Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

HANES BYWYD

“O’n i Eisiau Gweithio i Jehofa”

“O’n i Eisiau Gweithio i Jehofa”

OEDDEN ni wedi bod yn ymweld â grŵp bach o bobl ym mhentref Granbori, reit yng nghanol coedwig law Swrinâm. Ar ôl inni ffarwelio, cychwynnon ni ar hyd y daith i lawr yr afon Tapanahoni mewn cwch pren. Yn hwyrach ymlaen, daethon ni ar draws dyfroedd gwyllt, a dyna lle tarodd propelor ein cwch ar graig. Plymiodd blaen y cwch i’r dŵr ar unwaith, nes oedden ni o dan y dŵr. Oedd fy nghalon i’n mynd! Er o’n i wedi bod yn teithio mewn cychod am flynyddoedd fel arolygwr cylchdaith, doeddwn i ddim yn gwybod sut i nofio.

Cyn imi ddweud wrthoch chi beth ddigwyddodd nesaf, gadewch imi sôn am sut gwnes i ddechrau gwasanaethu’n llawn amser.

Ces i fy ngeni ym 1942, ar ynys Cwrasao, yn y Caribî. Oedd Dad o Swrinâm yn wreiddiol, ond roedd wedi symud i’r ynys am waith. Ef oedd un o’r cyntaf yn Cwrasao i gael ei fedyddio yn un o Dystion Jehofa, a hynny dim ond ychydig flynyddoedd cyn i mi gael fy ngeni. a Roedd ef yn astudio’r Beibl gyda fi, fy mrawd, a fy chwiorydd bob wythnos, er roedden ni’n gyndyn o wneud weithiau. Pan o’n i’n 14, gwnaethon ni i gyd symud yn ôl i Swrinâm fel bod Dad yn gallu edrych ar ôl ei fam yn ei henaint.

FFRINDIAU DA YN GWNEUD BYD O WAHANIAETH

Nawr o’n i yn Swrinâm, gwnes i ddechrau gwneud ffrindiau gyda’r rhai ifanc yn y gynulleidfa oedd yn brysur yn gwasanaethu Jehofa. Roedden nhw ychydig yn hŷn na fi, ac yn arloesi’n llawn amser. Bob tro roedden nhw’n sôn am eu profiadau yn y weinidogaeth, roedden nhw’n wên o glust i glust. Oedden ni hefyd yn siarad am bethau ysbrydol ar ôl y cyfarfodydd. Weithiau, oedden ni hyd yn oed yn mynd i eistedd tu allan o dan y sêr i wneud hynny. Gyda ffrindiau fel ’na, des i i sylweddoli mod innau eisiau gweithio i Jehofa hefyd, felly ces i fy medyddio yn 16, ac yna dechrau arloesi’n llawn amser pan o’n i’n 18.

DYSGU GWERSI PWYSIG

Arloesi yn Paramaribo

Gwnes i ddysgu llawer o wersi pwysig wrth arloesi, ac maen nhw wedi aros gyda mi drwy fy holl flynyddoedd o wasanaethu’n llawn amser. Un o’r pethau cyntaf gwnes i ei ddysgu oedd pa mor bwysig ydy hi i hyfforddi eraill. Roedd un cenhadwr o’r enw Willem van Seijl yn help mawr imi pan wnes i ddechrau arloesi. b Gwnaeth ef ddysgu cryn dipyn imi am sut i ofalu am gyfrifoldebau yn y gynulleidfa, er do’n i ddim yn gwybod ar y pryd gymaint o’n i angen yr hyfforddiant hwnnw. Ymhen blwyddyn, ces i fy mhenodi yn arloeswr arbennig. Yn fuan wedyn, gwnes i ddechrau helpu grwpiau bach o frodyr a chwiorydd oedd yn byw ym mherfeddion coedwig law Swrinâm. Felly roedd hyfforddiant brodyr fel Willem yn amserol iawn. Ac ers hynny dw i wedi trio pasio hynny ymlaen drwy hyfforddi eraill.

Yn ail, gwnes i ddysgu ei bod hi’n beth da i fyw bywyd syml, ac i fod yn drefnus. Ar ddechrau pob mis, o’n i a fy mhartner arloesi yn gwneud rhestr o bopeth fydden ni ei angen dros yr wythnosau nesaf. Yna, roedd un ohonon ni’n gwneud y siwrnai hir i’r brifddinas i brynu’r pethau hynny. Roedd rhaid inni wario ein lwfans bach yn ofalus, a gwneud yn siŵr bod ein bwyd yn para am y mis cyfan, oherwydd os oedden ni’n rhedeg allan o rywbeth ynghanol y goedwig law, anaml iawn fyddai rhywun arall yn gallu ein helpu ni. Dw i’n falch gwnes i ddysgu sut i fyw bywyd syml pan o’n i’n ifanc, oherwydd mae hynny, yn ogystal â bod yn drefnus, wedi fy helpu i i ganolbwyntio ar fy ngwaith i Jehofa drwy gydol fy mywyd.

Yn drydydd, gwnes i ddysgu pa mor bwysig ydy hi i wneud yr ymdrech i siarad â phobl yn eu mamiaith. Gwnes i dyfu i fyny yn siarad Iseldireg, Saesneg, Papiamento, a Sranantongo (hefyd yn cael ei galw’n Sranan), sef iaith fwyaf cyffredin Swrinâm. Ond yn y goedwig law, o’n i’n sylwi bod pobl yn ymateb yn well i’r newyddion da o’i glywed yn eu hiaith eu hunain. Doedd hynny ddim yn hawdd bob tro. Un o’r ieithoedd ces i’r mwyaf o drafferth gyda hi oedd Saramacaneg, lle mae’n rhaid newid tôn y llais yn aml er mwyn cyfleu’r ystyr cywir. Roedd hi’n anodd dysgu, ond dw i’n falch gwnes i’r ymdrech, achos dw i wedi gallu dysgu’r gwir i lawer o bobl drwy siarad yn eu mamiaith.

Wrth gwrs, mi wnes i faglu dros fy nhafod bob hyn a hyn wrth drio siarad Saramacaneg. Dw i’n cofio un tro, siarad gyda dynes oedd yn astudio’r Beibl a oedd wedi bod yn cael poenau yn ei bol. O’n i eisiau gwybod sut oedd hi. Ond yn hytrach na gofyn am y poenau, o’n i wedi gofyn iddi a oedd hi’n feichiog! Fel dw i’n siŵr gallwch chi ddychmygu, wnaeth hi ddim gwerthfawrogi fy nghonsýrn! Ond wnes i ddim gadael i gamgymeriadau fel hyn fy stopio i rhag siarad gyda phobl yn eu hiaith eu hunain.

YSGWYDDO MWY O GYFRIFOLDEBAU

Ym 1970, ces i fy mhenodi fel arolygwr cylchdaith. Y flwyddyn honno, gwnes i gyflwyno’r sioe sleidiau “Visiting the World Headquarters of Jehovah’s Witnesses” i lawer o grwpiau yn y goedwig law. O’n i, a chriw o frodyr, yn teithio’r afonydd ar gwch hir pren. Roedden ni’n mynd â chymaint o bethau gyda ni, pethau fel generadur, can petrol, lampau, ac offer i ddangos y sleidiau. Wedyn, oedd rhaid inni gludo’r holl offer ’ma i mewn i’r goedwig, lle bydden ni’n dangos y sioe sleidiau. Roedd y bobl wrth eu boddau yn gwylio’r rhaglen lle bynnag oedden ni. O’n i mor hapus i gael y fraint o ddysgu eraill am Jehofa a’i gyfundrefn. Roedd y bendithion yn sicr yn werth bob aberth wnes i wrth weithio i Jehofa!

PLETHU RHAFF DEIRCAINC

Gwnes i briodi Ethel ym mis Medi 1971

Er o’n i’n gweld manteision aros yn sengl yn fy aseiniad, o’n i dal eisiau priodi. Felly gwnes i weddïo’n benodol i ffeindio gwraig fyddai hefyd yn mwynhau’r aseiniad anodd o wasanaethu’n llawn amser yn y goedwig. Tua blwyddyn wedyn, gwnes i ddechrau canlyn Ethel. Oedd hi’n arloeswraig arbennig, a gwnes i sylwi ei bod hi’n barod i weithio’n galed i Jehofa, hyd yn oed pan doedd pethau ddim yn hawdd. Roedd Ethel wastad wedi edmygu’r apostol Paul, ac roedd hi eisiau ei efelychu drwy roi ei holl egni i mewn i’r weinidogaeth. Ym mis Medi 1971, gwnaethon ni briodi, a dechrau gwasanaethu ar y gwaith cylch fel cwpl.

Doedd gan Ethel ddim llawer o bethau materol wrth dyfu i fyny, felly wnaeth hi ddim cymryd hir iddi addasu i fywyd yn y goedwig. Doedden ni ddim yn mynd â llawer o bethau gyda ni wrth deithio. Roedden ni’n golchi ein dillad ac yn ymolchi yn yr afonydd. Gwnaethon ni hefyd ddod i arfer i fwyta beth bynnag roedd y brodyr yn ei roi inni—igwanaod, piranaod, neu beth bynnag oedden nhw wedi ei ddal y diwrnod hwnnw yn y goedwig neu yn yr afon. Pan doedd ’na ddim platiau, oedden ni’n bwyta oddi ar ddail banana, a phan doedd ’na ddim cyllyll a ffyrc, oedden ni’n defnyddio ein bysedd. Mi ydw i ac Ethel yn teimlo bod yr aberthau rydyn ni wedi eu gwneud wrth weithio i Jehofa wedi ein helpu ni i blethu rhaff deircainc gref. (Preg. 4:12) A fyddwn i ddim yn newid hynny am unrhyw beth!

Oedden ni wedi bod ar ymweliad yng nghanol y goedwig, ac ar y ffordd yn ôl, dyna pryd digwyddodd yr helynt o’n i’n sôn amdano gynnau. Cafodd y cwch ei ddal yn y dŵr gwyllt, ac aeth i lawr am funud, cyn dod i’r wyneb eto. Ond diolch byth, oedden ni’n gwisgo siacedi achub, a wnaethon ni ddim disgyn allan o’r cwch. Ond roedd y cwch wedi llenwi â dŵr, felly roedd rhaid inni wagio ein bwyd i’r afon a defnyddio’n tuniau i daflu’r dŵr allan o’r cwch.

Am ein bod ni wedi taflu ein bwyd dros ochr y cwch, gwnaethon ni ddechrau pysgota wrth inni fynd yn ein blaenau i lawr yr afon. Doedden ni ddim yn cael llawer o hwyl arni, felly gwnaethon ni weddïo ar Jehofa a gofyn iddo roi’r bwyd oedden ni ei angen am y diwrnod. Yna, dyma un o’r brodyr yn dechrau pysgota eto, a daliodd bysgodyn ar unwaith—un digon mawr i lenwi’r pump ohonon ni am y noson!

GŴR, TAD, AC AROLYGWR CYLCHDAITH

Ar ôl pum mlynedd yn y gwaith cylch, ces i ac Ethel fendith annisgwyl. Oedden ni am fod yn rhieni, ac o’n i wedi gwirioni! Wedi dweud hynny, doeddwn i ddim yn siŵr sut fyddai hyn yn effeithio ar ein haseiniad. Oedden ni’n dau eisiau parhau i wasanaethu’n llawn amser os oedd yn bosib. Ond cyn pen dim, ym 1976, cafodd ein mab Ethniël ei eni. A daeth ein ail fab, Giovanni, i’r byd ddwy flynedd a hanner wedyn.

Gwylio bedydd yn Afon Tapanahoni ger Godo Holo yn Nwyrain Swrinâm—1983

Oherwydd yr angen yn Swrinâm ar y pryd, gwnaeth swyddfa’r gangen ofyn imi barhau i wasanaethu fel arolygwr cylchdaith tra oedden ni’n magu ein plant. Pan oedd y bechgyn yn dal yn ifanc, ces i fy aseinio i gylchdeithiau gyda llai o gynulleidfaoedd. Oedd hynny’n caniatáu imi dreulio ychydig o wythnosau bob mis fel arolygwr cylchdaith, a gweddill y mis fel arloeswr yn ein cynulleidfa ni. Oedd Ethel a’r bechgyn yn dod gyda mi pan o’n i’n ymweld â chynulleidfaoedd lleol, ond o’n i’n mynd ar fy mhen fy hun i gynulleidfaoedd a chynulliadau yn y goedwig law.

Yn y gwaith cylch, o’n i’n aml yn teithio mewn cwch i ymweld â chynulleidfaoedd pell

Roedd rhaid imi fod yn drefnus er mwyn gofalu am fy holl gyfrifoldebau. O’n i’n gwneud yn siŵr ein bod ni’n cael astudiaeth deuluol bob wythnos, ac ar yr adegau pan o’n i i ffwrdd yn y goedwig ar aseiniad, oedd Ethel yn astudio gyda’r bechgyn. Oedden ni’n gwneud pethau fel teulu bob cyfle oedden ni’n ei gael. Oedden ni’n hoffi chwarae gemau, neu fynd am dro i weld rhywbeth diddorol yn yr ardal. Yn aml iawn, o’n i ar fy nhraed yn hwyr yn y nos yn paratoi am aseiniadau. Ond gan fod Ethel yn wraig fedrus, yn debyg i’r un mae Diarhebion 31:15 yn sôn amdani, oedd hi’n deffro cyn y wawr i wneud yn siŵr ein bod ni’n cael darllen testun y dydd, a chael brecwast, fel teulu cyn i’r bechgyn fynd i’r ysgol. Dw i mor falch o’i chael hi’n wraig i mi. Mae ei hagwedd hunanaberthol wedi fy helpu i i ysgwyddo fy holl gyfrifoldebau.

Gwnaethon ni weithio’n galed i helpu’r bechgyn i garu Jehofa a’r weinidogaeth. Wrth gwrs, roedden ni eisiau iddyn nhw wasanaethu’n llawn amser hefyd, ond dim ond os mai dyna oedden nhw eisiau. Oedden ni wastad yn sôn am ba mor wych ydy gwasanaethu’n llawn amser. Gan ddweud hynny, oedden ni’n realistig. Gwnaethon ni drafod yr heriau hefyd, gan dynnu sylw at sut roedd Jehofa wedi ein helpu ni a’n bendithio ni fel teulu. Gwnaethon ni hefyd wneud yn siŵr bod gan yr bechgyn ffrindiau da oedd yn rhoi Jehofa’n gyntaf yn eu bywydau.

Wrth inni fagu teulu, gwnaeth Jehofa wastad ofalu am ein hanghenion. Ond o’n i o hyd yn trio gwneud yn siŵr mod i’n tynnu fy mhwysau. Fel arloeswr arbennig sengl ynghanol y goedwig law, gwnes i ddysgu i feddwl ymlaen llaw am bethau fyddai eu hangen. Doedden ni ddim yn llwyddo bob tro, er gwaethaf ein holl ymdrechion, ond dyna pryd gwelais i law Jehofa yn ein helpu ni. Un enghraifft sy’n sefyll allan ydy’r rhyfel cartref yn Swrinâm a ddigwyddodd yn ystod yr 80au hwyr a’r 90au cynnar. Er oedd hi’n gallu bod yn anodd iawn cael gafael ar hyd yn oed pethau sylfaenol bywyd bryd hynny, roedd Jehofa wastad yn gofalu amdanon ni.—Math. 6:32.

EDRYCH YN ÔL

O’r chwith i’r dde: Gyda fy ngwraig, Ethel

Ein mab hynaf, Ethniël, gyda’i wraig, Natalie

Ein mab Giovanni gyda’i wraig, Christal

Mae Jehofa wedi gofalu amdanon ni drwy gydol ein bywydau, ac wedi ein helpu ni i fod yn hapus ac yn fodlon. Rydyn ni wedi bod wrth ein boddau yn magu ein plant, ac yn falch eu bod nhw wedi tyfu i fyny i wasanaethu Jehofa. Erbyn hyn, maen nhwthau hefyd yn gwasanaethu’n llawn amser. Mae Ethniël a Giovanni wedi graddio o ysgolion theocrataidd, a bellach maen nhw’n gwasanaethu yn swyddfa cangen Swrinâm gyda’u gwragedd.

Er fy mod i ac Ethel wedi heneiddio bellach, rydyn ni’n dal yn brysur yn gweithio i Jehofa fel arloeswyr arbennig. A dweud y gwir, rydyn ni mor brysur, dw i dal heb ddysgu sut i nofio! Ond dw i’n difaru dim. Gwnes i benderfynu pan o’n i’n ifanc gwasanaethu Jehofa’n llawn amser am weddill fy oes. A galla i ddweud heb air o gelwydd, mai dyna’r penderfyniad gorau wnes i erioed!

b Mae hanes bywyd Willem van Seijl, Reality Has Exceeded My Expectations,” ar gael yn rhifyn Hydref 8, 1999, y Deffrwch! Saesneg.