Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 46

Cyplau Sydd Newydd Briodi—Canolbwyntiwch ar Wasanaethu Jehofa

Cyplau Sydd Newydd Briodi—Canolbwyntiwch ar Wasanaethu Jehofa

“Mae’r ARGLWYDD yn rhoi nerth i mi; . . . Dw i’n ei drystio fe’n llwyr.”—SALM 28:7.

CÂN 131 ‘Yr Hyn Mae Duw Wedi’i Uno’

CIPOLWG *

1-2. (a) Pam dylai cyplau sydd newydd briodi ddibynnu ar Jehofa? (Salm 37:3, 4) (b) Beth byddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl hon?

WYT ti ar fin priodi, neu wyt ti newydd briodi? Os felly, mae’n siŵr dy fod ti’n edrych ymlaen at fwynhau bywyd gyda’r person rwyt ti’n ei garu gymaint. Wrth gwrs, mae ’na heriau i fywyd priodasol, ac mae ’na benderfyniadau pwysig i’w gwneud. Bydd y penderfyniadau rydych chi’n eu gwneud fel cwpl, a’r ffordd rydych chi’n delio â heriau, yn effeithio ar eich hapusrwydd am flynyddoedd i ddod. Os byddwch chi’n dibynnu ar Jehofa, byddwch chi’n gwneud penderfyniadau doeth, bydd eich priodas yn cryfhau, a byddwch chi’n hapusach. Ond, os nad ydych chi’n rhoi cyngor Duw ar waith, byddwch chi’n debygol o gael problemau a fydd yn rhoi eich priodas o dan straen, a fyddwch chi ddim yn hapus.—Darllen Salm 37:3, 4.

2 Er bod yr erthygl hon yn sôn am gyplau sydd newydd briodi, bydd yn trafod heriau gall pob cwpl priod eu hwynebu. Bydd hefyd yn trafod beth gallwn ni ei ddysgu o esiamplau dynion a merched ffyddlon yn y Beibl. Mae’r esiamplau hyn o’r Beibl yn dysgu gwersi inni gallwn roi ar waith yn ein bywydau ac yn ein priodas. Byddwn ni hefyd yn gweld beth gallwn ni ei ddysgu oddi wrth brofiadau rhai cyplau heddiw.

PA HERIAU GALL CYPLAU SYDD NEWYDD BRIODI EU HWYNEBU?

Pa benderfyniadau allai rwystro cyplau sydd newydd briodi rhag gwneud mwy yng ngwasanaeth Jehofa? (Gweler paragraffau 3-4)

3-4. Pa heriau gall cyplau sydd newydd briodi eu hwynebu?

3 Efallai bydd rhai pobl yn annog cwpl sydd newydd briodi i ddilyn y dorf a byw fel pawb arall. Er enghraifft, efallai bydd rhieni a pherthnasau eraill yn rhoi cwpl o dan bwysau i gael plant cyn gynted â phosib. Neu efallai bydd teulu a ffrindiau sydd â bwriadau da yn annog cwpl sydd newydd briodi i brynu tŷ a’i lenwi â phethau materol.

4 Os nad ydyn nhw’n ofalus, gall cwpl wneud penderfyniadau fydd yn achosi iddyn nhw fynd i ddyled fawr. Yna mae’n debyg bydd rhaid i’r gŵr a’r wraig weithio oriau hir er mwyn talu’r dyledion hynny. Efallai byddan nhw’n gorfod gweithio gymaint fel nad oes ganddyn nhw ddigon o amser ar gyfer astudiaeth Feiblaidd bersonol, addoliad teuluol, a’r weinidogaeth. Efallai bydd y cwpl hyd yn oed yn methu cyfarfodydd i weithio goramser er mwyn ennill mwy o arian, neu er mwyn sicrhau eu bod nhw’n gallu cadw eu swyddi. O ganlyniad, maen nhw’n colli allan ar gyfleoedd cyffrous i wneud mwy i Jehofa.

5. Beth rwyt ti’n ei ddysgu o esiampl Klaus a Marisa?

5 Mae llawer o esiamplau yn profi nad ydy canolbwyntio ein bywydau ar gasglu pethau materol yn arwain at hapusrwydd. Ystyria beth ddysgodd cwpl o’r enw Klaus a Marisa yn hyn o beth. * Ar ddechrau eu bywyd priodasol, roedd y ddau ohonyn nhw’n gweithio’n llawn amser fel eu bod nhw’n gallu cael bywyd cyfforddus. Ond, doedden nhw ddim wir yn hapus. Mae Klaus yn cyfaddef: “Oedd gynnon ni fwy nag oedden ni angen yn faterol, ond doedd gynnon ni ddim amcanion ysbrydol. A dweud y gwir, roedd bywyd yn gymhleth ac yn llawn straen.” Efallai dy fod tithau hefyd wedi sylwi nad ydy canolbwyntio ar gasglu pethau materol wedi dy wneud di’n hapus. Os felly, paid â digalonni. Gall ystyried yr esiamplau da mae eraill wedi eu gosod dy helpu di i wneud y newidiadau angenrheidiol. Yn gyntaf, gad inni drafod beth gall gwŷr ei ddysgu o esiampl y Brenin Jehosaffat.

FEL Y BRENIN JEHOSAFFAT, TRYSTIA JEHOFA

6. Sut gwnaeth y Brenin Jehosaffat roi’r cyngor yn Diarhebion 3:5, 6 ar waith pan oedd ef yn wynebu problem ddifrifol?

6 Os wyt ti’n ŵr, ydy dy gyfrifoldebau weithiau yn dy lethu? Os felly, gelli di elwa o esiampl y Brenin Jehosaffat. Fel brenin, roedd Jehosaffat yn gyfrifol am ddiogelwch y wlad gyfan! Sut gwnaeth ef ofalu am y cyfrifoldeb enfawr hwnnw? Mi wnaeth Jehosaffat bopeth yn ei allu i amddiffyn y rhai o dan ei ofal. Aeth ati i gryfhau dinasoedd Jwda, a chasglu byddin anferth o dros 1,160,000 o filwyr. (2 Cron. 17:12-19) Yn hwyrach ymlaen, gwnaeth Jehosaffat wynebu problem ddifrifol. Roedd byddin fawr o Ammoniaid, Moabiaid, a dynion o ardal fynyddig Seir yn ei fygwth ef, ei deulu, a’i bobl. (2 Cron. 20:1, 2) Beth wnaeth Jehosaffat? Trodd at Jehofa am help a nerth. Roedd hyn yn unol â’r cyngor doeth yn Diarhebion 3:5, 6. (Darllen.) Mae gweddi ostyngedig Jehosaffat yn 2 Cronicl 20:5-12, yn dangos cymaint roedd yn trystio ei Dad nefol cariadus. Sut gwnaeth Jehofa ymateb i weddi Jehosaffat?

7. Sut gwnaeth Jehofa ymateb i weddi Jehosaffat?

7 Defnyddiodd Jehofa Lefiad o’r enw Iachsiel i siarad â Jehosaffat. Dywedodd Jehofa: “Byddwch yn sefyll lle rydych chi, ac yn gweld yr ARGLWYDD yn eich achub.” (2 Cron. 20:13-17) Yn sicr, dydy hynny ddim yn dacteg arferol ar gyfer brwydro! Er hynny, wnaeth y cyfarwyddiadau hyn ddim dod gan berson dynol; daethon nhw oddi wrth Jehofa. Gan drystio ei Dduw yn llwyr, dilynodd Jehosaffat y cyfarwyddiadau. Pan aeth ef a’i bobl allan i wynebu’r gelyn, nid ei filwyr gorau wnaeth ef roi ar y blaen, ond y cerddorion oedd heb arfau. Wnaeth Jehofa ddim siomi Jehosaffat; gwnaeth Ef drechu byddin y gelyn.—2 Cron. 20:18-23.

Gall cyplau sydd newydd briodi ganolbwyntio ar wasanaethu Jehofa drwy weddïo ac astudio ei Air (Gweler paragraffau 8, 10)

8. Beth gall gwŷr ei ddysgu o esiampl Jehosaffat?

8 Os wyt ti’n ŵr, gelli di ddysgu o esiampl Jehosaffat. Rwyt ti’n gyfrifol am ofalu am dy deulu, felly rwyt ti’n gweithio’n galed i’w hamddiffyn a’u cynnal nhw. Pan fyddi di’n wynebu problemau, efallai byddi di’n teimlo y gelli di eu datrys nhw ar dy ben dy hun. Ond, paid â dibynnu ar dy nerth dy hun. Yn hytrach, gweddïa’n breifat ar Jehofa am ei help. Ar ben hynny, gweddïa’n daer gyda dy wraig. Chwilia am arweiniad gan Jehofa drwy astudio’r Beibl a chyhoeddiadau cyfundrefn Duw, a rho ar waith y cyngor rwyt ti’n ei ffeindio. Efallai na fydd eraill yn cytuno â’r penderfyniadau rwyt ti’n eu gwneud ar sail y Beibl, ac efallai byddan nhw hyd yn oed yn dweud wrthot ti dy fod ti’n wirion. Hwyrach byddan nhw’n dweud mai arian a’r pethau mae’n gallu ei brynu ydy’r ffordd orau o amddiffyn dy deulu. Ond, cofia esiampl Jehosaffat. Roedd ef yn trystio Jehofa, ac yn profi hynny drwy beth roedd ef yn ei wneud. Wnaeth Jehofa ddim troi ei gefn ar y dyn ffyddlon hwnnw, a fydd ef ddim yn troi ei gefn arnat tithau chwaith. (Salm 37:28; Heb. 13:5) Beth arall gall cyplau ei wneud i sicrhau eu bod nhw’n cael bywyd hapus gyda’i gilydd?

FEL Y PROFFWYD ESEIA A’I WRAIG, CANOLBWYNTIWCH AR WASANAETHU JEHOFA

9. Beth gallwn ni ei ddweud am y proffwyd Eseia a’i wraig?

9 Y peth pwysicaf ym mywyd y proffwyd Eseia a’i wraig oedd gwasanaethu Jehofa. Roedd Eseia yn broffwyd, ac efallai roedd gan ei wraig ei gwaith proffwydol ei hun, am ei bod hi’n cael ei galw’n “broffwydes.” (Esei. 8:1-4, BCND) Fel cwpl, mae’n amlwg fod Eseia a’i wraig wedi canolbwyntio ar eu gwasanaeth i Jehofa. Am esiampl wych i gyplau priod heddiw!

10. Sut gall astudio proffwydoliaethau’r Beibl helpu cyplau priod i wneud popeth allan nhw yng ngwasanaeth Jehofa?

10 Gall cyplau priod heddiw efelychu Eseia a’i wraig drwy wneud popeth allan nhw yng ngwasanaeth Jehofa. Gallan nhw ddod i drystio Jehofa fwy drwy astudio proffwydoliaethau’r Beibl gyda’i gilydd a gweld sut maen nhw wastad yn dod yn wir. * (Titus 1:2) Hefyd, gallan nhw helpu i gyflawni rhai o broffwydoliaethau’r Beibl. Er enghraifft, gallan nhw helpu i gyflawni proffwydoliaeth Iesu y byddai’r newyddion da yn cael ei bregethu drwy’r byd i gyd cyn i’r diwedd ddod. (Math. 24:14) Y mwyaf sicr ydy cwpl fod proffwydoliaethau’r Beibl wrthi’n cael eu cyflawni, y mwyaf penderfynol byddan nhw o wneud popeth allan nhw yng ngwasanaeth Jehofa.

FEL PRISCILA AC ACWILA, RHOWCH Y DEYRNAS YN GYNTAF

11. Beth roedd Priscila ac Acwila yn gallu ei wneud, a pham?

11 Gall cyplau priod ifanc ddysgu oddi wrth Priscila ac Acwila, cwpl Iddewig oedd yn byw yn ninas Rhufain. Roedden nhw wedi dysgu’r newyddion da am Iesu, ac wedi dod yn Gristnogion. Yn sicr, roedden nhw’n fodlon gyda’u sefyllfa. Ond, newidiodd eu bywydau yn sydyn pan wnaeth yr Ymerawdwr Clawdiws orchymyn i bob Iddew adael Rhufain. Meddylia beth roedd hynny’n ei olygu i Priscila ac Acwila. Byddai’n rhaid iddyn nhw adael yr ardal roedden nhw’n ei hadnabod, dod o hyd i gartref newydd, ac ail-ddechrau eu busnes gwneud pebyll. A wnaeth yr heriau newydd hyn eu rhwystro nhw rhag rhoi’r Deyrnas yn gyntaf? Mae’n debyg dy fod ti’n gwybod yr ateb i’r cwestiwn hwnnw. Yn eu cartref newydd yng Nghorinth, gwnaeth Acwila a Priscila ddechrau helpu’r gynulleidfa leol a gweithio gyda’r apostol Paul i atgyfnerthu’r brodyr yno. Yn hwyrach ymlaen, symudon nhw i drefi eraill lle roedd ’na fwy o angen am bregethwyr. (Act. 18:18-21; Rhuf. 16:3-5) Mae’n rhaid eu bod nhw wedi mwynhau bywyd hynod o hapus a phrysur gyda’i gilydd!

12. Pam dylai cwpl priod osod amcanion ysbrydol?

12 Gall cyplau heddiw efelychu Priscila ac Acwila drwy roi’r Deyrnas yn gyntaf. Yr adeg orau i gwpl drafod eu hamcanion mewn bywyd ydy tra maen nhw’n canlyn. Pan fydd cwpl yn gwneud penderfyniadau gyda’i gilydd, ac yn gweithio’n galed i gyrraedd yr un amcanion ysbrydol, bydd ganddyn nhw fwy o gyfleoedd i weld ysbryd Jehofa ar waith yn eu bywydau. (Preg. 4:9, 12) Ystyria brofiad Russell ac Elizabeth. Dywedodd Russell, “Tra oedden ni’n canlyn, wnaethon ni drafod pa amcanion ysbrydol penodol oedden ni eisiau eu cyrraedd.” Dywedodd Elizabeth, “Wnaethon ni drafod hynny er mwyn gwneud yn siŵr bod ein penderfyniadau yn y dyfodol ddim yn stopio ni rhag cyrraedd yr amcanion hynny.” Gwnaeth amgylchiadau Russell ac Elizabeth ganiatáu iddyn nhw symud i Feicronesia i wasanaethu lle roedd mwy o angen am gyhoeddwyr.

Gall cyplau sydd newydd briodi ganolbwyntio ar wasanaethu Jehofa drwy osod amcanion ysbrydol (Gweler paragraff 13)

13. Yn ôl Salm 28:7, beth fydd yn digwydd pan fyddwn ni’n trystio Jehofa?

13 Fel Russell ac Elizabeth, mae llawer o gyplau wedi penderfynu cadw eu bywydau’n syml er mwyn treulio gymaint o amser â phosib yn pregethu a dysgu’r newyddion da. Pan fydd cwpl yn gosod amcanion da yng ngwasanaeth Jehofa, ac yna’n gweithio gyda’i gilydd i’w cyrraedd, bydd llawer o bethau da yn digwydd o ganlyniad i hynny. Byddan nhw’n gweld sut mae Jehofa yn gofalu amdanyn nhw, byddan nhw’n ei drystio’n fwy, a byddan nhw’n dod yn wirioneddol hapus.—Darllen Salm 28:7.

FEL YR APOSTOL PEDR A’I WRAIG, TRYSTIWCH ADDEWIDION JEHOFA

14. Sut gwnaeth yr apostol Pedr a’i wraig ddangos eu bod nhw’n trystio’r addewid yn Mathew 6:25, 31-34?

14 Gall cyplau priod hefyd dysgu o esiampl yr apostol Pedr a’i wraig. Rhwng tua chwe mis a blwyddyn ar ôl iddo gyfarfod Iesu, roedd rhaid i’r apostol Pedr wneud penderfyniad pwysig. Roedd Pedr yn ennill bywoliaeth yn pysgota. Felly, pan ofynnodd Iesu i Pedr ei ddilyn yn llawn amser, roedd rhaid i Pedr feddwl am ei wraig. (Luc 5:1-11) Dewisodd Pedr fynd a phregethu gyda Iesu. Mi wnaeth ef ddewis yn ddoeth! Ac mae gynnon ni reswm da i gredu bod gwraig Pedr wedi cefnogi ei benderfyniad. Yn ôl y Beibl, roedd hi wedi teithio gyda Pedr am rywfaint o amser o leiaf ar ôl i Iesu gael ei atgyfodi. (1 Cor. 9:5) Yn sicr, roedd ei hesiampl fel gwraig Gristnogol yn rhoi rhyddid i Pedr roi cyngor i wŷr a gwragedd Cristnogol. (1 Pedr 3:1-7) Yn amlwg, roedd Pedr a’i wraig yn trystio addewid Jehofa y byddai’n gofalu amdanyn nhw os byddan nhw’n rhoi’r Deyrnas yn gyntaf yn eu bywydau.—Darllen Mathew 6:25, 31-34.

15. Beth rwyt ti’n ei ddysgu o brofiad Tiago ac Esther?

15 Os ydych chi wedi bod yn briod am rai blynyddoedd bellach, sut gallwch chi barhau i feithrin yr awydd i ehangu eich gweinidogaeth? Un ffordd yw trwy ddysgu o brofiadau cyplau eraill. Er enghraifft, gallwch chi ddarllen y gyfres “Gwasanaethu o’u Gwirfodd.” Gwnaeth erthyglau o’r fath helpu Tiago ac Esther, cwpl priod o Frasil, i feithrin awydd cryf i wasanaethu lle mae’r angen yn fwy. Esboniodd Tiago: “Wrth inni ddarllen profiadau am sut mae Jehofa wedi helpu ei weision yn ein hoes ni, oedden ninnau hefyd eisiau gweld llaw Jehofa yn ein bywydau.” Yn y pen draw, gwnaethon nhw symud i Baragwâi, ac maen nhw wedi bod yn gwasanaethu yno yn y maes Portiwgaleg ers 2014. Dywedodd Esther: “Un adnod mae’r ddau ohonon ni’n hoff iawn ohoni ydy Effesiaid 3:20. Rydyn ni wedi gweld y geiriau hynny yn dod yn wir yn ein gwasanaeth i Jehofa dro ar ôl tro.” Yn y llythyr hwnnw at yr Effesiaid, addawodd Paul y byddai Jehofa’n rhoi llawer mwy nag ydyn ni’n gofyn amdano. Ac mae hynny mor wir!

Gall cyplau sydd newydd briodi ganolbwyntio ar wasanaethu Jehofa drwy ofyn am gyngor gan rai aeddfed (Gweler paragraff 16)

16. Gan bwy gall cyplau ifanc ofyn am gyngor?

16 Gall cyplau ifanc heddiw elwa o brofiad eraill sydd wedi dysgu i ddibynnu ar Jehofa. Efallai bod rhai cyplau wedi treulio degawdau yn gwasanaethu’n llawn amser. Beth am ofyn iddyn nhw am gyngor os ydych chi’n meddwl bod angen ichi asesu eich amcanion? Mae hyn yn ffordd arall i ddangos eich bod chi’n trystio Jehofa. (Diar. 22:17, 19) Gall henuriaid hefyd helpu cyplau priod ifanc i osod amcanion ysbrydol a’u cyrraedd.

17. Beth ddigwyddodd i Klaus a Marisa, a beth rydyn ni’n ei ddysgu o’u profiad?

17 Wrth asesu ein hamcanion mewn bywyd, weithiau fydd ein penderfyniad i ehangu ein gwasanaeth ddim yn troi allan fel roedden ni wedi disgwyl. Ystyria esiampl Klaus a Marisa gwnaethon ni sôn amdanyn nhw ar y cychwyn. Ar ôl bod yn briod am dair blynedd, symudon nhw i ffwrdd o’u cartref a gwirfoddoli i wneud gwaith adeiladu yng nghangen y Ffindir. Ond, daethon nhw i wybod na fyddan nhw’n cael aros yno am fwy na chwe mis. I ddechrau roedden nhw wedi siomi, ond yn fuan wedyn cawson nhw eu gwahodd i fynd ar gwrs Arabeg, ac maen nhw bellach yn gwasanaethu’n hapus yn y maes Arabeg mewn gwlad arall. Wrth edrych yn ôl, mae Marisa yn cyfaddef: “Oedd gen i ofn gwneud rhywbeth hollol newydd, ac roedd rhaid imi drystio Jehofa yn llwyr. Ond dw i wedi gweld sut mae Jehofa wastad wedi ein helpu ni mewn ffyrdd annisgwyl. Ac o ganlyniad i hynny, dw i’n trystio Jehofa yn fwy byth.” Fel mae’r profiad hwn yn dangos, gelli di fod yn sicr y bydd Jehofa wastad yn dy wobrwyo di os wyt ti’n ei drystio’n llwyr.

18. Beth gall cyplau priod ei wneud i barhau i drystio Jehofa?

18 Mae priodas yn rhodd gan Jehofa. (Math. 19:5, 6) Mae ef eisiau i gyplau priod fwynhau’r rhodd honno. (Diar. 5:18) Chi gyplau ifanc, beth am ystyried beth rydych chi’n ei wneud â’ch bywyd? Ydych chi’n gwneud popeth allwch chi i ddangos i Jehofa gymaint rydych chi’n gwerthfawrogi’r rhoddion mae ef wedi eu rhoi i chi? Siaradwch â Jehofa mewn gweddi. Chwiliwch yn ei Air am egwyddorion sy’n berthnasol yn eich sefyllfa chi. Yna, dilynwch y cyngor mae Jehofa yn ei roi ichi. Gallwch chi fod yn sicr y byddwch chi’n cael bywyd hapus llawn bendithion os ydych chi’n canolbwyntio ar wasanaethu Jehofa gyda’ch gilydd!

CÂN 132 Nawr Rydym yn Un

^ Par. 5 Mae rhai o’r penderfyniadau rydyn ni’n eu gwneud yn gallu cael effaith ar faint o amser ac egni sydd gynnon ni i wasanaethu Jehofa. Mae cyplau sydd newydd briodi yn enwedig, yn wynebu penderfyniadau a allai effeithio ar weddill eu bywydau. Bydd yr erthygl hon yn eu helpu i wneud penderfyniadau doeth sy’n arwain at fywyd hapus.

^ Par. 5 Newidiwyd rhai enwau.