Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

HANES BYWYD

“Wnaeth Jehofa Gofio Amdana I”

“Wnaeth Jehofa Gofio Amdana I”

DW I’N byw yn Orealla, pentref Amerindiaidd o tua 2,000 o bobl yn Gaiana, De America. Mae’n bentref anghysbell; allwch chi ond ei chyrraedd mewn awyren fach neu gwch.

Ces i fy ngeni ym 1983. Ges i blentyndod arferol i ddechrau, ond pan o’n i’n ddeg oed, dechreuais gael poenau ofnadwy drwy fy nghorff. Tua dwy flynedd wedyn, deffrais un bore ac o’n i’n methu symud. Ni waeth faint o’n i’n trio symud fy nghoesau, doedd ’na ddim nerth ynddyn nhw. A dw i heb gerdded ers y diwrnod hwnnw. Gwnaeth y salwch hefyd achosi imi stopio tyfu. Hyd heddiw, dw i dal mor fach â phlentyn.

O’n i wedi bod yn gaeth i’r tŷ am ychydig fisoedd pan alwodd dau o Dystion Jehofa. Fel arfer, pan oedd ymwelwyr yn galw, o’n i’n trio cuddio, ond y diwrnod hwnnw, wnes i adael i’r merched siarad â mi. Wrth iddyn nhw siarad am Baradwys, ces i fy atgoffa o rywbeth o’n i wedi’i glywed pan o’n i’n bump. Bryd hynny, roedd cenhadwr o’r enw Jethro, oedd yn byw yn Swrinâm, yn dod i’n pentref unwaith y mis ac yn astudio’r Beibl gyda fy nhad. Oedd Jethro yn garedig iawn i mi. O’n i’n hoff iawn ohono. Hefyd, oedd fy Nain a Nhaid yn mynd â fi i rai o gyfarfodydd y Tystion oedd yn cael eu cynnal yn ein pentref. Felly pan ofynnodd Florence, un o’r merched a ddaeth i ’ngweld i y diwrnod hwnnw, “Fyddet ti’n hoffi dysgu mwy?” cytunais yn syth.

Daeth Florence yn ôl gyda’i gŵr, Justus, a dechreuon nhw astudio’r Beibl gyda mi. Pan wnaethon nhw sylwi fy mod i ddim yn gallu darllen, wnaethon nhw ddysgu imi sut i wneud. Ar ôl peth amser, o’n i’n darllen ar ben fy hun. Un diwrnod, dywedodd y cwpl wrtho i eu bod nhw wedi cael eu haseinio i wasanaethu yn Swrinâm. Yn anffodus, doedd ’na neb arall yn Orealla oedd yn gallu parhau â’r astudiaeth. Ond dwi’n falch o ddweud, wnaeth Jehofa gofio amdana i.

Cyn bo hir, daeth arloeswr o’r enw Floyd i Orealla, a gwnaethon ni gyfarfod wrth iddo bregethu o gaban i gaban. Pan wnaeth ef sôn wrtho i am astudio’r Beibl, wnes i wenu. “Pam ’dych chi’n gwenu?” gofynnodd. Dywedais fy mod i wedi astudio’r llyfryn Beth Mae Duw yn ei Ofyn Gennym Ni? yn barod, a fy mod i wedi dechrau astudio’r llyfr Gwybodaeth Sy’n Arwain i Fywyd Tragwyddol. * Wnes i esbonio pam roedd yr astudiaeth wedi stopio. Astudiodd Floyd weddill y llyfr Gwybodaeth gyda mi, ond yna cafodd yntau hefyd ei aseinio i wasanaethu rywle arall. Unwaith eto, doedd gen i neb i ddysgu’r Beibl imi.

Ond yn 2004, cafodd Granville a Joshua, dau arloeswr arbennig, eu haseinio i Orealla. Pregethon nhw o gaban i gaban, a daethon nhw o hyd i mi. Gwenais pan ofynnon nhw os o’n i eisiau astudio. Wnes i ofyn os gawn ni astudio’r llyfr Gwybodaeth o’r cychwyn cyntaf. O’n i eisiau gweld a fyddan nhw’n dysgu’r un pethau oedd fy athrawon gynt wedi dysgu imi. Dywedodd Granville bod cyfarfodydd yn cael eu cynnal yn y pentref. Er nad o’n i wedi gadael fy nghartref ers bron i ddeg mlynedd, o’n i eisiau mynd. Daeth Granville draw a fy helpu i mewn i gadair olwyn, ac yna fy ngwthio i’r Neuadd.

Ymhen amser, gwnaeth Granville fy annog i ymuno ag Ysgol y Weinidogaeth. Dywedodd: “Efallai dy fod ti’n anabl, ond mi fedri di siarad. Un diwrnod, byddi di’n rhoi anerchiad cyhoeddus. Mae’n siŵr o ddigwydd!” Rhoddodd ei eiriau calonogol hyder imi.

Dechreuais fynd ar y weinidogaeth gyda Granville. Ond roedd llawer o’r ffyrdd yn y pentref yn rhy anwastad ar gyfer cadair olwyn. Felly gofynnais i Granville fy rhoi mewn berfa a ngwthio i o gwmpas. Oedd y trefniant hwnnw’n gweithio’n hynod o dda. Yn Ebrill 2005, ces i fy medyddio. Yn fuan wedyn, ces i fy hyfforddi gan y brodyr i ofalu am lenyddiaeth y gynulleidfa ac i ddefnyddio’r system sain yn y Neuadd.

Ond yn drist iawn, yn 2007, bu farw fy nhad mewn damwain cwch. Oedd y teulu mewn sioc. Gweddïodd Granville gyda ni a rhannu adnodau cysurlon o’r Beibl. Ddwy flynedd wedyn, cawson ni’n taro gan drasiedi arall—bu farw Granville mewn damwain cwch.

Cafodd ein cynulleidfa fechan, yn ei galar, ei gadael heb henuriaid a dim ond un gwas gweinidogaethol. Oedd colli Granville yn ergyd fawr; mi oedd yn ffrind annwyl imi. Oedd e wastad wedi fy helpu i glosio at Jehofa a gofalu am fy anghenion corfforol. Yn y cyfarfod cyntaf ar ôl iddo farw, o’n i wedi cael fy aseinio i ddarllen y paragraffau ar gyfer yr Astudiaeth o’r Tŵr Gwylio. Wnes i lwyddo i ddarllen y ddau baragraff cyntaf cyn i’r dagrau dechrau llifo. Felly, oedd rhaid imi ddod oddi ar y llwyfan.

Dechreuais deimlo’n well pan ddaeth brodyr o gynulleidfa arall i’n helpu yn Orealla. Hefyd, anfonodd swyddfa’r gangen Kojo, oedd yn arloeswr arbennig. Er mawr lawenydd imi, dechreuodd fy mam a fy mrawd iau astudio a chawson nhw eu bedyddio. Yna, ym mis Mawrth 2015, ces i fy mhenodi fel gwas gweinidogaethol. Ymhen amser, rhoddais fy anerchiad cyhoeddus cyntaf. Y diwrnod hwnnw, mi wnes i wenu a chrio wrth gofio’r hyn ddywedodd Granville wrtho i flynyddoedd ynghynt: “Un diwrnod, byddi di’n rhoi anerchiad cyhoeddus. Mae’n siŵr o ddigwydd!”

O wylio’r rhaglenni JW Broadcasting®, dw i wedi dysgu bod brodyr a chwiorydd eraill mewn sefyllfa debyg i mi. Ond er gwaethaf eu hanableddau, maen nhw’n byw bywydau hapus a llawn. Dw innau hefyd yn dal yn gallu gwneud rhai pethau. Am fy mod i eisiau defnyddio’r ychydig nerth sydd gen i yng ngwasanaeth Jehofa, wnes i ddechrau arloesi’n llawn amser. Ac wedyn, cefais fy synnu ar yr ochr orau ym Medi 2019, pan ges i fy mhenodi fel henuriad yn ein cynulleidfa o tua 40 o gyhoeddwyr!

Dw i’n gwerthfawrogi’r brodyr a chwiorydd a astudiodd gyda mi a fy helpu i wasanaethu Jehofa. Yn fwy na dim, dw i’n hynod o ddiolchgar fod Jehofa wedi cofio amdana i.

^ Par. 8 Cyhoeddwyd gan Dystion Jehofa ond mae bellach allan o brint.