Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 53

Frodyr Ifanc​—⁠Gallwch Ddod yn Gristnogion Aeddfed

Frodyr Ifanc​—⁠Gallwch Ddod yn Gristnogion Aeddfed

“Rhaid i ti fod yn gryf a dangos dy fod yn ddyn!”—1 BREN. 2:2.

CÂN 135 Anogaeth Wresog Jehofa: “Bydd Ddoeth, Fy Mab”

CIPOLWG a

1. Er mwyn bod yn llwyddiannus, beth mae’n rhaid i ddyn Cristnogol ei wneud?

 DYWEDODD y Brenin Dafydd wrth Solomon: “Rhaid i ti fod yn gryf a dangos dy fod yn ddyn!” (1 Bren. 2:​1-3) Byddai’n dda i bob brawd ifanc ddilyn y cyngor hwnnw. Er mwyn bod yn llwyddiannus, rhaid iddyn nhw ddysgu i wrando ar orchmynion Duw a dysgu sut i’w rhoi ar waith yn eu bywydau. (Luc 2:52) Pam mae hi mor bwysig i frodyr ifanc ddod yn Gristnogion aeddfed?

2-3. Pam mae’n bwysig i frawd ifanc ddod yn Gristion aeddfed?

2 Mae dyn Cristnogol yn cwblhau gwaith pwysig yn y cartref ac yn y gynulleidfa. Frodyr ifanc, mae’n siŵr eich bod chi wedi meddwl am gyfrifoldebau y gallwch chi eu cael yn y dyfodol. Efallai hoffech chi wasanaethu’n llawn amser, bod yn un o weision y gynulleidfa, ac yn nes ymlaen bod yn henuriad. Efallai hoffech chi briodi a chael plant. (Eff. 6:4; 1 Tim. 3:1) Er mwyn cyrraedd y nodau hyn a bod yn llwyddiannus, rhaid bod yn ysbrydol aeddfed. b

3 Beth all dy helpu di i ddatblygu’n ysbrydol? Rhaid iti ddatblygu sgiliau arbennig. Beth, felly, gelli di ei wneud nawr i baratoi ar gyfer gyfrifoldebau yn y dyfodol?

CAMAU SY’N ARWAIN AT AEDDFEDU’N YSBRYDOL

Bydd efelychu rhinweddau arbennig Iesu yn dy helpu di i ddod yn Gristion aeddfed (Gweler paragraff 4)

4. Ble gelli di ddod o hyd i esiamplau da i’w hefelychu? (Gweler hefyd y llun.)

4 Dewisa esiamplau da i’w hefelychu. Mae’r Beibl yn llawn o esiamplau i frodyr ifanc eu hefelychu. Roedd y dynion hynny yn caru Jehofa ac yn ysgwyddo nifer o gyfrifoldebau wrth edrych ar ôl pobl Dduw. Gelli di hefyd ddysgu o esiamplau da dynion ffyddlon yn dy deulu ac yn y gynulleidfa. (Heb. 13:7) Ac mae gen ti’r esiampl berffaith o Iesu Grist. (1 Pedr 2:21) Wrth iti feddwl am yr esiamplau hyn, meddylia am eu rhinweddau arbennig. (Heb. 12:​1, 2) Yna, ystyria sut byddi di yn eu hefelychu nhw.

5. Sut gelli di ddatblygu’r gallu i feddwl, a pham mae hyn yn bwysig? (Salm 119:9)

5 Datblyga ac amddiffynna’r gallu i feddwl. (Diar. 3:21) Mae rhywun sy’n datblygu’r gallu i feddwl yn ystyried ei opsiynau cyn gwneud penderfyniadau. Felly gweithia’n galed i ddatblygu’r gallu hwn ac yna dal ati i’w gadw. Pam? Mae’r byd hwn yn llawn o ddynion ifanc sy’n cael eu harwain gan eu syniadau eu hunain neu sy’n gadael i’w hemosiynau eu rheoli nhw. (Diar. 7:7; 29:11) Gall y cyfryngau hefyd ddylanwadu’n fawr arnat ti. Ond sut gelli di ddatblygu’r gallu i feddwl? Yn gyntaf, dysga am egwyddorion y Beibl a meddylia am pam maen nhw o les inni. Yna defnyddia’r egwyddorion hynny i wneud penderfyniadau a fydd yn plesio Jehofa. (Darllen Salm 119:9.) Os wyt ti’n datblygu’r gallu hwn, byddi di wedi cymryd cam pwysig tuag at ddod yn Gristion aeddfed. (Diar. 2:​11, 12; Heb. 5:14) Ystyria sut bydd y gallu i feddwl yn dy helpu di mewn dwy ffordd: (1) sut i drin chwiorydd a (2) sut i wneud penderfyniadau ynglŷn â gwisg a thrwsiad.

6. Sut bydd y gallu i feddwl yn helpu brawd ifanc i ddangos parch at chwiorydd?

6 Bydd y gallu i feddwl yn dy helpu di i ddangos parch at ferched. Mae’n hollol normal i frawd eisiau datblygu perthynas agos gyda chwaer yn y gynulleidfa. Ond, fyddai brawd sydd â’r gallu i feddwl byth yn dweud neu’n ysgrifennu unrhyw beth a fyddai’n rhoi’r syniad anghywir iddi oni bai ei fod yn wir ystyried priodi. (1 Tim. 5:​1, 2) Os ydy brawd yn canlyn chwaer, byddai’n amddiffyn ei henw da hi drwy beidio byth â bod ar ei ben ei hun gyda hi.—1 Cor. 6:18.

7. Sut bydd y gallu i feddwl yn helpu brawd ifanc i ddewis gwisg a thrwsiad gweddus?

7 Un ffordd mae brawd yn dangos ei fod yn meddwl fel Jehofa ydy drwy ddewis gwisg a thrwsiad gweddus. Yn aml, mae ffasiynau heddiw yn cael eu hyrwyddo gan bobl sydd ddim yn caru Jehofa neu sy’n byw bywydau anfoesol. Mae eu meddyliau anfoesol yn cael eu dangos gyda dillad sy’n rhy dynn neu sy’n gwneud i ddynion edrych fel merched. Wrth ddewis beth i’w wisgo, bydd brawd ifanc sydd eisiau bod yn aeddfed yn ysbrydol yn cael ei ddylanwadu gan egwyddorion y Beibl a gan frodyr yn y gynulleidfa. Gall y brawd ofyn iddo’i hun: ‘Ydy fy newisiadau yn dangos fy mod i’n synhwyrol ac yn meddwl am bobl eraill? Ydy’r ffordd rydw i’n gwisgo yn dangos yn glir i eraill fy mod i’n addoli Duw?’ (1 Cor. 10:​31-33; Titus 2:6) Bydd dyn ifanc sydd â’r gallu i feddwl yn ennill parch ei frodyr a’i chwiorydd a’i Dad nefol hefyd.

8. Sut gall brawd ifanc ddysgu i fod yn ddibynadwy?

8 Bydda’n ddibynadwy. Bydd dyn ifanc sy’n hollol ddibynadwy yn gofalu am ei holl gyfrifoldebau. (Luc 16:10) Ystyria esiampl berffaith Iesu. Roedd Iesu yn wastad yn ofalus ac yn gyfrifol. Gwnaeth ef gyflawni’r aseiniadau roedd Jehofa wedi eu rhoi iddo, hyd yn oed pan oedd hynny’n anodd iddo. Roedd yn caru pobl—yn enwedig ei ddisgyblion—ac roedd yn barod i roi ei fywyd drostyn nhw. (Ioan 13:1) Er mwyn efelychu Iesu, gweithia’n galed i gyflawni unrhyw aseiniad rwyt ti’n ei gael. Os wyt ti’n ansicr o sut i wneud rhywbeth, bydda’n ostyngedig a gofynna i frawd aeddfed am help. Paid â bod yn hapus yn gwneud cyn lleied â phosib. (Rhuf. 12:11) Yn hytrach, bydda’n benderfynol o gyflawni dy aseiniad “i Jehofa, ac nid i ddynion.” (Col. 3:23) Wrth gwrs, dwyt ti ddim yn berffaith, felly bydda’n wylaidd a chyfaddef unrhyw gamgymeriad rwyt ti’n ei wneud.—Diar. 11:2.

DYSGU SGILIAU YMARFEROL

9. Pam mae’n rhaid i frawd ifanc ddysgu sgiliau ymarferol?

9 Er mwyn bod yn frawd aeddfed, bydd rhaid iti ddatblygu sgiliau ymarferol. Byddan nhw’n dy helpu di i ysgwyddo cyfrifoldebau yn y gynulleidfa, i gadw swydd er mwyn edrych ar ôl dy hun neu dy deulu, ac i gael perthynas dda ag eraill. Ystyria rai o’r sgiliau angenrheidiol hyn.

Drwy ddarllen ac ysgrifennu yn dda, byddi di a’r gynulleidfa yn elwa (Gweler paragraffau 10-11)

10-11. Os ydy brawd ifanc yn dysgu i ddarllen ac ysgrifennu’n dda, sut mae ef a’r gynulleidfa yn elwa? (Salm 1:​1-3) (Gweler hefyd y llun.)

10 Dysga i ddarllen ac ysgrifennu yn dda. Mae’r Beibl yn dweud bod dyn hapus a llwyddiannus yn treulio amser yn darllen Gair Duw ac yn myfyrio arno. (Darllen Salm 1:​1-3.) Drwy ddarllen y Beibl bob dydd, byddi di’n dod i adnabod ffordd Jehofa o feddwl. Bydd hyn yn dy helpu i feddwl yn glir ac i resymu’n dda. (Diar. 1:​3, 4) Mae’r gynulleidfa angen dynion o’r fath. Pam?

11 Mae ein brodyr a’n chwiorydd yn edrych i ddynion galluog i arwain a rhoi cyngor. (Titus 1:9) Bydd darllen ac ysgrifennu’n dda yn dy helpu di i baratoi anerchiadau a sylwadau a fydd yn dysgu eraill a chryfhau eu ffydd. Bydd hefyd yn dy helpu di i gymryd nodiadau wrth iti astudio ac wrth iti wrando ar anerchiadau yn y gynulleidfa, yn y cynulliadau, ac yn y cynadleddau. Bydd y nodiadau hyn yn dy helpu di i gryfhau dy ffydd dy hun a chalonogi eraill.

12. Beth fydd yn dy helpu di i gyfathrebu’n dda?

12 Dysga i gyfathrebu’n dda. Mae’n rhaid i ddyn Cristnogol ddysgu i gyfathrebu’n dda. Mae dyn sy’n cyfathrebu’n dda yn gwrando ac yn cydnabod teimladau pobl eraill. (Diar. 20:5) Bydd yn gallu darllen sut mae pobl yn teimlo o dôn eu llais, eu hwynebau, neu iaith eu corff. Mae’n rhaid iddo dreulio amser gyda phobl er mwyn dysgu gwneud hyn. Os wyt ti’n defnyddio dyfeisiau electronig gormod i anfon ebyst neu tecstio, gall gwanhau dy sgiliau cyfathrebu wyneb yn wyneb. Felly, ceisia greu cyfleoedd i dreulio amser â phobl a siarad â nhw.—2 Ioan 12.

Mae’n dda i ddysgu sgiliau a fydd yn dy helpu di i ddod o hyd i waith (Gweler paragraff 13)

13. Beth arall mae’n rhaid i ddyn ifanc ei ddysgu? (1 Timotheus 5:8) (Gweler hefyd y llun.)

13 Dysga sut i edrych ar ôl dy hun. Mae’n rhaid i frawd aeddfed allu edrych ar ôl ei hun a’i deulu. (Darllen 1 Timotheus 5:8.) Mewn rhai gwledydd, mae brodyr ifanc yn gallu dysgu sgiliau gwaith oddi wrth eu tad neu gan berthynas arall. Mewn gwledydd eraill, gall dyn ifanc ddysgu crefft neu sgiliau ymarferol eraill yn ysgol uwchradd. Beth bynnag yw’r sefyllfa, byddai’n dda i ddysgu sgìl a fydd yn dy helpu di i ddod o hyd i waith. (Act.18:​2, 3; 20:34; Eff. 4:28) Ceisia gael enw da am weithio’n galed ac am orffen tasg. Os wyt ti’n gwneud hyn, gei di mwy na thebyg gael jòb a’i gadw. Mae’r rhinweddau a’r sgiliau hyn rydyn ni wedi sôn amdanyn nhw yn bwysig i frawd ifanc ar gyfer ei gyfrifoldebau yn y dyfodol. Gad inni ystyried rhai o’r cyfrifoldebau hyn.

PARATOI AR GYFER Y DYFODOL

14. Sut gall brawd ifanc baratoi i wasanaethu’n llawn amser?

14 Gwasanaethu’n llawn amser. Mae llawer o frodyr aeddfed Cristnogol wedi dechrau yn y gwaith llawn amser pan oedden nhw’n ifanc. Mae arloesi yn helpu dyn ifanc i ddysgu sut i weithio yn effeithiol gyda gwahanol bobl. Mae hefyd yn ei helpu i wybod sut i drin ei arian. (Phil. 4:​11-13) Mae arloesi’n gynorthwyol yn gam da tuag at wasanaethu’n llawn amser. Mae llawer yn arloesi’n gynorthwyol am dipyn o amser i baratoi ar gyfer arloesi’n llawn amser. Gall arloesi agor y drws i ffyrdd eraill o wasanaethu’n llawn amser, fel gweithio ar brosiectau adeiladu neu weithio yn y Bethel.

15-16. Sut gall brawd ifanc fod yn gymwys i wasanaethu yn y gynulleidfa?

15 Gwas y gynulleidfa neu henuriad. Dylai dynion Cristnogol gael y nod o wasanaethu eu brodyr a’i chwiorydd fel henuriaid yn y gynulleidfa. Mae’r Beibl yn dweud fod dynion sy’n ceisio estyn allan yn “awyddus i wneud gwaith da.” (1 Tim. 3:1) Cyn cael y fraint o fod yn henuriad, mae’n rhaid i frawd fod yn was y gynulleidfa. Mae gweision y gynulleidfa yn helpu’r henuriaid mewn llawer o wahanol ffyrdd. Mae henuriaid a gweision y gynulleidfa yn gwasanaethu eu brodyr a’u chwiorydd yn ostyngedig ac yn cael rhan selog yn y weinidogaeth. Gall brodyr ifanc fod yn gymwys i wasanaethu fel gweision y gynulleidfa hyd yn oed pan maen nhw yn eu harddegau hwyr. A gall gwas sydd â chymwysterau da gael ei benodi fel henuriad yn ei ddau ddegau cynnar.

16 Sut gelli di fod yn gymwys ar gyfer y cyfrifoldebau hyn? Does ’na ddim fformiwla i’w dilyn. Ond, mae’r cymwysterau i gyd wedi eu seilio ar y Beibl ac ar gariad at Jehofa, at dy deulu, ac at y gynulleidfa. (1 Tim. 3:​1-13; Titus 1:​6-9; 1 Pedr 5:​2, 3) Gwna dy orau i ddeall pob un o’r cymwysterau. Gweddïa ar Jehofa am help i gwrdd â’r gofynion. c

Mae Jehofa eisiau i ŵr garu ei wraig a’i blant a gofalu amdanyn nhw’n gorfforol, yn emosiynol, ac yn fwy na dim yn ysbrydol (Gweler paragraff 17)

17. Sut gall brawd ifanc baratoi i fod yn ŵr ac yn benteulu? (Gweler hefyd y llun.)

17 Gŵr a phenteulu. Fel dywedodd Iesu, mae rhai dynion Cristnogol yn aros yn sengl. (Math. 19:12) Ond, os wyt ti’n dewis priodi, bydd gen ti’r cyfrifoldebau ychwanegol o fod yn ŵr ac yn benteulu. (1 Cor. 11:3) Mae Jehofa yn disgwyl i ŵr garu ei wraig a gofalu am ei hanghenion corfforol, emosiynol, ac ysbrydol. (Eff. 5:​28, 29) Bydd y rhinweddau a’r sgiliau rydyn ni wedi eu trafod yn yr erthygl hon yn dy helpu di i fod yn gymar da, gan ddatblygu’r gallu i feddwl, cael parch tuag at ferched, a bod yn ddibynadwy. Byddi di wedyn yn barod i gyflawni dy gyfrifoldebau fel gŵr a phenteulu.

18. Sut gall brawd ifanc baratoi i fod yn dad?

18 Tad. Ar ôl iti briodi, efallai byddi di’n dod yn dad. Beth gelli di ei ddysgu gan Jehofa am fod yn dad da? Mae ’na lawer o wersi. (Eff. 6:4) Gwnaeth Jehofa ddweud yn hollol agored i Iesu ei fod yn ei garu a’i fod wedi ei blesio. (Math. 3:17) Os wyt ti’n cael plant, cofia i ddweud wrthyn nhw yn aml dy fod ti’n eu caru nhw. Rho ddigon o ganmoliaeth iddyn nhw am y da y maen nhw’n ei wneud. Mae tadau sy’n efelychu Jehofa yn helpu eu plant i ddod yn Gristnogion aeddfed. Gelli di baratoi ar gyfer y cyfrifoldeb hwn drwy ofalu am eraill yn y gynulleidfa ac yn dy deulu a dangos dy werthfawrogiad a dy gariad atyn nhw’n aml. (Ioan 15:9) Bydd hyn yn dy helpu di i fod yn barod petaset ti’n ŵr ac yn dad ryw ddydd. Yn y cyfamser, byddi di’n werthfawr ac yn ddefnyddiol i Jehofa, i dy deulu, ac i’r gynulleidfa.

BETH BYDDI DI’N EI WNEUD NAWR?

Mae llawer o ddynion ifanc wedi rhoi ar waith yr hyn maen nhw wedi ei ddysgu o’r Beibl ac wedi aeddfedu fel Cristnogion (Gweler paragraffau 19-​20)

19-20. Beth fydd yn helpu brodyr ifanc i ddod yn Gristnogion aeddfed? (Gweler y llun ar y clawr.)

19 Cofia, os wyt ti’n frawd ifanc, fyddi di ddim yn aeddfedu’n ysbrydol dros nos. Mae’n rhaid iti ddewis esiamplau da i’w hefelychu, datblygu’r gallu i feddwl, bod yn ddibynadwy, dysgu sgiliau ymarferol, a pharatoi ar gyfer dy gyfrifoldebau yn y dyfodol.

20 Frodyr ifanc, rydyn ni’n eich caru chi! Efallai bydd y gwaith sydd o dy flaen di yn teimlo’n ormod iti. Ond gelli di lwyddo. Cofia fod Jehofa eisiau dy helpu di. (Esei. 41:​10, 13) Wrth gwrs, bydd dy frodyr a dy chwiorydd yn y gynulleidfa yn dy helpu di hefyd. Pan wyt ti’n cyrraedd dy botensial fel Cristion aeddfed, bydd dy fywyd yn llawn bodlonrwydd. Rydyn ni eisiau i Jehofa dy fendithio di wrth iti ddod yn Gristion aeddfed.—Diar. 22:4.

CÂN 65 Bwria Ymlaen!

a Mae’r gynulleidfa Gristnogol angen dynion aeddfed. Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n trafod sut gall brodyr ifanc ddod yn Gristnogion aeddfed.

b Gweler “Esboniad” yn yr erthygl flaenorol.