ERTHYGL ASTUDIO 50
Gall Ffydd a Gweithredoedd Arwain i Gyfiawnder
“Dilyn ôl traed ffydd ein tad Abraham.”—RHUF. 4:12.
CÂN 119 Rhaid Inni Gael Ffydd
CIPOLWG a
1. Wrth ystyried ffydd Abraham, pa gwestiynau gallwn ni eu gofyn?
ER BOD llawer o bobl wedi clywed am Abraham, nid yw’r rhan fwyaf yn gwybod llawer amdano. Fodd bynnag, rwyt ti’n gwybod llawer am Abraham. Rwyt ti’n gwybod, er enghraifft, bod Abraham wedi ei alw’n “dad i bawb sydd â ffydd.” (Rhuf. 4:11) Efallai y byddi di’n meddwl ‘A ydw i’n gallu cerdded yn ôl traed Abraham ac efelychu ei ffydd?’ Yn bendant.
2. Pam ei bod yn bwysig inni astudio esiampl Abraham? (Iago 2:22, 23)
2 Un ffordd y gallwn ni ddatblygu ffydd fel Abraham ydy drwy astudio ei esiampl. Yn dilyn gorchymyn Duw, gwnaeth Abraham symud i wlad bell, byw mewn pebyll am ddegawdau, a cheisio aberthu ei fab annwyl Isaac. Roedd y gweithredoedd hynny yn adlewyrchu ffydd gref. Oherwydd ei ffydd a’i weithredoedd, roedd Abraham yn gwneud Duw yn hapus a daeth yn ffrind iddo. (Darllen Iago 2:22, 23.) Mae Jehofa eisiau i ti fwynhau’r un bendithion. Am y rheswm hwnnw, cafodd ysgrifenwyr y Beibl Paul ac Iago eu hysbrydoli i gyfeirio at esiampl Abraham. Gad inni ganolbwyntio ar esiampl Abraham yn Rhufeiniaid pennod 4 ac Iago pennod 2. Mae’r ddwy bennod yn cyfeirio at ddatganiad rhyfeddol sydd i’w wneud ag Abraham.
3. O ba ysgrythur ddyfynnodd Paul ac Iago?
3 Dyfynnodd Paul ac Iago o Genesis 15:6, sy’n dweud: “Fe roddodd [Abraham] ffydd yn Jehofa, ac fe wnaeth Duw ei ystyried yn ddyn cyfiawn.” Mae Jehofa yn galw person sy’n ei blesio yn gyfiawn neu’n ddifai. Mae mor anhygoel gwybod bod Duw yn gallu ystyried pobl amherffaith a phechadurus yn ddieuog! Mae’n debyg dy fod ti eisiau i hynny fod yn wir yn dy achos di, ac y mae’n bosib! Ond er mwyn inni gael ein hystyried yn gyfiawn, mae angen inni ddeall pam cafodd Abraham ei alw’n gyfiawn.
RHAID CAEL FFYDD I FOD YN GYFIAWN
4. Beth oedd yn stopio pobl rhag bod yn gyfiawn?
4 Yn ei lythyr at y Rhufeiniaid, dywedodd Paul fod pawb yn bechaduriaid. (Rhuf. 3:23) Sut, felly, gall unrhyw un fod yn gyfiawn neu’n ddifai ac yna plesio Duw? Er mwyn helpu pob Cristion diffuant i ateb y cwestiwn hwnnw, pwyntiodd Paul at Abraham.
5. Pam gwnaeth Jehofa alw Abraham yn gyfiawn? (Rhuf. 4:2, 4)
5 Pan oedd y dyn ffyddlon Abraham yn byw yng ngwlad Canaan, dywedodd Jehofa ei fod yn gyfiawn. Pam roedd Jehofa’n gallu dweud hyn? Ai oherwydd bod Abraham wedi cadw Cyfraith Moses yn berffaith? Ddim o gwbl. (Rhuf. 4:13) Cafodd y Gyfraith honno ei rhoi i genedl Israel fwy na 400 mlynedd ar ôl i Dduw ddweud bod Abraham yn gyfiawn. Yn y bôn, oherwydd caredigrwydd rhyfeddol Jehofa, cafodd Abraham ei gyhoeddi’n gyfiawn ar sail ei ffydd.—Darllen Rhufeiniaid 4:2-4.
6. Sut mae Jehofa yn galw pechadur yn gyfiawn?
6 Dywedodd Paul pan fydd rhywun yn rhoi ffydd yn Nuw, mae Duw yn “ystyried ffydd y dyn hwn yn gyfiawn.” (Rhuf. 4:5) Ychwanegodd Paul: “Dyma beth mae Dafydd yn ei ddweud wrth iddo siarad am hapusrwydd y dyn mae Duw yn ei ystyried yn gyfiawn, er nad ydy’r dyn wedi gweithio amdano: ‘Hapus ydy’r rhai y mae eu drwgweithredu wedi cael ei faddau iddyn nhw a’u pechodau wedi cael eu hanghofio. Hapus ydy’r dyn nad ydy Jehofa yn cyfri ei bechod yn ei erbyn.’” (Rhuf. 4:6-8; Salm 32:1, 2) Mae Duw yn maddau neu’n gorchuddio pechodau’r rhai sy’n rhoi ffydd ynddo. Mae’n maddau iddyn nhw’n llwyr ac nid yw bellach yn cadw cofnod o’u pechodau. Mae’n gweld unigolion o’r fath yn ddieuog ac yn gyfiawn ar sail eu ffydd.
7. Pam y mae’n bosib inni ddweud bod gweision Duw yn y gorffennol yn gyfiawn?
7 Er eu bod nhw wedi eu galw’n gyfiawn, roedd Abraham, Dafydd, ac addolwyr ffyddlon eraill Duw yn dal i fod yn bechaduriaid amherffaith. Ond, oherwydd eu ffydd, roedd Duw yn eu hystyried yn ddifai, yn enwedig o’u cymharu â’r rhai nad oedd yn ei addoli. (Eff. 2:12) Fel y mae Paul yn dweud yn glir yn ei lythyr, mae ffydd yn hanfodol er mwyn cael perthynas bersonol â Duw. Roedd hynny’n wir yn achos Abraham a Dafydd, ac mae’n wir yn ein hachos ni hefyd.
BETH YDY’R CYSYLLTIAD RHWNG FFYDD A GWEITHREDOEDD?
8-9. Pa gasgliad anghywir sydd gan rai unigolion am yr hyn ysgrifennodd Paul ac Iago, a pham?
8 Ers canrifoedd, mae’r perthynas rhwng ffydd a gweithredoedd wedi bod yn destun dadlau yn y Byd Cred. Mae rhai clerigwyr yn dysgu mai’r cyfan sydd rhaid iti ei wneud i gael dy achub yw credu yn yr Arglwydd Iesu Grist. Efallai dy fod ti wedi eu clywed yn dweud: “Derbyniwch Iesu a chewch eich achub.” Efallai y bydd clerigwyr hyd yn oed yn dyfynnu geiriau Paul: “Mae Duw yn ei ystyried yn gyfiawn, er nad ydy’r dyn wedi gweithio amdano.” (Rhuf. 4:6) Fodd bynnag, mae eraill yn dadlau y gelli di achub dy hun drwy fynd ar bererindod grefyddol a thrwy gyflawni gofynion eraill yr eglwys. Efallai byddan nhw’n dyfynnu Iago 2:24: “Rydych chi’n gweld bod dyn yn cael ei alw’n gyfiawn drwy weithredoedd ac nid drwy ffydd yn unig.”
9 O ganlyniad i hyn, mae rhai awduron crefyddol wedi dod i’r casgliad bod Paul ac Iago yn anghytuno ar y pwnc o ffydd a gweithredoedd. Efallai bydd clerigwyr yn honni bod Paul yn credu mai ffydd heb weithredoedd a oedd yn gwneud dyn yn gyfiawn, tra bod Iago yn dysgu bod gweithredoedd yn hanfodol er mwyn cael cymeradwyaeth Duw. Dywedodd un athro mewn diwinyddiaeth: “Doedd Iago ddim yn deall nac yn cytuno gyda Paul pan bwysleisiodd mai ffydd yn unig oedd yn angenrheidiol i fod yn gyfiawn.” Ond, Jehofa wnaeth ysbrydoli Paul ac Iago i ysgrifennu’r geiriau hyn. (2 Tim. 3:16) Felly mae’n rhaid bod ’na ffordd syml o gysoni eu sylwadau. Mae’n rhaid ystyried y cyd-destun.
10. Pa weithredoedd oedd Paul yn eu trafod? (Rhuf. 3:21, 28) (Gweler hefyd y llun.)
10 Pa weithredoedd oedd Paul yn canolbwyntio arnyn nhw yn Rhufeiniaid 3 a 4? Roedd yn cyfeirio yn bennaf at weithredoedd Cyfraith Moses a gafodd ei rhoi i’r Israeliaid. (Darllen Rhufeiniaid 3:21, 28.) Mae’n ymddangos bod rhai Cristnogion Iddewig yn nyddiau Paul wedi cael amser anodd derbyn bod Cyfraith Moses, a’r gweithredoedd oedd ynddi, wedi dod i ben. O ganlyniad, cyfeiriodd Paul at esiampl Abraham i brofi nad yw safiad cyfiawn gyda Duw yn dod o ‘wneud beth mae’r Gyfraith yn ei orchymyn.’ Mae’n dod o ffydd. Mae hyn yn galonogol oherwydd os oes gynnon ni ffydd yn Nuw ac yng Nghrist, bydd enw da gyda Duw o fewn ein cyrraedd.
11. Pa fath o weithredoedd oedd Iago yn pwysleisio?
11 Mae’r gweithredoedd yn Iago pennod 2 yn wahanol i weithredoedd y Gyfraith y soniodd Paul amdanyn nhw. Mae Iago yn cyfeirio at weithredoedd, neu weithgareddau, y mae Cristnogion yn eu gwneud yn eu bywyd bob dydd. Mae gweithredoedd o’r fath yn dangos a oes gan Gristion ffydd yn Nuw neu beidio. Ystyria ddwy enghraifft a ddefnyddiodd Iago.
12. Sut gwnaeth Iago esbonio’r cysylltiad rhwng ffydd a gweithredoedd? (Gweler hefyd y llun.)
12 Yn yr enghraifft gyntaf, dywedodd Iago am yr angen i Gristnogion fod yn ddiduedd wrth ddelio ag eraill. Esboniodd y pwynt gydag enghraifft o ddyn a ddangosodd ffafriaeth at berson cyfoethog ond edrychodd i lawr ar berson tlawd. Dywedodd Iago, er bod dyn o’r fath yn gallu dweud bod ganddo ffydd, a oedd ei weithredoedd yn profi hynny? (Iago 2:1-5, 9) Yn ail, soniodd Iago am rywun a oedd yn gweld brawd neu chwaer heb lawer o ddillad neu fwyd ond gwnaeth ddim byd i’w helpu nhw. Hyd yn oed petasai’r person hwnnw’n dweud bod ganddo ffydd, ni fyddai ei weithredoedd yn cefnogi hynny, felly, byddai ei ffydd yn ddiwerth. Fel ysgrifennodd Iago, “mae ffydd ar ei phen ei hun, heb weithredoedd, yn farw.”—Iago 2:14-17.
13. Sut gwnaeth Iago hoelio ei bwynt am ffydd a gweithredoedd?
13 Cyfeiriodd Iago at Rahab fel esiampl dda o roi ffydd ar waith. (Darllen Iago 2:25, 26.) Roedd Rahab wedi clywed am Jehofa ac wedi cydnabod ei fod yn cefnogi’r Israeliaid. (Jos. 2:9-11) Dangosodd Rahab ei ffydd drwy ei gweithredoedd—gwnaeth hi amddiffyn dau ysbïwr o Israel pan oedd eu bywydau mewn peryg. O ganlyniad, er nad oedd hi’n Iddewes, cafodd y wraig amherffaith hon ei galw’n gyfiawn, yn union fel Abraham. Mae ei hesiampl yn pwysleisio’r pwysigrwydd o gael gweithredoedd i gefnogi ein ffydd.
14. Pam gallwn ddweud nad ydy Paul ac Iago yn gwrth-ddweud ei gilydd?
14 Yn syml, roedd y ddau awdur Paul ac Iago yn esbonio ffydd a gweithredoedd mewn dwy ffordd wahanol. Roedd Paul yn dweud wrth y Cristnogion Iddewig na fyddan nhw’n gallu cael cymeradwyaeth Jehofa drwy ddilyn Cyfraith Moses. Roedd Iago yn dweud y dylai pob Cristion wneud daioni i eraill er mwyn dangos ffydd.
15. Ym mha ffyrdd y gallwn ni ddangos ffydd drwy ein gweithredoedd? (Gweler hefyd y lluniau.)
15 Dydy Jehofa ddim yn dweud y dylen ni wneud yn union fel Abraham er mwyn cael ein galw’n gyfiawn. Mewn gwirionedd, mae ’na lawer o ffyrdd y gallwn ni ddangos ffydd drwy ein gweithredoedd. Gallwn ni groesawu rhai newydd yn y gynulleidfa, helpu brodyr a chwiorydd sydd mewn gwir angen, a gwneud daioni i aelodau ein teulu. Mae’r rhain i gyd yn bethau bydd Duw yn eu cymeradwyo a’u bendithio. (Rhuf. 15:7; 1 Tim. 5:4, 8; 1 Ioan 3:18) Hefyd, mae rhannu’r newyddion da yn selog ag eraill yn rhoi tystiolaeth o’n ffydd. (1 Tim. 4:16) Gallwn ni i gyd ddangos trwy ein gweithredoedd ein bod ni’n credu mai ffordd Jehofa o wneud pethau yw’r ffordd orau a bod gynnon ni ffydd yn ei addewidion. Trwy wneud hynny, bydd Duw yn ein gweld ni’n gyfiawn ac yn ffrind iddo.
RHAID CAEL GOBAITH I GAEL FFYDD
16. Pam roedd gobaith Abraham yn gysylltiedig â’i ffydd?
16 Yn Rhufeiniaid pennod 4, rydyn ni’n dysgu gwers bwysig arall oddi wrth Abraham. Hynny yw, pwysigrwydd ein gobaith. Addawodd Jehofa y byddai ‘llawer o genhedloedd’ yn cael eu bendithio drwy Abraham. Dychmyga’r gobaith hyfryd oedd ganddo! (Gen. 12:3; 15:5; 17:4; Rhuf. 4:17) Fodd bynnag, hyd yn oed pan oedd Abraham yn 100 mlwydd oed a Sara yn 90 mlwydd oed, doedden nhw dal ddim wedi cael plentyn. O safbwynt dynol, roedd yn ymddangos yn amhosib i Abraham a Sara cael mab. Roedd hynny’n brawf go iawn i Abraham. “Ar sail gobaith, roedd ganddo ffydd y byddai’n dod yn dad i lawer o genhedloedd.” (Rhuf. 4:18, 19) Ac yn ddigon wir, cafodd y gobaith hwnnw ei wireddu. Daeth yn dad i Isaac, y mab roedd wedi hir obeithio amdano.—Rhuf. 4:20-22.
17. Sut rydyn ni’n gwybod ein bod ni’n gallu cael ein galw’n gyfiawn a bod yn ffrind i Dduw?
17 Gallwn ni gael cymeradwyaeth Duw, cael ein hystyried yn gyfiawn, a bod yn ffrind i Dduw fel roedd Abraham. Yn wir, gwnaeth Paul gyffwrdd ar hynny pan ysgrifennodd: “Ni chafodd y geiriau ‘roedd yn cael ei ystyried yn’ eu hysgrifennu [am Abraham] yn unig. Fe gawson nhw eu hysgrifennu hefyd ar ein cyfer ni. Fe fyddwn ninnau hefyd yn cael ein hystyried yn gyfiawn oherwydd ein bod ni’n credu yn yr Hwn a wnaeth godi Iesu.” (Rhuf. 4:23, 24) Fel Abraham mae angen inni gael ffydd a gweithredoedd yn ogystal â gobaith. Mae Paul yn mynd ymlaen i drafod ein gobaith yn Rhufeiniaid pennod 5, a byddwn ni’n ystyried hynny yn yr erthygl nesaf.
CÂN 28 Dod yn Ffrind i Jehofa
a Rydyn ni eisiau cymeradwyaeth Duw a chael ein gweld yn gyfiawn ganddo. Gan edrych ar eiriau Paul ac Iago, bydd yr erthygl hon yn trafod sut mae hyn yn bosib a sut mae ffydd a gweithredoedd yn bwysig i ennill cymeradwyaeth Jehofa.