Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Wyt Ti’n Cofio?

Wyt Ti’n Cofio?

Wyt ti wedi darllen rhifynnau’r Tŵr Gwylio eleni yn ofalus? Wel, ceisia ateb y cwestiynau canlynol:

Beth mae’n ei olygu i “newid y ffordd rydych chi’n meddwl”? (Rhuf. 12:2)

Mae’n golygu mwy na llenwi dy fywyd â gweithredoedd da. Mae’n cynnwys meddwl yn ddwfn am yr hyn ydyn ni ar y tu mewn a gwneud newidiadau i gadw mor agos â phosib at safonau Jehofa.—w23.01, tt. 8-9.

Sut gallwn ni gadw cydbwysedd wrth wylio’r hyn sy’n mynd ymlaen yn y byd?

Mae gynnon ni ddiddordeb yn y ffordd mae proffwydoliaethau yn cael eu cyflawni heddiw. Yn lle ceisio dyfalu, sy’n gallu arwain at raniadau, dylen ni seilio beth rydyn ni’n ei ddweud ar gyhoeddiadau cyfundrefn Jehofa. (1 Cor. 1: 10)—w23.02, t. 16.

Sut mae bedydd Iesu yn wahanol i fedydd ei ddilynwyr?

Doedd dim rhaid iddo gysegru ei hun i Jehofa, oherwydd cafodd ei eni yn rhan o genedl oedd eisoes wedi ei chysegru i Dduw. Roedd Iesu yn ddyn perffaith heb bechod. Doedd dim rhaid iddo edifarhau am ei bechodau.—w23.03, t. 5.

Sut gallwn ni helpu eraill i ateb yn y cyfarfodydd?

Gallwn ni gadw ein sylwadau yn gryno a rhoi’r cyfle i eraill gymryd rhan. Hefyd, drwy osgoi cynnwys gormod o bwyntiau yn ein hatebion, byddwn ni’n rhoi cyfle i eraill gael rhan.—w23.04, t. 23.

Beth mae’r “Ffordd Sanctaidd” yn Eseia 35:8 yn cyfeirio ato?

Roedd y briffordd ffigurol hon yn cyfeirio’n gyntaf at daith yr Iddewon o Fabilon i’w mamwlad. Beth am yn yr oes fodern? Yn y canrifoedd oedd yn arwain at 1919, cafodd gwaith paratoi ei wneud—cyfieithu’r Beibl a’i argraffu, a chyhoeddi pethau eraill. Mae pobl Dduw wedi bod yn teithio ar hyd “y Ffordd Sanctaidd” i baradwys ysbrydol, sydd yn arwain i fendithion y Deyrnas.—w23.05, tt. 15-19.

Pa ddwy ddynes ffigurol sy’n sail i’r cyngor yn Diarhebion pennod 9?

Mae Diarhebion yn sôn am ‘wraig wirion’ sy’n estyn gwahoddiad sy’n arwain i’r “bedd,” a dynes ddoeth, sy’n cynrychioli gwir ddoethineb, sy’n estyn gwahoddiad sy’n arwain i “ffordd gall” ac i fywyd. (Diar. 9:​1, 6, 13, 18)—w23.06, tt. 22-24.

Sut dangosodd Duw ei fod yn ostyngedig ac yn rhesymol wrth ddelio â Lot?

Dywedodd Jehofa wrth Lot am iddo ddianc i’r mynyddoedd. Ond, pan blediodd Lot am gael lloches yn Soar, gwnaeth Duw ganiatáu i Lot fynd yno.—w23.07, t. 21.

Beth gall gwraig ei wneud os ydy ei chymar yn gwylio pornograffi?

Mae’n rhaid iddi gofio nad ydy hi ar fai. Dylai hi ganolbwyntio ar ei pherthynas â Jehofa a meddwl am ferched yn y Beibl a aeth trwy gyfnodau anodd ond a gafodd eu cysuro ganddo. Mae hi’n gallu helpu ei chymar i osgoi sefyllfaoedd peryglus.—w23.08, tt. 14-17.

Pan mae rhywun yn cwestiynu ein daliadau, sut gall dealltwriaeth ein helpu ni i fod yn addfwyn?

Gallwn ni weld y cwestiwn neu’r her fel ffordd o ddeall safbwynt a theimladau’r person yn well. Yna bydd yn haws inni ymateb mewn ffordd addfwyn.—w23.09, t. 17.

Beth gallwn ni ei ddysgu gan Mair am dderbyn cryfder?

Pan ddysgodd Mair y byddai hi’n fam i’r Meseia, gwnaeth hi dderbyn cymorth gan eraill. Gwnaeth Gabriel ac Elisabeth ei chalonogi hi o’r Ysgrythurau. Gallwn ni hefyd gael ein cryfhau gan gyd-addolwyr.—w23.10, t. 15.

Sut gall Jehofa ateb ein gweddïau?

Mae’n addo gwrando ar ein gweddïau ac ystyried sut maen nhw’n cysylltu â’i bwrpas. (Jer. 29:12) Ar adegau, bydd yn ateb gweddïau sy’n debyg i’w gilydd mewn gwahanol ffyrdd, ond bydd yn wastad yn ein cefnogi ni.—w23.11, tt. 21-22.

Mae Rhufeiniaid 5:2 yn sôn am ‘obaith,’ felly pam mae’n cael ei drafod eto yn adnod 4?

Wrth glywed y newyddion da, gall y gobaith o fyw mewn paradwys ar y ddaear ddechrau apelio at berson. Ond wrth iddo fynd trwy dreialon, dyfalbarhau, a theimlo cymeradwyaeth Duw, bydd ei obaith yn cryfhau ac yn dod yn fwy personol.—w23.12, tt. 12-13.