Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 48

Gorffenna’r Gwaith Rwyt Ti Wedi ei Ddechrau

Gorffenna’r Gwaith Rwyt Ti Wedi ei Ddechrau

“Mae’n bryd i chi orffen y gwaith.”—2 COR. 8:11.

CÂN 35 Pwyso Gwerth y Pethau Pwysicaf

CIPOLWG *

1. Beth mae Jehofa’n gadael inni ei wneud?

MAE Jehofa yn ein gadael ni i ddewis sut byddwn ni’n byw ein bywydau. Mae’n ein dysgu sut i wneud penderfyniadau da, ac mae’n ein helpu i lwyddo pan fyddwn ni’n gwneud penderfyniadau sy’n ei blesio. (Salm 119:173) Felly, pan fyddwn ni’n rhoi ar waith y doethineb yng Ngair Duw, fe fyddwn ni’n gwneud penderfyniadau gwell.—Heb. 5:14.

2. Pa her y gallwn ni ei hwynebu ar ôl gwneud penderfyniad?

2 Hyd yn oed pan fyddwn ni’n gwneud penderfyniad doeth, fodd bynnag, gallen ni ei chael hi’n anodd gorffen beth rydyn ni wedi ei ddechrau. Ystyria rai esiamplau: Mae brawd ifanc yn penderfynu darllen y Beibl cyfan. Mae’n gwneud yn dda am ychydig o wythnosau, ond yna mae’n stopio am ryw reswm. Mae chwaer yn penderfynu arloesi’n llawn amser ond mae hi’n parhau i ohirio’r dyddiad pan fydd hi’n cychwyn. Mae corff henuriaid yn penderfynu’n unfrydol gwneud mwy o alwadau bugeiliol ar rai yn y gynulleidfa ond, ar ôl llawer o fisoedd, maen nhw heb weithredu ar y penderfyniad hwnnw. Mae’r sefyllfaoedd hyn i gyd yn wahanol, ond mae ganddyn nhw rywbeth yn gyffredin. Roedd penderfyniadau’n cael eu gwneud ond doedd neb yn gweithredu arnyn nhw. Roedd Cristnogion y ganrif gyntaf yng Nghorinth yn wynebu problem debyg. Sylwa ar beth rydyn ni’n gallu ei ddysgu oddi wrthyn nhw.

3. Pa benderfyniad a wnaeth y Corinthiaid, ond beth ddigwyddodd?

3 Tua 55 OG, gwnaeth y Corinthiaid benderfyniad pwysig. Dysgon nhw fod eu brodyr yn Jerwsalem a Jwdea yn dioddef caledi a thlodi a bod cynulleidfaoedd eraill yn casglu arian i’w helpu nhw. Oherwydd eu caredigrwydd a’u haelioni, penderfynodd y Corinthiaid helpu’r brodyr mewn angen, felly, dyma nhw’n gofyn i’r apostol Paul ynglŷn â sut gallan nhw helpu. Anfonodd Paul gyfarwyddiadau i’r gynulleidfa a phenododd Titus i helpu i gasglu’r cyfraniadau. (1 Cor. 16:1; 2 Cor. 8:6) Ychydig o fisoedd wedyn, fodd bynnag, dysgodd Paul fod y Corinthiaid heb weithredu ar eu penderfyniad. O ganlyniad, ni fyddai eu rhodd yn barod ar gyfer cael ei chymryd i Jerwsalem ynghyd â chyfraniadau’r cynulleidfaoedd eraill.—2 Cor. 9:4, 5.

4. Yn ôl 2 Corinthiaid 8:7, 10, 11, beth gwnaeth Paul annog y Corinthiaid i’w wneud?

4 Roedd y Corinthiaid wedi gwneud penderfyniad da, a gwnaeth Paul eu canmol am eu ffydd gref a’u hawydd i fod yn hael. Ond, roedd rhaid iddo hefyd eu hannog i orffen beth roedden nhw wedi ei ddechrau. (Darllen 2 Corinthiaid 8:7, 10, 11.) Mae eu profiad yn ein dysgu ni fod hyd yn oed Cristnogion ffyddlon ar adegau yn ei chael hi’n anodd gweithredu ar benderfyniad da.

5. Pa gwestiynau byddwn ni’n eu hateb?

5 Yn debyg i’r Corinthiaid, gallwn ninnau ei chael hi’n anodd gweithredu ar ein penderfyniadau. Pam? Oherwydd amherffeithrwydd, gallen ni ohirio cyn gwneud rhywbeth. Neu gall rhywbeth annisgwyl ddigwydd a’i gwneud hi’n amhosib inni wneud beth rydyn ni wedi penderfynu ei wneud. (Preg. 9:11; Rhuf. 7:18) Sut gallwn ni adolygu penderfyniad a gweld a oes angen ei newid? A sut gallwn ni sicrhau ein bod ni’n gorffen beth rydyn ni’n ei ddechrau?

CYN GWNEUD PENDERFYNIAD

6. Pryd efallai bydd rhaid inni addasu penderfyniad?

6 Mae ’na rai penderfyniadau pwysig fydden ni byth yn eu newid. Er enghraifft, rydyn ni’n glynu wrth ein penderfyniad i wasanaethu Jehofa, ac rydyn ni’n benderfynol o fod yn ffyddlon i’n cymar priodasol. (Math. 16:24; 19:6) Ond, efallai fod ’na benderfyniadau eraill sydd angen eu haddasu. Pam? Oherwydd bod amgylchiadau’n newid. Beth all ein helpu i wneud y penderfyniadau gorau posib?

7. Beth dylen ni weddïo amdano, a pham?

7 Gweddïa am ddoethineb. Gwnaeth Jehofa ysbrydoli Iago i ysgrifennu: “Os oes angen doethineb ar rywun, dylai ofyn i Dduw. Mae Duw yn rhoi yn hael i bawb sy’n gofyn.” (Iago 1:5) Mewn ffordd, mae “angen doethineb” arnon ni i gyd. Felly, dibynna ar Jehofa pan fyddi di’n gwneud penderfyniad a phan fyddi di’n adolygu’r penderfyniad hwnnw. Wedyn, fe fydd Jehofa’n dy helpu i wneud dewisiadau doeth.

8. Pa ymchwil y dylen ni ei gwneud cyn penderfynu ar rywbeth?

8 Gwna ymchwil drylwyr. Darllena Air Duw ynghyd â chyhoeddiadau’r gyfundrefn, a siarada â phobl y gelli di ymddiried ynddyn nhw. (Diar. 20:18) Mae ymchwil o’r fath yn hanfodol cyn gwneud penderfyniad ynglŷn â newid swydd, symud, neu ddewis addysg addas er mwyn iti fedru dy gynnal dy hun yn y weinidogaeth.

9. Sut byddwn ni’n elwa os ydyn ni’n onest â ni’n hunain?

9 Meddylia am dy gymhellion. Mae ein cymhellion yn bwysig i Jehofa. (Diar. 16:2) Mae ef eisiau inni fod yn onest bob amser. Felly, pan fyddwn ni’n gwneud penderfyniadau, mae angen inni fod yn onest â ni’n hunain ac eraill ynglŷn â’n cymhellion. Os nad ydyn ni’n gwbl onest, mae’n debyg y byddai’n anodd inni lynu wrth ein penderfyniad. Er enghraifft, gall brawd ifanc ddewis bod yn arloeswr llawn amser. Ond, ar ôl ychydig, mae’n ei chael hi’n anodd gwneud ei oriau ac mae’n stopio mwynhau’r weinidogaeth. Efallai ei fod yn meddwl mai ei awydd i blesio Jehofa sy’n ei gymell i arloesi. Ond, mewn gwirionedd, efallai ei awydd i blesio ei rieni neu rywun arall sy’n ei gymell.

10. Beth sy’n angenrheidiol er mwyn gwneud newidiadau?

10 Ystyria sefyllfa myfyriwr y Beibl sy’n penderfynu rhoi’r gorau i ysmygu. Ar y cychwyn, nid yw’n ysmygu am wythnos neu ddwy er bod hyn yn anodd iddo. Ond, yn nes ymlaen, mae’n ildio i’r ysfa i ysmygu. Yn y diwedd, sut bynnag, mae’n llwyddo! Mae ei gariad tuag at Jehofa a’i awydd i’w blesio wedi ei helpu i dorri’r arfer.—Col. 1:10; 3:23.

11. Pam mae’n rhaid iti gael amcanion penodol?

11 Bydda’n benodol. Os oes gen ti amcanion penodol, fe fydd hi’n haws iti eu cyrraedd nhw. Er enghraifft, efallai dy fod ti wedi penderfynu darllen y Beibl yn fwy aml. Ond, os nad oes gen ti raglen benodol mewn golwg, efallai na fyddet ti’n cyrraedd dy nod. * Neu, gallai’r henuriaid mewn un gynulleidfa benderfynu gwneud mwy o alwadau bugeiliol ond, ar ôl ychydig, maen nhw heb weithredu ar y penderfyniad hwnnw. Er mwyn bod yn llwyddiannus, gallen nhw ofyn cwestiynau fel y rhain: “Ydyn ni wedi gwneud rhestr o’r brodyr a’r chwiorydd a fyddai’n elwa ar alwad fugeiliol? Ydyn ni wedi dewis amser penodol i ymweld â nhw?”

12. Beth efallai bydd rhaid inni ei wneud, a pham?

12 Bydda’n realistig. Nid oes gan yr un ohonon ni’r amser, yr adnoddau, na’r egni i wneud popeth yr hoffen ni ei wneud. Felly, bydda’n realistig a rhesymol. Pan fydd angen, efallai bydd rhaid iti newid penderfyniad nad wyt ti’n gallu ei gyflawni. (Preg. 3:6) Ond, beth os wyt ti wedi adolygu dy benderfyniad, wedi ei addasu yn ôl yr angen, ac yn teimlo dy fod ti’n gallu gweithredu arno? Ystyria bum peth a all dy helpu i orffen beth rwyt ti wedi ei ddechrau.

SUT I GYFLAWNI DY BENDERFYNIADAU

13. Sut gelli di gael y nerth sydd ei angen arnat ti i gyflawni penderfyniad?

13 Gweddïa am y nerth i weithredu. Gall Duw dy alluogi di “i wneud beth sy’n ei blesio fe” ac i gyflawni dy benderfyniad. (Phil. 2:13) Felly, gofynna i Jehofa am ei ysbryd glân i roi’r nerth sydd ei angen arnat ti. Parha i weddïo hyd yn oed os nad wyt ti’n teimlo bod dy weddi yn cael ei hateb eto. Fel y dywedodd Iesu: “Daliwch ati i ofyn a byddwch yn ei gael [ysbryd glân].”—Luc 11:9, 13.

14. Sut gall yr egwyddor yn Diarhebion 21:5 dy helpu i weithredu ar dy benderfyniad?

14 Gwna gynllun. (Darllen Diarhebion 21:5.) Er mwyn cwblhau unrhyw brosiect rwyt ti’n ei ddechrau, mae’n rhaid iti gael cynllun. Yna, mae angen iti ddilyn y cynllun hwnnw. Yn yr un modd, pan fyddi di’n gwneud penderfyniad, gwna restr o’r camau penodol rwyt ti’n bwriadu eu dilyn er mwyn cyflawni’r penderfyniad hwnnw. Bydd rhannu jobsys mawr yn jobsys bach yn ei gwneud hi’n haws iti gadw golwg ar dy gynnydd. Gwnaeth Paul annog y Corinthiaid i neilltuo arian ar gyfer eu cyfraniad ar “y dydd cyntaf o bob wythnos” yn lle aros a cheisio casglu arian dim ond ar ôl iddo gyrraedd. (1 Cor. 16:2, BCND) Gall rhannu jobsys mawr yn jobsys bach hefyd dy helpu di i osgoi meddwl nad wyt ti’n gallu eu cyflawni nhw.

15. Ar ôl gwneud cynllun, beth gall rhywun ei wneud?

15 Os wyt ti’n ysgrifennu dy gynllun ar bapur, fe fydd hi’n haws iti weithredu arno. (1 Cor. 14:40) Er enghraifft, mae pob corff henuriaid yn cael cyfarwyddyd i benodi henuriad i gofnodi popeth y mae’r corff wedi penderfynu ei wneud, pwy sydd wedi ei aseinio i wneud y gwaith, ac erbyn pryd y dylen nhw ei orffen. Mae henuriaid sy’n dilyn y cyfarwyddyd hwn yn fwy tebygol o gyflawni eu penderfyniadau. (1 Cor. 9:26) Gelli di geisio gwneud rhywbeth tebyg yn dy fywyd pob dydd. Er enghraifft, gallet ti baratoi rhestr bob dydd ac ysgrifennu’r eitemau yn ôl y drefn rwyt ti eisiau delio â nhw. Bydd hyn yn dy helpu di, nid yn unig i orffen beth rwyt ti wedi ei ddechrau, ond hefyd i gyflawni mwy.

16. Beth sy’n hanfodol er mwyn cyflawni dy benderfyniad, a sut mae Rhufeiniaid 12:11 yn cefnogi hyn?

16 Gwna dy orau glas. Mae’n gofyn am ymdrech i ddilyn dy gynllun a chwblhau beth rwyt ti’n ei ddechrau. (Darllen Rhufeiniaid 12:11.) Dywedodd Paul wrth Timotheus i ‘ganolbwyntio’ ar beth roedd yn ei wneud a “dal ati” i wella fel athro. Mae’r cyngor hwnnw hefyd yn berthnasol ar gyfer unrhyw amcanion ysbrydol.—1 Tim. 4:13, 16.

17. Sut gallwn ni roi Effesiaid 5:15, 16 ar waith wrth inni weithredu ar benderfyniad?

17 Defnyddia dy amser yn ddoeth. (Darllen Effesiaid 5:15, 16.) Dewisa amser i weithredu ar dy benderfyniad a glyna wrtho. Osgoi aros am yr amser perffaith i weithredu; mae’n debyg na fydd gen ti byth yr amser perffaith. (Preg. 11:4) Bydda’n ofalus i beidio â gadael i bethau llai pwysig dynnu dy sylw fel na fydd gen ti’r amser na’r egni i wneud pethau mwy pwysig. (Phil. 1:10) Os yw’n bosib, dewisa amser pan na fydd pobl eraill yn debygol o dorri ar draws. Gad i eraill wybod bod angen amser arnat ti i ganolbwyntio. Meddylia am ddiffodd dy ffôn ac edrych ar dy e-byst neu’r cyfryngau cymdeithasol ar adeg wahanol. *

18-19. Beth sy’n gallu dy helpu i ddal ati i weithredu ar dy benderfyniad hyd yn oed yn wyneb heriau?

18 Canolbwyntia ar y canlyniad. Mae canlyniad dy benderfyniad yn debyg i gyrraedd pen y daith. Os wyt ti wir eisiau cyrraedd pen y daith honno, fe fyddet ti’n parhau ar y daith hyd yn oed os yw’r heol o dy flaen ar gau a tithau’n gorfod cael hyd i ffordd arall. Yn yr un ffordd, os ydyn ni’n canolbwyntio ar ganlyniadau ein penderfyniadau, fe fyddwn ni’n dal ati hyd yn oed pan fyddwn ni’n wynebu heriau neu’n gorfod cymryd llwybr arall.—Gal. 6:9.

19 Mae gwneud penderfyniadau da yn anodd, a gall gweithredu arnyn nhw fod yn her. Ond gyda help Jehofa, fe elli di gael y doethineb a’r nerth sydd eu hangen arnat ti i orffen beth rwyt ti’n ei ddechrau.

CÂN 65 Ewch Ymlaen!

^ Par. 5 A wyt ti’n difaru rhai o’r penderfyniadau rwyt ti wedi eu gwneud? Neu a wyt ti’n ei chael hi’n anodd gwneud penderfyniad da ac yna gweithredu arno? Bydd yr erthygl hon yn dy helpu i ddelio â’r heriau hyn a gorffen beth rwyt ti’n ei ddechrau.

^ Par. 11 Er mwyn iti gynllunio dy raglen bersonol o ddarllen y Beibl, gelli di ddefnyddio’r “Rhaglen Darllen y Beibl” sydd ar gael ar jw.org®.

^ Par. 17 Am fwy o awgrymiadau ar sut i ddefnyddio dy amser, gweler yr erthygl “20 Ways to Create More Time” yn rhifyn Ebrill 2010 o’r Deffrwch! Saesneg.