Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Wyt Ti’n Parchu Gair Duw?

Wyt Ti’n Parchu Gair Duw?

“Dŷn ni bob amser yn diolch i Dduw eich bod chi wedi derbyn y neges roedden ni’n ei chyhoeddi am beth oedd hi go iawn—neges gan Dduw.”—1 THES. 2:13.

CANEUON: 114, 113

1-3. Beth efallai oedd y rheswm y tu ôl i’r drwgdeimlad rhwng Euodia a Syntyche, a sut gall problemau o’r fath gael eu hosgoi? (Gweler y llun agoriadol.)

MAE gweision Jehofa yn parchu’r Beibl. A ninnau’n amherffaith, rydyn ni i gyd yn derbyn cyngor Ysgrythurol o bryd i’w gilydd. Sut rydyn ni’n ymateb? Meddylia am Euodia a Syntyche, dwy chwaer eneiniog o’r ganrif gyntaf. Cododd anghydfod rhyngddyn nhw. Ond pam? Nid yw’r Beibl yn dweud. Ond dychmyga fod y sefyllfa ganlynol wedi codi rhyngddyn nhw.

2 Gad inni dybio bod Euodia wedi gwahodd ffrindiau i’w chartref ar gyfer pryd o fwyd ac i gymdeithasu. Ni chafodd Syntyche wahoddiad, ond clywodd hi fod pawb wedi cael hwyl. Efallai dywedodd Syntyche: ‘Fedra i ddim credu na wnaeth Euodia roi gwahoddiad imi, a ninnau’n ffrindiau gorau!’ Yn teimlo ei bod hi wedi ei bradychu, dechreuodd Syntyche ddrwgdybio Euodia. Felly, trefnodd Syntyche i’r un grŵp o ffrindiau ddod i’w chartref hi—ond nid Euodia! Gallai’r broblem a oedd yn bodoli rhwng Euodia a Syntyche fod wedi aflonyddu ar heddwch y gynulleidfa gyfan. Nid yw’r Beibl yn dweud wrthyn ni beth oedd diwedd yr hanes, ond efallai fod y chwiorydd wedi ymateb yn dda i gyngor cariadus Paul.—Phil. 4:2, 3.

3 Gall problemau tebyg godi yn ein cynulleidfaoedd ni heddiw. Ond, gellir datrys anghydfod o’r fath neu hyd yn oed ei osgoi drwy roi cyngor Gair Duw ar waith. Ac os ydyn ni’n parchu’r Beibl, byddwn ni’n byw yn ôl y cyfarwyddiadau sydd ynddo.—Salm 27:11.

GAIR DUW AC EMOSIYNAU DYNOL

4, 5. Pa gyngor mae Gair Duw yn ei roi ynglŷn â rheoli ein hemosiynau?

4 Nid yw’n hawdd rheoli ein hemosiynau pan ydyn ni’n teimlo ein bod ni wedi cael ein sarhau neu ein trin yn annheg. Gall cael ein cam-drin oherwydd ein cefndir ethnig, lliw ein croen, neu unrhyw wahaniaeth corfforol arall ein brifo ni i’r byw. Ond pan fo cyd-Gristion yn achosi’r boen, mae’n brifo’n fwy byth! A all Gair Duw ein helpu os ydyn ni’n dioddef ymddygiad cas o’r fath?

5 Mae Jehofa wedi bod yn sylwi ar ein hemosiynau a’n hymddygiad ers iddo greu dynolryw. Gall ein meddyliau achosi inni ddweud neu wneud pethau rydyn ni’n eu difaru, yn enwedig os ydyn ni wedi cynhyrfu. Doeth yw rhoi cyngor y Beibl ar waith drwy reoli ein tymer ac osgoi digio’n hawdd! (Darllen Diarhebion 16:32; Pregethwr 7:9.) Yn wir, mae angen inni fod yn fwy maddeugar ac yn llai sensitif. Mae Jehofa a Iesu yn cymryd maddeuant o ddifrif. (Math. 6:14, 15) A oes angen iti fod yn fwy maddeugar, neu a oes angen iti roi sylw i reoli dy emosiynau?

6. Pam y dylen ni ein hamddiffyn ein hunain rhag troi’n chwerw?

6 Yn aml, mae pobl nad ydyn nhw’n rheoli eu hemosiynau yn troi’n chwerw. Oherwydd hynny, efallai na fyddai eraill eisiau treulio amser gyda nhw. Gall rhywun chwerw ddylanwadu’n ddrwg ar y gynulleidfa. Gall yr unigolyn geisio cuddio ei chwerwder neu ei gasineb, ond, yn y pen draw, bydd meddyliau negyddol sy’n llechu yn y galon “yn dod yn amlwg i bawb.” (Diar. 26:24-26) Efallai gall yr henuriaid helpu’r unigolyn i weld nad oes unrhyw le yng nghyfundrefn Jehofa i chwerwder, casineb, nac i gadw cyfrif o gamweddau. Mae’r Beibl yn glir iawn am hyn. (Lef. 19:17, 18; Rhuf. 3:11-18) A wyt ti’n cytuno â’r Beibl?

COFIA SUT RYDYN NI’N CAEL EIN HARWAIN

7, 8. (a) Sut mae Jehofa yn arwain y rhan ddaearol o’i gyfundrefn? (b) Beth yw rhai o’r cyfarwyddiadau sydd yn y Beibl, a pham dylen ni eu dilyn?

7 Mae Jehofa yn arwain ac yn bwydo’r rhai sydd yn y rhan ddaearol o’i gyfundrefn drwy gyfrwng y “gwas ffyddlon a chall” o dan arweiniad Crist, sy’n “ben yr eglwys.” (Math. 24:45-47, Eff. 5:23, BCND) Yn debyg i’r corff llywodraethol yn y ganrif gyntaf, mae’r gwas hwn yn derbyn Gair ysbrydoledig Duw ac yn ei barchu. (Darllen 1 Thesaloniaid 2:13.) Beth yw rhai o’r cyfarwyddiadau yn y Beibl sydd er ein lles ni?

8 Mae’r Beibl yn gofyn inni fynychu cyfarfodydd. (Heb. 10:24, 25) Mae’n ein cymell ni i fod o’r un farn yn athrawiaethol. (1 Cor. 1:10, BCND) Dywed y Beibl y dylen ni geisio’r Deyrnas yn gyntaf. (Math. 6:33) Yn ôl yr Ysgrythurau, mae gennyn ni’r cyfrifoldeb a’r fraint o bregethu o dŷ i dŷ, mewn llefydd cyhoeddus, ac yn anffurfiol. (Math. 28:19, 20; Act. 5:42; 17:17; 20:20) Mae’r Beibl hefyd yn rhoi arweiniad i’r henuriaid ar sut i gadw’r gyfundrefn yn lân. (1 Cor. 5:1-5, 13; 1 Tim. 5:19-21) Ac mae Jehofa yn gorchymyn i bawb yn ei gyfundrefn fod yn lân yn gorfforol ac yn ysbrydol.—2 Cor. 7:1.

9. Beth yw’r unig sianel a ddefnyddir heddiw i’n helpu ni i ddeall Gair Duw?

9 Mae rhai pobl yn teimlo y gallan nhw ddehongli’r Beibl yn annibynnol. Ond, y gwas ffyddlon yw’r unig sianel ar gyfer dosbarthu bwyd ysbrydol sydd wedi ei benodi gan Iesu. Er 1919, mae Iesu Grist wedi defnyddio’r gwas hwnnw i helpu ei ddilynwyr i ddeall y Beibl ac i roi sylw i’w gyngor. Trwy fod yn ufudd i’r gorchmynion yn y Beibl, rydyn ni’n hybu glendid, heddwch, ac undod yn y gynulleidfa. Peth da fyddai i bob un ohonon ni ofyn, ‘A ydw i’n ffyddlon i’r sianel y mae Iesu yn ei defnyddio heddiw?’

MAE CERBYD JEHOFA AR GARLAM!

10. Sut mae’r rhan nefol o gyfundrefn Jehofa yn cael ei disgrifio yn llyfr Eseciel?

10 Mae’r Beibl yn dangos y rhan nefol o gyfundrefn Duw inni. Er enghraifft, cafodd y proffwyd Eseciel weledigaeth, ac ynddi roedd y rhan nefol o gyfundrefn Duw yn cael ei chynrychioli gan gerbyd nefol. (Esec. 1:4-28) Mae Jehofa yn reidio ar y cerbyd hwn, ac mae’r cerbyd yn mynd le bynnag mae’r ysbryd yn ei arwain. Yn ei dro, mae’r rhan nefol o’i gyfundrefn yn dylanwadu ar y rhan ddaearol. Yn sicr, mae’r cerbyd wedi bod ar garlam! Meddylia am yr holl newidiadau sydd wedi digwydd yn y gyfundrefn yn ystod y deng mlynedd diwethaf—cofia, Jehofa sydd y tu ôl i’r datblygiadau hyn. Gyda Christ a’r angylion ar fin dinistrio’r byd drwg hwn, mae cerbyd Jehofa yn symud yn gyflym tuag at gyfiawnhau sofraniaeth Duw a sancteiddio ei enw!

Mor ddiolchgar ydyn ni am yr holl wirfoddolwyr sy’n fodlon gweithio mor galed ar brosiectau adeiladu! (Gweler paragraff 11)

11, 12. Beth yw rhai pethau sy’n cael eu cyflawni gan gyfundrefn Jehofa?

11 Myfyria ar yr hyn a gyflawnwyd gan y rhan ddaearol o gyfundrefn Jehofa yn ystod y dyddiau diwethaf. Adeiladu. Mae cannoedd o weithwyr wedi bod yn brysur yn adeiladu pencadlys newydd Tystion Jehofa yn Warwick, Efrog Newydd. O dan arweiniad yr Adran Dylunio ac Adeiladu Byd-Eang, mae miliynau o weithwyr wedi bod yn gweithio’n galed yn fyd-eang i adeiladu Neuaddau’r Deyrnas ac i ehangu adeiladau’r canghennau. Mor ddiolchgar ydyn ni am yr holl wirfoddolwyr sy’n gweithio’n galed ar brosiectau o’r fath! Cofia fod Jehofa yn bendithio cyhoeddwyr y Deyrnas sy’n gweithio ar draws y byd ac sy’n cyfrannu’n ariannol tuag at y prosiectau hyn yn ôl eu hamgylchiadau.—Luc 21:1-4.

12 Addysg. Meddylia am y gwahanol ysgolion sy’n hybu addysg ddwyfol. (Esei. 2:2, 3) Mae gennyn ni’r Ysgol Arloesi, yr Ysgol ar Gyfer Pregethwyr y Deyrnas, Ysgol Gilead, yr Ysgol ar Gyfer Aelodau Newydd Bethel, yr Ysgol ar Gyfer Arolygwyr Cylchdaith a’u Gwragedd, yr Ysgol ar Gyfer Henuriaid, Ysgol Gweinidogaeth y Deyrnas, a’r Ysgol ar Gyfer Aelodau Pwyllgorau Cangen a’u Gwragedd. Mae Jehofa wrth ei fodd yn addysgu ei bobl! Mae addysg ddwyfol hefyd yn cael ei hybu ar ein gwefan, jw.org, lle ceir llenyddiaeth mewn cannoedd o ieithoedd. Mae gan y wefan wahanol rannau ar gyfer plant a theuluoedd, a rhan ar gyfer newyddion. A wyt ti wedi bod yn defnyddio jw.org ar y weinidogaeth ac yn dy addoliad teuluol?

BYDDA’N FFYDDLON I JEHOFA A’I GYFUNDREFN

13. Pa gyfrifoldeb sydd gennyn ni fel gweision Duw?

13 Am fraint yw bod yn rhan o gyfundrefn Jehofa! Mae gwybod am ofynion a safonau Duw yn dod â chyfrifoldeb i wneud yr hyn sy’n iawn ac i ochri â Jehofa. Wrth i’r hen fyd hwn waethygu, mae angen efelychu Jehofa a chasáu drygioni. (Salm 97:10) Rydyn ni’n gwrthod efelychu pobl annuwiol “sy’n galw drwg yn dda a da yn ddrwg.” (Esei. 5:20) Oherwydd ein dymuniad i blesio Duw, rydyn ni’n ceisio bod yn lân yn gorfforol, yn foesol, ac yn ysbrydol. (1 Cor. 6:9-11) Rydyn ni’n caru Jehofa ac yn ymddiried ynddo; rydyn ni’n dewis bod yn ffyddlon iddo drwy fyw yn ôl safonau ei Air gwerthfawr. Rydyn ni’n gwneud pob ymdrech i wneud hynny le bynnag rydyn ni, naill ai yn y cartref, yn y gynulleidfa, yn y gweithle, neu yn yr ysgol. (Diar. 15:3) Meddylia am sut gallwn ni ddangos ein ffyddlondeb i Dduw mewn agweddau eraill o’n bywydau.

14. Sut gall rhieni Cristnogol ddangos eu bod nhw’n ffyddlon i Dduw?

14 Magu plant. Mae rhieni Cristnogol yn dangos eu ffyddlondeb i Jehofa drwy hyfforddi eu plant yn ôl Gair Duw. Nid yw rhieni duwiol yn caniatáu i agweddau diwylliannol lleol ynglŷn â sut i fagu plant orddylanwadu arnyn nhw. Mae ysbryd y byd yn annerbyniol mewn cartref Cristnogol. (Eff. 2:2) Ni fyddai tad Cristnogol bedyddiedig yn meddwl, ‘Wel, yn ein gwlad ni, y gwragedd sy’n dysgu’r plant.’ Mae’r Beibl yn glir ar y pwnc hwn: “Chi’r tadau . . . dylech eu magu a’u dysgu nhw [sef eich plant] i wneud beth mae’r Arglwydd yn ei ddweud.” (Eff. 6:4) Mae rhieni sy’n ofni Duw eisiau i’w plant fod fel Samuel, oherwydd roedd Jehofa gyda Samuel wrth iddo dyfu i fyny.—1 Sam. 3:19.

15. Wrth wneud penderfyniadau mawr, sut rydyn ni’n dangos ein bod ni’n ffyddlon i Jehofa?

15 Gwneud penderfyniadau. Pan ydyn ni’n gwneud penderfyniadau mawr mewn bywyd, un ffordd o fod yn ffyddlon i Dduw yw troi at ei Air a’i gyfundrefn am arweiniad. Er mwyn dangos pa mor bwysig yw gwneud hynny, beth am inni ystyried pwnc sensitif sy’n effeithio ar lawer o rieni? Arfer gan rai mewnfudwyr yw anfon eu babis newydd-anedig at berthnasau i ofalu amdanyn nhw fel gall y rhieni barhau i weithio ac ennill arian yn eu gwledydd newydd. Yn wir, penderfyniad personol yw hyn, ond dylen ni gofio ein bod ni’n atebol i Dduw am ein penderfyniadau. (Darllen Rhufeiniaid 14:12.) Ai peth doeth fyddai gwneud penderfyniadau am ein teuluoedd a’n bywoliaeth cyn troi at y Beibl am arweiniad? Na fyddai! Mae angen help Jehofa arnon ni oherwydd na allwn ni ein harwain ein hunain.—Jer. 10:23.

16. Pan gafodd ei mab ei eni, pa benderfyniad roedd yn rhaid i’r fam ei wneud, a beth a’i helpodd i ddewis yn ddoeth?

16 Tra oedd un ddynes yn byw mewn gwlad dramor, cafodd hi fabi bach, ac roedd hi’n bwriadu anfon y babi yn ôl i’w mamwlad fel bod y nain a’r taid yn gallu gofalu amdano. O gwmpas adeg y geni, dechreuodd un o Dystion Jehofa astudio gyda’r ddynes. Roedd hi’n gwneud cynnydd da a dysgodd fod Jehofa wedi rhoi’r cyfrifoldeb iddi hi i fagu ei phlant i wasanaethu Duw. (Salm 127:3; Diar. 22:6) Roedd y ddynes ifanc yn ymbil ar Jehofa, fel y mae’r Ysgrythurau yn dweud wrthyn ni am ei wneud. (Salm 62:7, 8) Roedd hi hefyd yn siarad yn agored â’r person a oedd yn astudio gyda hi, ac ag eraill yn y gynulleidfa. Er gwaethaf pwysau gan ei pherthnasau a’i ffrindiau i anfon y plentyn at y taid a’r nain, penderfynodd nad oedd hi’n iawn i wneud hynny. Roedd y gŵr yn edmygu’r ffordd roedd y gynulleidfa wedi bod yn noddfa i’w wraig a’r plentyn. Oherwydd hynny, fe ddechreuodd astudio a mynychu’r cyfarfodydd gyda’i wraig a’u plentyn. A wyt ti’n meddwl bod y fam yn teimlo bod Jehofa wedi ateb ei gweddïau? Heb os, roedd hi’n teimlo felly.

17. Pa gyfarwyddyd rydyn ni wedi ei gael ynglŷn â myfyrwyr y Beibl?

17 Dilyn cyfarwyddyd. Un ffordd bwysig o fod yn ffyddlon i Dduw yw dilyn y cyfarwyddyd rydyn ni’n ei dderbyn gan ei gyfundrefn. Er enghraifft, ystyria’r awgrymiadau rydyn ni wedi eu cael ynglŷn â’r ffordd rydyn ni’n dysgu ein myfyrwyr. Unwaith inni sefydlu astudiaeth â rhywun yn y llyfr Beth Mae’r Beibl yn ei Wir Ddysgu?, awgrymwyd inni dreulio ychydig o funudau yn dysgu’r unigolyn am y gyfundrefn. Gallwn wneud hyn drwy ddefnyddio’r fideo Beth Sy’n Digwydd yn Neuadd y Deyrnas? a’r llyfryn Pwy Sy’n Gwneud Ewyllys Jehofa Heddiw? Ar ôl astudio’r llyfr Beibl Ddysgu gyda rhywun sy’n gwneud cynnydd, awgrymwyd inni fynd ymlaen i astudio’r llyfr Cadwch Eich Hunain yng Nghariad Duw,hyd yn oed petai wedi ei fedyddio erbyn hynny. Mae’r gyfundrefn wedi rhoi’r arweiniad hwn fel bod disgyblion newydd yn cael eu gwreiddio yn y ffydd. (Col. 2:7) A wyt ti’n rhoi awgrymiadau cyfundrefn Jehofa ar waith?

18, 19. Pam y dylen ni fod yn ddiolchgar i Jehofa?

18 Mae yna lawer o resymau dros fod yn ddiolchgar i Jehofa! Rydyn ni’n ddyledus iddo am ein bywydau, a hebddo ni fyddwn ni’n gallu byw a bod. (Act. 17:27, 28) Mae wedi rhoi rhodd amhrisiadwy inni—ei Air, y Beibl. Fel roedd y Cristnogion yn Thesalonica yn ei wneud, rydyn ni’n derbyn y Beibl fel neges oddi wrth Dduw, ac yn ei werthfawrogi.—1 Thes. 2:13.

19 Gyda chymorth ysgrifenedig Gair Duw, rydyn ni wedi agosáu at Jehofa, ac mae yntau wedi agosáu aton ninnau. (Iago 4:8) Mae ein Tad nefol wedi rhoi’r fraint anhygoel inni o fod yn rhan o’i gyfundrefn. Mor ddiolchgar ydyn ni am y fendith hon! Dyma eiriau hyfryd y salmydd: “Diolchwch i’r ARGLWYDD! Mae e mor dda aton ni! ‘Mae ei haelioni yn ddiddiwedd.’” (Salm 136:1) Mae Salm 136 yn cynnwys y gytgan “mae ei haelioni yn ddiddiwedd” ddau ddeg chwech o weithiau. Trwy fod yn ffyddlon i Jehofa a’i gyfundrefn, byddwn yn profi gwirionedd y geiriau calonogol hynny oherwydd byddwn ni’n byw am byth!