Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 51

Gobaith Sydd Ddim yn Arwain i Siom

Gobaith Sydd Ddim yn Arwain i Siom

“Dydy ein gobaith ddim yn arwain i siom.”—RHUF. 5:5.

CÂN 142 Dal Ein Gafael yn Ein Gobaith

CIPOLWG a

1. Pam roedd gan Abraham sail gadarn i’w obaith?

 GWNAETH Jehofa addo i’w ffrind Abraham y byddai holl genhedloedd y ddaear yn cael eu bendithio drwy ei ddisgynyddion. (Gen. 15:5; 22:18) Oherwydd ffydd gref Abraham, roedd yn hollol sicr y byddai addewid Duw yn dod yn wir. Er hynny, pan oedd Abraham yn 100 mlwydd oed a’i wraig yn 90, doedden nhw dal ddim wedi cael plentyn. (Gen. 21:​1-7) Ond mae’r Beibl yn dweud: “Ar sail gobaith, roedd ganddo [Abraham] ffydd y byddai’n dod yn dad i lawer o genhedloedd yn ôl yr hyn roedd Duw wedi ei ddweud.” (Rhuf. 4:18) Rwyt ti’n gwybod bod beth roedd Abraham wedi gobeithio amdano wedi digwydd. Daeth yn dad i Isaac, y mab roedd wedi gobeithio amdano. Pam roedd Abraham mor sicr?

2. Pam roedd Abraham yn sicr y byddai addewid Jehofa yn dod yn wir?

2 Oherwydd ei berthynas agos â Jehofa, roedd yn “llawn hyder” y byddai beth roedd Jehofa wedi ei addo yn dod yn wir. (Rhuf. 4:21) Gwnaeth Jehofa gymeradwyo Abraham a dweud ei fod yn gyfiawn oherwydd ei ffydd. (Iago 2:23) Fel mae Rhufeiniaid 4:18 yn ei ddweud, roedd ’na gysylltiad rhwng ffydd Abraham a’i obaith. Gad inni nawr ystyried beth ddywedodd yr apostol Paul am obaith, fel sydd wedi cael ei gofnodi yn Rhufeiniaid pennod 5.

3. Beth mae Paul yn ei esbonio am obaith?

3 Mae Paul yn esbonio pam “dydy ein gobaith ddim yn arwain at siom.” (Rhuf. 5:5) Mae hefyd yn ein helpu ni i ddeall sut gall ein gobaith Cristnogol dyfu. Wrth inni drafod Rhufeiniaid 5:​1-5, meddylia am dy brofiad dy hun a sut mae dy obaith wedi cryfhau dros amser. Bydd ein trafodaeth hefyd yn dy helpu di i weld sut gall dy obaith ddod yn gryfach byth. Yn gyntaf, gad inni drafod gobaith arbennig na fydd yn arwain at siom.

EIN GOBAITH ARBENNIG

4. Beth sy’n cael ei drafod yn Rhufeiniaid 5:​1, 2?

4 Darllen Rhufeiniaid 5:​1, 2. Ysgrifennodd yr apostol Paul y geiriau hynny at y gynulleidfa yn Rhufain. Roedd y brodyr a’r chwiorydd yno wedi dysgu am Jehofa ac Iesu, wedi ymarfer ffydd, ac wedi dod yn Gristnogion. Gwnaeth Duw felly eu ‘galw’n gyfiawn o ganlyniad i’w ffydd,’ a gwnaeth eu heneinio ag ysbryd glân. Yn wir, gwnaethon nhw dderbyn gobaith rhagorol.

5. Pa obaith sydd gan y rhai eneiniog?

5 Yn nes ymlaen, ysgrifennodd Paul at y Cristnogion yn Effesus i sôn am eu gobaith. Roedd y gobaith hwnnw yn cynnwys etifeddiaeth i’r rhai sanctaidd. (Eff. 1:18) Ac wrth ysgrifennu at y Colosiaid, esboniodd Paul lle byddai eu gobaith. Dywedodd fod y gobaith hwnnw wedi “ei neilltuo . . . yn y nefoedd.” (Col. 1:​4, 5) Felly mae gan Gristnogion eneiniog y gobaith o gael eu hatgyfodi i’r nefoedd lle byddan nhw’n teyrnasu gyda Iesu.—1 Thes. 4:​13-17; Dat. 20:6.

Gwnaeth y Brawd F. W. Franz fynegi’r hyder sydd gan Gristnogion eneiniog yn eu gobaith (Gweler paragraff 6)

6. Beth ddywedodd un brawd eneiniog am ei obaith?

6 Mae’r gobaith hwnnw yn agos iawn at galonnau’r eneiniog. Gwnaeth un ohonyn nhw, y Brawd Frederick Franz, ddweud o’i galon: “Mae ein gobaith yn bendant, a bydd yn dod yn wir i bob un o’r 144,000 mewn ffordd na allen ni ei dychmygu.” Ar ôl gwasanaethu Duw am ddegawdau, ychwanegodd y Brawd Franz ym 1991: “Mae’r gobaith hwnnw yr un mor werthfawr inni heddiw. . . . Mae ein gwerthfawrogiad yn tyfu wrth inni ddisgwyl. Mae’n werth aros amdano hyd yn oed petai’n cymryd miliwn o flynyddoedd. Mae fy ngobaith yn fwy pwysig imi nawr nag erioed.”

7-8. Pa obaith sydd gan y rhan fwyaf ohonon ni? (Rhufeiniaid 8:​20, 21)

7 Mae gan y rhan fwyaf o bobl sy’n gwasanaethu Jehofa heddiw obaith gwahanol, yr un gobaith ag Abraham, sef byw ar y ddaear am byth o dan Deyrnas Dduw. (Heb. 11:​8-10, 13) Gwnaeth Paul ddisgrifio’r gobaith hyfryd hwn. (Darllen Rhufeiniaid 8:​20, 21.) Pan wnest ti ddysgu am wirioneddau’r Beibl am y dyfodol, beth wnaeth apelio atat ti fwyaf? Y ffaith y byddi di’n berffaith heb y tueddiad i bechu? Neu a oeddet ti’n hoffi’r syniad o weld dy anwyliaid yn dod yn ôl yn fyw ar y ddaear eto? Yn wir, mae ’na gymaint iti edrych ymlaen ato ar sail dy obaith.

8 Ni waeth a ydy ein gobaith ar y ddaear neu yn y nefoedd, mae gan bob un ohonon ni ddyfodol bendigedig i edrych ymlaen ato. Hefyd, gall ein gobaith dyfu’n gryfach byth. Gad inni ystyried geiriau nesaf Paul, sy’n esbonio sut gall hynny ddigwydd. Bydd hyn yn cryfhau ein hyder yn y ffaith bod ein gobaith yn gallu parhau i dyfu a byth ein siomi ni.

SUT MAE GOBAITH YN TYFU?

Mae pob Cristion yn disgwyl dioddefaint o ryw fath (Gweler paragraffau 9-10)

9-10. Wrth ystyried esiampl Paul, beth gall Cristnogion heddiw ei ddisgwyl? (Rhufeiniaid 5:3) (Gweler hefyd y lluniau.)

9 Darllen Rhufeiniaid 5:3. Gall treialon ein helpu ni i gryfhau ein gobaith. Efallai bydd hynny’n dy synnu di. Y ffaith yw, mae disgyblion Crist yn disgwyl wynebu treialon. Ystyria esiampl Paul. Dywedodd wrth y rhai yn Thesalonica: “Roedden ni’n arfer dweud wrthoch chi o flaen llaw y bydden ni’n dioddef erledigaeth, a dyna beth sydd wedi digwydd.” (1 Thes. 3:4) Ac ysgrifennodd at y Corinthiaid: “Rydyn ni eisiau i chi fod yn ymwybodol, frodyr, o’r treialon a wynebon ni . . . Roedden ni’n ansicr iawn hyd yn oed o’n bywydau.”—2 Cor. 1:8; 11:​23-27.

10 Gall Cristnogion heddiw ddisgwyl dioddefaint o ryw fath. (2 Tim. 3:12) Beth amdanat ti? Wrth iti roi ffydd yn Iesu a’i ddilyn, a wyt ti wedi dioddef? Efallai fod ffrindiau neu deulu wedi gwneud hwyl am dy ben neu hyd yn oed wedi bod yn gas atat ti. A wyt ti wedi cael problem yn y gwaith oherwydd ceisio bod yn onest? (Heb. 13:18) A wyt ti wedi cael dy erlid gan y llywodraeth am bregethu? Ni waeth pa fath o drychineb rydyn ni’n ei wynebu, mae Paul yn dweud wrthon ni y dylen ni lawenhau. Pam?

11. Pam mae’n rhaid inni fod yn benderfynol o wynebu unrhyw dreial yn llwyddiannus?

11 Gallwn lawenhau yn ystod treialon gan eu bod yn ein helpu i feithrin rhinwedd bwysig. Fel mae Rhufeiniaid 5:3 yn dweud, mae “dioddefaint yn rhoi’r nerth i ni ddal ati.” Bydd pob Cristion yn wynebu trychineb o ryw fath, felly mae angen dyfalbarhad ar bob Cristion. Mae’n rhaid inni fod yn benderfynol o ddal ati drwy unrhyw dreial. Dim ond drwy wneud hynny byddwn ni’n gallu gweld cyflawniad ein gobaith. Dydyn ni ddim eisiau bod fel y rhai gwnaeth Iesu eu disgrifio fel hadau sy’n syrthio ar dir creigiog. Gwnaethon nhw dderbyn y neges yn llawen ar y dechrau ond yna pan wnaeth ‘gorthrymder neu erledigaeth godi,’ cawson nhw eu baglu. (Math. 13:​5, 6, 20, 21) Mae’n wir, dydy hi ddim yn hawdd mynd trwy adegau anodd, ond mae dyfalbarhau yn dod â chanlyniadau da. Ym mha ffordd?

12. Sut ydyn ni’n elwa o wynebu treialon yn llwyddiannus?

12 Gwnaeth y disgybl Iago ddangos y manteision o fynd trwy dreialon. Ysgrifennodd: “Gadewch i ddyfalbarhad gwblhau ei waith, er mwyn ichi fod yn gyflawn ac yn ddi-fai ym mhob ffordd, heb ddiffyg mewn dim.” (Iago 1:​2-4) Mae Iago yn disgrifio dyfalbarhad fel petai ganddo dasg neu waith i’w wneud. Beth ydy’r gwaith hwnnw? Mae’n gallu dy helpu di i gael rhinweddau fel amynedd a ffydd, ac i drystio Jehofa yn fwy. Ond, rydyn ni’n elwa mewn ffordd bwysig arall drwy ddyfalbarhau.

13-14. Pa ganlyniad sy’n dod o ddyfalbarhad, a sut mae hynny’n gysylltiedig â gobaith? (Rhufeiniaid 5:4)

13 Darllen Rhufeiniaid 5:4. Mae Paul yn sôn bod dyfalbarhad “yn dod â chymeradwyaeth Duw.” Felly, byddi di’n cael dy gymeradwyo gan Jehofa. Cofia, ti sy’n gwneud Jehofa’n hapus, nid y ffaith dy fod ti’n dioddef. Yna, oherwydd dy ddyfalbarhad, bydd Duw yn dy gymeradwyo. Am fendith arbennig!—Salm 5:12.

14 Cofia fod Abraham wedi mynd trwy dreialon ac wedi cael cymeradwyaeth Jehofa. Roedd Jehofa yn ei weld fel ffrind ac yn ei ystyried yn gyfiawn. (Gen. 15:6; Rhuf. 4:​13, 22) Gall yr un peth fod yn wir amdanon ni. Dydy Duw ddim yn ein cymeradwyo ni oherwydd faint o freintiau sydd gynnon ni yn ei gyfundrefn nac oherwydd y gwaith rydyn ni’n ei wneud. Mae’n rhoi ei gymeradwyaeth ar sail ein dyfalbarhad. Ac ni waeth beth ydy ein hoed, ein hamgylchiadau, neu ein galluoedd, gallwn ni i gyd ddyfalbarhau. A wyt ti’n dal ati er gwaethaf treial ar hyn o bryd? Os wyt ti, cofia fod Duw yn hapus gyda ti. Gall sylwi bod Duw yn hapus gyda ni gael effaith fawr arnon ni. Gall cryfhau ein gobaith.

GOBAITH CRYFACH

15. Pa bwynt arall mae Paul yn ei wneud, a sut gall hynny drysu rhai pobl?

15 Fel esboniodd Paul, rydyn ni’n cael ein cymeradwyo gan Dduw wrth fynd trwy dreialon yn llwyddiannus. Sylwa ar sut mae Paul yn mynd ymlaen i ddweud bod cymeradwyaeth “yn rhoi gobaith inni, a dydy ein gobaith ddim yn arwain i siom.” (Rhuf. 5:​4, 5) Efallai bydd rhai yn gweld hyn yn gymhleth. Pam? Oherwydd fel y cofnodwyd yn gynharach, yn Rhufeiniaid 5:​2, roedd gan y Cristnogion yn Rhufain obaith yn barod, y “gobaith o dderbyn gogoniant gan Dduw.” O ganlyniad, gallai rhai ofyn, ‘Os oedd gan y Cristnogion hynny obaith yn barod, pam gwnaeth Paul sôn amdano eto?’

Dros amser, mae dy obaith wedi dod yn fwy sicr. Rwyt ti’n edrych ymlaen ato yn fwy nag erioed ac yn fwy diolchgar byth amdano. (Gweler paragraffau16-17)

16. Sut mae gobaith yn dechrau tyfu? (Gweler hefyd y lluniau.)

16 Gallwn ni ddeall hyn drwy gofio bod gobaith yn rhywbeth sy’n tyfu. I egluro: A wyt ti’n cofio y tro cyntaf wnest ti ddysgu am y gobaith sydd yng Ngair Duw? Efallai ar y pryd roeddet ti’n meddwl mai dim ond breuddwyd oedd y syniad o fyw am byth ym mharadwys ddaear. Ond, wrth iti ddod i adnabod Jehofa yn well a dysgu am addewidion y Beibl, sylwaist ti bydd hyn yn dod yn wir.

17. Sut mae dy obaith yn parhau i dyfu ar ôl ymgysegriad a bedydd?

17 Hyd yn oed ar ôl iti ymgysegru a chael dy fedyddio, roedd dy obaith yn parhau i dyfu wrth iti ddysgu mwy ac aeddfedu’n ysbrydol. (Heb. 5:13–6:1) Mae’n debyg dy fod ti wedi profi beth mae’n ei ddweud yn Rhufeiniaid 5:​2-4. Er gwaethaf dy holl dreialon, rwyt ti wedi eu hwynebu yn llwyddiannus ac wedi teimlo cymeradwyaeth Jehofa. O ganlyniad i hyn, mae gen ti fwy o sail i gredu y byddi di’n gweld cyflawniad ei addewidion. Mae dy obaith yn gryfach nawr nag ar y dechrau. Mae’n fwy real iti, yn fwy personol, ac yn cael mwy o effaith arnat ti. Mae’n dylanwadu ar bob rhan o dy fywyd ac yn newid sut rwyt ti’n trin dy deulu, sut rwyt ti’n gwneud penderfyniadau, a hyd yn oed sut rwyt ti’n defnyddio dy amser.

18. Beth mae Jehofa yn ei addo?

18 Mae Paul yn ychwanegu pwynt pwysig am y gobaith rydyn ni’n ei dderbyn ar ôl i Jehofa ein cymeradwyo. Mae’n addo bydd dy obaith yn cael ei gyflawni. Pam gelli di fod yn sicr o hynny? Mae Paul yn cynnwys yr addewid cadarnhaol hwn i Gristnogion: “Dydy ein gobaith ddim yn arwain i siom. Mae hynny oherwydd bod cariad Duw wedi cael ei dywallt i mewn i’n calonnau trwy’r ysbryd glân a roddodd Duw inni.” (Rhuf. 5:5) Mae gen ti bob rheswm i fod yn sicr o’r gobaith hwnnw—dy obaith di.

19. Wrth feddwl am dy obaith, beth gelli di fod yn sicr ohono?

19 Meddylia am addewid Jehofa i Abraham a sut gwnaeth Duw ei gymeradwyo a’i ystyried yn ffrind. Doedd gobaith Abraham ddim yn ofer. Mae’r Beibl yn dweud: “Ar ôl i Abraham ddangos amynedd, fe gafodd yr hyn roedd Duw wedi ei addo.” (Heb. 6:15; 11:​9, 18; Rhuf. 4:​20-22) Yn sicr, ni chafodd ei siomi. Gelli di fod yr un mor sicr y byddi di’n derbyn y wobr os wyt ti’n aros yn ffyddlon. Mae dy obaith yn real, mae’n rheswm dros lawenhau, ac ni fydd yn dy siomi! (Rhuf. 12:12) Ysgrifennodd Paul: “Rydw i’n dymuno i’r Duw sy’n rhoi gobaith eich llenwi chi â phob llawenydd a heddwch wrth ichi drystio ynddo ef. Yn wir, rydw i’n dymuno ichi orlifo â gobaith a chael eich llenwi â grym yr ysbryd glân.”—Rhuf. 15:13.

CÂN 139 Dy Weld Dy Hun yn y Byd Newydd

a Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n ystyried ein gobaith Cristnogol a pham gallwn ni fod yn sicr y bydd yn dod yn wir. Bydd Rhufeiniaid pennod 5 yn ein helpu ni i weld sut mae ein gobaith wedi newid ers inni ddysgu’r gwir.