Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 52

Chwiorydd Ifanc​—⁠Gallwch Ddod yn Gristnogion Aeddfed

Chwiorydd Ifanc​—⁠Gallwch Ddod yn Gristnogion Aeddfed

“Dylai merched hefyd . . . ymddwyn mewn ffordd gytbwys, yn ffyddlon ym mhob peth.”—1 TIM. 3:11.

CÂN 133 Addolwch Jehofa Chi Bobl Ifanc

CIPOLWG a

1. Beth mae’n rhaid inni ei wneud i aeddfedu’n ysbrydol?

 MAE’N ein synnu ni pa mor gyflym mae plentyn yn troi yn oedolyn. Mae’r newid yn ymweld i ddigwydd ar ei ben ei hun. Ond, mae aeddfedu yn ysbrydol angen ymdrech. b (1 Cor. 13:11; Heb. 6:1) Er mwyn cyrraedd y nod hwnnw, mae’n rhaid inni gael perthynas agos â Jehofa. Rydyn ni hefyd angen ei ysbryd glân wrth inni ddatblygu Ei rinweddau, dysgu sgiliau ymarferol, a pharatoi ar gyfer cyfrifoldebau yn y dyfodol.—Diar. 1:5.

2. Beth rydyn ni’n ei ddysgu o Genesis 1:​27, a beth byddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl hon?

2 Creodd Jehofa fodau dynol i fod yn wryw a benyw. (Darllen Genesis 1:27.) Mae’n amlwg bod dynion a merched yn wahanol yn gorfforol. Ond, maen nhw’n wahanol mewn ffyrdd eraill hefyd. Er enghraifft, creodd Jehofa ddynion a merched i gyflawni swydd wahanol. Felly maen nhw angen sgiliau a rhinweddau gwahanol i allu gwneud eu haseiniadau. (Gen. 2:18) Yn yr erthygl hon, byddwn yn ystyried beth gall chwaer ifanc ei gwneud er mwyn dod yn Gristion aeddfed. Yn yr erthygl nesaf, byddwn yn trafod beth gall brodyr ifanc eu gwneud.

DYSGU RHINWEDDAU DUWIOL

Bydd efelychu rhinweddau merched ffyddlon fel Rebeca, Esther, ac Abigail yn dy helpu di i aeddfedu’n ysbrydol (Gweler paragraffau 3-4)

3-4. Ble gall chwiorydd ifanc ddod o hyd i esiamplau da i’w hefelychu? (Gweler hefyd y llun.)

3 Mae’r Beibl yn sôn am nifer o ferched arbennig a oedd yn caru Jehofa ac yn ei wasanaethu. (Gweler yr erthygl ar jw.org “Menywod yn y Beibl—Beth Gallwn Ni ei Ddysgu o’u Hesiamplau?”) Roedden nhw, fel mae’r thema’n dweud, yn “ymddwyn mewn ffordd gytbwys” ac “yn ffyddlon ym mhob peth.” Hefyd, gall chwiorydd weld esiamplau o sut i fod yn Gristnogion aeddfed yn eu cynulleidfaoedd eu hunain.

4 Os wyt ti’n chwaer ifanc, ceisia efelychu chwiorydd aeddfed ysbrydol. Sylwa ar eu rhinweddau deniadol; yna, meddylia sut gelli di ddysgu o’u hesiampl. Yn y paragraffau canlynol, byddwn yn ystyried tair rhinwedd bwysig dylai chwiorydd eu cael.

5. Pam mae gostyngeiddrwydd yn hanfodol er mwyn i chwaer aeddfedu’n ysbrydol?

5 Mae gostyngeiddrwydd yn rhan bwysig o fod yn aeddfed yn ysbrydol. Os ydy dynes yn ostyngedig, bydd hi’n gallu mwynhau perthynas agos â Jehofa ac eraill. (Iago 4:6) Er enghraifft, bydd dynes sy’n caru Jehofa yn dewis dilyn yr hyn sydd wedi ei ysgrifennu yn 1 Corinthiaid 11:​3, lle mae Jehofa yn esbonio pwy sydd gan y cyfrifoldeb o arwain y gynulleidfa ac arwain y teulu. c

6. Beth gall chwiorydd ifanc ei ddysgu am fod yn ostyngedig o esiampl Rebeca?

6 Ystyria esiampl Rebeca. Roedd hi’n ddynes alluog a oedd yn barod i wneud penderfyniadau drosti hi ei hun, pan oedd yn addas, drwy gydol ei bywyd. (Gen. 24:58; 27:​5-17) Ond, roedd hi’n barchus ac yn barod i ildio. (Gen. 24:​17, 18, 65) Os wyt ti’n barod i gefnogi trefniadau Jehofa fel gwnaeth Rebeca, byddi di’n ddylanwad da ar y gynulleidfa ac ar dy deulu.

7. Sut gall chwiorydd ifanc efelychu Esther a bod yn wylaidd?

7 Mae bod yn wylaidd hefyd yn bwysig i Gristnogion aeddfed. Mae’r Beibl yn dweud mai “pobl wylaidd ydy’r rhai doeth.” (Diar. 11:2) Roedd Esther yn ddynes wylaidd a duwiol. Roedd ei gwyleidd-dra yn ei stopio hi rhag cymryd cyfrifoldeb nad oedd yn perthyn iddi hi. Gwrandawodd hi ar gyngor ei chefnder hŷn Mordecai a’i dilyn. (Esth. 2:​10, 20, 22) Gelli di fod yn wylaidd fel Esther drwy chwilio am gyngor da a’i ddilyn.—Titus 2:​3-5.

8. Beth gall chwaer ei ddysgu o 1 Timotheus 2:​9, 10 am fod yn wylaidd a gwneud penderfyniadau doeth ynglŷn â’i gwisg a’i thrwsiad?

8 Roedd Esther yn wylaidd mewn ffordd arall. “Roedd hi wedi tyfu’n ferch ifanc siapus a hynod o ddeniadol,” ond, doedd hi ddim yn tynnu sylw ati hi ei hun. (Esth. 2:​7, 15) Beth all chwaer yn y gynulleidfa ddysgu o’r esiampl hon? Mae un ffordd yn cael ei amlygu yn 1 Timotheus 2:​9, 10. (Darllen.) Dywedodd yr apostol Paul wrth ferched am iddyn nhw wisgo’n weddus a bod yn wylaidd ac yn synhwyrol. Mae’r geiriau Groeg sy’n cael eu defnyddio fan hyn yn rhoi’r syniad y dylai gwisg fod yn barchus a dylen ni ystyried teimladau ac agweddau pobl eraill. Rydyn ni’n ddiolchgar i’r chwiorydd aeddfed sy’n gwisgo’n weddus!

9. Beth gallwn ni ei ddysgu o esiampl Abigail?

9 Mae doethineb yn rhinwedd arall mae chwiorydd aeddfed yn eu dangos. Beth mae’n ei olygu i fod yn ddoeth? Mae’n golygu i fod yn gall—dweud y gwahaniaeth rhwng da a drwg ac yna dewis gwneud y peth iawn. Ystyria esiampl Abigail. Gwnaeth ei gŵr wneud penderfyniad annoeth a oedd am achosi canlyniadau drwg i’r teulu a phawb a oedd o dan ei ofal. Gweithredodd Abigail yn syth. Gwnaeth ei dewis doeth hi achub bywydau. (1 Sam. 25:​14-23, 32-35) Mae doethineb hefyd yn ein helpu ni i wybod pryd i siarad a phryd i aros yn ddistaw. Hefyd, mae’n ein helpu ni i gadw cydbwysedd wrth ddangos diddordeb mewn eraill.—1 Thes. 4:11.

DYSGU SGILIAU YMARFEROL

Sut rwyt ti wedi elwa o ddysgu i ddarllen ac ysgrifennu yn dda? (Gweler paragraff 11)

10-11. Sut gall dysgu i ddarllen ac ysgrifennu’n dda dy helpu di ac eraill? (Gweler hefyd y llun.)

10 Mae rhaid i chwaer aeddfed ddysgu sgiliau ymarferol. Mae ’na rai sgiliau y mae merch yn dysgu yn ei phlentyndod bydd yn ei helpu hi drwy weddill ei bywyd. Ystyria rai esiamplau.

11 Dysga i ddarllen ac ysgrifennu yn dda. Mewn rhai diwylliannau dydy hi ddim yn bwysig i ferched ddysgu sut i ddarllen ac ysgrifennu. Ond, maen nhw’n sgiliau hanfodol i bob Cristion. d (1 Tim. 4:13) Felly, paid â gadael i unrhyw rwystr dy stopio di rhag dysgu i ysgrifennu a darllen yn dda. Sut gall hyn dy helpu di? Bydd y sgiliau hyn yn dy helpu di i gael gwaith. Byddi di’n astudio’r Beibl ac yn dysgu eraill yn well. A’r peth gorau ydy, byddi di’n agosáu at Jehofa wrth iti ddarllen ei Air a meddwl yn ddwfn amdano.—Jos. 1:8; 1 Tim. 4:15.

12. Yn ôl Diarhebion 31:​26, sut gelli di ddysgu i gyfathrebu’n well?

12 Dysga i gyfathrebu’n dda. Mae’n rhaid i Gristnogion allu gyfathrebu’n effeithiol. Rhoddodd y disgybl Iago gyngor ymarferol inni yn hyn o beth pan ddywedodd wrthon ni i fod “yn gyflym i wrando, yn araf i siarad.” (Iago 1:19) Pan wyt ti’n gwrando’n astud wrth i eraill siarad, rwyt ti’n “dangos cydymdeimlad” â nhw. (1 Pedr 3:8) Os wyt ti’n cael trafferth deall sut mae rhywun yn teimlo neu’r hyn mae’n ei olygu, gofynna cwestiynau priodol. Yna, cymera eiliad i feddwl cyn siarad. (Diar. 15:28) Gofynna i ti dy hun: ‘A ydy beth rydw i am ei ddweud yn adeiladol, yn wir, yn llawn tact, ac yn garedig?’ Dysga oddi wrth chwiorydd aeddfed sy’n cyfathrebu’n dda. (Darllen Diarhebion 31:26.) Tala sylw i’r ffordd maen nhw’n siarad. Wrth iti ddysgu’r sgil hwn yn fwy, bydd dy berthynas ag eraill yn gwella.

Mae dynes sy’n gwybod sut i edrych ar ôl y cartref yn gwneud ei theulu a’r gynulleidfa yn gryfach (Gweler paragraff 13)

13. Sut gelli di ddysgu i edrych ar ôl y cartref? (Gweler hefyd y llun.)

13 Dysga i edrych ar ôl y cartref. Mewn llawer o lefydd, merched sy’n gwneud y rhan fwyaf o’r gwaith tŷ. Efallai bydd dy fam neu chwaer aeddfed arall yn gallu dy helpu di i ddysgu sgiliau angenrheidiol. Mae chwaer o’r enw Cindy yn dweud: “Un o’r pethau gorau dysgodd fy mam imi oedd bod gweithio’n galed yn dod â hapusrwydd. Roedd dysgu sgiliau fel coginio, glanhau, gwnïo, a siopa yn gwneud fy mywyd yn haws ac mae wedi agor y ffordd imi wneud mwy yng ngwasanaeth Jehofa. Gwnaeth mam hefyd fy nysgu i fod yn lletygar, sydd wedi fy helpu i gyfarfod brodyr a chwiorydd annwyl ac rydw i wedi gallu efelychu eu hesiamplau nhw.” (Diar. 31:​15, 21, 22) Mae dynes sy’n gweithio’n galed, sy’n lletygar, ac sy’n gwybod sut i edrych ar ôl y cartref yn gwneud ei theulu a’r gynulleidfa yn gryfach.—Diar. 31:​13, 17, 27; Act. 16:15.

14. Beth rwyt ti’n ei ddysgu o esiampl Crystal, ac ar beth y dylet ti ffocysu?

14 Dysga i wneud pethau ar dy ben dy hun. Mae’r gallu i wneud pethau ar dy ben dy hun yn nod pwysig i bob Cristion. (Phil. 4:11) Mae chwaer o’r enw Crystal yn dweud: “Gwnaeth mam a dad fy helpu i i ddewis pynciau yn y coleg er mwyn imi ddysgu sgiliau ymarferol. Gwnaeth fy nhad fy annog i i gymryd cwrs ar sut i wneud cyfrifon sydd wedi bod yn help mawr.” Yn ogystal â dysgu sgiliau i gael gwaith seciwlar, hefyd tria ddysgu sut i wneud cyllideb a chadw ati. (Diar. 31:​16, 18) Cadwa dy ffocws ar bethau ysbrydol drwy osgoi mynd i ddyled a thrwy gadw dy fywyd yn syml.—1 Tim. 6:8.

PARATOI AR GYFER Y DYFODOL

15-16. Pam mae chwiorydd sengl mor werthfawr i eraill? (Marc 10:​29, 30)

15 Pan wyt ti’n dysgu rhinweddau ysbrydol a sgiliau ymarferol, byddi di’n barod am fwy o gyfrifoldebau yn y dyfodol. Ystyria rai esiamplau o’r hyn y gelli di ei wneud.

16 Gelli di aros yn sengl am gyfnod. Yn unol â geiriau Iesu, mae rhai merched yn penderfynu i beidio â phriodi, hyd yn oed petasai hynny’n mynd yn groes i’w diwylliant. (Math. 19:​10-12) Mae eraill yn aros yn sengl oherwydd eu hamgylchiadau. Cofia, dydy Jehofa nac Iesu ddim yn meddwl llai o Gristnogion sengl. O gwmpas y ddaear, mae chwiorydd sengl yn ddylanwad da ar y gynulleidfa. Gan eu bod nhw’n caru ac yn gofalu am eraill, maen nhw fel chwiorydd a mamau ysbrydol i lawer yn y gynulleidfa.—Darllen Marc 10:​29, 30; 1 Tim. 5:2.

17. Sut gall chwaer ifanc baratoi nawr i wasanaethu’n llawn amser?

17 Efallai y byddi di’n gallu gwasanaethu’n llawn amser. Mae merched Cristnogol yn cael effaith fawr ar y gwaith o bregethu ar draws y byd. (Salm 68:11) A wyt ti’n gallu paratoi nawr i bregethu’n llawn amser? Gelli di arloesi, gwirfoddoli i weithio ar brosiectau adeiladu, neu wasanaethu yn y Bethel. Gweddïa am beth rwyt ti eisiau ei wneud. Siarada â’r rhai sydd wedi gwneud pethau tebyg a dysga beth sy’n rhaid iti ei wneud er mwyn bod yn gymwys. Yna, gwna gynllun realistig. Bydd cyrraedd dy nod yn agor y drws i lawer o gyfleoedd eraill i wasanaethu Jehofa.

Os wyt ti’n meddwl priodi, dylet ti ddewis dy gymar yn ofalus iawn (Gweler paragraff 18)

18. Pam dylai chwaer fod yn ofalus iawn wrth ddewis gŵr? (Gweler hefyd y llun.)

18 Efallai y byddi di’n dewis priodi. Bydd y sgiliau a’r rhinweddau rydyn ni wedi eu trafod yn dy helpu di i fod yn wraig dda. Wrth gwrs, os wyt ti’n penderfynu priodi, dylet ti ddewis dy gymar yn ofalus iawn. Mae’n un o’r penderfyniadau mwyaf pwysig y gelli di ei wneud. Cofia, bydd y dyn rwyt ti’n ei briodi yn ben ar y teulu. (Rhuf. 7:2; Eff. 5:​23, 33) Felly, gofynna i ti dy hun: ‘A ydy ef yn Gristion aeddfed? A ydy ef yn rhoi blaenoriaeth i bethau ysbrydol? A ydy ef yn gwneud penderfyniadau doeth? A ydy ef yn cyfaddef pan mae’n gwneud camgymeriadau? A ydy ef yn parchu merched? A oes ganddo’r sgiliau i edrych ar fy ôl i yn ysbrydol, yn emosiynol, ac yn faterol? A ydy ef yn ysgwyddo cyfrifoldebau yn dda? Er enghraifft, pa gyfrifoldebau sydd ganddo yn y gynulleidfa a sut mae ef yn eu cyflawni?’ (Luc 16:10; 1 Tim. 5:8) Wrth gwrs, os wyt ti’n edrych am ŵr da, bydd rhaid iti hefyd fod yn wraig dda.

19. Pam mae rôl “helpwr” yn un urddasol?

19 Mae’r Beibl yn disgrifio gwraig dda fel “helpwr.” (Gen. 2:18) Ydy’r disgrifiad hwn yn edrych i lawr ar ferched? Nac ydy. Mae rôl y wraig fel “helpwr” yn un urddasol. Mae’r Beibl hyd yn oed yn disgrifio Jehofa fel “helpwr.” (Salm 54:4; Heb. 13:6) Mae gwraig yn “helpwr” drwy gefnogi ei gŵr a’i helpu i roi penderfyniadau ar waith er lles y teulu. Ac oherwydd ei bod hi’n caru Jehofa, bydd hi’n ceisio helpu eraill i weld y da yn ei gŵr. (Diar. 31:​11, 12; 1 Tim. 3:11) Gelli di baratoi ar gyfer y rôl hon drwy ddysgu i garu Jehofa’n fwy a thrwy helpu eraill yn y teulu a’r gynulleidfa.

20. Sut gall mam gael effaith dda ar y teulu?

20 Efallai y byddi di’n dod yn fam. Ar ôl iti briodi, efallai bydd dy ŵr a tithau yn cael plant. (Salm 127:3) Felly mae’n ddoeth i feddwl am y dyfodol. Bydd y rhinweddau a’r sgiliau rydyn ni wedi eu trafod yn yr erthygl hon yn dy helpu di os wyt ti’n dod yn wraig neu’n fam. Bydd dy gariad, dy garedigrwydd, a dy amynedd yn helpu creu awyrgylch da yn y teulu a bydd dy blant yn teimlo’n saff ac y bydden nhw’n ffynnu.—Diar. 24:3.

Mae llawer o ferched ifanc wedi rhoi ar waith yr hyn maen nhw wedi cael ei ddysgu o’r Beibl ac wedi dod yn Gristnogion aeddfed (Gweler paragraff 21)

21. Sut rydyn ni’n teimlo am ein chwiorydd annwyl, a pham? (Gweler y llun ar y clawr.)

21 Rydyn ni’n eich caru chi chwiorydd am bopeth rydych chi’n eu gwneud ar gyfer Jehofa a’i bobl. (Heb. 6:10) Rydych chi’n gweithio’n galed i ddatblygu rhinweddau ysbrydol, i ddysgu sgiliau ymarferol sydd o les i ti a phobl eraill, ac i baratoi ar gyfer cyfrifoldebau eraill a all ddod yn y dyfodol. Rydych chi’n werthfawr iawn yng ngolwg Jehofa!

CÂN 137 Gwragedd Ffyddlon, Chwiorydd Cristnogol

a Chi chwiorydd annwyl ifanc, rydych chi’n werthfawr iawn yn y gynulleidfa. Gallwch chi aeddfedu’n ysbrydol drwy ddysgu rhinweddau duwiol, dysgu sgiliau ymarferol, a pharatoi ar gyfer cyfrifoldebau yn y dyfodol. O ganlyniad, byddwch chi’n mwynhau llawer o fendithion yng ngwasanaeth Jehofa.

b ESBONIAD: Mae rhywun sydd wedi dod yn Gristion aeddfed yn cael ei arwain gan ysbryd Duw, nid gan ddoethineb y byd. Mae ef neu hi’n efelychu esiampl Iesu, yn gweithio’n galed i gadw perthynas agos â Jehofa, ac yn dangos cariad hunanaberthol tuag at eraill.

d Am fwy o wybodaeth ar bwysigrwydd darllen, gweler yr erthygl Why Reading Is Important for Children—Part 1: Read or Watch?