ERTHYGL ASTUDIO 45
Daliwch Ati i Ddangos Cariad Ffyddlon Tuag at Eich Gilydd
“Byddwch . . . yn garedig a thrugarog at eich gilydd.”—SECH. 7:9.
CÂN 107 Patrwm Dwyfol Gariad
CIPOLWG *
1-2. Pa resymau da sydd gynnon ni dros ddangos cariad ffyddlon tuag at ein gilydd?
MAE gynnon ni resymau da dros ddangos cariad ffyddlon tuag at ein gilydd. Beth yw rhai ohonyn nhw? Sylwa sut mae’r Diarhebion canlynol yn ateb y cwestiwn hwnnw: “Bydd yn garedig ac yn ffyddlon bob amser . . . yna byddi’n cael enw da gan Dduw a chan bobl eraill.” “Mae person caredig yn gwneud lles iddo’i hun.” “Mae’r un sy’n ceisio gwneud beth sy’n iawn a bod yn garedig yn cael bywyd.”—Diar. 3:3, 4; 11:17; 21:21.
2 Mae’r Diarhebion hynny yn sôn am dri rheswm pam dylen ni ddangos cariad ffyddlon. Yn gyntaf, mae dangos cariad ffyddlon yn ein gwneud ni’n werthfawr yng ngolwg Duw. Yn ail, rydyn ni’n hunain yn elwa pan fyddwn ni’n dangos cariad ffyddlon. Er enghraifft, rydyn ni’n gwneud ffrindiau sy’n glynu wrth ein hochr. Ac yn drydydd, mae dangos cariad ffyddlon yn arwain at fendithion yn y dyfodol, gan gynnwys bywyd tragwyddol. Oes, mae gynnon ni resymau da i ufuddhau i eiriau Jehofa: “Byddwch . . . yn garedig a thrugarog at eich gilydd.”—Sech. 7:9.
3. Pa gwestiynau byddwn ni’n eu trafod yn yr erthygl hon?
3 Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n trafod yr atebion i bedwar cwestiwn. At bwy dylen ni ddangos cariad ffyddlon? Beth gallwn ni ei ddysgu o lyfr Ruth am ddangos cariad ffyddlon? Sut gallwn ni ddangos cariad ffyddlon heddiw? Pa fendithion sy’n dod i’r rhai sy’n dangos cariad ffyddlon?
AT BWY DYLEN NI DDANGOS CARIAD FFYDDLON?
4. Sut gallwn ni efelychu Jehofa o ran dangos cariad ffyddlon? (Marc 10:29, 30)
4 Fel dysgon ni yn yr erthygl gynt, mae Jehofa yn dangos ei gariad ffyddlon dim ond i’r rhai sy’n ei garu ac yn ei wasanaethu. (Dan. 9:4) Rydyn ni eisiau ‘dilyn esiampl Duw, gan ein bod ni’n blant annwyl iddo.’ (Eff. 5:1) Felly, rydyn ni eisiau meithrin cariad ffyddlon tuag at ein brodyr a chwiorydd ysbrydol.—Darllen Marc 10:29, 30.
5-6. Ym mha gyd-destun mae’r gair “ffyddlondeb” yn cael ei ddefnyddio fel arfer?
5 Mae’n siŵr byddi di’n cytuno mai’r mwyaf yn y byd byddwn ni’n deall ystyr cariad ffyddlon, y gorau yn y byd byddwn ni’n gallu ei ddangos tuag at ein brodyr a chwiorydd. Er mwyn deall cariad ffyddlon yn well, gad inni weld sut mae’n cymharu â ffyddlondeb, fel mae’r gair yn cael ei ddefnyddio fel arfer. Ystyria enghraifft.
6 Heddiw gallen ni ddisgrifio rhywun sydd wedi gweithio i’r un cwmni am lawer o flynyddoedd fel gweithiwr ffyddlon. Ond eto, yn ei holl flynyddoedd gyda’r cwmni, efallai nad ydy ef erioed wedi cyfarfod yr un o’r perchnogion. Efallai nad ydy ef wastad yn cytuno â pholisïau’r cwmni. Dydy ef ddim yn caru’r cwmni, ond mae’n falch o gael swydd sy’n talu. Bydd ef yn parhau i weithio yno nes iddo ymddeol, oni bai bod ef yn cael cynnig swydd well yn rhywle arall.
7-8. (a) Beth sy’n cymell rhywun i ddangos cariad ffyddlon? (b) Pam byddwn ni’n ystyried rhannau o lyfr Ruth?
7 Y gwahaniaeth rhwng ffyddlondeb fel gwnaethon ni drafod ym mharagraff 6 a chariad ffyddlon ydy cymhelliad rhywun. Pam gwnaeth gweision Duw yn adeg y Beibl ddangos cariad ffyddlon? Am fod eu calonnau yn eu cymell nhw, nid am fod rhaid iddyn nhw. Ystyria esiampl Dafydd. Gwnaeth ei galon ei gymell i ddangos cariad ffyddlon tuag at ei ffrind annwyl Jonathan, er bod tad Jonathan eisiau lladd Dafydd. Flynyddoedd ar ôl i Jonathan farw, daliodd Dafydd ati i ddangos cariad ffyddlon tuag at fab Jonathan, Meffibosheth.—1 Sam. 20:9, 14, 15; 2 Sam. 4:4; 8:15; 9:1, 6, 7.
8 Gallwn ddysgu llawer am gariad ffyddlon drwy ystyried rhannau o lyfr Ruth yn y Beibl. Pa wersi am gariad ffyddlon gallwn ni eu dysgu oddi wrth unigolion yn y llyfr hwnnw? Sut gallwn ni roi’r gwersi hynny ar waith yn ein cynulleidfa? *
BETH GALLWN NI EI DDYSGU O LYFR RUTH AM DDANGOS CARIAD FFYDDLON?
9. Pam daeth Naomi i’r casgliad fod Jehofa yn ei herbyn?
9 Yn llyfr Ruth, rydyn ni’n darllen hanes Naomi, ei merch yng nghyfraith Ruth, a dyn duwiol o’r enw Boas, oedd yn perthyn i ŵr Naomi. Oherwydd roedd ’na newyn yn Israel, symudodd Naomi, ei gŵr, a’u dau mab i Moab. Bu farw gŵr Naomi tra oedden nhw yno. Gwnaeth ei dau mab briodi, ond yn anffodus, buon nhwthau farw hefyd. (Ruth 1:3-5; 2:1) Gwnaeth y trychinebau hyn achosi i Naomi suddo i anobaith. Gwnaeth hi ddigalonni gymaint daeth hi i’r casgliad fod Jehofa yn ei herbyn. Sylwa ar sut gwnaeth hi fynegi ei theimladau am Dduw. Dywedodd: “Yr ARGLWYDD sydd wedi gwneud i mi ddiodde.” “Mae’r Un sy’n rheoli popeth wedi gwneud fy mywyd i’n chwerw iawn.” Dywedodd hi hefyd: “Mae Duw wedi sefyll yn fy erbyn i, a’r Un sy’n rheoli popeth wedi dod â drwg arna i.”—Ruth 1:13, 20, 21.
10. Sut gwnaeth Jehofa ymateb i eiriau chwerw Naomi?
10 Sut gwnaeth Jehofa ymateb i eiriau chwerw Naomi? Wnaeth ef ddim cefnu arni a hithau wedi llethu. I’r gwrthwyneb, dangosodd empathi tuag ati. Mae Jehofa’n deall bod “cyfnod anodd yn gallu gyrru’r un doeth o’i gof.” (Preg. 7:7, NWT) Ond eto, roedd Naomi angen help i weld bod Jehofa ar ei hochr hi. Sut gwnaeth Duw ei helpu hi? (1 Sam. 2:8) Gwnaeth ef ysgogi Ruth i ddangos cariad ffyddlon tuag at Naomi. Yn fodlon ac yn garedig, gwnaeth Ruth godi calon ei mam yng nghyfraith, a helpu hi i wybod bod Jehofa dal yn ei charu. Beth rydyn ni’n ei ddysgu o esiampl Ruth?
11. Pam mae brodyr a chwiorydd caredig yn helpu’r rhai digalon?
11 Mae cariad ffyddlon yn ein cymell i helpu’r rhai digalon. Yn union fel gwnaeth Ruth lynu wrth ochr Naomi, mae brodyr a chwiorydd caredig heddiw yn glynu wrth ochr y rhai yn y gynulleidfa sy’n drist neu’n ddigalon. Maen nhw’n caru eu brodyr a chwiorydd, ac yn awyddus i wneud beth bynnag allan nhw i’w helpu. (Diar. 12:25; 24:10) Mae hyn yn dilyn anogaeth yr apostol Paul, pan ddywedodd: “Annog y rhai sy’n ddihyder, helpu’r rhai gwan, a bod yn amyneddgar gyda phawb.”—1 Thes. 5:14.
12. Yn aml, beth yw’r ffordd fwyaf effeithiol o helpu brawd neu chwaer ddigalon?
12 Yn aml, y ffordd fwyaf effeithiol o helpu rhywun digalon yn y gynulleidfa yw drwy wrando arnyn nhw a dweud wrthyn nhw dy fod ti’n ei garu. Mae Jehofa yn ddiolchgar iawn am yr hyn rwyt ti’n ei wneud i helpu ei ddefaid annwyl. (Salm 41:1) Mae Diarhebion 19:17 yn dweud: “Mae rhoi yn hael i’r tlawd fel benthyg i’r ARGLWYDD; bydd e’n talu’n ôl iddo am fod mor garedig.”
13. Sut roedd penderfyniad Ruth yn wahanol i un Orpa, a sut dangosodd Ruth gariad ffyddlon? (Gweler y llun ar y clawr.)
13 Rydyn ni’n deall cariad ffyddlon yn well drwy ystyried beth ddigwyddodd i Naomi ar ôl marwolaeth ei gŵr a’i meibion. Pan glywodd Naomi bod “Duw wedi rhoi bwyd i’w bobl,” gwnaeth hi benderfynu mynd yn ôl adref. (Ruth 1:6) Cychwynnodd ei dwy ferch yng nghyfraith ar hyd y daith gyda hi. Ond, dair gwaith ar hyd y ffordd, gwnaeth Naomi ddweud wrth y merched i fynd yn ôl i Moab. Beth ddigwyddodd? Rydyn ni’n darllen: “Dyma Orpa’n rhoi cusan i ffarwelio â Naomi. Ond roedd Ruth . . . yn gwrthod gollwng gafael.” (Ruth 1:7-14) Drwy ddewis mynd yn ôl, roedd Orpa yn dilyn cyfarwyddiadau Naomi, ac yn gwneud beth roedd disgwyl iddi ei wneud. Ond aeth Ruth tu hwnt i hynny. Roedd hithau hefyd yn rhydd i adael, ond allan o gariad ffyddlon, gwnaeth hi benderfynu aros i helpu Naomi. (Ruth 1:16, 17) Dewisodd Ruth i lynu wrth ochr Naomi, nid allan o ddyletswydd, ond am ei bod hi eisiau gwneud hynny. Dangosodd Ruth gariad ffyddlon go iawn. Beth rydyn ni’n ei ddysgu o’r hyn a wnaeth Ruth?
14. (a) Pa ddewis mae brodyr a chwiorydd cariadus yn ei wneud heddiw? (b) Yn ôl Hebreaid 13:16, pa aberthau sy’n plesio Duw?
14 Mae cariad ffyddlon yn mynd tu hwnt i’r disgwyl. Fel yn y gorffennol, mae llawer o frodyr a chwiorydd heddiw wedi dewis dangos cariad ffyddlon tuag at gyd-gredinwyr, hyd yn oed rhai dydyn nhw erioed wedi eu cyfarfod. Er enghraifft, pan maen nhw’n cael clywed bod trychineb naturiol wedi taro’n rhywle, maen nhw eisiau gwybod ar unwaith sut gallan nhw helpu. Pan fydd arian yn brin i rywun yn y gynulleidfa, dydyn nhw ddim yn dal yn ôl rhag cynnig help ymarferol i’r person hwnnw. Fel Macedoniaid y ganrif gyntaf, maen nhw’n mynd y tu hwnt i’r disgwyl. Maen nhw’n gwneud aberthau personol, ac yn rhoi ‘cymaint ag y maen nhw’n gallu ei fforddio a mwy’ er mwyn helpu eu brodyr llai ffodus. (2 Cor. 8:3) Yn sicr, mae Jehofa’n falch o weld y fath gariad ffyddlon!—Darllen Hebreaid 13:16.
SUT GALLWN NI DDANGOS CARIAD FFYDDLON HEDDIW?
15-16. Sut dangosodd Ruth ei bod hi’n benderfynol?
15 Gallwn ni ddysgu nifer o wersi da drwy ystyried hanes Ruth a Naomi yn y Beibl. Gad inni ystyried rhai ohonyn nhw.
16 Dalia ati i drio helpu. Pan wnaeth Ruth gynnig mynd gyda’i mam yng nghyfraith i Jwda, gwrthododd Naomi i ddechrau. Ond roedd Ruth yn benderfynol. Beth oedd y canlyniad? “Pan welodd Naomi fod Ruth yn benderfynol o fynd gyda hi, ddwedodd hi ddim mwy am y peth.”—Ruth 1:15-18.
17. Beth fydd yn ein helpu ni i ddal ati i drio helpu?
17 Y wers: Mae helpu’r rhai digalon yn gofyn am amynedd, ond dylen ni ddal ati i drio eu helpu. Efallai bydd chwaer mewn angen yn gwrthod ein help i gychwyn. * Ond eto, bydd cariad ffyddlon yn ein cymell i wneud ein gorau i lynu wrth ei hochr. (Gal. 6:2) Rydyn ni’n gobeithio y byddai hi, yn y pen draw, yn gadael inni ei helpu a’i chysuro.
18. Beth allai fod wedi ypsetio Ruth?
18 Paid â chymryd pethau’n bersonol. Pan gyrhaeddodd Naomi a Ruth Fethlehem, gwelodd Naomi ei chyn cymdogion. Dywedodd hi wrthyn nhw: “Roedd fy mywyd i yn llawn pan es i o ma, ond mae Duw wedi dod â fi yn ôl yn wag.” (Ruth 1:21) Dychmyga sut roedd Ruth yn teimlo o glywed y geiriau hynny gan Naomi! Roedd Ruth wedi mynd allan o’i ffordd i helpu Naomi. Roedd Ruth wedi crio gyda hi, ei chysuro hi, a cherdded gyda hi am ddyddiau. Er hyn i gyd, dywedodd Naomi: “Mae Duw wedi dod â fi yn ôl yn wag.” Drwy ddweud hynny, wnaeth Naomi ddim hyd yn oed cydnabod cefnogaeth Ruth oedd yn sefyll reit wrth ei hymyl. Am ergyd fyddai hynny wedi bod i Ruth! Ond eto, gwnaeth hi lynu wrth ochr Naomi.
19. Beth fydd yn ein helpu ni i lynu wrth ochr rhywun sy’n ddigalon?
19 Y wers: Efallai bydd chwaer sy’n ddigalon yn dweud rhywbeth sy’n ein brifo Diar. 17:17.
ni—er gwaethaf ein holl ymdrechion i’w helpu hi. Ond rydyn ni’n trio peidio â’i chymryd yn bersonol. Rydyn ni’n glynu wrth ochr ein chwaer mewn angen, ac yn gofyn i Jehofa ein helpu i ffeindio ffordd i’w chysuro.—20. Beth roddodd y nerth i Ruth allu dal ati?
20 Rho anogaeth. Roedd Ruth wedi dangos cariad ffyddlon tuag at Naomi. Ond nawr, roedd Ruth ei hun angen anogaeth. A gwnaeth Jehofa ysgogi Boas i’w hannog. Dywedodd Boas wrth Ruth: “Boed i Dduw dy wobrwyo di am wneud hyn. Byddi’n cael dy dâl yn llawn gan yr ARGLWYDD, Duw Israel, yr un wyt wedi dod i gysgodi dan ei adain.” Roedd y geiriau caredig hynny yn gysur mawr i Ruth. Dyma Ruth yn ateb Boas: “Ti wedi rhoi tawelwch meddwl i mi ac wedi codi fy nghalon i.” (Ruth 2:12, 13) Daeth anogaeth Boas ar yr union adeg roedd Ruth ei angen, a rhoddodd ei eiriau y nerth iddi allu dal ati.
21. Yn ôl Eseia 32:1, 2, beth bydd henuriaid cariadus yn ei roi?
21 Y wers: Mae’r rhai sy’n dangos cariad ffyddlon tuag at eraill weithiau angen anogaeth eu hunain. Yn union fel roedd Boas wedi sylwi ar garedigrwydd Ruth ac wedi canmol hi am hynny, mae henuriaid heddiw yn cydnabod yr help mae brodyr a chwiorydd cariadus yn ei roi ac yn diolch iddyn nhw amdano. Bydd canmoliaeth amserol a chynnes o’r fath yn rhoi’r nerth mae’r brodyr a chwiorydd ei angen i ddal ati.—Darllen Eseia 32:1, 2.
PA FENDITHION SY’N DOD I’R RHAI SY’N DANGOS CARIAD FFYDDLON?
22-23. Sut gwnaeth teimladau Naomi newid, a pham? (Salm 136:23, 26)
22 Ar ôl i beth amser fynd heibio, rhoddodd Boas lwyth o fwyd i Ruth a Naomi fel anrheg. (Ruth 2:14-18) Beth oedd ymateb Naomi i haelioni Boas? “Bendith yr ARGLWYDD arno!” meddai Naomi, “Mae [Jehofa] wedi bod yn garedig aton ni sy’n fyw a’r rhai sydd wedi marw.” (Ruth 2:20a) Am drobwynt roedd hyn i Naomi! Yn gynharach, roedd hi wedi dweud yn ei dagrau: “Mae Duw wedi sefyll yn fy erbyn i,” ond nawr, dywedodd hi yn llawen: “Mae [Jehofa] wedi bod yn garedig aton ni.” Pam roedd teimladau Naomi wedi newid gymaint?
23 Dechreuodd Naomi weld llaw Jehofa yn ei bywyd. Roedd Jehofa wedi defnyddio Ruth i roi’r gefnogaeth roedd ei hangen ar y siwrnai i Jwda. (Ruth 1:16) Hefyd, gwelodd Naomi fod Jehofa wedi defnyddio Boas i’w helpu hi a Ruth. * (Ruth 2:19, 20b) Mae’n rhaid ei bod hi wedi meddwl, ‘Dw i’n deall nawr. Wnaeth Jehofa erioed fy ngadael i. Mae ef wedi bod gyda mi yr holl amser!’ (Darllen Salm 136:23, 26.) Mae’n rhaid bod hi hefyd yn ddiolchgar fod Ruth a Boas ddim wedi cefnu arni! Gallwn ni ddychmygu bod y tri ohonyn nhw wrth eu boddau am fod Naomi wedi adennill ei llawenydd a’i nerth i wasanaethu Jehofa.
24. Pam rydyn ni eisiau parhau i ddangos cariad ffyddlon tuag at ein brodyr a chwiorydd?
24 Beth rydyn ni wedi ei ddysgu am gariad ffyddlon o lyfr Ruth? Mae cariad ffyddlon yn ein cymell i fod yn benderfynol o helpu ein brodyr a chwiorydd sy’n ddigalon. Mae hefyd yn ein cymell i wneud ymdrech arbennig er mwyn eu helpu. Mae henuriaid angen rhoi anogaeth amserol a chynnes i’r rhai sy’n dangos cariad ffyddlon tuag at eraill. Pan fyddwn ni’n gweld sut mae rhai mewn angen yn adennill eu nerth ysbrydol, rydyn ni’n wirioneddol hapus. (Act. 20:35) Ond beth ydy’r prif reswm pam rydyn ni’n parhau i ddangos cariad ffyddlon? Am ein bod ni eisiau efelychu a phlesio Jehofa, sy’n dangos cariad ffyddlon “anhygoel.”—Ex. 34:6; Salm 33:22.
CÂN 130 Byddwch Faddeugar
^ Par. 5 Mae Jehofa eisiau inni ddangos cariad ffyddlon tuag at ein brodyr a chwiorydd yn y gynulleidfa. Gallwn ni ddeall beth ydy cariad ffyddlon yn well drwy edrych ar sut gwnaeth rhai o weision Duw yn y gorffennol ddangos y rhinwedd hon. Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n ystyried beth gallwn ni ei ddysgu o esiamplau Ruth, Naomi, a Boas.
^ Par. 8 I elwa’n llawn o’r erthygl hon, rydyn ni’n dy annog i ddarllen Ruth pennod 1 a 2 yn bersonol.
^ Par. 17 Am ein bod ni’n ystyried esiampl Naomi, rydyn ni’n cyfeirio at chwiorydd mewn angen. Ond mae’r pwyntiau yn yr erthygl hon yr un mor berthnasol i frodyr.
^ Par. 23 Am fwy o wybodaeth am rôl Boas yn helpu’r ddwy ddynes, gweler yr erthygl “Imitate Their Faith—‘An Excellent Woman,’” yn rhifyn Hydref 1, 2012, Y Tŵr Gwylio Saesneg, t. 20.