sefyllfa newydd ac ail-afael yn eu rwtîn ysbrydol yn syth. Maen nhw’n dal ati i ‘gyhoeddi newyddion da gair Duw’ fel gwnaeth y Cristnogion cynnar oedd wedi gorfod ffoi oherwydd erledigaeth. (Act. 8:4) Mae gwneud pethau fel hyn wedi eu helpu i ganolbwyntio ar y Deyrnas yn hytrach nag ar eu treialon. Ar ben hynny, maen nhw wedi llwyddo i aros yn llawen ac yn dawel eu meddwl.

HEDDWCH YN WYNEB ERLEDIGAETH

14. Sut gall erledigaeth amharu ar ein heddwch?

14 Mae pethau fel cyfarfod â’n gilydd, pregethu’n agored, a byw bywyd bob dydd heb boeni am gael ein harestio yn ein helpu ni i gael llawenydd a heddwch, ac i beidio â chynhyrfu. Heb y pethau hynny, byddai’n ddigon naturiol i bryderu a phoeni am beth fydd yn digwydd nesaf. Ond cofia, dywedodd Iesu y gallai erledigaeth wneud i’w ddilynwyr faglu. (Ioan 16:1, 2) Felly, sut gallwn ni gael heddwch yn wyneb erledigaeth?

15. Pam na ddylen ni ofni erledigaeth? (Ioan 15:20; 16:33)

15 Mae’r Beibl yn dweud: “Bydd pawb sydd eisiau byw mewn undod â Christ Iesu ac sydd eisiau dangos defosiwn duwiol hefyd yn cael eu herlid.” (2 Tim. 3:12) Ond roedd un brawd o’r enw Andrei yn ei chael hi’n anodd credu y byddai pob un o weision Jehofa yn cael eu herlid. Roedd y gwaith pregethu wedi cael ei wahardd yn ei wlad, ac roedd yn meddwl iddo’i hun, ‘Mae ’na ormod o Dystion yma i’r awdurdodau ein harestio ni i gyd.’ Ond gwnaeth hynny ddim dod â heddwch i Andrei, roedd yn dal i boeni. Wnaeth brodyr eraill, ar y llaw arall, ddim trio perswadio eu hunain y byddan nhw’n osgoi cael eu harestio. Gwnaethon nhw dderbyn y ffaith bod hynny’n bosib, a gadael y mater yn nwylo Jehofa. Oherwydd hynny, doedden nhw ddim yn poeni gymaint ag oedd Andrei. Yn y pen draw, gwnaeth Andrei ddilyn eu hesiampl, newid ei ffordd o feddwl, a trystio Jehofa. Oherwydd hynny, gwnaeth ef adfer ei heddwch, a hyd heddiw, mae ganddo lawenydd hyd yn oed yn wyneb treialon. Er bod Iesu wedi dweud wrthon ni i ddisgwyl cael ein herlid, gwnaeth ef hefyd ein sicrhau ni y byddwn ni’n gallu aros yn ffyddlon, fel gwnaeth Andrei.—Darllen Ioan 15:20; 16:33.

16. Pa gyfarwyddyd dylen ni ei ddilyn os ydyn ni’n cael ein herlid?

16 Os bydd ein gwaith yn cael ei wahardd neu ei gyfyngu, bydd swyddfa’r gangen a’r henuriaid yn rhoi arweiniad inni. Mae’n hynod o bwysig ein bod ni’n gwrando arnyn nhw, hyd yn oed os nad ydyn ni’n deall pam rydyn ni’n cael y cyfarwyddyd. (Iago 3:17) Bydd y cyfarwyddiadau hynny yn ein hamddiffyn ni, yn sicrhau ein bod ni’n dal yn cael bwyd ysbrydol, ac yn ein helpu ni i ddal ati i bregethu gymaint â phosib. Mae hefyd yn bwysig cofio i beidio byth â datgelu gwybodaeth am waith y gynulleidfa, nac am ein brodyr a’n chwiorydd, i rai sydd ddim â hawl i wybod.—Preg. 3:7.

Sut gelli di gael heddwch hyd yn oed mewn cyfnodau anodd? (Gweler paragraff 17) e

17. Yn debyg i apostolion y ganrif gyntaf, beth rydyn ni’n benderfynol o’i wneud?

17 Mae gan bobl Jehofa y “gwaith o dystiolaethu am Iesu.” (Dat. 12:17) Dyna un o’r prif resymau pam mae Satan yn ymosod arnon ni. Ond, paid â gadael iddo ef na’i fyd dy ddychryn di. Cofia beth wnaeth apostolion y ganrif gyntaf pan wnaeth yr awdurdodau Iddewig ddweud wrthyn nhw i stopio pregethu. Gwnaethon nhw benderfynu gwrando ar Dduw a dal ati i bregethu. Oherwydd hynny, gwnaethon nhw gadw eu llawenydd. (Act. 5:27-29, 41, 42) Gallwn ni gael yr un fath o lawenydd a heddwch os ydyn ni’n dal ati i bregethu er gwaethaf gwrthwynebiad. Wrth gwrs, mae’n rhaid inni fod yn gall yn y ffordd rydyn ni’n mynd ati os oes ’na gyfyngiadau ar ein gwaith. (Math. 10:16) Ond, os gwnawn ni ein gorau, byddwn ni’n cael yr heddwch sy’n dod o wybod ein bod ni’n plesio Jehofa, ac yn rhannu neges sy’n achub bywydau.

“BYDD Y DUW SY’N RHOI HEDDWCH GYDA CHI”

18. Gan bwy gawn ni heddwch go iawn?

18 Yn sicr, mae’n bosib inni gael heddwch, hyd yn oed yn ein dyddiau duaf. Cofia mai heddwch Duw rydyn ni ei angen—yr heddwch all ond dod oddi wrth Jehofa. Felly os wyt ti’n wynebu pandemig, trychineb, neu erledigaeth, dibynna ar Jehofa, glyna’n agos wrth ei gyfundrefn, ac edrycha ymlaen at y dyfodol disglair sydd o dy flaen di. Bydd y “Duw sy’n rhoi heddwch” yn siŵr o fod gyda ti. (Phil. 4:9) Yn yr erthygl nesaf, byddwn ni’n trafod sut gallwn ni helpu ein brodyr a’n chwiorydd sy’n wynebu treialon i gael heddwch Duw.

CÂN 38 Bydd Ef yn Dy Gryfhau

a Mae Jehofa yn addo rhoi heddwch i’r rhai sy’n ei garu ef. Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n trafod beth ydy’r heddwch hwnnw, sut gallwn ni ei ffeindio, a sut bydd yn ein helpu pan ydyn ni’n wynebu pandemig, trychineb, neu erledigaeth.

b Mae rhai enwau wedi cael eu newid.

c Darllena’r erthygl When Disaster Strikes—Steps That Can Save Lives yn y Deffrwch! Saesneg, rhif 5, 2017.

d DISGRIFIAD O’R LLUN: Gwnaeth un chwaer baratoi o flaen llaw i ffoi o’i chartref.

e DISGRIFIAD O’R LLUN: Mae brawd sy’n byw mewn gwlad lle mae ein gwaith wedi ei gyfyngu yn parhau i bregethu.