Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Torri’n Rhydd o Afael Gau Grefydd

Torri’n Rhydd o Afael Gau Grefydd

“Fy mhobl, dewch allan o’r ddinas.”—DAT. 18:4.

CANEUON: 101, 93

1. Ar ba sail y gallai pobl Dduw obeithio cael eu rhyddhau o Fabilon Fawr, a pha gwestiynau byddwn ni’n eu trafod?

YN YR erthygl flaenorol, gwelon ni sut cafodd Cristnogion ffyddlon eu dwyn i gaethglud Fabilonaidd. Y newyddion da, fodd bynnag, yw na fydden nhw’n aros felly’n ddi-ben-draw. Byddai gorchymyn Duw iddyn nhw ddod allan o’r ddinas ffigurol honno yn ddiystyr petai neb yn gallu dianc rhag dylanwad yr ymerodraeth gau grefyddol fyd-eang. (Darllen Datguddiad 18:4.) Rydyn ni’n awyddus i wybod pa bryd y cafodd pobl Dduw eu rhyddhau’n llwyr o grafangau Babilon! Ond, yn gyntaf, pwysig yw ateb y cwestiynau canlynol: Ynglŷn â Babilon Fawr, pa safiad a wnaeth Myfyrwyr y Beibl cyn 1914? Pa mor weithgar oedd ein brodyr yn y gwaith pregethu yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf? A oes cysylltiad rhwng yr angen i gywiro a disgyblu pobl Dduw yn ystod y cyfnod hwnnw a’r ffaith eu bod nhw wedi eu caethiwo gan Fabilon Fawr?

CWYMP BABILON

2. Beth oedd safiad Myfyrwyr y Beibl cynnar ynglŷn â Babilon Fawr fel yr oedden nhw’n deall y sefyllfa?

2 Yn y degawdau cyn y Rhyfel Byd Cyntaf, sylweddolodd Charles Taze Russell a’i gyfeillion nad oedd cyfundrefnau’r Gwledydd Cred yn dysgu gwirionedd y Beibl. O ganlyniad, penderfynon nhw beidio â gwneud dim â gau grefydd fel yr oedden nhw’n deall pethau bryd hynny. Mor gynnar â mis Tachwedd 1879, esboniodd Zion’s Watch Tower eu safiad Ysgrythurol, drwy ddatgan: “Mae pob eglwys sy’n honni bod yn wyryf bur wedi ei dyweddïo â Christ, ond sydd mewn gwirionedd yn ochri â’r byd (yr anghenfil) ac sy’n cael ei chefnogi ganddo, yn eglwys y mae’n rhaid inni ei chondemnio oherwydd ei bod hi, a defnyddio iaith ysgrythurol, yn butain o eglwys,” sef cyfeiriad at Fabilon Fawr.—Darllen Datguddiad 17:1, 2.

3. Pa gamau pendant a gymerodd Myfyrwyr y Beibl a oedd yn dangos eu bod nhw’n deall pwysigrwydd ymwahanu â gau grefydd? (Gweler y llun agoriadol.)

3 Roedd pobl a oedd yn ofni Duw yn gwybod beth y dylen nhw ei wneud. Ni allen nhw ddisgwyl cael eu bendithio gan Dduw os oedden nhw’n parhau i gefnogi gau grefydd. O ganlyniad, ysgrifennodd llawer o Fyfyrwyr y Beibl lythyrau yn datgan eu bod nhw’n gadael eu heglwysi. Mewn rhai achosion, darllenon nhw’r llythyrau i’r aelodau. Pan na chaniatawyd hynny, anfonon nhw gopïau at bob un aelod o’r eglwys. Doedden nhw ddim eisiau ymwneud â gau grefydd o gwbl! Mewn cyfnod arall, byddai gwneud hynny wedi costio eu bywydau iddyn nhw. Ond, mewn llawer o wledydd tua diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, dechreuodd yr eglwys golli cefnogaeth y Wladwriaeth. Heb orfod ofni dial, roedd dinasyddion yn rhydd i drafod materion crefyddol ac i anghytuno’n agored â’r eglwysi sefydledig.

4. Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, beth oedd y berthynas rhwng pobl Dduw a Babilon Fawr?

4 Deallodd Myfyrwyr y Beibl nad oedd hi’n ddigon iddyn nhw roi gwybod i’w perthnasau, i’w ffrindiau, ac i aelodau’r eglwys am eu safiad ynglŷn â gau grefydd. Dylai pawb yn y byd wybod mai putain grefyddol yw Babilon Fawr! O ganlyniad, rhwng Rhagfyr 1917 a dechrau 1918, gwnaeth yr ychydig filoedd o Fyfyrwyr y Beibl ddosbarthu’n selog 10,000,000 o daflenni a oedd yn trafod cwymp Babilon ac yn cyhuddo’r Gwledydd Cred. Fel y gellir dychmygu, roedd y clerigwyr yn gynddeiriog; ond er gwaethaf hynny, gwnaeth Myfyrwyr y Beibl ddal ati yn y gwaith pwysig hwn. Roedden nhw’n benderfynol o “ufuddhau i Dduw, dim i ddynion.” (Act. 5:29) Beth yw ein casgliad? Yn hytrach na dod yn gaeth i Fabilon Fawr yn ystod y Rhyfel, roedd y Cristnogion hyn yn torri’n rhydd o’i gafael ac yn helpu eraill i wneud yr un peth.

GWAITH SELOG YN YSTOD Y RHYFEL BYD CYNTAF

5. Pa dystiolaeth sy’n dangos bod ein brodyr wedi bod yn selog iawn yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf?

5 Yn y blynyddoedd a fu, roedden ni’n credu bod Jehofa yn ddig wrth ei bobl oherwydd nad oedden nhw wedi pregethu’n selog yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Roedden ni’n credu mai dyna’r rheswm i Jehofa adael i Fabilon Fawr eu caethiwo am gyfnod byr. Fodd bynnag, roedd brodyr a chwiorydd a wasanaethai Duw rhwng 1914 a 1918 wedi esbonio’n ddiweddarach fod pobl Dduw, ar y cyfan, wedi gwneud popeth y gallen nhw i barhau yn y gwaith pregethu. Ceir tystiolaeth gref sy’n cefnogi hyn. Mae dealltwriaeth fwy trylwyr o’n hanes theocrataidd yn golygu ein bod ni’n deall yn well rai ddigwyddiadau a gofnodwyd yn y Beibl.

6, 7. (a) Pa anawsterau roedd yn rhaid i Fyfyrwyr y Beibl eu gorchfygu yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf? (b) Rho enghreifftiau sy’n dangos pa mor selog oedd Myfyrwyr y Beibl.

6 Mewn gwirionedd, rhoddodd Myfyrwyr y Beibl a oedd yn weithgar yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf (1914-1918) dystiolaeth aruthrol. Nid peth hawdd oedd hyn am sawl rheswm. Gad inni edrych ar ddau ohonyn nhw. Yn gyntaf oll, y gwaith pennaf bryd hynny oedd dosbarthu llenyddiaeth Feiblaidd. Ar ôl i’r llyfr The Finished Mystery gael ei wahardd gan yr awdurdodau yn gynnar ym 1918, daeth y gwaith pregethu’n anodd iawn i lawer o’r brodyr. Doedden nhw ddim wedi dysgu eto sut i bregethu drwy ddefnyddio’r Beibl yn unig, ac roedden nhw’n dibynnu ar y llyfr The Finished Mystery i siarad drostyn nhw. Ail ffactor oedd effaith ddinistriol y Ffliw Sbaenaidd ym 1918. Oherwydd bod y pla hwnnw wedi lledu i bobman, roedd hi’n anodd i gyhoeddwyr symud o un lle i’r llall. Er gwaethaf yr anawsterau hyn a rhai eraill, roedd Myfyrwyr y Beibl, ar y cyfan, yn gwneud eu gorau i ddal ati i bregethu.

Roedd Myfyrwyr y Beibl yn selog! (Gweler paragraffau 6, 7)

7 Ym 1914 yn unig, gwnaeth nifer bach o Fyfyrwyr y Beibl ddangos y “Photo-Drama of Creation” i fwy na 9,000,000 o bobl. Roedd y ddrama hon yn gampwaith a oedd yn cyfuno lluniau a sleidiau wedi eu cydamseru â sain ac yn olrhain hanes dyn o amser y creu hyd at ddiwedd y Mil Blynyddoedd. Meddylia am y peth. Roedd nifer y bobl a aeth i weld y ddrama ym 1914 yn fwy na chyfanswm cyhoeddwyr y Deyrnas sy’n pregethu ledled y byd heddiw! Ym 1916, mae adroddiadau hefyd yn dangos bod 809,393 o unigolion wedi mynd i gyfarfodydd cyhoeddus yn yr Unol Daleithiau, ac ym 1918, cynyddodd y nifer hwnnw i 949,444. Roedd y brodyr hynny’n selog iawn!

8. Sut roedd y brodyr yn cael eu bwydo’n ysbrydol yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf?

8 Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, gwnaethpwyd pob ymdrech i ddarparu bwyd ysbrydol i Fyfyrwyr y Beibl ym mhobman. Rhoddodd hyn nerth i’r brodyr i ddyfalbarhau yn y gwaith pregethu. Dywedodd Richard H. Barber, a oedd yn weithgar yn ystod y cyfnod hwnnw: “Llwyddon ni i helpu ychydig o arolygwyr cylchdaith i ddal ati ac i gadw’r Tŵr Gwylio mewn cylchrediad, hyd yn oed yng Nghanada lle’r oedd y cylchgrawn wedi ei wahardd. . . . Fy mraint i oedd anfon copïau bychain o’r llyfr The Finished Mystery i rai o’r brodyr oherwydd i’r llyfrau hynny gael eu cymryd oddi arnyn nhw. Gwnaeth y Brawd Rutherford ofyn inni drefnu cynadleddau mewn sawl dinas yng ngorllewin yr Unol Daleithiau ac anfon siaradwyr i geisio annog y brodyr gymaint ag oedd yn bosibl.”

ANGEN YCHYDIG O GOETHI

9. (a) Pam roedd angen i bobl Dduw gael eu cywiro a’u disgyblu rhwng 1914 a 1919? (b) Beth nad oedd y disgyblu hwn yn ei olygu?

9 Nid oedd popeth a wnaeth Myfyrwyr y Beibl yn ystod y cyfnod rhwng 1914 a 1919 yn unol ag egwyddorion Ysgrythurol. Er eu bod nhw’n ddiffuant, nid oedd y brodyr yn deall yn iawn sut y dylen nhw ymostwng i awdurdod y llywodraethau. (Rhuf. 13:1) Felly, fel grŵp, nid oedden nhw bob amser yn niwtral yn ystod y Rhyfel. Er enghraifft, pan ddywedodd arlywydd yr Unol Daleithiau y dylai pawb ddod at ei gilydd ar 30 Mai 1918 i weddïo am heddwch, roedd y Tŵr Gwylio yn annog y brodyr i gymryd rhan. Gwnaeth rhai brodyr brynu bondiau er mwyn cefnogi’r Rhyfel yn ariannol, a gwnaeth rhai ddwyn arfau hyd yn oed a mynd i’r ffosydd. Fodd bynnag, camgymeriad fyddai casglu bod Myfyrwyr y Beibl wedi eu dwyn i gaethglud ym Mabilon Fawr oherwydd eu bod nhw’n gorfod cael eu cywiro a’u disgyblu. I’r gwrthwyneb, roedden nhw’n deall bod rheidrwydd arnyn nhw i ymwahanu â gau grefydd, ac yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf roedd yr ymwahanu hwnnw bron yn gyflawn.—Darllen Luc 12:47, 48.

10. Pa safiad cadarn ynglŷn â sancteiddrwydd bywyd a wnaeth Myfyrwyr y Beibl?

10 Er nad oedden nhw’n deall pob agwedd ar niwtraliaeth Gristnogol mor eglur ag yr ydyn ninnau heddiw, roedd Myfyrwyr y Beibl yn deall un peth: Mae’r Beibl yn gwahardd lladd person arall. Felly, gwnaeth hyd yn oed yr ychydig frodyr a aeth i’r ffosydd yn dwyn arfau yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf wrthod defnyddio’r arfau hynny i ladd eu cyd-ddyn. Cafodd rhai a oedd yn gwrthod lladd eu hanfon i’r ffrynt, yn y gobaith y bydden nhw’n colli eu bywydau.

11. Sut gwnaeth yr awdurdodau ymateb i safiad Ysgrythurol Myfyrwyr y Beibl ynglŷn â mynd i ryfel?

11 Roedd y Diafol yn flin iawn am safiad y brodyr ynglŷn â’r Rhyfel, er mor amherffaith oedd y safiad hwnnw. O ganlyniad, achosodd ddioddefaint trwy ddeddfau’r llywodraeth. (Salm 94:20) Gwnaeth yr Uwchfrigadydd James Franklin Bell o Fyddin yr Unol Daleithiau ddatgelu, mewn sgwrs â’r brodyr J. F. Rutherford a W. E. Van Amburgh, fod Adran Gyfraith yr Unol Daleithiau wedi ceisio cyflwyno mesur yn y Gyngres a fyddai’n caniatáu i’r gosb eithaf gael ei gorfodi ar unigolion a oedd yn gwrthod mynd i ryfel. Myfyrwyr y Beibl oedd ganddo dan sylw. Ac yntau wedi gwylltio’n lân, dywedodd y Cadfridog Bell wrth y Brawd Rutherford: “Ni chafodd y mesur ei basio oherwydd bod [yr Arlywydd] Wilson wedi ei rwystro, ond rydyn ni’n gwybod sut i’ch dal chi, ac rydyn ni am lwyddo i wneud hynny!”

12, 13. (a) Pam y cafodd wyth brawd cyfrifol eu dedfrydu i gyfnod hir o garchar? (b) A wnaeth y cyfnod hwn o garchar wneud iddyn nhw gefnu ar Jehofa? Esbonia.

12 Rhoddodd yr awdurdodau’r bygythiad hwnnw mewn grym. A hwythau’n gynrychiolwyr y Watch Tower Society, cafodd y Brodyr Rutherford, Van Amburgh, a chwech arall eu harestio. Wrth draddodi’r ddedfryd, dywedodd y barnwr: “Mae propaganda crefyddol y dynion hyn yn fwy peryglus nag adran o filwyr Almaenig . . . Nid yn unig eu bod nhw wedi taflu amheuaeth ar swyddogion cyfraith y Llywodraeth ac ar adran guddwybodaeth y fyddin, ond maen nhw wedi ymosod ar holl weinidogion yr holl eglwysi. Dylai eu cosb fod yn hallt iawn.” (Faith on the March, gan A. H. Macmillan, t. 99) A dyna ddigwyddodd. Dedfrydwyd yr wyth Myfyriwr y Beibl i gyfnodau hir o garchar yn Atlanta, Georgia. Yn dilyn y Rhyfel, fe’u rhyddhawyd a chafodd y cyhuddiadau yn eu herbyn eu gollwng.

13 Hyd yn oed tra oedden nhw yn y carchar, roedd y dynion hyn yn glynu wrth yr Ysgrythurau. Mewn deiseb a gyflwynwyd i arlywydd yr Unol Daleithiau a oedd yn gofyn am drugaredd, ysgrifennon nhw: “Ewyllys yr Arglwydd yn ôl yr Ysgrythurau yw, ‘Na ladd,’ ac felly, petai unrhyw aelod o’r Gymdeithas sydd wedi ymgysegru i’r Arglwydd yn torri cyfamod ei gysegriad yn fwriadol, byddai’n colli ffafr Duw, ac yn wynebu dinistr llwyr. O’r herwydd, ni allai’r aelodau hynny ladd pobl eraill o wirfodd calon.” Geiriau eofn yn wir! Roedd hi’n amlwg nad oedd y brodyr yn bwriadu cyfaddawdu!

RHYDDID O’R DIWEDD!

14. Defnyddia’r Ysgrythurau i ddangos beth ddigwyddodd rhwng 1914 a 1919.

14 Mae Malachi 3:1-3 yn disgrifio’r cyfnod rhwng 1914 a dechrau 1919, pan fyddai “disgynyddion Lefi” yn mynd trwy gyfnod o goethi. (Darllen.) Yn ystod y cyfnod hwnnw, daeth Jehofa Dduw, “y Meistr,” ynghyd â Iesu Grist, “angel yr ymrwymiad,” i’r deml ysbrydol i archwilio’r rhai a oedd yn gwasanaethu yno. Ar ôl derbyn disgyblaeth angenrheidiol, roedd pobl Jehofa wedi eu puro ac yn barod i ymgymryd â mwy o waith y Deyrnas. Ym 1919, penodwyd gwas ffyddlon a chall i ddarparu bwyd ysbrydol i deulu’r ffydd. (Math. 24:45) Roedd pobl Dduw wedi torri’n rhydd o ddylanwad Babilon Fawr. Ers hynny, drwy garedigrwydd anhaeddiannol Jehofa, mae ei bobl wedi dod i ddeall ewyllys Duw yn well ac mae eu cariad tuag at eu Tad nefol wedi dyfnhau. Mae bendith Duw yn gwneud iddyn nhw deimlo’n ddiolchgar iawn! [1]

15. Sut dylai cael ein rhyddhau o afael Babilon Fawr effeithio arnon ni?

15 Onid yw torri’n rhydd o afael Babilon Fawr yn gwneud inni deimlo’n llawen? Mae ymdrechion Satan i geisio gael gwared ar wir Gristnogaeth yn fethiant. Fodd bynnag, mae’n bwysig nad ydyn ni’n ymateb yn arwynebol i haelioni Duw. (2 Cor. 6:1) Mae miliynau o bobl ddiffuant yn dal yn gaeth i gau grefydd. Mae angen help arnyn nhw i dorri’n rhydd. Gallwn ni eu helpu. Ar bob cyfrif, gad inni efelychu ein brodyr yn y ganrif ddiwethaf, a gwneud popeth o fewn ein gallu i’w helpu nhw!

^ [1] (paragraff 14) Mae llawer o debygrwydd rhwng caethglud 70-mlynedd yr Iddewon ym Mabilon gynt a’r hyn a ddigwyddodd i Gristnogion ar ôl i’r gwrthgiliad ddechrau. Fodd bynnag, mae hi’n ymddangos nad yw’r gaethglud Iddewig yn rhaglun proffwydol o’r hyn a ddigwyddodd i Gristnogion. Yn un peth, mae hyd y gaethglud yn wahanol. Felly, ni ddylen ni geisio chwilio am gyfochredd proffwydol ym mhob manylyn o’r gaethglud Iddewig fel petai popeth yn cyfateb i’r hyn a ddigwyddodd i Gristnogion eneiniog a oedd yn byw yn y blynyddoedd cyn 1919.