Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Wyt Ti’n Cofio?

Wyt Ti’n Cofio?

Wyt ti wedi darllen rhifynnau’r Tŵr Gwylio eleni yn ofalus? Wel, ceisia ateb y cwestiynau canlynol:

Sut byddwn ni ar ein hennill o dreulio amser yn siarad â Jehofa, yn gwrando arno, ac yn meddwl amdano?

Byddwn ni’n gwneud penderfyniadau gwell, byddwn ni’n athrawon gwell, bydd ein ffydd yn cryfhau, a byddwn ni’n caru Jehofa yn fwy byth.—w22.01, tt. 30-31.

Sut byddwn ni ar ein hennill o drystio Jehofa, a’r rhai sy’n ei gynrychioli?

Nawr yw’r amser i drystio Jehofa drwy beidio â chwestiynu cyfarwyddyd yr henuriaid, na’r penderfyniadau maen nhw’n eu gwneud. Yna, pan fydd y gorthrymder mawr yn cyrraedd, byddwn ni’n fodlon ufuddhau hyd yn oed os nad ydy’r cyfarwyddyd yn gwneud synnwyr inni.—w22.02, tt. 4-6.

Pam gwnaeth angel sôn wrth Sechareia am linell blwm “yn llaw [y llywodraethwr] Serwbabel”? (Sech. 4:8-10)

Rhoddodd y weledigaeth hon hyder i bobl Dduw y byddai’r deml newydd yn cael ei gorffen ac yn cyrraedd safonau Duw.—w22.03, tt. 16-17.

Sut gallwn ni osod ‘esiampl dda yn y ffordd rydyn ni’n siarad’? (1 Tim. 4:12)

Drwy siarad yn garedig ac yn barchus ar y weinidogaeth, drwy ganu ac ateb yn rheolaidd yn y cyfarfodydd, drwy ddweud y gwir bob tro a chalonogi eraill, a drwy osgoi dweud pethau cas.—w22.04, tt. 6-9.

Pam mae nodweddion y pedwar creadur (teyrnasoedd) yn Daniel pennod 7 yn cael eu cynnwys mewn un anghenfil yn Datguddiad 13:1, 2?

Dydy anghenfil Datguddiad pennod 13 ddim yn cynrychioli un deyrnas benodol, fel Rhufain. Mae’n cynrychioli pob grym gwleidyddol sydd wedi rheoli dros ddynolryw.—w22.05, t. 9.

Sut gallwn ni ddangos ein bod ni’n trystio cyfiawnder Jehofa?

Os ydy rhywun wedi ein pechu ni, dylen ni beidio â dal dig. Dylen ni adael pethau yn nwylo Jehofa. Bydd ef yn dad-wneud unrhyw niwed sydd wedi ei achosi gan bechod.—w22.06, tt. 10-11.

Beth dylai brawd sy’n gofyn gweddi mewn cyfarfod ei gofio?

Dydy gweddi ddim yn gyfle i roi cyngor i’r gynulleidfa, nac i wneud cyhoeddiadau. Does dim angen mynd “ymlaen yn ddiddiwedd,” yn enwedig ar gychwyn cyfarfod. (Math. 6:7)—w22.07, tt. 24-25.

Ym mha ystyr bydd y rhai “a wnaeth ddrygioni” yn “codi i gael eu barnu”? (Ioan 5:29, BCND)

Fyddan nhw ddim yn cael eu barnu ar sail beth wnaethon nhw yn y gorffennol. Byddan nhw’n cael eu hasesu ar sail eu hagwedd a’u hymddygiad ar ôl cael eu hatgyfodi.—w22.09, t. 18.

Pa anogaeth cyffrous rhoddodd J. F. Rutherford mewn cynhadledd ym mis Medi 1922?

Dywedodd mewn un cynhadledd yn Cedar Point, Ohio, UDA: “Mae’r Brenin yn teyrnasu! A chi sydd wedi eich aseinio i ddweud wrth bawb am hyn. Felly cyhoeddwch, cyhoeddwch, cyhoeddwch y Brenin a’i Deyrnas!”—w22.10, tt. 3-5.

Yn ôl Eseia pennod 30, sut mae Duw yn ein helpu ni i ddyfalbarhau?

Mae’r bennod yn dangos ei fod (1) yn gwrando ar ein gweddïau ac yn eu hateb, (2) yn ein harwain, a (3) yn ein bendithio ni nawr, ac am ein bendithio ni yn y dyfodol.—w22.11, t. 9.

Pam gallwn ni gyrraedd y casgliad, nid yn unig bod Salm 37:10, 11, 29 wedi cael eu cyflawni yn y gorffennol, ond y byddan nhw hefyd yn cael eu cyflawni yn y dyfodol?

Mae geiriau Dafydd yn disgrifio’r awyrgylch heddychlon yn Israel i’r dim, fel roedd yr achos yn ystod teyrnasiad y Brenin Solomon. Ond yna, gwnaeth Iesu ddyfynnu adnod 11 wrth sôn am baradwys a fyddai’n dod yn y dyfodol. (Math. 5:5; Luc 23:43)—w22.12, tt. 8-10, 14.