Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 47

Pa Mor Gryf Fydd Dy Ffydd?

Pa Mor Gryf Fydd Dy Ffydd?

“Peidiwch cynhyrfu . . . credwch yn Nuw.”—IOAN 14:1.

CÂN 119 Rhaid Inni Gael Ffydd

CIPOLWG *

1. Pa gwestiwn gallwn ni ei ofyn i’n hunain?

WYT ti weithiau’n poeni am y digwyddiadau sydd o’n blaenau ni—dinistr gau grefydd, ymosodiad Gog o dir Magog, a rhyfel Armagedon? Wyt ti weithiau’n gofyn i ti dy hun, ‘A fydda i’n gallu aros yn ffyddlon pan fydd y pethau brawychus yma’n digwydd?’ Os ydy pethau felly wedi croesi dy feddwl, bydd yr erthygl hon, sy’n trafod geiriau Iesu fel sydd yn y brif adnod, yn dy helpu. Dywedodd Iesu wrth ei ddisgyblion: “Peidiwch cynhyrfu . . . credwch yn Nuw.” (Ioan 14:1) Bydd ffydd gref yn ein helpu i wynebu’r dyfodol yn ddewr.

2. Sut gallwn ni gryfhau ein ffydd, a beth byddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl hon?

2 Gallwn ni gryfhau ein ffydd ar gyfer treialon y dyfodol drwy ystyried sut rydyn ni’n delio â threialon nawr. O feddwl am hynny, cawn weld lle rydyn ni angen cryfhau ein ffydd. Gyda phob prawf rydyn ni’n ei basio, mae ein ffydd ni’n cryfhau. Bydd hyn yn ein helpu i wynebu treialon y dyfodol yn llwyddiannus. Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n trafod pedair sefyllfa gwnaeth disgyblion Iesu eu hwynebu oedd yn dangos eu bod nhw angen mwy o ffydd. Byddwn ni wedyn yn trafod sut gallwn ni wynebu heriau tebyg heddiw, a sut gall y rheini ein paratoi ni ar gyfer y dyfodol.

FFYDD Y BYDD DUW YN GOFALU AM EIN HANGHENION MATEROL

Efallai byddwn ni’n wynebu problemau ariannol, ond bydd ein ffydd yn ein helpu i ganolbwyntio ar y Deyrnas (Gweler paragraffau 3-6)

3. Beth mae geiriau Iesu yn Mathew 6:30, 33, yn ein helpu ni i’w ddeall?

3 Mae’n naturiol i benteulu fod eisiau rhoi lloches a digon o fwyd a dillad i’w wraig a’i blant. Dydy hynny ddim wastad yn hawdd yn yr adegau anodd hyn. Mewn rhai achosion, mae ein cyd-gredinwyr wedi colli eu swydd, ac er eu bod nhw’n trio eu gorau glas, dydyn nhw ddim wedi cael hyd i un arall eto. Mae eraill wedi gorfod gwrthod gwaith sydd ddim yn addas i Gristion. Pan fydd pethau felly’n digwydd, rydyn ni angen ffydd gref y bydd Jehofa’n gwneud yn siŵr ein bod ni’n gallu gofalu am anghenion ein teulu. Gwnaeth Iesu hynny’n glir i’w ddisgyblion yn ei Bregeth ar y Mynydd. (Darllen Mathew 6:30, 33.) Pan ydyn ni’n hollol sicr na fydd Jehofa’n cefnu arnon ni, byddwn ni’n gallu hoelio ein sylw lle mae i fod—ar y Deyrnas. Ac wrth inni weld sut mae Jehofa’n ein helpu ni gyda’n hanghenion materol, bydd yn dod yn fwy real inni a bydd ein ffydd yn cryfhau.

4-5. Beth helpodd un teulu i ddelio â phryderon am eu hanghenion materol?

4 Ystyria sut gwnaeth teulu yn Feneswela weld llaw Jehofa pan oedden nhw’n poeni am eu hanghenion materol. Ar un adeg, roedd y teulu Castro yn ennill bywoliaeth drwy ffermio. Yna, gwnaeth gang arfog ddwyn eu tir a gorfodi’r teulu i adael. Dywedodd y tad, Miguel: “’Dyn ni bellach yn dibynnu ar beth allwn ni ei dyfu ar ddarn bach o dir ’dyn ni’n ei fenthyg. Dw i’n cychwyn bob dydd drwy ofyn i Jehofa am yr hyn ’dyn ni ei angen am y diwrnod hwnnw.” Mae bywyd yn anodd i’r teulu hwn, ond maen nhw’n llawn ffydd yng ngallu eu Tad cariadus i ofalu am eu hanghenion bob dydd, felly maen nhw’n mynd i gyfarfodydd y gynulleidfa ac yn pregethu’n rheolaidd. Maen nhw’n rhoi’r Deyrnas yn gyntaf yn eu bywydau, ac mae Jehofa’n gofalu am eu hanghenion.

5 Yn ystod y cyfnod anodd hwn, mae Miguel a’i wraig, Yurai, wedi canolbwyntio ar sut mae Jehofa wedi gofalu amdanyn nhw. Ar adegau, mae Jehofa wedi defnyddio brodyr a chwiorydd i’w helpu nhw’n faterol, neu i helpu Miguel i ffeindio gwaith addas. Ar adegau eraill, mae Jehofa wedi defnyddio swyddfa’r gangen i roi rhai o’r pethau sylfaenol maen nhw eu hangen. Dydy Jehofa erioed wedi cefnu arnyn nhw. O ganlyniad, mae ffydd y teulu wedi cryfhau. Ar ôl sôn am adeg benodol pan wnaeth Jehofa eu helpu, dywedodd eu merch hynaf, Yoselin: “Mae’n galonogol iawn i weld llaw Jehofa mor glir yn ein bywydau. Dw i’n meddwl amdano fel ffrind galla i ddibynnu arno am fywyd.” Ychwanegodd: “Mae’r treialon ’dyn ni wedi eu wynebu fel teulu wedi ein paratoi ni ar gyfer treialon anoddach yn y dyfodol.”

6. Sut gelli di gryfhau dy ffydd wrth ddelio â phroblemau ariannol?

6 Wyt ti’n wynebu problemau ariannol? Os felly, mae hyn yn adeg anodd iti. Ond er hynny, gelli di ddefnyddio’r cyfnod hwn i gryfhau dy ffydd. Gweddïa ar Jehofa, darllena eiriau Iesu yn Mathew 6:25-34 a myfyria arnyn nhw. Ystyria esiamplau ein hoes ni sy’n profi bod Jehofa yn gofalu am y rhai sy’n aros yn brysur yn ei wasanaeth. (1 Cor. 15:58) Bydd gwneud hynny yn cryfhau dy ffydd y bydd ein Tad nefol yn dy helpu di, yn union fel y mae wedi helpu eraill mewn sefyllfa debyg. Mae’n gwybod beth rwyt ti ei angen, a sut i’w roi iti. Wrth iti weld llaw Jehofa yn dy fywyd, bydd dy ffydd yn cryfhau a byddi di’n gallu wynebu treialon anoddach yn y dyfodol.—Hab. 3:17, 18.

FFYDD I WYNEBU “STORM OFNADWY”

Gall ffydd gref ein helpu ni i wynebu unrhyw storm ofnadwy, boed hynny’n un llythrennol neu ffigurol (Gweler paragraffau 7-11)

7. Yn ôl Mathew 8:23-26, sut gwnaeth “storm ofnadwy” brofi ffydd y disgyblion?

7 Pan gafodd Iesu a’i ddisgyblion eu dal mewn storm ar y môr, defnyddiodd Iesu’r digwyddiad hwnnw i weld lle roedden nhw angen mwy o ffydd. (Darllen Mathew 8:23-26.) Wrth i’r storm ruo, a’r tonnau’n tasgu dros y cwch, roedd Iesu’n cysgu’n sownd. Roedd gan y disgyblion gymaint o ofn, gwnaethon nhw ddeffro Iesu a gofyn iddo eu hachub. Ond rhoddodd Iesu gyngor caredig iddyn nhw: “Pam dych chi mor ofnus? . . . Ble mae’ch ffydd chi?” Dylai’r disgyblion fod wedi sylweddoli ei bod hi’n hawdd i Jehofa gadw Iesu a’r rhai oedd gydag ef rhag niwed. Beth yw’r wers i ni? Gall ffydd gref ein helpu ni i wynebu unrhyw “storm ofnadwy,” boed hynny’n un llythrennol neu ffigurol.

8-9. Sut cafodd ffydd Anel ei phrofi, a beth helpodd hi?

8 Ystyria sut cafodd ffydd Anel, chwaer sengl o Puerto Rico, ei chryfhau ar ôl iddi drechu treial anodd. Roedd ei “storm ofnadwy” hi yn un llythrennol. Dechreuodd y treial yn 2017 pan gafodd ei chartref ei ddinistrio gan Gorwynt Maria. O ganlyniad i’r storm, gwnaeth hi hefyd golli ei swydd. Mae Anel yn cyfaddef: “O’n i’n poeni’n ofnadwy yn ystod y cyfnod anodd hwnnw, ond wnes i ddysgu trystio Jehofa drwy weddi, a pheidio â gadael i bryder fy mharlysu.”

9 Soniodd Anel am rywbeth arall wnaeth ei helpu i ddelio â’i threial—ufudd-dod. Dywedodd: “Gwnaeth dilyn arweiniad y gyfundrefn fy helpu i beidio â chynhyrfu. O’n i’n gweld bod Jehofa yn defnyddio brodyr a chwiorydd i fy helpu, am eu bod nhw wedi gofalu amdana i yn ysbrydol ac yn faterol.” Ychwanegodd: “Rhoddodd Jehofa gymaint mwy imi nag y byddwn i wedi gofyn amdano, a chafodd fy ffydd ei chryfhau’n fawr iawn.”

10. Beth gelli di ei wneud os wyt ti’n wynebu “storm ofnadwy”?

10 Wyt ti’n wynebu “storm ofnadwy” yn dy fywyd? Efallai dy fod ti’n dioddef oherwydd trychineb naturiol. Neu efallai dy fod ti ynghanol storm ffigurol, er enghraifft, problem iechyd ddifrifol sydd wedi dy lethu di, ac sy’n gwneud iti deimlo’n ansicr am beth i’w wneud. Efallai dy fod ti’n pryderu weithiau, ond paid â gadael i dy bryder dy stopio di rhag trystio Jehofa. Closia ato drwy weddïo’n daer. Cryfha dy ffydd drwy fyfyrio ar adegau gwnaeth Jehofa dy helpu di yn y gorffennol. (Salm 77:11, 12) Gelli di fod yn sicr na fydd Jehofa byth yn cefnu arnat ti.

11. Pam dylen ni fod yn benderfynol o ufuddhau i’r rhai sy’n cymryd y blaen?

11 Beth arall all dy helpu di i oddef treialon? Fel dywedodd Anel, ufudd-dod. Dysga i drystio’r rhai mae Jehofa ac Iesu yn eu trystio. Ar adegau, efallai bydd rhai sy’n cymryd y blaen yn rhoi arweiniad sydd ddim yn gwneud synnwyr inni. Ond mae Jehofa yn bendithio ufudd-dod. Rydyn ni’n gwybod o’i Air ac o brofiadau ei weision ffyddlon fod ufudd-dod yn achub bywydau. (Ex. 14:1-4; 2 Cron. 20:17) Myfyria ar y fath esiamplau. Bydd gwneud hynny yn dy wneud di’n fwy penderfynol o ddilyn arweiniad cyfundrefn Jehofa nawr ac yn y dyfodol. (Heb. 13:17) Wedyn, fydd gen ti ddim rheswm i ofni’r storm waeth sydd i ddod yn fuan.—Diar. 3:25.

FFYDD I YMDOPI AG ANGHYFIAWNDER

Drwy ddal ati i weddïo, bydd ein ffydd yn cryfhau (Gweler paragraff 12)

12. Pa gysylltiad mae Luc 18:1-8 yn ei wneud rhwng cael ffydd a goddef anghyfiawnder?

12 Gwyddai Iesu y byddai anghyfiawnder yn herio ffydd ei ddisgyblion. I’w helpu i ymdopi, rhoddodd eglureb sydd wedi ei chofnodi yn llyfr Luc. Soniodd Iesu am wraig weddw oedd yn erfyn ar farnwr annheg am gyfiawnder. Roedd hi’n hyderus y byddai’n ei helpu yn y pen draw petai hi’n parhau i ofyn. A dyna ddigwyddodd yn y diwedd. Beth ydy’r wers? Dydy Jehofa ddim yn anghyfiawn. Felly, dywedodd Iesu: “Bydd yn ymateb ar unwaith i’r rhai sy’n galw arno ddydd a nos! Dw i’n dweud wrthoch chi, bydd yn rhoi dedfryd gyfiawn iddyn nhw, a hynny ar frys!” (Darllen Luc 18:1-8.) Yna ychwanegodd Iesu: “Ond, pan fydda i, Mab y Dyn, yn dod yn ôl, faint o bobl fydd yn dal i gredu bryd hynny?” Yn wyneb anghyfiawnder, rydyn ni angen dangos drwy ein hamynedd a’n dyfalbarhad bod gynnon ni ffydd gref fel y wraig weddw. Gyda’r fath ffydd, gallwn ni fod yn sicr y bydd Jehofa’n ein helpu ni. Hefyd, mae’n rhaid inni gredu yng ngrym gweddi. Ar adegau, efallai bydd ein gweddïau yn cael eu hateb mewn ffyrdd annisgwyl.

13. Sut gwnaeth gweddi helpu un teulu gafodd eu trin yn anghyfiawn?

13 Ystyria brofiad chwaer o’r enw Vero, sy’n byw yng Ngweriniaeth Ddemocrataidd y Congo. Roedd rhaid i Vero, ei gŵr anghrediniol, a’u merch 15 mlwydd oed ffoi pan wnaeth grŵp o filwyr ymosod ar eu pentref. Gwnaeth milwyr stopio’r teulu ar hyd y ffordd a bygwth eu lladd nhw. Pan ddechreuodd Vero grio, gwnaeth ei merch geisio ei chysuro drwy weddïo’n uchel a thrwy ddefnyddio enw Jehofa sawl gwaith yn ei gweddi. Ar ôl iddi orffen, gofynnodd capten y milwyr, “Pwy wnaeth dy ddysgu di i weddïo?” Dyma hi’n ateb, “Fy mam, drwy ddilyn y patrwm yn Mathew 6:9-13.” Dywedodd y capten wrthi, “Dos mewn heddwch gyda dy rieni, a boed i Jehofa dy Dduw eich amddiffyn!”

14. Beth all brofi ein ffydd, a beth fydd yn ein helpu i ddyfalbarhau?

14 Mae profiadau o’r fath yn ein dysgu ni i beidio byth ag anghofio pa mor bwysig ydy gweddi. Ond beth os nad wyt ti’n cael ateb sydyn neu ddramatig i dy weddïau? Fel y wraig weddw yn eglureb Iesu, dalia ati i weddïo, gan fod yn hollol sicr na fydd Duw yn cefnu arnat ti, ac y bydd ymhen amser, ac mewn rhyw ffordd, yn ateb dy weddi. Parha i erfyn ar Jehofa am ei ysbryd glân. (Phil. 4:13, BCND) Cofia y bydd Jehofa yn fuan yn dy fendithio di gymaint y byddi di’n anghofio holl ddioddefaint y gorffennol. Wrth iti oddef treialon yn ffyddlon gyda help Jehofa, byddi di’n dod yn gryfach, ac yn gallu goddef treialon y dyfodol.—1 Pedr 1:6, 7.

FFYDD I DRECHU HERIAU

15. Yn ôl Mathew 17:19, 20, pa her roedd disgyblion Iesu yn ei hwynebu?

15 Dysgodd Iesu ei ddisgyblion y byddai ffydd yn eu helpu nhw i drechu heriau. (Darllen Mathew 17:19, 20.) Ar un achlysur, roedden nhw’n methu bwrw cythraul allan o rywun er eu bod nhw wedi llwyddo i wneud o’r blaen. Beth oedd y broblem? Esboniodd Iesu eu bod nhw angen mwy o ffydd. Dywedodd wrthyn nhw, petasai ganddyn nhw ddigon o ffydd, bydden nhw hyd yn oed yn gallu symud mynyddoedd. Heddiw, gallwn ninnau hefyd wynebu heriau sydd i weld yn amhosib i’w trechu.

Efallai bydd tristwch yn ein llethu, ond bydd ffydd yn ein helpu i aros yn brysur yng ngwasanaeth Jehofa (Gweler paragraff 16)

16. Sut mae ffydd wedi helpu Geydi i ddelio â thrasiedi a phoen calon ofnadwy?

16 Ystyria esiampl Geydi, chwaer o Gwatemala. Cafodd ei gŵr, Edi, ei lofruddio ar ei ffordd adref o un o gyfarfodydd y gynulleidfa. Sut mae ffydd Geydi wedi ei helpu i ymdopi â’i phoen calon? Dywedodd hi: “Mae gweddi’n fy helpu i i roi fy meichiau trwm i Jehofa, ac mae hynny’n rhoi heddwch imi. Dw i’n gweld bod Jehofa yn defnyddio fy nheulu a fy ffrindiau yn y gynulleidfa i ofalu amdana i. Mae cadw’n brysur yng ngwasanaeth Jehofa yn lleihau’r boen, ac yn fy helpu i gymryd un dydd ar y tro, heb boeni gormod am fory. Ar ôl mynd drwy hyn i gyd, dw i wedi dysgu, ni waeth pa fath o brawf ddaw yn y dyfodol, bydda i’n gallu ei wynebu gyda help Jehofa, Iesu, a’r gyfundrefn.”

17. Beth gallwn ni ei wneud yn wyneb heriau enfawr?

17 Wyt ti’n galaru oherwydd marwolaeth anwylyn? Cymera amser i gryfhau dy ffydd yng ngobaith yr atgyfodiad drwy ddarllen hanesion yn y Beibl o rai a gafodd eu hatgyfodi. Wyt ti’n ddigalon am fod aelod o dy deulu wedi cael ei ddiarddel? Astudia er mwyn profi i ti dy hun mai ffordd Duw o ddisgyblu yw’r gorau bob tro. Ni waeth pa broblem rwyt ti’n ei hwynebu, defnyddia hi fel cyfle i gryfhau dy ffydd. Dyweda wrth Jehofa yn union sut rwyt ti’n teimlo. Yn hytrach nag ynysu dy hun, arhosa’n agos at dy frodyr a chwiorydd. (Diar. 18:1) Gwna bethau fydd yn dy helpu i ddal ati, hyd yn oed os oes rhaid iti wneud hynny drwy ddagrau. (Salm 126:5, 6) Cadwa at dy rwtîn o fynd i’r cyfarfodydd, pregethu, a darllen y Beibl, a chanolbwyntia ar y bendithion bendigedig mae Jehofa wedi eu haddo iti yn y dyfodol. Wrth iti weld sut mae Jehofa yn dy helpu di, bydd dy ffydd ynddo yn mynd o nerth i nerth.

“CRYFHA EIN FFYDD”

18. Os wyt ti’n sylwi ar wendid yn dy ffydd, beth gelli di ei wneud?

18 Os ydy dy dreialon, heddiw neu yn y gorffennol, wedi dangos gwendid yn dy ffydd, paid â digalonni. Ystyria hyn fel cyfle i gryfhau dy ffydd. Gofynna am fwy o ffydd fel wnaeth apostolion Iesu pan ddywedon nhw: “Cryfha ein ffydd.” (Luc 17:5, BCND) Hefyd, myfyria ar yr esiamplau rydyn ni wedi eu trafod yn yr erthygl hon. Fel Miguel a Yurai, cofia’r holl adegau mae Jehofa wedi dy helpu di. Fel merch Vero ac Anel, gweddïa’n daer ar Jehofa, yn enwedig yng nghanol creisis. Ac fel Geydi, sylweddola fod Jehofa weithiau’n dy helpu drwy ddefnyddio dy deulu a dy ffrindiau. Pan fyddi di’n gadael i Jehofa dy helpu i oddef y treialon rwyt ti’n eu hwynebu ar hyn o bryd, byddi di’n fwy hyderus y bydd yn dy helpu i oddef unrhyw dreialon byddi di’n eu hwynebu yn y dyfodol.

19. Beth roedd Iesu’n sicr ohono, a beth gelli dithau fod yn sicr ohono?

19 Helpodd Iesu ei ddisgyblion i weld lle roedden nhw angen mwy o ffydd, ond ar yr un pryd, roedd ef yn gwbl hyderus y bydden nhw’n wynebu treialon y dyfodol yn llwyddiannus gyda help Jehofa. (Ioan 14:1; 16:33) Roedd yn sicr y byddai tyrfa fawr yn goroesi’r gorthrymder mawr oherwydd eu ffydd gref. (Dat. 7:9, 14) A fyddi di’n un ohonyn nhw? Drwy garedigrwydd hael Jehofa, mi fyddi di, os wyt ti’n cymryd pob cyfle nawr i feithrin a chryfhau dy ffydd!—Heb. 10:39.

CÂN 118 Rho Inni Fwy o Ffydd

^ Par. 5 Rydyn ni’n edrych ymlaen at ddiwedd y system hon. Ond ar adegau, efallai byddwn ni’n cwestiynu a fydd ein ffydd yn ddigon cryf i’n helpu ni i ddal ati i’r diwedd. Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n trafod profiadau a gwersi ymarferol a all ein helpu ni i gryfhau ein ffydd.