Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 45

Sut Mae’r Ysbryd Glân yn Ein Helpu Ni

Sut Mae’r Ysbryd Glân yn Ein Helpu Ni

“O Dduw mae’r grym anhygoel yma’n dod, dim ohonon ni.”—2 COR. 4:7.

CÂN 104 Anrheg Oddi Wrth Dduw—Yr Ysbryd Glân

CIPOLWG *

1-2. (a) Beth sy’n ein helpu i ddal ati bob dydd? Esbonia. (b) Beth byddwn ni’n ei ystyried yn yr erthygl hon?

“PAN fydda’ i’n meddwl am y treial dw i wedi ei wynebu, dw i’n gwybod allwn i ddim fod wedi ei wynebu ar fy mhen fy hun.” A wyt ti erioed wedi dweud rhywbeth o’r fath? Mae’n debyg dy fod ti. Efallai dy fod ti wedi dweud hynny ar ôl ystyried sut gwnest ti ymdopi â salwch difrifol neu farwolaeth anwylyn. Wrth edrych yn ôl, yr unig reswm roeddet ti’n gallu dal ati bob dydd oedd oherwydd i ysbryd glân Jehofa roi’r “grym anhygoel” iti.—2 Cor. 4:7-9.

2 Rydyn ni hefyd yn dibynnu ar yr ysbryd glân i’n helpu ni i wrthsefyll dylanwad y byd drwg hwn. (1 Ioan 5:19) Ar ben hynny, mae’n rhaid inni frwydro yn erbyn “y fyddin ysbrydol ddrwg.” (Eff. 6:12) Byddwn ni nawr yn ystyried dwy ffordd y mae’r ysbryd glân yn ein helpu ni i ddelio â’r holl broblemau hyn. Yna, byddwn yn trafod beth gallwn ni ei wneud i elwa’n llawn ar yr ysbryd glân.

MAE’R YSBRYD GLÂN YN RHOI NERTH INNI

3. Beth yw un ffordd y mae Jehofa yn ein helpu i ddyfalbarhau yn wyneb treialon?

3 Mae ysbryd glân Jehofa yn ein helpu drwy roi’r nerth inni allu cyflawni ein cyfrifoldebau er gwaethaf treialon. Teimlodd yr apostol Paul ei fod yn gallu parhau i wasanaethu Jehofa er gwaethaf ei dreialon oherwydd iddo ddibynnu ar “nerth y Meseia.” (2 Cor. 12:9) Yn ystod ei ail daith genhadol, roedd Paul yn gweithio’n galed yn y gwaith pregethu ac yn ei gynnal ei hun drwy weithio’n seciwlar. Arhosodd yng Nghorinth yn nhŷ Acwila a Priscila. Gwneud pebyll oedd eu gwaith nhw. Gan fod Paul yn arddel yr un grefft, fe weithiodd gyda nhw’n rhan amser. (Act. 18:1-4) Gwnaeth yr ysbryd glân roi i Paul y nerth i weithio’n seciwlar ac i gyflawni ei weinidogaeth.

4. Yn ôl 2 Corinthiaid 12:7-9, pa broblem oedd gan Paul?

4 Darllen 2 Corinthiaid 12:7-9, BCND. Yn yr adnodau hyn, beth roedd Paul yn ei olygu pan ddywedodd fod ganddo ‘ddraenen yn ei gnawd’? Petasai gen ti ddraenen yn dy gnawd, fe fyddai hynny’n boenus iawn. Felly, roedd Paul yn dweud ei fod yn wynebu treial personol poenus o ryw fath. Dywedodd fod y broblem hon yn debyg i angel Satan yn ei slapio, neu’n ei guro. Efallai nad oedd Satan na’i gythreuliaid yn achosi treialon Paul yn uniongyrchol, fel pe bydden nhw’n gwthio draenen i mewn i’w gnawd. Ond pan wnaeth yr ysbrydion drwg hynny sylwi ar y “ddraenen,” efallai eu bod nhw’n ysu i’w gwthio i mewn yn ddyfnach, er mwyn achosi mwy o boen i Paul. Beth wnaeth Paul?

5. Sut ymatebodd Jehofa i weddïau Paul?

5 Ar y dechrau, roedd Paul eisiau cael gwared ar y “ddraenen.” Mae’n cyfaddef: “Deisyfais ar yr Arglwydd [Jehofa] dair gwaith ar iddo’i symud oddi wrthyf.” Ond, er gwaethaf gweddïau Paul, arhosodd y ddraenen yn ei gnawd. A yw hyn yn golygu na wnaeth Jehofa ateb gweddïau Paul? Ddim o gwbl. Fe wnaeth eu hateb. Ni wnaeth Jehofa gael gwared ar y broblem, ond fe roddodd i Paul y nerth i ddyfalbarhau. Dywedodd Jehofa: “Mae fy nerth i’n gweithio orau mewn gwendid.” (2 Cor. 12:8, 9) A gyda help Duw, roedd Paul yn gallu aros yn llawen a chael heddwch!—Phil. 4:4-7.

6. (a) Sut gall Jehofa ymateb i’n gweddïau? (b) Pa addewidion o’r adnodau yn y paragraff sy’n rhoi nerth iti?

6 Fel Paul, a wyt ti erioed wedi ymbil ar Jehofa i gael gwared ar dreial? Efallai y gwnest ti weddïo’n daer lawer gwaith ond wnaeth y broblem ddim diflannu neu fe waethygodd. A wnest ti boeni bod Jehofa efallai’n anhapus â ti? Os felly, cofia esiampl Paul. Yn union fel y gwnaeth Jehofa ateb gweddïau Paul, fe fydd yn ateb dy weddïau dithau! Efallai na fydd Jehofa’n cael gwared ar y broblem. Ond, drwy ei ysbryd glân, fe fydd yn rhoi iti’r nerth sydd ei angen i ddal ati. (Salm 61:3, 4) Gallet ti gael dy ‘daro i lawr,’ ond ni fydd Jehofa’n troi cefn arnat ti.—2 Cor. 4:8, 9; Phil. 4:13.

MAE’R YSBRYD GLÂN YN EIN SYMUD YN EIN BLAENAU

7-8. (a) Ym mha ffordd y mae’r ysbryd glân yn debyg i’r gwynt? (b) Sut gwnaeth Pedr ddisgrifio’r ffordd y mae’r ysbryd glân yn gweithio?

7 Beth yw ffordd arall y mae’r ysbryd glân yn ein helpu ni? Yn debyg i wynt teg ar fôr stormus, mae’r ysbryd glân yn ein tywys trwy dreialon stormus i harbwr diogel byd newydd Duw.

8 Ac yntau’n bysgotwr, roedd yr apostol Pedr yn gwybod llawer am hwylio. Efallai dyna pam, wrth ddisgrifio sut mae’r ysbryd glân yn gweithio, fe ddefnyddiodd ymadrodd sy’n gysylltiedig â hwylio. Ysgrifennodd: “Dim y proffwyd ei hun oedd yn penderfynu ei fod am ddweud rhywbeth. Er mai pobl oedd yn gwneud y siarad, yr Ysbryd Glân oedd yn eu cymell nhw i siarad.” Mae’r gair Groeg a gyfieithir “cymell” yn golygu yn llythrennol “gyrrwyd ymlaen.”—2 Pedr 1:21.

9. Pa ddarlun geiriol y mae Pedr yn ei roi inni gyda’r ymadrodd “gyrrwyd ymlaen”?

9 Pa ddarlun geiriol y mae Pedr yn ei roi inni â’r ymadrodd “gyrrwyd ymlaen”? Defnyddiodd Luc, ysgrifennwr yr Actau, ffurf debyg ar yr un gair Groeg i ddisgrifio llong sy’n cael ei ‘chario i ffwrdd’ gan y gwynt. (Act. 27:15) Yn ôl un ysgolhaig Beiblaidd, pan ddywedodd Pedr fod ysgrifenwyr y Beibl yn cael eu “gyrru ymlaen,” roedd yn defnyddio “ymadrodd morwrol diddorol iawn.” Mewn ffordd, esboniad Pedr oedd: Fel y mae llong yn cael ei symud yn ei blaen gan y gwynt i gyrraedd pen y daith, cafodd ysgrifenwyr y Beibl eu gyrru yn eu blaenau gan yr ysbryd glân i gyflawni eu gwaith. Dywedodd yr un ysgolhaig: “Mewn geiriau eraill, cododd y proffwydi eu hwyliau.” Gwnaeth Jehofa ei ran yntau, drwy ddarparu’r “gwynt,” neu’r ysbryd glân. Gwnaeth ysgrifenwyr y Beibl eu rhan nhwthau, gan ddilyn arweiniad yr ysbryd hwnnw.

CAM 1: Cael rhan mewn gweithgareddau ysbrydol yn rheolaidd

CAM 2: Gwna waith Jehofa orau y gelli di (Gweler paragraff 11) *

10-11. Pa ddau beth mae angen inni ni eu gwneud i sicrhau bod yr ysbryd glân yn ein harwain? Rho enghraifft.

10 Wrth gwrs, dydy Jehofa ddim yn defnyddio ei ysbryd glân i alluogi pobl i ysgrifennu llyfrau o’r Beibl heddiw. Fodd bynnag, mae Jehofa’n dal i ddefnyddio ei ysbryd i arwain ei weision. Mae’n dal i wneud ei ran yntau. Sut gallwn ni elwa ar ysbryd glân Duw? Mae’n rhaid sicrhau ein bod ni’n parhau i wneud ein rhan ninnau. Sut gallwn ni wneud hynny?

11 Meddylia am y gymhariaeth hon. Er mwyn elwa ar y gwynt, mae’n rhaid i forwr wneud dau beth. Yn gyntaf, rhaid iddo roi ei gwch yn llwybr y gwynt. Wedi’r cyfan, ni fydd ei gwch yn symud yn ei flaen os bydd y morwr yn aros yn yr harbwr yn bell i ffwrdd o le mae’r gwynt yn chwythu. Yn ail, rhaid iddo godi ei hwyliau a’u lledu cymaint â phosib. Wrth gwrs, hyd yn oed pan fydd y gwynt yn chwythu, ni fydd y cwch yn symud yn ei flaen oni fydd yr hwyliau yn dal y gwynt. Mewn modd tebyg, ni allwn ni ddal ati yng ngwasanaeth Jehofa oni bai ein bod ni’n cael help yr ysbryd glân. Er mwyn elwa ar yr ysbryd hwnnw, mae’n rhaid inni wneud dau beth. Yn gyntaf, mae’n rhaid inni ein rhoi ein hunain yn llwybr ysbryd Duw drwy wneud y pethau mae ef yn arwain ei weision i’w gwneud. Yn ail, rhaid inni “godi ein hwyliau” gymaint â phosib drwy wneud y pethau hyn orau y gallwn ni. (Salm 119:32) Pan fyddwn ni’n cymryd y camau hyn, bydd yr ysbryd glân yn rhoi’r nerth inni barhau i wasanaethu Jehofa yn ffyddlon nes ein bod ni’n cyrraedd byd newydd Duw.

12. Beth byddwn ni’n ei ystyried nawr?

12 Hyd yn hyn, rydyn ni wedi trafod dwy ffordd y mae’r ysbryd glân yn ein helpu. Mae’n rhoi nerth inni ac yn ein helpu i aros yn ffyddlon yn wyneb treialon. Mae’r ysbryd glân hefyd yn ein symud ni yn ein blaenau ac yn ein helpu i aros ar y llwybr sy’n arwain at fywyd tragwyddol. Byddwn ni nawr yn ystyried pedwar peth sy’n rhaid inni eu gwneud er mwyn elwa’n llawn ar yr ysbryd glân.

SUT I ELWA’N LLAWN AR YR YSBRYD GLÂN

13. Yn ôl 2 Timotheus 3:16, 17, beth gall yr Ysgrythurau ei wneud i ni, ond beth sy’n rhaid i ninnau ei wneud?

13 Yn gyntaf, drwy astudio Gair Duw. (Darllen 2 Timotheus 3:16, 17.) Mae’r gair Groeg a gyfieithir ‘wedi ei ysbrydoli gan Dduw’ yn golygu yn llythrennol “wedi ei anadlu gan Dduw.” Defnyddiodd Duw ei ysbryd i “anadlu” ei fwriadau i mewn i feddyliau ysgrifenwyr y Beibl. Pan fyddwn ni’n darllen y Beibl ac yn myfyrio arno, mae cyfarwyddiadau Duw yn treiddio i’n meddyliau a’n calonnau. Mae’r meddyliau ysbrydoledig hynny yn ein cymell i fyw ein bywydau yn unol ag ewyllys Duw. (Heb. 4:12) Ond, er mwyn elwa’n llawn ar yr ysbryd glân, mae angen inni neilltuo amser i astudio’r Beibl yn rheolaidd a meddwl yn ddwfn am yr hyn rydyn ni’n ei ddarllen. Yna, bydd Gair Duw yn dylanwadu ar bopeth rydyn ni’n ei ddweud ac yn ei wneud.

14. (a) Pam gallwn ddweud bod y “gwynt yn chwythu” yn ein cyfarfodydd Cristnogol? (b) Sut gallwn ni fynd i’r cyfarfodydd â’n “hwyliau wedi eu lledu”?

14 Yn ail, drwy addoli gyda’n gilydd. (Salm 22:22) Ar un ystyr, mae’r cyfarfodydd Cristnogol yn achlysuron lle mae’r “gwynt yn chwythu,” fel petai. Mae ysbryd Jehofa yn bresennol yn y cyfarfodydd. (Dat. 2:29) Pam gallwn ni ddweud hynny? Oherwydd, pan fyddwn ni’n cwrdd â’n cyd-Gristnogion i addoli, rydyn ni’n gweddïo am yr ysbryd glân, yn canu caneuon y Deyrnas sy’n seiliedig ar Air Duw, ac yn gwrando ar gyfarwyddyd o’r Beibl wedi ei gyflwyno gan frodyr sydd wedi eu penodi gan yr ysbryd glân. Ac mae’r un ysbryd yn helpu chwiorydd i baratoi ar gyfer eu haseiniadau ac i’w gwneud. Er mwyn elwa’n llawn ar yr ysbryd glân, fodd bynnag, mae’n rhaid inni baratoi o flaen llaw i gymryd rhan yn y cyfarfodydd. Yna, byddwn ni’n mynd i’r cyfarfodydd â’n “hwyliau wedi eu lledu.”

15. Sut mae’r ysbryd glân yn ein helpu yn y gwaith pregethu?

15 Yn drydydd, drwy bregethu. Pan fyddwn ni’n defnyddio ein Beibl yn y gwaith o bregethu a dysgu, rydyn ni’n gadael i’r ysbryd glân ein helpu ni yn ein gweinidogaeth. (Rhuf. 15:18, 19) Er mwyn elwa’n llawn ar ysbryd Duw, fodd bynnag, mae’n rhaid iti bregethu’n aml a defnyddio’r Beibl pan fydd hynny’n bosib. Un ffordd o gael sgyrsiau gwell yn y weinidogaeth yw defnyddio’r sgyrsiau enghreifftiol yn Gweithlyfr y Cyfarfodydd.

16. Beth yw’r ffordd fwyaf uniongyrchol o gael yr ysbryd glân?

16 Yn bedwerydd, drwy weddïo ar Jehofa. (Math. 7:7-11; Luc 11:13) Y ffordd fwyaf uniongyrchol o gael yr ysbryd glân yw gofyn i Jehofa amdano mewn gweddi. Ni all unrhyw beth stopio ein gweddïau rhag cyrraedd Jehofa nac ein hatal ni rhag derbyn ei ysbryd. Ni all unrhyw garchar na hyd yn oed Satan wneud hynny chwaith. (Iago 1:17) Sut dylen ni weddïo er mwyn elwa’n llawn ar yr ysbryd glân? I ateb y cwestiwn hwnnw, gad inni ddysgu am y pwnc o weddi drwy ystyried eglureb sydd wedi cael ei chofnodi yn Efengyl Luc yn unig. *

GWEDDÏA’N BARHAOL

17. Pa wers am weddi gallwn ni ei dysgu o eglureb Iesu yn Luc 11:5-9, 13?

17 Darllen Luc 11:5-9, 13. Mae eglureb Iesu yn dangos sut dylen ni weddïo am yr ysbryd glân. Yn yr eglureb, derbyniodd y dyn yr hyn roedd yn ei angen oherwydd ei ddyfalbarhad. Nid oedd yn ofni gofyn i’w ffrind am help er ei bod hi’n hwyr yn y nos. (Gweler y nodyn astudio ar Luc 11:8, nwtsty) Sut gwnaeth Iesu gysylltu’r eglureb hon â gweddi? Dywedodd: “Daliwch ati i ofyn a byddwch yn ei gael; chwiliwch a byddwch yn dod o hyd iddo; curwch y drws a bydd yn cael ei agor.” Felly, beth yw’r wers i ni? Er mwyn derbyn help yr ysbryd glân, mae’n rhaid inni weddïo amdano’n barhaol.

18. Yn ôl eglureb Iesu, pam gallwn fod yn hyderus y bydd Jehofa’n rhoi ei ysbryd glân inni?

18 Mae eglureb Iesu hefyd yn ein helpu i weld pam bydd Jehofa’n rhoi’r ysbryd glân inni. Roedd y dyn yn yr eglureb eisiau edrych ar ôl ei ymwelwr. Teimlodd fod angen iddo roi bwyd i’w ymwelwr a ddaeth yn ystod y nos, ond doedd ganddo ddim byd i’w gynnig. Dywedodd Iesu fod y cymydog wedi rhoi bara i’r dyn oherwydd ei fod wedi parhau i ofyn amdano. Beth oedd gwers Iesu? Os ydy dyn amherffaith yn fodlon helpu cymydog dyfal, gallwn fod yn sicr y bydd ein Tad nefol cariadus yn helpu’r rhai sy’n gofyn am ei ysbryd glân yn barhaol! Felly, gallwn fod yn hyderus y bydd Jehofa’n ymateb i’n gweddïau pan fyddwn ni’n gofyn am ei ysbryd glân.—Salm 10:17; 66:19.

19. Pam gallwn ni fod yn sicr ein bod ni’n gallu dyfalbarhau?

19 Gallwn ni fod yn sicr ein bod ni’n gallu dyfalbarhau er gwaethaf ymosodiadau diderfyn Satan. Pam? Oherwydd bod yr ysbryd glân yn ein helpu mewn dwy ffordd. Yn gyntaf, mae’n rhoi’r nerth rydyn ni’n ei angen i ddal ati yn wyneb treialon. Yn ail, yr ysbryd glân yw’r grym sy’n ein helpu i barhau i wasanaethu Jehofa nes inni gyrraedd y byd newydd. Gad inni fod yn benderfynol o elwa’n llawn ar help yr ysbryd glân!

CÂN 41 Plîs Gwrando ar Fy Ngweddi

^ Par. 5 Mae’r erthygl hon yn esbonio sut gall ysbryd glân Duw ein helpu i ddyfalbarhau. Mae hefyd yn ystyried beth gallwn ni ei wneud i elwa’n llawn ar yr ysbryd glân.

^ Par. 16 Yn fwy nag unrhyw ysgrifennwr arall o’r efengylau, mae Luc yn ein helpu i ddeall bod gweddi yn rhan bwysig o fywyd Iesu.—Luc 3:21; 5:16; 6:12; 9:18, 28, 29; 18:1; 22:41, 44.

^ Par. 59 DISGRIFIADAU O’R LLUNIAU: CAM 1: Mae brawd a chwaer yn cyrraedd Neuadd y Deyrnas. Drwy gwrdd â’u cyd-addolwyr, maen nhw’n cael rhan mewn digwyddiad lle mae ysbryd Jehofa’n bresennol. CAM 2: Maen nhw wedi paratoi i gymryd rhan yn y cyfarfod. Mae dilyn y ddau gam hyn hefyd yn berthnasol ar gyfer y gweithgareddau eraill a drafodwyd yn yr erthygl hon: astudio Gair Duw, cael rhan yn y gwaith pregethu, a gweddïo ar Jehofa.