ERTHYGL ASTUDIO 48
Bydda’n Gall Pan Fydd Dy Ffyddlondeb o Dan Brawf
“Paid cynhyrfu beth bynnag sy’n digwydd.”—2 TIM. 4:5.
CÂN 123 Ymostwng yn Ffyddlon i’r Drefn Theocrataidd
CIPOLWG a
1. Beth ydy ystyr “paid cynhyrfu”? (2 Timotheus 4:5)
PAN ydyn ni’n mynd drwy amser anodd, mae’n gallu bod yn anoddach aros yn ffyddlon i Jehofa a’i gyfundrefn. Sut gallwn ni ddelio â phrofion fel hyn? Drwy beidio â chynhyrfu, aros yn effro, a chadw ein ffydd yn gryf. (Darllen 2 Timotheus 4:5.) Byddwn ni’n llwyddo i beidio â chynhyrfu drwy feddwl yn glir, a thrio gweld pethau o safbwynt Jehofa. Os gwnawn ni hynny, fydd ein teimladau ddim yn rheoli ein meddyliau.
2. Beth byddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl hon?
2 Yn yr erthygl ddiwethaf, gwnaethon ni edrych ar dair her sy’n gallu codi o tu allan i’r gynulleidfa. Ond yn yr erthygl hon, byddwn ni’n trafod tair her sy’n dod o tu mewn i’r gynulleidfa, sef (1) pan ydyn ni’n teimlo bod brawd neu chwaer wedi ein pechu ni, (2) pan ydyn ni’n cael ein disgyblu, a (3) pan ydyn ni’n ei chael hi’n anodd addasu i newidiadau yn y gyfundrefn. Sut gallwn ni aros yn gall, a glynu wrth Jehofa a’i gyfundrefn pan fydd yr heriau hyn yn codi?
PAN YDYN NI’N TEIMLO BOD BRAWD NEU CHWAER WEDI EIN PECHU NI
3. Sut gallen ni ymateb os ydyn ni’n teimlo bod brawd neu chwaer wedi ein pechu ni?
3 Ydy brawd neu chwaer erioed wedi dy ypsetio di? Efallai rhywun sydd â chyfrifoldebau hyd yn oed, fel un o’r henuriaid. Yn fwy na thebyg, wnaethon nhw ddim trio dy frifo di. (Rhuf. 3:23; Iago 3:2) Ond eto, mae’n siŵr roedd yn sefyllfa boenus. Efallai wnest ti golli cwsg dros y mater, neu hyd yn oed meddwl, ‘Os ydy brawd yn gallu ymddwyn fel hyn, ydw i’n sicr mai dyma ydy cyfundrefn Jehofa?’ Dyna’n union sut mae Satan eisiau iti deimlo. (2 Cor. 2:) Gallai meddwl fel hyn achosi iti wahanu dy hun oddi wrth Jehofa a’i gyfundrefn. Felly sut gallwn ni aros yn gall, ac osgoi meddwl fel mae Satan eisiau inni feddwl, os ydyn ni’n teimlo bod brawd neu chwaer wedi ein pechu ni? 11
4. Sut gwnaeth Joseff aros yn gall pan gafodd ei drin yn gas, a beth gallwn ni ei ddysgu o’i esiampl? (Genesis 50:19-21)
4 Paid â dal dig. Pan oedd Joseff yn ei arddegau, roedd ei frodyr yn ei gasáu, a gwnaethon nhw ei drin yn ofnadwy. Roedd rhai ohonyn nhw hyd yn oed eisiau ei ladd. (Gen. 37:4, 18-22) Ymhen amser, gwnaethon nhw ei werthu fel caethwas. Oherwydd hyn i gyd, gwnaeth Joseff ddioddef am tua 13 mlynedd. Byddai wedi bod yn hawdd i Joseff gwestiynu faint roedd Jehofa yn ei garu, gan feddwl ei fod wedi cefnu arno pan oedd ef mewn angen. Ond roedd Joseff yn gall; wnaeth ef ddim dal dig, na chynhyrfu. Pan gafodd ef gyfle i ddial ar ei frodyr, gwnaeth ef ddal yn ôl rhag gwneud hynny. Dewisodd ddangos cariad tuag atyn nhw, a maddau iddyn nhw. (Gen. 45:4, 5) Pam gwnaeth Joseff ymddwyn fel hyn, a beth ydy’r wers i ni? Gwnaeth ef feddwl yn glir a gweld y darlun mawr, gan ganolbwyntio ar bwrpas Jehofa yn hytrach nag ar ei broblemau ei hun. (Darllen Genesis 50:19-21.) Os ydy rhywun yn dy bechu di, paid â throi’n chwerw yn erbyn Jehofa, na meddwl ei fod wedi cefnu arnat ti. Yn hytrach, myfyria ar sut mae’n dy helpu di i ymdopi â’r treial. Ac allan o gariad, tria faddau i’r un wnaeth dy frifo di.—1 Pedr 4:8.
5. Sut gwnaeth Miqueas lwyddo i beidio â chynhyrfu pan oedd yn teimlo bod rhywun wedi ei bechu?
5 Meddylia am brofiad henuriad o Dde America o’r enw Miqueas. b Wrth feddwl yn ôl am adeg pan oedd ef yn teimlo ei fod wedi cael ei bechu gan frodyr oedd â chyfrifoldebau, dywedodd: “O’n i erioed wedi teimlo gymaint o straen â hynny. O’n i’n poeni gymaint, o’n i’n methu cysgu. Ac o’n i’n crio oherwydd o’n i’n teimlo bod popeth allan o fy rheolaeth.” Ond eto, gwnaeth Miqueas ddewis peidio â chynhyrfu, a gweithio’n galed i reoli ei deimladau. Gwnaeth ef weddïo’n aml ar Jehofa am ysbryd glân, ac am y nerth i ymdopi. Gwnaeth ef hefyd chwilio yn ein cyhoeddiadau am wybodaeth fyddai’n gallu helpu. Beth ydy’r wers i ni? Os wyt ti’n teimlo bod brawd neu chwaer wedi bod yn gas â ti, paid â chynhyrfu. Tria reoli unrhyw deimladau negyddol sy’n codi. Y gwir amdani ydy, dydyn ni ddim wastad yn gwybod beth sydd wedi achosi i’r person arall siarad â ni fel ’na. Felly, gweddïa ar Jehofa am help i weld y mater o safbwynt y person arall. Efallai bydd hyn yn dy helpu di i feddwl y gorau o dy frawd neu chwaer, a maddau iddyn nhw. (Diar. 19:11) Cofia bod Jehofa yn gweld dy sefyllfa, a bydd yn siŵr o roi’r nerth rwyt ti ei angen i allu ymdopi.—2 Cron. 16:9; Preg. 5:8.
PAN YDYN NI’N CAEL EIN DISGYBLU
6. Pam mae hi’n bwysig deall bod Jehofa yn ein disgyblu ni allan o gariad? (Hebreaid 12:5, 6, 11)
6 Mae cael ein disgyblu yn gallu brifo. Ond os mai dyna’r unig beth rydyn ni’n canolbwyntio arno, gallwn ni ddechrau meddwl bod y ddisgyblaeth yn annheg, yn rhy llym, ac yn amherthnasol i ni. Gall meddwl fel ’na ein stopio ni rhag gwerthfawrogi ffaith bwysig—mae Jehofa yn ein disgyblu ni allan o gariad. (Darllen Hebreaid 12:5, 6, 11.) Ac os ydyn ni’n gadael i’r teimladau hyn ein rheoli ni, byddwn ni’n gwneud lle i Satan ymosod arnon ni. Mae ef eisiau inni wrthod disgyblaeth. Ac yn waeth na hynny, mae ef eisiau inni stopio gwasanaethu Jehofa, a gadael y gynulleidfa. Os wyt ti wedi cael dy ddisgyblu, sut gelli di beidio â chynhyrfu?
7. (a) Fel gwelwn ni yn y llun, sut cafodd Pedr ei ddefnyddio gan Jehofa ar ôl iddo gael ei ddisgyblu? (b) Beth rwyt ti’n ei ddysgu o esiampl Pedr?
7 Mae’n bwysig inni dderbyn disgyblaeth, a gwneud y newidiadau sydd eu hangen. Cafodd Pedr ei ddisgyblu gan Iesu o flaen yr apostolion eraill fwy nag unwaith. (Marc 8:33; Luc 22:31-34) Wel am gywilydd! Ond arhosodd Pedr yn ffyddlon i Iesu, derbyniodd y ddisgyblaeth, a dysgodd o’i gamgymeriadau. Yn y pen draw, cafodd ei wobrwyo—rhoddodd Jehofa gyfrifoldebau pwysig iddo yn y gynulleidfa. (Ioan 21:15-17; Act. 10:24-33; 1 Pedr 1:1) Beth gallwn ni ei ddysgu o esiampl Pedr? Rydyn ni, ac eraill, yn elwa pan nad ydyn ni’n canolbwyntio ar y cywilydd rydyn ni’n ei deimlo. Yn hytrach, pan ydyn ni’n derbyn ein bod ni angen cael ein cywiro, ac yn gwneud y newidiadau angenrheidiol, byddwn ni’n fwy defnyddiol byth i Jehofa, ac i’n brodyr.
8-9. Sut roedd Bernardo yn teimlo ar ôl iddo gael ei ddisgyblu, a beth wnaeth ei helpu i gywiro ei ffordd o feddwl?
8 Meddylia am hanes Bernardo, brawd o Mosambîc, a gollodd y fraint o fod yn henuriad. Sut roedd ef yn teimlo i gychwyn? “O’n i’n teimlo’n chwerw oherwydd doeddwn i ddim yn hoffi’r ddisgyblaeth ges i.” Roedd yn poeni am beth fyddai eraill yn y gynulleidfa yn meddwl ohono. “Gwnaeth hi gymryd ychydig o fisoedd imi newid fy agwedd tuag at y ddisgyblaeth, a dod i drystio Jehofa a’i gyfundrefn eto.” Beth helpodd Bernardo i wneud hynny?
9 Yn gyntaf, roedd rhaid i Bernardo newid ei ffordd o feddwl. Dywedodd: “Fel henuriad, o’n i’n defnyddio Hebreaid 12:7 i helpu eraill i gael yr agwedd gywir tuag at ddisgyblaeth Jehofa. Nawr, o’n i’n gofyn i fi fy hun, ‘Pwy sydd angen dilyn cyngor yr Ysgrythur yma?’—gweision Jehofa i gyd, a minnau hefyd.” Wedyn, aeth Bernardo ati i adennill ei hyder yn Jehofa a’i gyfundrefn. Treuliodd fwy o amser yn darllen y Beibl ac yn myfyrio’n ddwfn arno. Gwnaeth ef weithio gyda’i frodyr a chwiorydd ar y weinidogaeth, a chael rhan yn y cyfarfodydd, er ei fod yn dal yn poeni am beth roedd ei frodyr yn meddwl ohono. Ymhen amser, cafodd Bernardo ei benodi’n henuriad unwaith eto. Os wyt ti, fel Bernardo, wedi cael dy ddisgyblu, tria beidio â meddwl gormod am y cywilydd. Derbynia’r cyngor, a gwneud y newidiadau sydd eu hangen. c (Diar. 8:33; 22:4) Wedyn, bydd Jehofa yn siŵr o dy wobrwyo di am lynu ato ef a’i gyfundrefn yn ffyddlon.
PAN YDYN NI’N EI CHAEL HI’N ANODD ADDASU I NEWIDIADAU YN Y GYFUNDREFN
10. Pa newid allai fod wedi rhoi ffydd rhai o ddynion Israel o dan brawf?
10 Weithiau, mae newidiadau yn y gyfundrefn yn rhoi ein ffydd o dan brawf. Ond, dydyn ni ddim eisiau gadael i hynny ein gwahanu ni oddi wrth Jehofa. Meddylia am beth ddigwyddodd yn adeg yr Israeliaid. Cyn i’r Gyfraith gael ei sefydlu, roedd pennau teuluoedd yn gwneud gwaith offeiriaid drwy adeiladu allorau a gwneud aberthau i Jehofa dros eu teuluoedd. (Gen. 8:20, 21; 12:7; 26:25; 35:1, 6, 7; Job 1:5) Ond newidiodd hynny pan ddaeth Cyfraith Moses i rym. Gwnaeth Jehofa ddewis offeiriaid o deulu Aaron i wneud aberthau. Felly, doedd gan bennau teuluoedd ddim y fraint honno bellach. A dweud y gwir, petasai un ohonyn nhw’n dechrau gwneud gwaith offeiriad, ac yntau ddim yn un o ddisgynyddion Aaron, gallai golli ei fywyd. d (Lef. 17:3-6, 8, 9) Ai oherwydd y newid hwn gwnaeth Cora, Dathan, Abiram, a 250 o arweinwyr eraill herio awdurdod Moses ac Aaron? (Num. 16:1-3) Allwn ni ddim gwybod yn sicr, ond rydyn ni yn gwybod na wnaeth Cora, a’r dynion oedd gydag ef, aros yn ffyddlon i Jehofa. Felly beth gelli di ei wneud os ydy newid yn y gyfundrefn yn rhoi dy ffydd o dan brawf?
11. Beth rydyn ni’n ei ddysgu o esiampl rhai o Lefiaid Cohath?
11 Cefnoga unrhyw newidiadau yn y gyfundrefn yn llwyr. Pan oedd y Cohathiaid yn crwydro’r anialwch gyda’r Israeliaid, roedd ganddyn nhw’r fraint arbennig o gario arch y cyfamod bob tro roedd y gwersyll yn symud. (Num. 3:29, 31; 10:33; Jos. 3:2-4) Ond newidiodd hynny unwaith iddyn nhw setlo yng Ngwlad yr Addewid, oherwydd doedd dim angen symud yr arch bellach. Felly, erbyn dyddiau’r Brenin Solomon, roedd rhai o’r Cohathiaid yn gantorion, eraill yn borthmyn, ac eraill eto yn gofalu am y stordai. (1 Cron. 6:31-33; 26:1, 24) Does ’na ddim awgrym yn y Beibl fod y Cohathiaid wedi cwyno, na mynnu eu bod nhw’n cael rôl bwysicach oherwydd y fraint roedd ganddyn nhw ynghynt. Beth ydy’r wers? Cefnoga newidiadau yng nghyfundrefn Jehofa yn llwyr, gan gynnwys unrhyw rai sy’n effeithio ar dy aseiniad. Cadwa agwedd bositif tuag at unrhyw aseiniad er mwyn iti gael llawenydd ohono. Mae’n bwysig cofio hyn: Dy ufudd-dod sy’n dy wneud di’n werthfawr i Jehofa, nid dy aseiniad.—1 Sam. 15:22.
12. Sut roedd Zaina yn teimlo ar ôl cael ei hailaseinio?
12 Daeth newid mawr i chwaer o’r enw Zaina o’r Dwyrain Canol. Roedd hi wrth ei bodd yn gwasanaethu yn y Bethel. Ond ar ôl 23 mlynedd, cafodd hi ei hailaseinio i’r maes. Dywedodd hi: “Roedd hynny’n sioc mawr, ac o’n i’n teimlo fy mod i’n dda i ddim. Oedd y cwestiwn, ‘Beth wnes i o’i le?’ yn troelli rownd fy mhen.” Yn ddigon trist, gwnaeth rhai brodyr a chwiorydd yn ei chynulleidfa wneud pethau’n waeth drwy ddweud wrthi: “Petaset ti wedi bod yn ddigon da, byddet ti’n dal yno.” Roedd Zaina mor ddigalon, roedd hi’n crio bob nos am gyfnod. Ond aeth hi ymlaen i ddweud: “Wnes i erioed adael i hynny wneud imi amau’r gyfundrefn na chariad Jehofa.” Beth gwnaeth ei helpu hi i beidio â chynhyrfu?
13. Sut gwnaeth Zaina drechu ei theimladau negyddol?
13 Un peth wnaeth helpu Zaina i drechu ei theimladau negyddol, oedd darllen erthyglau oedd yn trafod yr heriau roedd hi’n eu hwynebu. Roedd un erthygl yn benodol yn help mawr iddi, sef “You Can Cope With Discouragement!” yn rhifyn Chwefror 1, 2001, y Tŵr Gwylio Saesneg. Mae’r erthygl honno yn sôn am brofiad Marc yn y Beibl, a sut roedd ef yn teimlo pan newidiodd ei aseiniad. Dywedodd Zaina, “Esiampl Marc oedd yr union beth o’n i ei angen i godi fy nghalon.” Rhywbeth arall wnaeth ei helpu oedd aros yn agos at ei ffrindiau. Wnaeth hi ddim ynysu ei hun, na theimlo bechod drosti hi ei hun. Yn y pen draw, gwnaeth hi sylweddoli mai ysbryd glân sydd y tu ôl i benderfyniadau’r gyfundrefn, a bod y brodyr sy’n arwain yn meddwl y byd ohoni. Ond roedd hi hefyd yn gwybod mai’r peth pwysicaf ydy bod gwaith Jehofa yn cael ei wneud.
14. Pa newid oedd Vlado yn cael trafferth addasu iddo, a beth wnaeth ei helpu?
14 Yn Slofenia, cafodd dwy gynulleidfa eu cyfuno, a chafodd un o’r neuaddau hynny ei chau. Dyma sut gwnaeth henuriad 73 mlwydd oed, o’r enw Vlado, ymateb i’r newid. “O’n i’n ffaelu deall pam bydden nhw’n cau Neuadd y Deyrnas mor bert,” meddai. “O’n i’n teimlo ei bod yn biti garw, oherwydd oedden ni newydd adnewyddu’r Neuadd. A gan fy mod i’n saer coed, fi oedd wedi gwneud ychydig o’r dodrefn newydd. Gwnaeth y newid hefyd achosi heriau i ni gyhoeddwyr hŷn.” Ond aeth ymlaen i ddweud beth wnaeth ei helpu i gefnogi’r newid. “Mae addasu i newidiadau yng nghyfundrefn Jehofa wastad yn dod â bendithion, ac yn ein paratoi ni ar gyfer newidiadau mwy yn y dyfodol.” Ydy dy gynulleidfa di wedi cael ei chyfuno ag un arall yn ddiweddar? Neu, a wyt ti wedi cael aseiniad newydd? Os wyt ti’n cael trafferth addasu i newid o’r fath, cofia fod Jehofa yn deall sut rwyt ti’n teimlo, a bydd yn sicr o dy fendithio pan fyddi di’n cefnogi’r newidiadau ac yn glynu’n ffyddlon wrtho ef a’i gyfundrefn.—Salm 18:25.
PAID Â CHYNHYRFU BETH BYNNAG SY’N DIGWYDD
15. Sut gallwn ni osgoi cynhyrfu pan fydd heriau yn codi tu mewn i’r gynulleidfa?
15 Wrth i’r system hon ddirwyn i ben, byddwn ni’n wynebu heriau sy’n dod o tu mewn i’r gynulleidfa. Os ydy’r heriau hynny yn rhoi ein ffydd o dan brawf, bydd rhaid inni beidio â chynhyrfu. Os wyt ti’n teimlo bod brawd neu chwaer wedi dy bechu di, paid â dal dig. Os byddi di’n cael dy ddisgyblu, paid â gadael i gywilydd dy lyncu di. Derbynia’r cyngor, a gwna’r newidiadau angenrheidiol. A phan fydd cyfundrefn Jehofa yn gwneud newidiadau sy’n effeithio arnat ti’n bersonol, derbynia nhw’n llwyr, a dilyna’r cyfarwyddyd.
16. Sut gelli di barhau i drystio Jehofa a’i gyfundrefn?
16 Fel rydyn ni wedi gweld, mae hi’n bosib glynu wrth Jehofa a’i gyfundrefn pan fydd dy ffydd o dan brawf. Ond mae’n rhaid inni beidio â chynhyrfu. Bydda’n gall, ac edrycha ar bethau o safbwynt Jehofa. Astudia gymeriadau’r Beibl wnaeth wynebu heriau tebyg i ti, a myfyria ar eu hesiamplau. Gweddïa ar Jehofa am help, a phaid byth ag ynysu dy hun oddi wrth y gynulleidfa. Yna, ni waeth beth fydd yn digwydd, fydd Satan ddim yn gallu dy wahanu di oddi wrth Jehofa na’i gyfundrefn!—Iago 4:7.
CÂN 126 Byddwch Effro, Byddwch yn Wrol!
a Weithiau, mae’n gallu bod yn anodd aros yn ffyddlon i Jehofa a’i gyfundrefn, yn enwedig pan fydd heriau yn codi tu mewn i’r gynulleidfa. Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n trafod tri o’r heriau hynny, a beth gallwn ni ei wneud i aros yn ffyddlon i Jehofa a’i gyfundrefn.
b Newidiwyd rhai enwau.
c Mae ’na awgrymiadau eraill all dy helpu di yn yr erthygl “Did You Once Serve? Can You Serve Again?” yn rhifyn Awst 15, 2009, y Tŵr Gwylio Saesneg, t. 30.
d Yn ôl y Gyfraith, roedd pen teulu oedd eisiau lladd anifail er mwyn ei fwyta, yn gorfod mynd â’r anifail hwnnw i’r cysegr, oni bai ei fod yn byw yn rhy bell.—Deut. 12:21.