Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Cael Ein Harwain gan Farn Duw ar Alcohol

Cael Ein Harwain gan Farn Duw ar Alcohol

MAE’N siŵr dy fod ti’n mwynhau’r anrhegion mae Jehofa wedi eu rhoi iti, ac rwyt ti’n ddiolchgar bod Duw yn gadael iti ddewis drostot ti dy hun sut i’w defnyddio nhw. Yn ddiddorol, mae’r Beibl yn dweud bod gwin yn anrheg oddi wrth Dduw: “Mae bwyd yn cael ei baratoi i’w fwynhau, ac mae gwin yn gwneud bywyd yn llon.” (Preg. 10:19; Salm 104:15) Mae’n debyg dy fod ti wedi sylwi bod rhai pobl yn datblygu problem ag alcohol. Hefyd, mae gan bobl ar draws y byd agweddau gwahanol tuag at yfed alcohol. Felly, beth all helpu Cristnogion i wneud penderfyniadau doeth?

Ni waeth lle rydyn ni’n byw na lle cawson ni ein magu, byddwn ni’n hapusach os ydyn ni’n gadael i farn Duw arwain ein ffordd o feddwl a’n penderfyniadau.

Efallai dy fod ti wedi sylwi bod llawer o bobl yn y byd yn yfed yn aml ac yn goryfed. Mae rhai yn yfed alcohol er mwyn ymlacio. Mae eraill yn yfed er mwyn ymdopi â’u problemau. Ac mewn rhai llefydd, mae yfed llawer o alcohol yn gwneud iti edrych yn aeddfed neu’n gryf.

Ond, mae gan Gristnogion arweiniad eu Creawdwr cariadus. Er enghraifft, mae Jehofa wedi dweud wrthon ni am y canlyniadau trist sy’n dod o oryfed. Efallai ein bod ni wedi darllen y disgrifiad manwl yn Diarhebion 23:​29-35 o’r person oedd wedi meddwi a’r problemau a ddaeth o hynny. a Wrth gofio am ei fywyd cyn iddo ddod yn Dyst, dywedodd henuriad yn Ewrop o’r enw Daniel, “Gwnaeth goryfed arwain at benderfyniadau gwael a phrofiadau poenus sydd wedi achosi creithiau emosiynol dwfn.”

Sut gall Cristnogion ymarfer eu hewyllys rhydd ac osgoi’r problemau sy’n dod o oryfed? Mae’n rhaid inni adael i safbwynt Duw arwain ein ffordd o feddwl a’n gweithredoedd.

Gad inni edrych ar beth mae’r Beibl yn ei ddweud am alcohol a beth sy’n cymell rhai pobl i yfed.

EGWYDDORION Y BEIBL

Dydy Gair Duw ddim yn condemnio yfed alcohol yn gymedrol. Mae’r Beibl hyd yn oed yn dweud bod yfed gwin yn gallu bod yn rhywbeth gallwn ni ei fwynhau. Rydyn ni’n darllen: “Mwynha dy fwyd ac yfa dy win yn llawen.” (Preg. 9:7) Ar rai achlysuron, gwnaeth Iesu a gweision ffyddlon eraill yfed gwin.—Math. 26:​27-29; Luc 7:34; 1 Tim. 5:23.

Ond mae Gair Duw yn dweud bod ’na wahaniaeth clir rhwng yfed ychydig o alcohol a meddwi. Mae’n dweud: “Peidiwch â meddwi ar win.” (Eff. 5:18) Ac mae hyd yn oed yn dweud na fydd “pobl sy’n meddwi . . . yn etifeddu Teyrnas Dduw.” (1 Cor. 6:10) Yn wir, mae Jehofa yn teimlo’n hynod o gryf am oryfed a meddwi. Yn hytrach na gwneud penderfyniad ar sail ein diwylliant, rydyn ni’n ceisio plesio Duw.

Mae rhai yn teimlo eu bod nhw’n gallu yfed llawer o alcohol heb feddwi. Ond, mae hynny’n beryglus iawn. Mae’r Beibl yn dweud bod mynd “yn gaeth i ormod o win” yn gallu achosi i rywun fynd ar goll yn foesol ac yn ysbrydol. (Titus 2:3; Diar. 20:1) A rhybuddiodd Iesu y gall “goryfed” rwystro rhywun rhag mynd i mewn i fyd newydd Duw. (Luc 21:​34-36) Felly, beth sy’n gallu helpu Cristion i osgoi’r problemau sy’n gallu digwydd mor hawdd wrth yfed alcohol?

MEDDYLIA AM DY GYMHELLION A DY ARFERION

Mae’n beryglus i rywun adael i’w ddiwylliant effeithio ar y ffordd mae’n meddwl am alcohol. Pan mae’n dod at fwyd a diod, mae Cristnogion yn gwneud yr hyn sy’n plesio Jehofa. Mae’r Beibl yn ein hatgoffa: “P’run a ydych chi’n bwyta neu’n yfed neu’n gwneud unrhyw beth arall, gwnewch bopeth er gogoniant Duw.” (1 Cor. 10:31) Dyma rai cwestiynau ac egwyddorion o’r Beibl i’w hystyried:

A ydw i’n yfed alcohol er mwyn i eraill fy hoffi? Mae Exodus 23:2 yn dweud: “Paid dilyn y dorf.” Yma, roedd Jehofa yn rhybuddio’r Israeliaid yn erbyn dilyn pobl nad oedd yn ei blesio. Mae hynny’n gyngor da i Gristnogion heddiw. Petasen ni’n gadael i ddylanwad eraill fowldio ein ffordd o feddwl a’n penderfyniadau ynglŷn ag alcohol, mae ’na beryg y bydden ni’n gallu ymbellhau oddi wrth Jehofa a’i safonau.—Rhuf. 12:2.

A ydw i’n yfed alcohol er mwyn i eraill feddwl fy mod i’n gryf? Mewn rhai diwylliannau, mae’n dderbyniol i yfed yn aml ac i oryfed. (1 Pedr 4:3) Ond, sylwa ar beth mae 1 Corinthiaid 16:13 yn ei ddweud: “Cadwch yn effro, safwch yn gadarn yn y ffydd, daliwch ati yn ddewr, byddwch yn gryf.” A ydy alcohol yn gallu helpu person i fod yn gryf? Nac ydy. Mae alcohol yn gallu gwanhau gallu person i feddwl yn glir ac i wneud penderfyniadau da. Felly, dydy yfed llawer o alcohol ddim yn profi bod rhywun yn gryf. Yn hytrach, mae’n dangos gwendid. Mae Eseia 28:7 yn dweud bod rhai sy’n goryfed yn drysu ac yn gwneud penderfyniadau gwael.

Mae gwir gryfder yn dod oddi wrth Jehofa. Ond er mwyn ei gael, mae’n rhaid inni ‘gadw’n effro a sefyll yn gadarn yn y ffydd.’ (Salm 18:32) Gall gwir Gristion wneud hyn drwy aros yn effro a thrwy wneud penderfyniadau doeth er mwyn ei warchod ei hun rhag niwed ysbrydol. Dangosodd Iesu’r fath gryfder pan oedd ar y ddaear, ac roedd llawer yn ei barchu fel dyn dewr a oedd yn benderfynol o wneud beth oedd yn iawn.

A ydw i’n yfed alcohol er mwyn stopio pryderu am fy mhroblemau? Cafodd un Salmydd ei ysbrydoli i ddweud: “Pan oeddwn i’n poeni am bob math o bethau, roedd dy gefnogaeth di [Jehofa] yn fy ngwneud i’n llawen.” (Salm 94:19) Os ydy problemau yn dy lethu di, tro at Jehofa ac nid at alcohol. Gelli di wneud hyn drwy weddïo ar Jehofa yn amlach. Hefyd, mae llawer wedi troi at ffrind aeddfed yn y gynulleidfa am gyngor. Mewn gwirionedd, gall yfed alcohol er mwyn ymdopi â phroblemau wneud i berson fod yn llai penderfynol o wneud yr hyn sy’n iawn. (Hos. 4:​11, BCND) Gwnaeth Daniel, y brawd y soniwyd amdano yn gynharach, gyfaddef: “Roeddwn i’n pryderu ac yn teimlo’n euog, ac yn yfed i ddelio â’r sefyllfa. Ond gwnaeth hyn arwain at fwy o broblemau ac yna gwnes i golli fy ffrindiau a fy hunan-barch.” Beth helpodd Daniel yn y diwedd? Dywedodd: “Sylweddolais mai Jehofa roeddwn i ei angen wrth fy ochr, nid alcohol. Roeddwn i o’r diwedd yn gallu delio â fy mhroblemau ac yn gallu eu gorchfygu.” Mae Jehofa bob amser yn barod i’n helpu ni, hyd yn oed os ydyn ni’n teimlo bod ein sefyllfa yn anobeithiol.—Phil. 4:​6, 7; 1 Pedr 5:7.

Os wyt ti ar adegau yn yfed alcohol, beth am ddadansoddi dy arferion drwy ateb y cwestiynau hyn: ‘A ydy rhywun sy’n agos ata i wedi dweud eu bod nhw’n poeni am faint rydw i’n ei yfed?’ Os felly, gall hyn fod yn arwydd dy fod ti’n datblygu problem nad wyt ti’n ymwybodol ohoni. ‘A ydw i’n yfed mwy nag oeddwn i?’ Efallai gall hyn arwain at fod yn gaeth i alcohol yn y pen draw. ‘A ydw i’n ei chael hi’n anodd mynd heb alcohol am gwpl o ddyddiau neu fwy?’ Os felly, efallai fod yfed alcohol wedi troi’n arfer neu’n rhywbeth rwyt ti’n dibynnu arno. Efallai y bydd hynny’n golygu y byddi di angen help proffesiynol er mwyn dod dros y broblem.

Er mwyn osgoi’r peryglon a’r problemau a all ddod o yfed alcohol, mae rhai Cristnogion wedi dewis peidio ag yfed unrhyw alcohol. Efallai bydd eraill yn penderfynu gwneud hyn gan nad ydyn nhw’n hoffi’r blas. Os ydy rhywun rwyt ti’n ei adnabod yn penderfynu peidio ag yfed, gelli di ddangos caredigrwydd drwy barchu ei benderfyniad heb ei feirniadu.

Neu efallai dy fod ti wedi gweld y doethineb sy’n dod o osod terfynau personol ar faint o alcohol rwyt ti’n ei yfed. Neu, gelli di greu rheol bersonol ynglŷn â pha mor aml y byddi di’n yfed alcohol, efallai dim ond unwaith yr wythnos neu yfed ychydig gyda bwyd. Mae eraill yn ofalus am y math o alcohol maen nhw’n ei yfed. Er enghraifft, byddan nhw’n yfed cwrw a gwin mewn ffordd gytbwys ond yn osgoi gwirodydd, hyd yn oed wedi eu cymysgu mewn diodydd eraill. Unwaith mae person wedi gosod terfynau clir ar yfed alcohol, bydd yn haws iddo gadw atyn nhw. Hefyd, os ydy Cristion aeddfed wedi gwneud y fath benderfyniad ac yn benderfynol o gadw ato, does dim rheswm iddo deimlo cywilydd.

Mae’n rhaid inni hefyd ystyried teimladau eraill. Mae Rhufeiniaid 14:21 yn dweud: “Mae hi’n well peidio â bwyta cig nac yfed gwin na gwneud unrhyw beth sy’n gwneud i dy frawd syrthio.” Sut gelli di roi ar waith y cyngor hwn? Trwy ddangos cariad. Os wyt ti’n meddwl y byddai yfed alcohol yn pechu rhywun, a fydd cariad yn dy gymell i beidio ag yfed o’i flaen? Wedyn, byddi di’n dangos bod gen ti gonsýrn a pharch tuag at eraill a dy fod ti’n rhoi eu teimladau nhw o flaen dy rhai di.—1 Cor. 10:24.

Ar ben hynny, efallai bydd cyfreithiau’r llywodraeth yn llywio penderfyniad Cristion. Efallai bydd y cyfreithiau hyn yn cynnwys cyfyngiad oed ar gyfer yfed, gwahardd yfed a gyrru, neu beidio â defnyddio peiriannau ar ôl yfed.—Rhuf. 13:​1-5.

Mae Jehofa wedi rhoi’r rhyddid inni allu mwynhau’r anrhegion mae ef wedi eu rhoi inni. Mae hynny’n cynnwys ein hewyllys rhydd i allu dewis beth i’w fwyta a’i yfed. Gad i’n penderfyniadau ddangos ein bod ni’n gwerthfawrogi’r rhyddid hwnnw drwy ei ddefnyddio i blesio ein Tad nefol.

a Mae un sefydliad iechyd yn yr Unol Daleithiau (CDC) yn dweud bod peryglon tymor byr goryfed yn cynnwys dynladdiad, hunanladdiad, ymosodiad rhywiol, trais domestig, ymddygiad rhywiol anniogel, a cholli plentyn yn y groth.