Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 52

Helpa Eraill i Ddal Ati Mewn Amserau Anodd

Helpa Eraill i Ddal Ati Mewn Amserau Anodd

“Pan mae gen ti’r cyfle i helpu rhywun, paid gwrthod gwneud cymwynas â nhw.”—DIAR. 3:27.

CÂN 103 Bugeiliaid—Dynion yn Rhoddion

CIPOLWG a

1. Sut mae Jehofa yn aml yn ateb gweddïau ei weision?

 OEDDET ti’n gwybod bod Jehofa yn gallu dy ddefnyddio di i ateb gweddi rhywun? Mae hynny’n wir p’un a wyt ti’n hen neu’n ifanc, yn frawd neu’n chwaer, yn henuriad, yn was, yn arloeswr, neu’n gyhoeddwr. Mae Jehofa yn gallu defnyddio unrhyw un o’i weision ffyddlon i fod “yn gysur mawr” i rywun sy’n gweddïo am ei help. (Col. 4:11) Rydyn ni wrth ein boddau yn cael gwasanaethu Jehofa a’n brodyr a’n chwiorydd fel hyn. Ond sut gallwn ni wneud hynny yn wyneb pandemig, trychineb, neu erledigaeth?

HELPA ERAILL YN YSTOD PANDEMIG

2. Sut mae pandemig yn gallu ei gwneud hi’n anodd inni helpu eraill?

2 Os ydy clefyd heintus yn mynd ar led, mae’n gallu ei gwneud hi’n anodd inni helpu ein gilydd. Er enghraifft, efallai ein bod ni wir eisiau gweld ein ffrindiau, neu wahodd rhywun sydd heb lawer o arian draw am bryd o fwyd. Ond o dan yr amgylchiadau dydy hi ddim yn saff i wneud hynny. Mae helpu eraill hefyd yn gallu bod yn her os ydy ein teulu ein hunain yn dioddef. Er hynny, mae’r awydd i helpu yn dal yno, ac rydyn ni’n plesio Jehofa pan fyddwn ni’n gwneud beth allwn ni. (Diar. 3:27; 19:17) Felly beth yn union gallwn ni ei wneud?

3. Beth rydyn ni’n ei ddysgu o esiampl yr henuriaid yng nghynulleidfa Desi? (Jeremeia 23:4)

3 Beth gall henuriaid ei wneud? Dylai henuriaid ddod i adnabod y defaid yn dda. (Darllen Jeremeia 23:4.) Dywedodd Desi wnaethon ni ei dyfynnu yn yr erthygl gynt: “Roedd yr henuriaid yn fy ngrŵp yn gweithio gyda mi, ac eraill, yn y weinidogaeth yn aml ac yn cymdeithasu gyda ni hefyd.” b Oherwydd eu hymdrechion, roedd hi’n haws iddyn nhw helpu Desi pan gollodd hi rai o’i theulu oherwydd COVID-19.

4. Pam roedd yr henuriaid yn gallu helpu Desi, a beth ydy’r wers?

4 Pa effaith gafodd hyn ar Desi? Dywedodd hi: “Oherwydd bod yr henuriaid yn ffrindiau imi’n barod, roedd yn hawdd imi ddweud wrthyn nhw yn union sut o’n i’n teimlo, a beth oedd yn fy mhoeni.” Beth ydy’r wers i chi henuriaid? Bugeiliwch y rhai sydd o dan eich gofal a byddwch yn ffrind iddyn nhw cyn i drychineb daro. Ac os nad ydych chi’n gallu mynd i weld eich brodyr a’ch chwiorydd wyneb yn wyneb oherwydd afiechydon yn yr ardal, edrychwch am ffyrdd eraill i’w helpu. Aeth Desi ymlaen i ddweud: “Weithiau gwnaeth sawl henuriad gwahanol ffonio neu anfon neges ar yr un diwrnod. Wnaethon nhw rannu ambell i adnod gyda mi a wnaeth gyffwrdd fy nghalon er mod i’n gyfarwydd iawn â’r adnodau hynny.”

5. Sut gall yr henuriaid ffeindio allan beth mae’r brodyr a chwiorydd ei angen, a sut gallan nhw eu helpu?

5 Un ffordd gelli di ffeindio allan beth mae dy frodyr a dy chwiorydd ei angen ydy drwy ofyn cwestiynau iddyn nhw mewn ffordd fydd ddim yn codi cywilydd arnyn nhw. (Diar. 20:5) Er enghraifft, a oes ganddyn nhw ddigon o fwyd neu feddyginiaeth ac yn y blaen? Ydyn nhw mewn peryg o golli swydd, neu hyd yn oed cartref? Ydyn nhw angen help i wneud cais am gymorth gan y llywodraeth? Er bod Desi wedi cael help materol gan ei brodyr a’i chwiorydd, y cariad a’r cysur a gafodd hi gan yr henuriaid wnaeth ei helpu hi fwyaf. Yn ei geiriau hi: “Gwnaeth yr henuriaid weddïo gyda mi. Dydw i ddim yn cofio beth ddywedon nhw ond dw i’n cofio sut o’n i’n teimlo. Roedd hi fel petai Jehofa yn dweud, ‘Dwyt ti ddim ar dy ben dy hun.’”—Esei. 41:10, 13.

Mae’r brawd sy’n arwain trafodaeth yn y cyfarfod yn hapus i weld llawer yno ac i glywed eu hatebion calonogol, gan gynnwys ateb brawd sy’n sâl ac yn gorfod ymuno dros alwad fideo (Gweler paragraff 6)

6. Sut gall rhai yn y gynulleidfa helpu ei gilydd? (Gweler y llun.)

6 Beth gall eraill ei wneud? Er ein bod ni’n disgwyl i henuriaid gymryd y blaen wrth ofalu am y brodyr a’r chwiorydd yn y gynulleidfa, a’u hannog nhw, mae Jehofa eisiau inni i gyd wneud ein rhan. (Gal. 6:10) Mae hyd yn oed dangos cariad mewn ffordd fach yn gallu cael effaith fawr ar rywun sydd ddim yn dda. Er enghraifft, gallai plentyn wneud llun neu anfon cerdyn at frawd i’w galonogi. Gallai rhywun ifanc nôl neges i chwaer, neu wneud rhywbeth arall i’w helpu. Neu gallai eraill yn y gynulleidfa goginio pryd o fwyd i rywun sydd ddim yn dda, a’i adael y tu allan i’w gartref. Ond wrth gwrs, pan fydd afiechydon ar led, mae pawb angen gair calonogol, nid jest y rhai sy’n sâl. Beth am aros ychydig bach yn hwyrach ar ôl y cyfarfodydd i siarad â dy frodyr a dy chwiorydd, naill ai wyneb yn wyneb, neu drwy alwad ffôn, neu alwad fideo. Mae rhai wedi anfon cardiau i ddiolch i’r henuriaid oherwydd maen nhwthau angen anogaeth hefyd wrth iddyn nhw weithio mor galed, yn enwedig pan fydd clefyd yn mynd ar led. Mae’n hyfryd pan fydd pawb yn gwneud eu rhan i ddilyn y cyngor: “Daliwch ati i annog eich gilydd ac i gryfhau eich gilydd.”—1 Thes. 5:11.

HELPA ERAILL YN YSTOD TRYCHINEB

7. Beth all fod yn anodd ar ôl trychineb?

7 Gall trychineb newid bywyd rhywun mewn eiliad. Mae’n gallu achosi i bobl golli eu heiddo, eu cartref, neu hyd yn oed eu hanwyliaid. Mae’r pethau hyn yn gallu effeithio ar ein brodyr a’n chwiorydd hefyd. Felly beth gallwn ni ei wneud i helpu?

8. Beth gall henuriaid a phennau teuluoedd ei wneud cyn i drychineb daro?

8 Beth gall henuriaid ei wneud? Peth doeth fyddai i’r henuriaid helpu eu brodyr a’u chwiorydd i baratoi cyn i drychineb daro. Sicrhewch fod pawb yn y gynulleidfa yn gwybod beth i’w wneud i aros yn saff, ac i gysylltu â’r henuriaid. Dywedodd Margaret gwnaethon ni ei dyfynnu yn yr erthygl ddiwethaf: “Mewn un anerchiad anghenion lleol, gwnaeth yr henuriaid ein rhybuddio ni a dweud bod ’na dal beryg o danau yn yr ardal. Dywedon nhw hefyd y dylen ni ffoi ar unwaith petai’r awdurdodau yn gofyn inni wneud hynny, neu petai’r sefyllfa yn mynd yn beryglus.” Roedd hynny’n amserol iawn oherwydd dim ond pum wythnos wedyn, dechreuodd tân mawr yn yr ardal. Hefyd gall pennau teuluoedd fanteisio ar y cyfle yn ystod addoliad teuluol i baratoi ar gyfer trychineb, gan drafod beth dylai pob aelod o’r teulu ei wneud. Wedyn bydd y teulu cyfan yn llai tebygol o banicio os daw trychineb.

9. Beth dylai henuriaid ei wneud cyn ac ar ôl trychineb?

9 Os wyt ti’n arolygwr grŵp, gwna’n siŵr bod gen ti fanylion cyswllt pawb yn dy grŵp. Paid â disgwyl nes bydd trychineb yn taro i wneud hynny. Gwna restr a’i diweddaru’n aml. Wedyn os bydd trychineb yn taro, byddi di’n gallu cysylltu â phob cyhoeddwr a holi beth maen nhw ei angen. Pasia’r wybodaeth honno ymlaen yn syth i gydlynydd y corff henuriaid. Wedyn bydd yntau’n cysylltu ag arolygwr y gylchdaith. Mae ymdrechion y brodyr hyn yn gwneud gwahaniaeth mawr. Meddylia eto am hanes Margaret. Arhosodd ei harolygwr cylchdaith yn effro am 36 awr ar ôl y tân. Roedd yn brysur yn trefnu gwaith yr henuriaid wrth iddyn nhw geisio cysylltu â 450 o frodyr a chwiorydd a oedd wedi gorfod gadael eu cartrefi. (2 Cor. 11:27) O ganlyniad, llwyddon nhw i gael llety i bawb oedd ei angen.

10. Pam mae henuriaid yn teimlo bod bugeilio yn waith mor bwysig? (Ioan 21:15)

10 Mae gan yr henuriaid y cyfrifoldeb o helpu eraill yn ysbrydol ac yn emosiynol. (1 Pedr 5:2) Yn ystod trychineb, dylen nhw wneud yn siŵr bod gan bob brawd a chwaer fwyd, dillad, a rhywle i aros. Mae’n debyg bydd y brodyr a’r chwiorydd angen cymorth ac anogaeth o’r Beibl am fisoedd wedyn. (Darllen Ioan 21:15.) Fel dywedodd Harold, aelod o Bwyllgor Cangen sydd wedi cyfarfod llawer o frodyr a chwiorydd ar ôl trychineb: “Hyd yn oed os ydy pobl yn dechrau dod dros eu colled, maen nhw’n cael eu taro gan atgofion am anwylyn, am drysor teuluol, neu am sefyllfa beryglus. Gall hynny eu gwneud nhw’n drist iawn unwaith eto. Ond mae teimladau fel hyn yn hollol naturiol; dydyn nhw ddim yn dangos diffyg ffydd.”

11. Beth fydd teuluoedd ei angen ar ôl trychineb?

11 Mae’r henuriaid yn dilyn y cyngor: “Criwch gyda’r rhai sy’n drist.” (Rhuf. 12:15) Os ydy rhywun wedi dioddef oherwydd trychineb, efallai bydd rhaid i’r henuriaid ei atgoffa bod Jehofa a’i frodyr a’i chwiorydd yn dal i’w garu. Bydd yr henuriaid hefyd eisiau helpu teuluoedd i gadw eu rwtîn ysbrydol, gan gynnwys gweddïo, astudio, mynd i’r cyfarfodydd, a phregethu. Rhywbeth arall gall henuriaid ei wneud ydy annog rhieni i helpu eu plant i ganolbwyntio ar bethau na fydd byth yn cael eu dinistrio gan drychineb. Os wyt ti’n rhiant, atgoffa dy blant y bydd Jehofa wastad yn ffrind fydd byth yn cefnu arnyn nhw. A gwna’n siŵr eu bod nhw’n deall eu bod nhw’n rhan o deulu byd-eang o frodyr a chwiorydd sydd wastad yn barod i’w helpu.—1 Pedr 2:17.

A elli di wirfoddoli i helpu ar ôl trychineb yn dy ardal di? (Gweler paragraff 12) e

12. Beth gall eraill ei wneud i helpu ar ôl trychineb? (Gweler y llun.)

12 Beth gall eraill ei wneud? Os bydd trychineb yn taro’n lleol, gofynna i’r henuriaid sut gelli di helpu. Efallai gelli di agor dy gartref dros dro, naill ai i’r rhai sydd wedi gorfod ffoi, neu i’r brodyr a’r chwiorydd sy’n rhoi cymorth ar ôl trychineb. Posibilrwydd arall ydy mynd â bwyd a phethau eraill i gyhoeddwyr sydd eu hangen. Ond beth os ydy trychineb yn taro mewn gwlad bell? Mae hi dal yn bosib iti helpu drwy weddïo dros y rhai sy’n dioddef. (2 Cor. 1:8-11) Neu efallai dy fod ti mewn sefyllfa i gefnogi’r gwaith cymorth yn ariannol drwy gyfrannu at y gwaith byd-eang. (2 Cor. 8:2-5) Os wyt ti’n gallu teithio i ardal y trychineb, dyweda wrth yr henuriaid dy fod ti eisiau gwirfoddoli. Os cei di wahoddiad i wneud hynny, mae’n debyg y cei di ryw fath o hyfforddiant er mwyn iti gael dy ddefnyddio yn y ffordd orau bosib.

HELPA DY FRODYR SY’N CAEL EU HERLID

13. Pa heriau mae ein brodyr yn eu hwynebu mewn gwledydd lle mae ein gwaith wedi ei wahardd?

13 Mewn rhai gwledydd mae ein brodyr a’n chwiorydd yn gorfod delio ag erledigaeth ar ben problemau ariannol, problemau iechyd, a cholli anwyliaid. Ond os ydy ein gwaith wedi ei wahardd, gall fod yn anodd i’r henuriaid fynd i’w gweld nhw, neu hyd yn oed siarad â nhw i’w hannog. Dyna’r her roedd Andrei, gwnaethon ni sôn amdano yn yr erthygl gynt, yn ei hwynebu. Roedd gan un chwaer yn ei grŵp gweinidogaeth broblemau ariannol. Ar ben hynny, cafodd hi ddamwain car. Roedd hi angen sawl llawdriniaeth ac roedd hi’n methu gweithio. Ond roedd Jehofa yn gwybod beth roedd hi ei angen, a gwnaeth yn siŵr fod y brodyr yn ei helpu, er gwaethaf y cyfyngiadau a’r pandemig.

14. Sut gall henuriaid osod esiampl dda drwy ddibynnu ar Jehofa?

14 Beth gall henuriaid ei wneud? Gweddïodd Andrei a gwneud popeth yn ei allu. Sut gwnaeth Jehofa ymateb? Defnyddio eraill yn y gynulleidfa oedd â mwy o ryddid. Roedd rhai’n gallu mynd â’r chwaer at apwyntiadau meddygol, ac eraill yn gallu rhoi arian i’w helpu hi. Gwnaeth Jehofa eu hysgogi nhw i wneud popeth roedden nhw’n gallu, a bendithio eu hymdrechion dewr. (Heb. 13:16) Felly henuriaid, pan fydd y gwaith wedi ei wahardd, gofynnwch i eraill helpu. (Jer. 36:5, 6) Ond yn bwysicach na dim, dibynnwch ar Jehofa, oherwydd bydd yn eich helpu chi i sicrhau bod gan eich brodyr a’ch chwiorydd bopeth maen nhw ei angen.

15. Sut gallwn ni aros yn unedig fel brodyr a chwiorydd pan ydyn ni’n cael ein herlid?

15 Beth gall eraill ei wneud? Pan fydd ein gwaith wedi ei wahardd, efallai bydd rhaid inni gyfarfod â’n brodyr a’n chwiorydd mewn grwpiau bychan. Mewn sefyllfa o’r fath, mae’n bwysicach nag erioed ein bod ni’n cadw heddwch. Rydyn ni eisiau brwydro yn erbyn Satan, nid yn erbyn ein gilydd. Felly paid â chanolbwyntio ar gamgymeriadau dy frodyr a dy chwiorydd. (Diar. 19:11) Ac os ydy problem yn codi, gwna dy orau i’w datrys yn sydyn. (Eff. 4:26) Bydda’n barod i helpu eraill. (Titus 3:14) Am fod y chwaer mewn angen wedi cael gymaint o help, daeth y grŵp gweinidogaeth yn agosach, fel teulu.—Salm 133:1.

16. Yn ôl Colosiaid 4:3, 18, sut gallwn ni helpu ein brodyr a chwiorydd sy’n cael eu herlid?

16 Mae degau o filoedd o’n brodyr a’n chwiorydd yn byw mewn gwledydd lle mae ein gwaith wedi ei wahardd, ond maen nhw’n dal ati i wasanaethu Jehofa. Mae eraill yn y carchar oherwydd eu ffydd. Gallwn ni weddïo drostyn nhw a’u teuluoedd. Gallwn ni hefyd weddïo dros y rhai dewr sy’n cefnogi ein brodyr a chwiorydd yn y carchar, er eu bod nhwthau mewn peryg o gael eu harestio. Maen nhw’n eu cefnogi nhw’n ysbrydol ac yn gorfforol, ac yn eu hamddiffyn nhw yn y llys. c (Darllen Colosiaid 4:3, 18.) Paid byth ag anghofio pa mor bwerus ydy dy weddïau drostyn nhw.—2 Thes. 3:1, 2; 1 Tim. 2:1, 2.

Sut gelli di a dy deulu baratoi nawr ar gyfer erledigaeth? (Gweler paragraff 17)

17. Sut gelli di baratoi nawr ar gyfer erledigaeth?

17 Gelli di a dy deulu baratoi nawr ar gyfer erledigaeth. (Act. 14:22) Paid â dychmygu’r holl bethau drwg a fyddai’n gallu digwydd. Yn hytrach, cryfha dy berthynas â Jehofa, a helpa dy blant i wneud yr un peth drwy drafod yr holl resymau pam gallwch chi ei drystio. d Os wyt ti’n dechrau poeni, tywallt dy galon o flaen Duw. (Salm 62:7, 8) Beth bynnag sy’n digwydd, bydd y ffaith dy fod ti wedi paratoi, a dy fod ti yn trystio Jehofa, yn tawelu meddwl dy blant ac yn eu gwneud nhw’n ddewr.

18. Beth sydd o’n blaenau ni yn y dyfodol?

18 Mae’r heddwch mae Duw yn ei roi yn gwneud inni deimlo’n saff. (Phil. 4:6, 7) Mae’r heddwch hwnnw yn tawelu ein calonnau er gwaethaf yr afiechydon, trychinebau, ac erledigaeth sy’n gallu effeithio arnon ni heddiw. Mae Jehofa yn defnyddio henuriaid sy’n gweithio’n galed i’n bugeilio ni. Ac mae hefyd yn rhoi inni’r fraint o helpu ein gilydd. Gallwn ni fanteisio ar yr heddwch sydd gynnon ni nawr i baratoi ar gyfer treialon mwy sydd i ddod, hyd yn oed y ‘trychineb mawr.’ (Math. 24:21) Bryd hynny, bydd rhaid inni gadw ein heddwch a helpu eraill i wneud yr un fath. Ond unwaith i’r trychineb mawr basio, fydd dim byd yn gwneud inni boeni byth eto. Bydd hi’n amser inni fwynhau heddwch go iawn fydd yn para am byth—yn union fel roedd Jehofa eisiau inni o’r cychwyn cyntaf.—Esei. 26:3, 4.

CÂN 109 Carwch o Ddyfnder Calon

a Mae Jehofa yn aml yn defnyddio ei weision ffyddlon i helpu eraill sy’n mynd trwy amserau caled. Ac mae’n gallu dy ddefnyddio di i galonogi a chysuro dy frodyr a dy chwiorydd. Gad inni weld sut.

b Newidiwyd rhai enwau.

c Dydy hi ddim yn bosib i swyddfa’r gangen, na’r rhai yn y pencadlys, anfon llythyrau ymlaen at frodyr a chwiorydd sydd yn y carchar.

d Gweler yr erthygl “Paratoa Nawr ar Gyfer Erledigaeth” yn rhifyn Gorffennaf 2019 y Tŵr Gwylio.

e DISGRIFIAD O’R LLUN: Ar ôl trychineb, mae cwpl yn dod â bwyd i deulu sy’n aros mewn lloches dros dro.