Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Profiad

Profiad

Dangos Tosturi i Bawb

Un diwrnod, gwnaeth chwaer yn Seland Newydd wylio fideo ar jw.org a oedd yn trafod sut mae Jehofa, nid yn unig yn teimlo tosturi, ond hefyd yn ei ddangos. (Esei. 63:​7-9) Penderfynodd hi roi ar waith yr hyn roedd hi wedi ei ddysgu am roi help ymarferol i eraill. Yn hwyrach y diwrnod hwnnw pan oedd hi’n siopa, gwnaeth hi gyfarfod dynes ddigartref a chynigiodd prynu pryd o fwyd iddi hi. Derbyniodd y ddynes y cynnig. Pan ddaeth y chwaer yn ôl gyda’r pryd o fwyd, cafodd y cyfle i dystiolaethu drwy ddefnyddio’r daflen A Fydd Pobl yn Dioddef am Byth?

Dechreuodd y ddynes grio. Esboniodd ei bod hi wedi cael ei magu fel Tyst, ond gadawodd hi’r gwir lawer o flynyddoedd yn ôl. Ond, yn ddiweddar, roedd hi wedi bod yn gweddïo ar Jehofa am help i ddod yn ôl ato. Rhoddodd y chwaer Feibl i’r ddynes a threfnodd i gael astudiaeth â hi. a

Gallwn ni efelychu tosturi Jehofa tuag at bobl, gan gynnwys ein perthnasau a’n brodyr a’n chwiorydd yn y gynulleidfa. Hefyd, gallwn ni ddangos tosturi drwy edrych am gyfleon i dystiolaethu i eraill.

a Er mwyn helpu’r rhai sydd wedi mynd yn anweithredol, gweler yr erthygl “Tro yn ôl Ata I” yn rhifyn Mehefin 2020 o’r Tŵr Gwylio.