Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 44

Beth Mae Cariad Ffyddlon Jehofa yn ei Olygu i Ti?

Beth Mae Cariad Ffyddlon Jehofa yn ei Olygu i Ti?

“Mae ei gariad hyd byth.”—SALM 136:1, BCND.

CÂN 108 Cariad Ffyddlon Duw

CIPOLWG *

1. Pa anogaeth mae Jehofa’n ei rhoi inni?

MAE Jehofa wrth ei fodd yn dangos cariad ffyddlon. (Hos. 6:6) Ac mae’n annog ei weision i deimlo’r un fath. Drwy ei broffwyd Micha, mae ein Duw yn ein hannog ni i “garu cariad ffyddlon.” (Mich. 6:8, NWT, tdn.) Yn amlwg, cyn inni allu gwneud hynny, mae’n rhaid inni wybod beth ydy cariad ffyddlon.

2. Beth ydy cariad ffyddlon?

2 Beth ydy cariad ffyddlon? Mae’r ymadrodd “cariad ffyddlon” yn ymddangos tua 230 o weithiau yn y New World Translation of the Holy Scriptures. Mae cariad ffyddlon yn golygu cariad diddarfod sy’n cael ei gymell gan ffyddlondeb cryf. Mae’n cael ei ddefnyddio’n aml i ddisgrifio cariad Duw tuag at fodau dynol, ond hefyd y cariad sydd rhwng bodau dynol. Mae Jehofa wedi gosod yr esiampl orau o ddangos cariad ffyddlon. Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n trafod sut mae Jehofa yn dangos cariad tuag at fodau dynol. Yn yr erthygl nesaf, byddwn ni’n trafod sut gallwn ni, fel gweision Duw, efelychu Jehofa drwy ddangos cariad ffyddlon tuag at ein gilydd.

MAE CARIAD FFYDDLON JEHOFA YN “ANHYGOEL O HAEL”

3. Beth ddywedodd Jehofa wrth Moses amdano’i hun?

3 Yn fuan ar ôl i’r Israeliaid adael yr Aifft, gwnaeth Jehofa sôn wrth Moses am ei enw a’i rinweddau. Dywedodd: “[Jehofa! Jehofa!] mae’n Dduw caredig a thrugarog; mae mor amyneddgar, a’i haelioni a’i ffyddlondeb yn anhygoel! Mae’n dangos cariad di-droi’n-ôl am fil o genedlaethau, ac yn maddau beiau, gwrthryfel a phechod.” (Ex. 34:6, 7) Gyda’r geiriau hyfryd hyn, datgelodd Jehofa rywbeth arbennig iawn i Moses am Ei gariad ffyddlon. Beth oedd hynny?

4-5. (a) Sut gwnaeth Jehofa ddisgrifio ei hun? (b) Pa gwestiynau byddwn ni’n eu hystyried?

4 Mae Jehofa’n disgrifio ei hun fel un sy’n “anhygoel o hael” wrth ddangos cariad ffyddlon, yn ogystal â llawer o rinweddau eraill sydd ynghlwm wrth hynny. (Num. 14:18; Neh. 9:17; Salm 86:15; 103:8; Joel 2:13; Jona 4:2) Bob tro, mae’r disgrifiad hwnnw yn cyfeirio at Jehofa’n unig, nid at bobl. Mae’n ddiddorol bod Jehofa yn pwysleisio ei gariad ffyddlon mor aml yn y Beibl. Mae’n amlwg felly bod cariad ffyddlon yn bwysig iddo. * Does dim syndod fod y Brenin Dafydd wedi dweud: “O ARGLWYDD, mae dy ofal cariadus yn uwch na’r nefoedd; mae dy ffyddlondeb di y tu hwnt i’r cymylau! . . . Mae dy ofal cariadus mor werthfawr, O Dduw! Mae’r ddynoliaeth yn saff dan gysgod dy adenydd.” (Salm 36:5, 7) Ydy cariad ffyddlon Duw mor werthfawr i ni ag yr oedd i Dafydd?

5 I ddeall cariad ffyddlon yn well, gad inni ystyried dau gwestiwn: At bwy mae Jehofa’n dangos cariad ffyddlon? A sut rydyn ni’n elwa pan fydd Jehofa’n dangos cariad ffyddlon aton ni?

AT BWY MAE JEHOFA’N DANGOS CARIAD FFYDDLON?

6. At bwy mae Jehofa’n dangos cariad ffyddlon?

6 At bwy mae Jehofa’n dangos cariad ffyddlon? Mae’r Beibl yn dweud bod ’na lawer o bethau gallwn ni eu caru, fel “ffermio,” “gwin ac olew,” “gwybodaeth,” a “doethineb”—i enwi rhai. (2 Cron. 26:10; Diar. 12:1; 21:17, BCND; 29:3) Ond dydy cariad ffyddlon byth yn cael ei ddangos tuag at bethau, dim ond tuag at bobl. Er hynny, dydy Jehofa ddim yn dangos cariad ffyddlon tuag at rywun-rhywun. Mae’n ei ddangos tuag at y rhai sydd â pherthynas glòs ag ef. Mae ein Duw yn ffyddlon i’w ffrindiau. Mae ganddo bwrpas hyfryd ar eu cyfer, a fydd ef byth yn stopio eu caru.

Mae Jehofa’n rhoi llawer o bethau da i’r ddynoliaeth gyfan, hyd yn oed y rhai sydd ddim yn ei addoli (Gweler paragraff 7) *

7. Sut mae Jehofa wedi dangos cariad tuag at y ddynoliaeth gyfan?

7 Mae Jehofa wedi dangos cariad tuag at y ddynoliaeth gyfan. Dywedodd Iesu wrth ddyn o’r enw Nicodemus: “Mae Duw wedi caru’r byd [dynolryw] cymaint nes iddo roi ei unig Fab, er mwyn i bwy bynnag sy’n credu ynddo beidio mynd i ddistryw ond cael bywyd tragwyddol.”—Ioan 3:1, 16; Math. 5:44, 45.

Yn ôl beth ddywedodd y Brenin Dafydd a’r proffwyd Daniel, mae Jehofa’n dangos cariad ffyddlon tuag at y rhai sy’n ffyddlon iddo, yn ei barchu, yn ei garu, ac yn ufudd iddo (Gweler paragraffau 8-9)

8-9. (a) Pam mae Jehofa’n dangos cariad ffyddlon tuag at ei weision? (b) Beth byddwn ni’n ei ystyried nesaf?

8 Fel dywedon ni gynnau, mae Jehofa ond yn dangos cariad ffyddlon tuag at y rhai sydd â pherthynas glòs ag ef—ei weision. Mae hynny’n amlwg drwy beth ddywedodd y Brenin Dafydd a’r proffwyd Daniel. Er enghraifft, dywedodd Dafydd: “Dal ati i ofalu am y rhai sy’n ffyddlon i ti.” “Mae cariad yr ARGLWYDD at y rhai sy’n ei barchu yn para am byth bythoedd!” A dywedodd Daniel: “Ti’n Dduw ffyddlon sy’n cadw dy ymrwymiad i’r bobl sy’n dy garu ac sy’n ufudd i ti.” (Salm 36:10; 103:17; Dan. 9:4) Yn ôl yr adnodau hyn, mae Jehofa’n dangos cariad ffyddlon tuag at ei weision am eu bod nhw’n ffyddlon iddo, yn ei barchu, yn ei garu, ac yn ufudd iddo. Dim ond tuag at ei wir addolwyr mae Jehofa’n dangos cariad ffyddlon.

9 Cyn inni ddechrau gwasanaethu Jehofa, roedd ef yn dangos yr un cariad tuag aton ni ag y mae’n ei ddangos tuag at y ddynoliaeth gyfan. (Salm 104:14) Ond am ein bod ni bellach yn ei addoli, mae’n dangos ei gariad ffyddlon tuag aton ni ar ben hynny. Mae Jehofa hyd yn oed yn sicrhau ei weision: “Bydd fy nghariad i atoch chi yn aros.” (Esei. 54:10) Ac fel profodd Dafydd ei hun, “Bydd Jehofa yn trin ei un ffyddlon mewn ffordd arbennig.” (Salm 4:3, NWT) Sut dylen ni ymateb i hynny? Dywedodd y salmydd: “Dylai’r rhai sy’n ddoeth gymryd sylw o’r pethau hyn, a myfyrio ar gariad ffyddlon yr ARGLWYDD.” (Salm 107:43) Gyda hynny mewn cof, gad inni ystyried tair ffordd mae Jehofa’n dangos ei gariad ffyddlon, a sut mae ei weision yn elwa o hynny.

SUT GALLWN NI ELWA O GARIAD FFYDDLON JEHOFA?

Mae Jehofa’n rhoi hyd yn oed mwy o bethau da i’r rhai sy’n ei addoli (Gweler paragraffau 10-16) *

10. Sut mae gwybod bod cariad ffyddlon Jehofa yn para am byth yn ein helpu? (Salm 31:7)

10 Mae cariad ffyddlon Duw yn para am byth. Mae Salm 136 yn sôn am y ffaith bwysig hon 26 o weithiau. Mae’r adnod gyntaf yn dweud: “Diolchwch i’r ARGLWYDD am mai da yw, oherwydd mae ei gariad hyd byth.” (Salm 136:1, BCND) Yn adnodau 2 i 26, mae’r geiriau “mae ei gariad hyd byth” yn cael eu hailadrodd. Wrth inni ddarllen gweddill y salm, mae’n anodd peidio â rhyfeddu ar yr holl ffyrdd mae Jehofa’n dangos ei gariad ffyddlon yn ddi-baid. Mae’r geiriau “mae ei gariad hyd byth” yn rhoi sicrwydd inni nad ydy cariad Duw tuag at ei bobl yn newid. Mae’n galonogol iawn i wybod bod Jehofa ddim yn cefnu ar ei bobl ar chwarae bach. Yn hytrach, mae’n glynu at y rhai sy’n ei wasanaethu, yn enwedig drwy adegau anodd. Sut rydyn ni’n elwa: Mae gwybod bod Jehofa’n glynu wrth ein hochr yn rhoi’r llawenydd a’r nerth rydyn ni ei angen i ymdopi â’n treialon a dal ati i’w wasanaethu.—Darllen Salm 31:7.

11. Yn ôl Salm 86:5, beth sy’n cymell Jehofa i faddau?

11 Mae cariad ffyddlon Duw yn ei gymell i faddau. Pan fydd Jehofa yn gweld bod pechadur yn edifar, ac wedi cefnu ar ei ffyrdd pechadurus, mae cariad ffyddlon yn Ei gymell i faddau iddo. Dywedodd y salmydd Dafydd am Jehofa: “Wnaeth e ddim delio gyda’n pechodau ni fel roedden ni’n haeddu, na talu’n ôl i ni am ein holl fethiant.” (Salm 103:8-11) Gwyddai Dafydd o’i brofiad poenus ei hun gymaint o faich gall cydwybod euog fod. Ond gwnaeth ef hefyd ddod i wybod bod Jehofa “yn dda ac yn maddau.” Beth sy’n cymell Jehofa i faddau? Mae’r ateb yn Salm 86:5. (Darllen.) Ie, mae cariad ffyddlon Jehofa yn anhygoel o hael, felly fel dywedodd Dafydd mewn gweddi, dyna pam mae Jehofa yn maddau i bawb sy’n galw arno.

12-13. Os ydy euogrwydd am gamgymeriadau’r gorffennol yn pwyso’n drwm arnon ni, beth all ein helpu?

12 Pan fyddwn ni’n pechu, mae’n briodol—yn iach hyd yn oed—i deimlo’n sori. Gall ein cymell i edifarhau a chymryd camau i gywiro ein camgymeriadau. Ond mae rhai o weision Duw wedi cael eu llethu gan euogrwydd am gamgymeriadau’r gorffennol. Mae eu calonnau twyllodrus yn gwneud iddyn nhw feddwl na fydd Jehofa byth yn maddau iddyn nhw, ni waeth pa mor edifar ydyn nhw. Os wyt ti’n delio â theimladau o’r fath, bydd dysgu am ba mor barod ydy Duw i ddangos cariad ffyddlon tuag at ei weision yn dy helpu.

13 Sut rydyn ni’n elwa: Er gwaethaf ein hamherffeithion, gallwn ni wasanaethu Jehofa yn llawen â chydwybod lân. Mae hyn yn bosib am fod “gwaed Iesu ei Fab yn ein glanhau ni o bob pechod.” (1 Ioan 1:7) Pan wyt ti’n ddigalon am ryw wendid, cofia fod Jehofa yn fodlon, a hyd yn oed yn awyddus, i faddau i bechadur edifar. Sylwa ar y cysylltiad wnaeth Dafydd rhwng cariad ffyddlon a maddeuant. Ysgrifennodd: “Fel mae’r nefoedd yn uchel uwch y ddaear, mae ei gariad ffyddlon fel tŵr dros y rhai sy’n ei barchu.” Aeth ymlaen i ddweud bod Jehofa’n rhoi ein pechodau “mor bell [oddi wrthon ni] ag y mae’r dwyrain o’r gorllewin.” (Salm 103:11, 12) Ydy, mae Jehofa “mor barod i faddau.”—Esei. 55:7.

14. Sut gwnaeth Dafydd ddisgrifio’r ffordd mae cariad ffyddlon Duw yn ein hamddiffyn?

14 Mae cariad ffyddlon Duw yn ein hamddiffyn yn ysbrydol. Mewn gweddi i Jehofa, dywedodd Dafydd: “Yr wyt ti’n gysgod i mi; cedwi fi rhag cyfyngder; amgylchi fi â chaneuon gwaredigaeth. . . . Ond am y sawl sy’n ymddiried yn yr ARGLWYDD, bydd ffyddlondeb yn ei amgylchu.” (Salm 32:7, 10, BCND) Yn union fel roedd y waliau oedd yn amgylchynu dinas ers talwm yn amddiffyn y bobl ynddi, felly mae cariad ffyddlon Jehofa yn ein hamgylchynu ni, ac yn ein hamddiffyn rhag y pethau allai ddifetha ein perthynas ag ef. Ar ben hynny, mae cariad ffyddlon Jehofa yn ei gymell i’n denu ni ato.—Jer. 31:3.

15. Pa gysylltiad sydd ’na rhwng cariad ffyddlon Jehofa a chastell a hafan?

15 Defnyddiodd Dafydd gymhariaeth arall i ddisgrifio’r ffordd mae Jehofa’n amddiffyn ei bobl. Ysgrifennodd: “O Dduw, rwyt fel craig ddiogel i mi—y Duw ffyddlon.” Dywedodd hefyd: “Mae’r Un ffyddlon fel castell o’m cwmpas; fy hafan ddiogel a’r un sy’n fy achub i. Fy nharian, a’r un dw i’n cysgodi ynddo.” (Salm 59:17; 144:2) Pam gwnaeth Dafydd gysylltu cariad ffyddlon Jehofa â chastell a hafan? Cyn belled ein bod ni’n weision iddo, bydd Jehofa’n rhoi popeth rydyn ni’n ei angen i amddiffyn ein perthynas werthfawr ag ef ni waeth lle rydyn ni’n byw ar y ddaear. Mae Salm 91 yn cadarnhau hynny. Dywedodd ysgrifennwr y salm honno: “ARGLWYDD, rwyt ti’n gaer ddiogel, yn lle hollol saff i mi fynd.” (Salm 91:1-3, 9, 14) Defnyddiodd Moses gymhariaeth debyg. (Salm 90:1) Ar ben hynny, tuag at ddiwedd ei oes, tynnodd Moses sylw at fanylyn bach hyfryd. Ysgrifennodd: “Mae’r Duw sydd o’r dechrau’n le diogel, a’i freichiau tragwyddol oddi tanat.” (Deut. 33:27) Beth mae’r ymadrodd ‘mae ei freichiau tragwyddol oddi tanat’ yn ei ddweud wrthon ni am Jehofa?

16. Ym mha ffyrdd mae Jehofa’n ein helpu ni? (Salm 136:23)

16 Pan ydyn ni’n sicr bydd Jehofa’n ein hamddiffyn ni, rydyn ni’n teimlo’n ddiogel. Ond efallai weithiau, bydd digalondid yn ein llorio, a does dim byd yn gwneud inni deimlo’n well. Ar adegau felly, beth bydd Jehofa’n ei wneud i’n helpu ni? (Darllen Salm 136:23.) Bydd yn rhoi ei freichiau oddi tanon ni, ac yn ein helpu i godi’n ôl ar ein traed. (Salm 28:9; 94:18) Sut rydyn ni’n elwa: Mae gwybod ein bod ni’n wastad yn gallu dibynnu ar Dduw yn ein helpu i gofio ein bod ni wedi’n bendithio mewn dwy ffordd. Yn gyntaf, rydyn ni’n gwybod y bydd Jehofa wastad yn ein hamddiffyn, ni waeth lle rydyn ni’n byw. Yn ail, mae ein Tad nefol cariadus yn gofalu amdanon ni.

PAM MAE CARIAD FFYDDLON DUW YN RHOI HYDER INNI

17. Beth gallwn ni fod yn sicr ohono oherwydd cariad ffyddlon Duw? (Salm 33:18-22)

17 Fel rydyn ni wedi trafod, gallwn fod yn hyderus y bydd Jehofa’n gefn inni yn wyneb treialon fel ein bod ni’n gallu aros yn ffyddlon iddo. (2 Cor. 4:7-9) Dywedodd y proffwyd Jeremeia: “Mae cariad ffyddlon yr ARGLWYDD yn ddiddiwedd, a’i garedigrwydd e’n para am byth.” (Galar. 3:22) Gallwn fod yn sicr y bydd Jehofa’n parhau i ddangos cariad ffyddlon aton ni am fod y Beibl yn dweud ei fod yn “gofalu am ei bobl, sef y rhai sy’n credu ei fod e’n ffyddlon.”—Darllen Salm 33:18-22.

18-19. (a) Beth rydyn ni eisiau ei gofio? (b) Beth byddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl nesaf?

18 Beth rydyn ni eisiau ei gofio? Cyn inni ddechrau gwasanaethu Jehofa, roedd ef yn dangos yr un cariad aton ni ag y mae’n ei ddangos at y ddynoliaeth gyfan. Ond fel ei weision, rydyn ni hefyd yn elwa o’i gariad ffyddlon. Oherwydd y cariad hwnnw, rydyn ni’n ddiogel ym mreichiau Jehofa. Bydd ef wastad yn ein cadw ni’n agos ato, ac yn cadw ei addewidion. Mae ef eisiau inni lwyddo! (Salm 46:1, 2, 7) Felly, ni waeth pa dreialon rydyn ni’n eu hwynebu, bydd Jehofa’n rhoi’r nerth rydyn ni’n ei angen i aros yn ffyddlon iddo.

19 Rydyn ni wedi gweld sut mae Jehofa’n dangos cariad ffyddlon tuag at ei weision. Ond mae hefyd yn disgwyl i ni ddangos cariad ffyddlon tuag at ein gilydd. Sut gallwn ni wneud hynny? Bydd yr erthygl nesaf yn trafod y pwnc pwysig hwnnw.

CÂN 136 “Tâl Llawn” gan Jehofa

^ Par. 5 Beth ydy cariad ffyddlon? At bwy mae Jehofa’n dangos cariad ffyddlon, a sut maen nhw’n elwa ohono? Bydd yr atebion i’r cwestiynau hyn yn cael eu hystyried yn y cyntaf o’r ddwy erthygl sy’n trafod y rhinwedd anhygoel hon.

^ Par. 4 Mae’r syniad o ba mor fawr ydy cariad ffyddlon Duw hefyd yn cael ei ddisgrifio mewn adnodau eraill yn y Beibl.—Gweler Nehemeia 13:22; Salm 69:13; 106:7; a Galarnad 3:32.

^ Par. 54 DISGRIFIAD O’R LLUN: Mae Jehofa yn dangos ei gariad tuag at y ddynoliaeth gyfan, gan gynnwys ei weision. Mae’r lluniau bach uwchben y grŵp o bobl yn dangos rhai o’r ffyrdd mae Duw yn dangos ei gariad. Y pwysicaf ydy’r cyfle i elwa ar y pridwerth.

^ Par. 62 DISGRIFIAD O’R LLUN: Mae’r rhai sy’n dod yn weision i Jehofa ac yn rhoi ffydd yn y pridwerth yn cael eu trin gan Jehofa mewn ffordd arbennig. Yn ogystal ag elwa o’r cariad mae Jehofa’n ei ddangos tuag at y ddynoliaeth gyfan, mae ei weision yn elwa o’i gariad ffyddlon. Mae’r lluniau bach yn dangos enghreifftiau o’i gariad ffyddlon.