Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Oeddet Ti’n Gwybod?

Oeddet Ti’n Gwybod?

Oedd Mordecai yn gymeriad hanesyddol go iawn?

MAE dyn o’r enw Mordecai yn chwarae rhan fawr yn nigwyddiadau llyfr Esther. Roedd yn Iddew alltud, ac yn gweithio ym mhalas brenhinol Persia tua dechrau’r bumed ganrif COG. Dyna oedd y “cyfnod pan oedd Ahasferus yn frenin.” (Heddiw, mae llawer o bobl yn cytuno mai enw arall ar Xerxes I oedd hyn.) Llwyddodd Mordecai i rwystro cynllwyn i ladd y brenin. Am fod y brenin mor ddiolchgar, cafodd Mordecai ei anrhydeddu yn gyhoeddus. Yn hwyrach ymlaen, bu farw Haman, gelyn Mordecai a’r Iddewon eraill, a dyma’r brenin yn penodi Mordecai yn Brif Weinidog. Oherwydd ei freintiau newydd, roedd Mordecai yn gallu cyhoeddi dogfen gyfreithiol wnaeth achub yr Iddewon ym Mhersia rhag hil-laddiad.—Esth. 1:1; 2:5, 21-23; 8:1, 2; 9:16.

Roedd rhai haneswyr ar ddechrau’r 20fed ganrif yn honni mai chwedl ydy llyfr Esther, a doedd Mordecai erioed wedi bodoli. Ond ym 1941, daeth archaeolegwyr o hyd i dystiolaeth newydd a allai gefnogi hanes y Beibl am Mordecai. Beth gwnaethon nhw ei ffeindio?

Daethon nhw o hyd i ysgrifen gynffurf Perseg oedd yn sôn am rywun o’r enw Marduka (Mordecai yn Gymraeg). Gweithiodd y dyn hwn fel gweinyddwr, neu gyfrifydd, yn Shwshan. Wrth sôn am yr ysgrifen gynffurf hon, dywedodd Arthur Ungnad, arbenigwr yn hanes y Dwyrain, mai dyma “oedd yr unig sôn am Mordecai y tu allan i’r Beibl” ar y pryd.

Ers adroddiad Ungnad, mae miloedd o ysgrifau cynffurf Perseg eraill wedi cael eu cyfieithu, gan gynnwys y tabledi Persepolis. Daethon nhw o hyd i’r rheini yn adfeilion y trysordy wrth ymyl waliau’r ddinas. Maen nhw’n dyddio yn ôl i adeg y Brenin Xerxes I, ac mae ’na sawl enw o lyfr Esther wedi ei ysgrifennu arnyn nhw yn yr iaith Elameg. a

Yr enw Mordecai (Marduka) fel mae’n ymddangos mewn ysgrifen gynffurf Perseg

Mae sawl un o dabledi Persepolis yn sôn am Marduka, a oedd yn gweithio fel ysgrifennydd brenhinol ym mhalas Shwshan yn ystod teyrnasiad Xerxes I. Mae un tabled hyd yn oed yn ei ddisgrifio fel cyfieithydd. Mae hyn yn eithaf tebyg i’r ffordd mae’r Beibl yn disgrifio Mordecai. Yno mae’n dweud ei fod yn swyddog oedd yn gweithio i’r Brenin Ahasferus (Xerxes I), a’i fod yn siarad o leiaf dwy iaith. Mae hefyd yn dweud bod Mordecai yn aml yn eistedd ym mhorth y brenin ym mhalas Shwshan. (Esth. 2:19, 21; 3:3) Roedd y porth hwnnw yn adeilad mawr lle roedd swyddogion y palas yn gweithio.

Mae’n rhyfeddol pa mor debyg ydy Marduka y tabledi a Mordecai y Beibl. Nid yn unig oedden nhw’n byw ar yr un adeg ac yn yr un lle, ond roedden nhw hefyd yn gweithio yn yr un adeilad gyda’r un swydd. Mae hyn i gyd yn awgrymu mai Marduka ydy’r Mordecai mae llyfr Esther yn sôn amdano.

a Ym 1992, cyhoeddodd yr Athro Edwin M. Yamauchi ddeg enw o ysgrifau Persepolis sydd hefyd i’w ffeindio yn llyfr Esther.