Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Daliwch Ati i Annog Eich Gilydd Bob Dydd

Daliwch Ati i Annog Eich Gilydd Bob Dydd

“Frodyr, teimlwch yn rhydd i siarad os oes gynnoch chi air o anogaeth i’r bobl.”—ACT. 13:15.

CANEUON: 121, 45

1, 2. Esbonia pam mae anogaeth yn bwysig.

“ANAML iawn mae fy rhieni yn fy annog, ond maen nhw’n fy meirniadu lot. Ac mae eu geiriau yn brifo,” meddai Cristina, sy’n 18 oed. [1] “Maen nhw’n dweud fy mod i’n anaeddfed, yn methu dysgu, ac yn dew. Felly dw i’n crio’n aml ac mae’n well gen i beidio â siarad â nhw. Dw i’n teimlo’n ddiwerth.” Gall diffyg anogaeth fod yn ddinistriol iawn mewn bywyd!

2 Ar y llaw arall, grym er daioni yw anogaeth. “Dw i wedi cwffio yn erbyn teimlo’n ddiwerth ers blynyddoedd,” meddai Rubén. “Ond, un tro, roeddwn i’n pregethu gyda henuriad a oedd yn sylwi fy mod i’n cael diwrnod gwael. Gwrandawodd a chydymdeimlodd wrth imi fynegi fy nheimladau. Yna, pwysleisiodd y pethau da roeddwn i’n eu gwneud. Tynnodd sylw at eiriau Iesu sy’n dweud bod pob un ohonon ni’n werth mwy na llawer o adar y to. Mae’r adnod honno’n dal yn cyffwrdd â’m calon. Gwnaeth geiriau’r henuriad argraff fawr arna’ i.”—Math. 10:31.

3. (a) Beth ddywedodd yr apostol Paul am anogaeth? (b) Beth byddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl hon?

3 Nid yw’n syndod inni fod y Beibl yn pwysleisio’r angen am anogaeth gyson. Ysgrifennodd yr apostol Paul at y Cristnogion Hebreig: “Gwyliwch, gyfeillion, na fydd yn neb ohonoch byth galon ddrwg anghrediniol, i beri iddo gefnu ar y Duw byw. Yn hytrach, calonogwch eich gilydd bob dydd, . . . rhag i neb ohonoch gael ei galedu gan dwyll pechod.” (Heb. 3:12, 13, BCND) Os wyt ti’n gallu cofio adeg pan wnaeth geiriau caredig rhywun arall godi dy galon, rwyt ti’n sylweddoli bryd hynny pa mor bwysig yw’r cyngor i annog ein gilydd. Felly, gad inni ystyried y cwestiynau hyn: Pam mae anogaeth yn hanfodol? Beth gallwn ni ei ddysgu o’r ffordd y gwnaeth Jehofa, Iesu, a Paul annog eraill? A sut gallwn ni roi anogaeth effeithiol?

MAE ANGEN ANOGAETH AR BOBL

4. Pwy sydd angen anogaeth, ond pam mae’n brin heddiw?

4 Mae angen anogaeth ar bawb, yn enwedig tra ein bod ni’n tyfu i fyny. “Mae angen anogaeth ar blant . . . fel y mae angen dŵr ar blanhigion,” meddai’r arbenigwr Timothy Evans. “Mae plant sy’n cael eu hannog yn teimlo’n werthfawr.” Ond, amserau enbyd yw’r rhain. Mae pobl yn hunanol, yn ddigariad, ac mae anogaeth yn brin. (2 Tim. 3:1-5) Dydy rhai rhieni ddim yn canmol eu plant oherwydd na chawson nhw ganmoliaeth gan eu rhieni eu hunain. Mae llawer o weithwyr yn mynd heb ganmoliaeth, ac yn cwyno bod prinder anogaeth yn y gweithle.

5. Beth mae rhoi anogaeth yn ei gynnwys?

5 Yn aml, mae anogaeth yn cynnwys canmol rhywun am wneud rhywbeth yn dda. Gallwn hefyd galonogi drwy dynnu sylw at rinweddau da neu drwy “annog y rhai sy’n ddihyder.” (1 Thes. 5:14) Yn llythrennol, mae’r gair Groeg am “anogaeth” yn golygu “tyrd wrth fy ymyl.” Wrth wasanaethu ochr yn ochr â’n brodyr a’n chwiorydd, mae’n debyg y cawn ni lawer o gyfleoedd i ddweud rhywbeth calonogol. (Darllen Pregethwr 4:9, 10.) Ydyn ni’n defnyddio achlysuron priodol i roi gwybod i eraill ynglŷn â pham rydyn ni’n eu caru ac yn eu gwerthfawrogi? Cyn iti ateb y cwestiwn hwnnw, meddylia am y ddihareb hon: “Mor dda ydy gair yn ei bryd!”—Diar. 15:23.

6. Pam mae’r Diafol eisiau ein digalonni? Rho enghraifft.

6 Mae Satan y Diafol eisiau ein digalonni ni oherwydd ei fod yn gwybod bod digalondid yn ein gwanhau ni’n ysbrydol ac mewn ffyrdd eraill. “Os wyt ti’n un i golli hyder dan bwysau,” meddai Diarhebion 24:10, “mae gen ti angen mwy o nerth.” Defnyddiodd Satan drychinebau a chyhuddiadau i geisio tanseilio hyder y dyn cyfiawn Job, ond ni lwyddodd y cynllwyn milain hwnnw. (Job 2:3; 22:3; 27:5) Drwy annog aelodau o’n teulu a’n cynulleidfa, rydyn ni’n brwydro yn erbyn gweithredoedd y Diafol. Bydd hyn yn sicrhau bod y cartref a Neuadd y Deyrnas yn llefydd hapus a diogel.

ESIAMPLAU O ANOGAETH YN Y BEIBL

7, 8. (a) Pa esiamplau yn y Beibl sy’n dangos bod rhoi anogaeth yn rhywbeth pwysig i Jehofa? (b) Sut gall rhieni ddilyn esiampl Jehofa? (Gweler y llun agoriadol.)

7 Jehofa. Canodd y salmydd: “Mae’r ARGLWYDD yn agos at y rhai sydd wedi torri eu calonnau. Mae e’n achub y rhai sydd wedi anobeithio.” (Salm 34:18) Pan oedd Jeremeia yn ofnus ac yn ddigalon, gwnaeth Jehofa godi ei hyder. (Jer. 1:6-10) Dychmyga hapusrwydd yr hen broffwyd Daniel pan anfonodd Duw angel i’w gryfhau a’i alw’n “sbesial iawn yng ngolwg Duw.” (Dan. 10:8, 11, 18, 19) A elli di wneud rhywbeth tebyg drwy annog cyhoeddwyr, arloeswyr, a rhai hŷn sydd wedi mynd yn fethedig?

8 Er bod Duw wedi treulio llawer o amser gyda Iesu yn y nefoedd, nid oedd yn dal yn ôl rhag calonogi ei Fab tra oedd ar y ddaear. Ar ddau achlysur, clywodd Iesu ei Dad o’r nefoedd yn dweud: “Hwn ydy fy Mab annwyl i; mae wedi fy mhlesio i’n llwyr.” (Math. 3:17; 17:5) Felly, roedd Iesu’n gwybod ei fod yn gwneud yn dda. Byddai Iesu wedi cael ei galonogi’n fawr ar ôl clywed y geiriau hynny—y naill dro ar ddechrau ei weinidogaeth a’r llall yn ystod ei flwyddyn olaf ar y ddaear. Hefyd, anfonodd Jehofa angel i gryfhau Iesu y noson cyn iddo farw. (Luc 22:43) Rieni, dilynwch esiampl Jehofa drwy galonogi eich plant yn rheolaidd a’u canmol pan fyddan nhw’n gwneud yn dda. A hynny’n fwy byth os ydyn nhw’n wynebu prawf ar eu ffydd dro ar ôl tro yn yr ysgol.

9. Beth gallwn ni ei ddysgu o’r ffordd roedd Iesu yn trin ei apostolion?

9 Iesu. Ar y noson y sefydlodd Iesu’r Goffadwriaeth, gwelodd falchder yn ei apostolion. Roedd Iesu wedi golchi eu traed nhw, ond roedden nhw’n dal yn dadlau am bwy oedd y gorau; ac roedd Pedr yn orhyderus. (Luc 22:24, 33, 34) Er hynny, dyma Iesu’n canmol ei apostolion ffyddlon am lynu wrtho yn ystod ei dreialon. Dywedodd Iesu y byddan nhw’n gwneud llawer iawn mwy na’i weithredoedd ef, a dywedodd wrthyn nhw fod Duw yn eu caru. (Luc 22:28; Ioan 14:12; 16:27) Gallwn ni ofyn i ni’n hunain: “Oni ddylwn innau efelychu Iesu drwy ganmol fy mhlant ac eraill am y pethau da maen nhw’n eu gwneud yn hytrach na chanolbwyntio ar eu ffaeleddau?”

10, 11. Sut dangosodd yr apostol Paul ei fod yn gweld yr angen i roi anogaeth?

10 Yr apostol Paul. Yn ei lythyrau, ysgrifennodd Paul bethau positif am ei gyd-Gristnogion. Roedd wedi teithio gyda rhai ohonyn nhw ers blynyddoedd ac yn gwybod yn iawn am eu ffaeleddau, ond fe ddywedodd bethau da amdanyn nhw. Er enghraifft, wrth ddisgrifio Timotheus, dywedodd Paul: “Mae e’n fab annwyl i mi yn yr ARGLWYDD.” Roedd Paul yn sicr y byddai Timotheus yn gwir ofalu am anghenion Cristnogion eraill. (1 Cor. 4:17; Phil. 2:19, 20) Gwnaeth yr apostol Paul gymeradwyo Titus i’r gynulleidfa yng Nghorinth a dweud amdano: “Fy mhartner i ydy e, yn gweithio gyda mi i’ch helpu chi.” (2 Cor. 8:23) Yn sicr, byddai Timotheus a Titus wedi eu calonogi o glywed sut roedd Paul yn meddwl amdanyn nhw!

11 Risgiodd Paul a Barnabas eu bywydau drwy fynd yn ôl i’r ardaloedd hynny lle roedd pobl wedi ymosod arnyn nhw. Er enghraifft, er gwaethaf gwrthwynebiad gan bobl benboeth, aethon nhw yn ôl i Lystra er mwyn annog y disgyblion newydd i aros yn ffyddlon. (Act. 14:19-22) Yn Effesus, wynebodd Paul dorf gas. Dywed Actau 20:1, 2: “Pan oedd yr helynt drosodd, dyma Paul yn galw’r Cristnogion at ei gilydd i ffarwelio â nhw a’u hannog nhw i ddal ati. Gadawodd i fynd i Macedonia, ac ar ôl teithio ar hyd a lled yr ardal honno yn annog y bobl, aeth i lawr i Corinth yn y de.” Yn bendant, roedd annog eraill yn bwysig iawn i Paul.

ANOGAETH AR WAITH HEDDIW

12. Sut mae ein cyfarfodydd yn ein helpu i roi a derbyn anogaeth?

12 Mae ein Tad nefol wedi trefnu inni gael cyfarfodydd rheolaidd er mwyn inni roi a derbyn anogaeth. (Darllen Hebreaid 10:24, 25.) Fel y gwnaeth dilynwyr cynnar Iesu, rydyn ninnau’n dod ynghyd er mwyn cael ein dysgu a’n calonogi. (1 Cor. 14:31) Dywed Cristina, a ddyfynnwyd ar ddechrau’r erthygl hon: “Beth dw i’n ei hoffi fwyaf am y cyfarfodydd yw’r cariad a’r anogaeth dw i’n eu cael yno. Weithiau dw i’n teimlo’n isel pan dw i’n cyrraedd y Neuadd. Ond wedyn mae’r chwiorydd yn dod ata’ i, yn taflu eu breichiau o’m cwmpas, ac yn dweud fy mod i’n edrych yn hardd a’u bod nhw’n fy ngharu ac yn hapus i weld fy nghynnydd ysbrydol. Mae’r anogaeth yn gwneud imi deimlo’n well!” Mae’r gynulleidfa ar ei hennill pan fydd pawb yn calonogi ei gilydd!—Rhuf. 1:11, 12.

13. Pam mae angen anogaeth ar weision profiadol Duw?

13 Mae angen anogaeth hyd yn oed ar weision profiadol Duw. Ystyria Josua. Roedd wedi gwasanaethu Duw ers blynyddoedd. Ond, gofynnodd Jehofa i Moses galonogi Josua, gan ddweud: “Dw i eisiau i ti gomisiynu Josua, a’i annog a rhoi hyder iddo. Fe ydy’r un sy’n mynd i arwain y bobl yma drosodd i gymryd y wlad fyddi di’n ei gweld o dy flaen di.” (Deut. 3:27, 28) Roedd Josua ar fin ysgwyddo’r cyfrifoldeb o arwain yr Israeliaid i mewn i Wlad yr Addewid a’i gorchfygu. Byddai’n wynebu rhwystrau ac yn colli o leiaf un frwydr filwrol. (Jos. 7:1-9) Does dim rhyfedd felly fod angen anogaeth ar Josua! Felly, gadewch inni galonogi’r henuriaid, gan gynnwys yr arolygwyr cylchdaith, sy’n gweithio’n galed i ofalu am braidd Duw. (Darllen 1 Thesaloniaid 5:12, 13.) “Weithiau mae’r brodyr yn rhoi llythyrau inni yn ein diolch ac yn dweud eu bod nhw wedi mwynhau’r ymweliad,” dywedodd un arolygwr y gylchdaith. “Rydyn ni’n cadw’r llythyrau hyn ac yn eu darllen pan ydyn ni’n teimlo’n isel. Maen nhw’n wastad yn ein calonogi.”

Mae ein plant yn ffynnu pan ydyn ni’n eu calonogi’n garedig (Gweler paragraff 14)

14. Beth sy’n dangos bod canmol ac annog eraill yn ein helpu i roi cyngor effeithiol?

14 Mae henuriaid a rhieni wedi darganfod bod rhoi canmoliaeth ac anogaeth yn ffordd dda o bwysleisio cyngor y Beibl. Pan roddodd Paul ganmoliaeth i’r Corinthiaid am iddyn nhw roi ei gyngor ar waith, mae’n debyg fod hynny wedi eu hannog nhw i ddal ati i wneud yr hyn oedd yn iawn. (2 Cor. 7:8-11) Dywed Andreas, tad i ddau o blant: “Mae anogaeth yn helpu plant i dyfu yn ysbrydol ac emosiynol. Rwyt ti’n hoelio’r cyngor yn sownd drwy roi anogaeth. Er bod ein plant yn gwybod beth sy’n iawn, mae gwneud yr hyn sy’n iawn yn dod yn rhan o’u bywydau bob dydd oherwydd ein hanogaeth gyson.”

SUT I ROI ANOGAETH EFFEITHIOL

15. Beth yw un o’r pethau gallwn ni ei wneud er mwyn calonogi eraill?

15 Dangosa dy fod ti’n gwerthfawrogi ymdrechion a rhinweddau dy gyd-addolwyr. (2 Cron. 16:9; Job 1:8) Mae Jehofa a Iesu yn gwerthfawrogi’n fawr iawn yr hyn rydyn ni i gyd yn ei wneud i gefnogi’r Deyrnas, hyd yn oed os yw ein hymdrechion a’n cyfraniadau yn gyfyngedig oherwydd ein hamgylchiadau. (Darllen Luc 21:1-4; 2 Corinthiaid 8:12.) Er enghraifft, mae rhai o’n brodyr hŷn annwyl yn gwneud ymdrech fawr i fynychu’r cyfarfodydd a chael rhan ynddyn nhw, ac i fynd ar y weinidogaeth yn rheolaidd. Oni ddylen ni eu canmol a’u calonogi?

16. Pam na ddylen ni byth ddal yn ôl rhag calonogi eraill?

16 Dal ar bob cyfle i annog eraill. Os ydyn ni’n gweld rhywbeth sy’n haeddu canmoliaeth, pam dal yn ôl? Ystyria beth ddigwyddodd pan oedd Paul a Barnabas yn Antiochia, yn Pisidia. Dywedodd arweinwyr y synagog wrthyn nhw: “Frodyr, teimlwch yn rhydd i siarad os oes gynnoch chi air o anogaeth i’r bobl.” Ymatebodd Paul drwy roi anerchiad campus. (Act. 13:13-16, 42-44) Os gallwn ninnau roi gair o anogaeth, beth am inni wneud hynny? Os ydy calonogi eraill yn arfer gennyn ni, bydd eraill yn debygol o’n calonogi ni.—Luc 6:38.

17. Beth fydd yn gwneud ein geiriau calonogol yn fwy gwerthfawr?

17 Siarada o’r galon a bydda’n benodol. Mae geiriau o ganmoliaeth gyffredinol yn helpu pobl, ond mae neges Iesu i’r Cristnogion yn Thyatira yn dangos bod canmoliaeth benodol yn well. (Darllen Datguddiad 2:18, 19.) Er enghraifft, os ydyn ni’n rhieni, gallwn sôn wrth ein plant am yr hyn sy’n ein plesio ni ynghylch eu cynnydd ysbrydol. Gallwn ganmol mam sengl am yr hyn y mae hi’n ei wneud i fagu ei phlant er gwaethaf amgylchiadau anodd. Gall canmoliaeth ac anogaeth o’r fath wneud byd o les i rywun!

18, 19. Sut gallwn ni adfywio’r rhai sydd angen anogaeth?

18 Ni fydd Jehofa yn dweud wrthyn ni’n bersonol am galonogi rhywun penodol fel y gwnaeth yn achos Moses a Josua. Ond, mae Duw yn hapus pan ydyn ni’n siarad mewn ffordd galonogol â’n cyd-addolwyr ac eraill. (Diar. 19:17; Heb. 12:12) Er enghraifft, ar ôl gwrando ar anerchiad, gallwn ddiolch i’r siaradwr am ei gyngor effeithiol neu am iddo ein helpu ni i ddeall rhyw adnod yn well. “Er ein bod ni wedi siarad am ychydig o funudau yn unig,” ysgrifennodd un chwaer at siaradwr gwadd, “fe welaist ti fod fy nghalon yn drom, ac fe wnest ti fy nghysuro. Rydw i eisiau iti wybod bod y ffordd garedig y gwnest ti siarad â mi, o’r llwyfan ac yn bersonol, yn anrheg oddi wrth Jehofa.”

19 Mae’n debyg y byddwn ni’n gweld amryw ffyrdd o adfywio eraill yn ysbrydol os ydyn ni’n benderfynol o ddilyn cyngor Paul: “Felly calonogwch eich gilydd, a daliwch ati i helpu’ch gilydd.” (1 Thes. 5:11) Bydd pob un ohonon ni’n sicr o blesio Jehofa os ydyn ni’n annog ein gilydd bob dydd.

^ [1] (paragraff 1) Newidiwyd rhai enwau.