Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 47

Paid â Gadael i Unrhyw Beth Dy Wahanu Di Oddi Wrth Jehofa

Paid â Gadael i Unrhyw Beth Dy Wahanu Di Oddi Wrth Jehofa

“Dw i’n dy drystio di, O ARGLWYDD.”—SALM 31:14.

CÂN 122 Safwch yn Gadarn!

CIPOLWG a

1. Sut rydyn ni’n gwybod bod Jehofa eisiau bod yn agos aton ni?

 MAE Jehofa ei hun yn gofyn inni glosio ato. (Iago 4:8) Mae ef eisiau bod yn Dad, yn Dduw, ac yn Ffrind inni. Mae’n ateb ein gweddïau, yn ein helpu ni mewn amseroedd anodd, ac yn defnyddio ei gyfundrefn i’n dysgu ni a’n hamddiffyn. Ond beth sydd rhaid inni ei wneud er mwyn closio at Jehofa?

2. Sut gallwn ni glosio at Jehofa?

2 Rydyn ni’n closio at Jehofa drwy weddïo arno, a drwy ddarllen a myfyrio ar ei Air. Mae hynny’n siŵr o’n helpu ni i’w garu a’i werthfawrogi yn fwy. O ganlyniad, byddwn ni’n cael ein cymell i fod yn ufudd iddo a’i foli yn union fel mae’n ei haeddu. (Dat. 4:11) Y gorau rydyn ni’n adnabod Jehofa, y mwyaf byddwn ni’n ei drystio ef a’i gyfundrefn.

3. Sut mae’r Diafol yn trio ein gwahanu ni oddi wrth Jehofa, ond beth fydd yn ein helpu ni i beidio â chefnu ar Dduw a’i gyfundrefn? (Salm 31:13, 14)

3 Mae’r Diafol yn gwneud ei orau i’n gwahanu ni oddi wrth Jehofa, yn enwedig pan fyddwn ni’n wynebu heriau. Sut? Fesul dipyn, mae’n trio gwneud inni amau Jehofa a’i gyfundrefn. Ond gallwn ni ein hamddiffyn ein hunain drwy sicrhau bod ein ffydd yn gryf a’n bod ni’n trystio Jehofa yn llwyr. Wedyn fyddwn ni byth yn cefnu ar Jehofa a’i gyfundrefn.—Darllen Salm 31:13, 14.

4. Beth byddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl hon?

4 Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n trafod tair her sy’n dod o tu allan i’r gynulleidfa. Gallai pob un ohonyn nhw ein gwahanu ni oddi wrth Jehofa drwy danseilio ein hyder ynddo ef a’i gyfundrefn. Ond sut? A beth gallwn ni ei wneud i stopio Satan rhag llwyddo?

PAN FYDDWN NI’N WYNEBU AMSEROEDD CALED

5. Sut mae treialon yn gallu gwneud i rywun ddechrau amau Jehofa a’i gyfundrefn?

5 Rydyn ni i gyd yn mynd drwy amseroedd caled o bryd i’w gilydd. Er enghraifft gwrthwynebiad gan ein teulu neu golli ein swydd. Sut gallai pethau felly wneud inni amau Jehofa a’i gyfundrefn a’n gwahanu ni oddi wrtho? Mae’n ddigon hawdd teimlo’n ddigalon ac yn isel pan ydyn ni’n wynebu treialon hirdymor. Mae Satan yn manteisio ar gyfleoedd o’r fath i drio gwneud inni feddwl mai Jehofa, neu ei gyfundrefn, sy’n gyfrifol am ein dioddefaint. Mae’n trio gwneud inni feddwl nad ydy Jehofa yn ein caru ni. Digwyddodd rhywbeth tebyg i rai o’r Israeliaid yn yr Aifft. I ddechrau, roedden nhw’n credu mai Jehofa ei hun oedd wedi dewis Moses ac Aaron i’w harwain nhw allan o’r wlad. (Ex. 4:29-31) Ond yn hwyrach ymlaen, dyma’r Pharo yn gwneud eu bywydau’n galetach. Beth ddywedon nhw wrth Moses ac Aaron? “Dych chi wedi’n rhoi ni mewn sefyllfa lle byddan nhw’n ein lladd ni!” (Ex. 5:19-21) Onid ydy hi’n drist eu bod nhw wedi beio gweision ffyddlon Duw? Felly sut gelli di ddal ati i drystio Jehofa a’i gyfundrefn yn llwyr os wyt ti wedi bod yn dioddef am amser hir?

6. Beth mae esiampl Habacuc yn ei ddysgu inni am ymdopi â’n problemau? (Habacuc 3:17-19)

6 Tywallt dy galon i Jehofa mewn gweddi, a throi ato am help. Meddylia am y proffwyd Habacuc. Aeth ef drwy gymaint o dreialon nes ei fod yn dechrau amau nad oedd Jehofa yn ei garu. Felly dywedodd wrth Jehofa yn union sut roedd yn teimlo: “ARGLWYDD, am faint mwy rhaid i mi alw cyn i ti fy ateb i? . . . Pam wyt ti’n gadael i’r fath ddrygioni fynd yn ei flaen?” (Hab. 1:2, 3) Atebodd Jehofa y weddi honno, a gwnaeth Habacuc fyfyrio ar sut roedd Jehofa wedi achub ei bobl. (Hab. 2:2, 3) O ganlyniad, cafodd ei lawenydd yn ôl, ac roedd yn hollol sicr bod Jehofa yn gofalu amdano, ac y byddai’n ei helpu i ymdopi ag unrhyw dreialon. (Darllen Habacuc 3:17-19.) Beth ydy’r wers? Pan fyddi di’n mynd drwy amser anodd, gweddïa ar Jehofa a dweud wrtho’n union sut rwyt ti’n teimlo. Ac os byddi di’n troi ato am help, gelli di fod yn sicr y bydd yn rhoi’r nerth sydd ei angen arnat ti i ddal ati. Wedyn, pan fyddi di’n gweld ei law yn dy fywyd, bydd dy ffydd ynddo yn cryfhau.

7. Beth gwnaeth aelod o deulu Shirley drio ei wneud, a beth gwnaeth ei helpu hi i gadw ei ffydd?

7 Cadwa at dy rwtîn ysbrydol. Mae esiampl Shirley, chwaer o Papwa Gini Newydd, yn dangos sut mae hyn yn gallu ein helpu ni yng nghanol ein treialon. b Roedd ei theulu mor dlawd nes eu bod nhw weithiau yn ei chael hi’n anodd cael digon o fwyd. Roedd aelod o’i theulu yn trio gwneud iddi amau nad oedd Jehofa yn ei helpu, drwy ddweud: “Mi wyt ti’n dweud bod ysbryd glân dy Dduw yn dy helpu di. Ond sut? Mae dy deulu di’n dal yn dlawd. Rwyt ti’n gwastraffu dy amser yn pregethu.” Mae hi’n cyfaddef: “Wnes i ddechrau amau nad oedd Duw yn gofalu amdanon ni. Felly ar unwaith, wnes i weddïo ar Jehofa a bwrw fy mol iddo. O’n i’n benderfynol o ddal ati i ddarllen y Beibl a’n cyhoeddiadau, i bregethu, ac i fynd i’r cyfarfodydd.” Yn fuan, sylweddolodd fod Jehofa yn edrych ar ei hôl hi a’i theulu. Doedden nhw ddim yn mynd yn llwglyd. A dweud y gwir, roedden nhw’n hapus. Dywedodd Shirley: “O’n i wir yn teimlo bod Jehofa yn ateb fy ngweddïau.” (1 Tim. 6:6-8) Drwy gadw at dy rwtîn ysbrydol, gelli dithau hefyd sicrhau nad ydy amheuon na threialon yn dy wahanu di oddi wrth Jehofa.

PAN FYDD BRODYR SY’N CYMRYD Y BLAEN YN CAEL EU HERLID

8. Beth sy’n gallu digwydd weithiau i’r brodyr sy’n cymryd y blaen yng nghyfundrefn Jehofa?

8 Mae ein gelynion yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol, a phethau tebyg, i ledaenu pob math o gelwyddau am y brodyr sy’n cymryd y blaen yng nghyfundrefn Jehofa. (Salm 31:13) Mae rhai brodyr hyd yn oed wedi cael eu harestio a’u cyhuddo o dorri’r gyfraith. Roedd Cristnogion y ganrif gyntaf mewn sefyllfa debyg pan gafodd yr apostol Paul ei gyhuddo a’i arestio. Sut gwnaethon nhw ymateb?

9. Sut gwnaeth rhai Cristnogion ymateb pan gafodd yr apostol Paul ei garcharu?

9 Gwnaeth rhai Cristnogion yn y ganrif gyntaf stopio cefnogi Paul pan gafodd ei garcharu yn Rhufain. (2 Tim. 1:8, 15) Pam? A oedd ganddyn nhw gywilydd o Paul oherwydd ei fod yn cael ei ystyried fel troseddwr? (2 Tim. 2:8, 9) Neu a oedd ganddyn nhw ofn y bydden nhwthau hefyd yn cael eu herlid? Beth bynnag oedd eu rhesymau, meddylia sut roedd Paul yn teimlo. Roedd wedi bod yn fodlon mynd drwy dreialon, a hyd yn oed rhoi ei fywyd yn y fantol, er mwyn eu helpu nhw. (Act. 20:18-21; 2 Cor. 1:8) Dydyn ni byth eisiau bod fel y rhai wnaeth gefnu ar Paul pan oedd ef angen eu help fwyaf. Felly, beth dylen ni ei gofio pan fydd brodyr sy’n ein harwain yn cael eu herlid?

10. Beth dylen ni ei gofio pan fydd brodyr sy’n ein harwain yn cael eu herlid, a pham?

10 Cofia pwy sy’n ein herlid a pham. Mae 2 Timotheus 3:12 yn dweud: “Bydd pawb sydd am ddilyn y Meseia Iesu a byw fel mae Duw am iddyn nhw fyw yn cael eu herlid.” Felly ddylen ni ddim synnu bod Satan yn targedu’r brodyr sy’n cymryd y blaen. Mae ef eisiau gwneud iddyn nhw gefnu ar Jehofa ac mae ef hefyd eisiau codi ofn arnon ni.—1 Pedr 5:8.

Er bod Paul yn y carchar, aeth Onesifforws ati’n ddewr i’w gefnogi. Mae ein brodyr a chwiorydd heddiw hefyd yn cefnogi’r rhai yn y carchar, fel gwelwn ni yn y llun (Gweler paragraffau 11-12)

11. Beth rydyn ni’n ei ddysgu o esiampl Onesifforws? (2 Timotheus 1:16-18)

11 Dalia ati i gefnogi dy frodyr a glyna wrth eu hochr. (Darllen 2 Timotheus 1:16-18.) Gwnaeth un Cristion yn y ganrif gyntaf, o’r enw Onesifforws, ymateb yn wahanol. “Doedd ganddo ddim cywilydd [bod Paul] yn y carchar.” A doedd ef ddim yn ofni rhoi ei fywyd yn y fantol. Aeth i chwilio am Paul, ac ar ôl dod o hyd iddo, gwnaeth ef ei orau i’w helpu. Yn yr un ffordd, ddylen ni ddim gadael i ofn dyn ein stopio ni rhag gwneud popeth a allwn i helpu ein brodyr sy’n cael eu herlid. Dylen ni eu hamddiffyn nhw a’u helpu nhw yn ymarferol. (Diar. 17:17) Maen nhw wir angen ein cariad a’n cefnogaeth.

12. Beth rydyn ni’n ei ddysgu o esiampl ein brodyr a chwiorydd yn Rwsia?

12 Meddylia sut mae’r Tystion yn Rwsia wedi helpu eu brodyr a chwiorydd annwyl sydd wedi cael eu carcharu. Pan fydd rhai yn cael eu dwyn o flaen y llys, mae llwyth o frodyr a chwiorydd yn dod i’w cefnogi nhw. Beth ydy’r wers i ni? Paid ag ofni pan fydd brodyr sy’n cymryd y blaen yn cael eu sarhau, eu harestio, neu eu herlid. Gweddïa drostyn nhw, gofala am eu teuluoedd, ac edrycha am ffyrdd ymarferol eraill o’u helpu nhw.—Act. 12:5; 2 Cor. 1:10, 11.

PAN FYDD ERAILL YN DWEUD PETHAU CAS AMDANON NI

13. Pam mae’n gallu bod yn anodd trystio Jehofa a’i gyfundrefn pan fydd eraill yn gwneud hwyl am ein pennau?

13 Efallai bydd aelodau o’n teulu, cyd-weithwyr, neu ein cyd-ddisgyblion yn gwneud hwyl am ein pennau oherwydd ein bod ni’n pregethu ac yn dilyn safonau moesol Jehofa. (1 Pedr 4:4) Efallai byddan nhw’n dweud: “Dw i’n dy hoffi di fel person ond mae dy grefydd di’n rhy henffasiwn i mi, ac yn rhy llym.” Neu efallai byddan nhw’n pigo ar y ffordd rydyn ni’n trin y rhai sydd wedi eu diarddel a dweud: “Sut gelli di alw dy hun yn berson cariadus?” Os nad ydyn ni’n ofalus, gall sylwadau o’r fath godi amheuon a gwneud inni ofyn cwestiynau fel, ‘Ydy Jehofa yn gofyn gormod ohono i? Ydy ei gyfundrefn yn rhy gul?’ Os wyt ti’n mynd drwy sefyllfa o’r fath, sut gelli di aros yn agos at Jehofa a’i gyfundrefn?

Gwrthododd Job gredu celwyddau’r “ffrindiau” oedd yn gwneud hwyl am ei ben. Roedd yn benderfynol o fod yn ffyddlon i Jehofa (Gweler paragraff 14)

14. Sut dylen ni ymateb pan fydd eraill yn gwneud hwyl am ein pennau am ein bod ni’n byw yn ôl safonau Jehofa? (Salm 119:50-52)

14 Bydda’n benderfynol o gadw at safonau Jehofa. Roedd Job yn ddyn wnaeth gadw at safonau Jehofa er bod eraill wedi gwneud hwyl am ei ben oherwydd hynny. Gwnaeth un o ffrindiau gwael Job hyd yn oed drio ei berswadio fod gan Dduw ddim ots os oedd Job yn cadw at ei safonau neu beidio. (Job 4:17, 18; 22:3) Ond gwnaeth Job ddewis peidio â chredu eu celwyddau. Roedd yn gwybod mai safonau Jehofa sy’n iawn, ac roedd yn benderfynol o beidio â gadael i neb ei berswadio i fynd yn erbyn y safonau hynny. (Job 27:5, 6) Beth ydy’r wers? Paid â chwestiynu safonau Jehofa os ydy eraill yn gwneud hwyl am dy ben. Meddylia am dy fywyd dy hun. Onid ydy dilyn safonau Jehofa wastad wedi dy helpu di? Os wyt ti’n benderfynol o gefnogi’r gyfundrefn sy’n cadw at y safonau hyn, fydd dim byd yn dy wahanu di oddi wrth Jehofa, ni waeth faint o bobl sy’n gwneud hwyl am dy ben di.—Darllen Salm 119:50-52.

15. Pam gwnaeth teulu Brizit ei thrin hi’n gas?

15 Meddylia am brofiad ein chwaer Brizit yn India. Hi oedd yr unig Dyst yn ei theulu, ac roedden nhw’n ei thrin hi’n gas oherwydd hynny. Yn fuan ar ôl iddi gael ei bedyddio ym 1997, collodd ei gŵr ei swydd. Penderfynodd y byddai ef, Brizit, a’u merched yn symud i mewn gyda’i rieni ef, oedd yn byw mewn dinas arall. Ond, roedd ’na fwy o heriau i ddod i Brizit. Am fod ei gŵr allan o waith, roedd rhaid iddi weithio’n llawn amser er mwyn cael arian i edrych ar ôl y teulu. Ar ben hynny, roedd y Neuadd agosaf tua 220 milltir (350 km) i ffwrdd. Ac yn anffodus, roedd teulu ei gŵr yn ei gwrthwynebu hi gymaint nes oedd rhaid iddi hi a’i theulu symud eto. Wedyn, yn hollol annisgwyl, bu farw ei gŵr. Yn hwyrach ymlaen, cafodd un o’i merched ganser a marw, a hithau ond yn 12 oed. I wneud pethau’n waeth, gwnaeth teulu Brizit roi’r bai arni hi am hyn i gyd. Roedden nhw’n dweud na fyddai’r holl bethau drwg hyn wedi digwydd, petasai hi ddim wedi dod yn un o Dystion Jehofa. Er hyn i gyd, daliodd hi ati i drystio Jehofa ac aros yn agos at ei gyfundrefn.

16. Sut gafodd Brizit ei bendithio am aros yn agos at Jehofa a’i gyfundrefn?

16 Am fod Brizit yn byw mor bell oddi wrth y gynulleidfa, gwnaeth arolygwr cylchdaith ei hannog hi i bregethu yn ei hardal hi, ac i ddechrau cynnal cyfarfodydd yn ei thŷ. Er ei bod hi’n teimlo i ddechrau bod hynny’n ormod iddi, gwnaeth hi ddilyn ei awgrymiad. Beth oedd canlyniad gwneud hyn, a gwneud addoliad teuluol gyda’i merched yn rheolaidd? Llwyddodd Brizit i astudio’r Beibl â llawer o bobl. Cafodd cryn dipyn o’r rheini eu bedyddio, a dechreuodd hi arloesi’n llawn amser yn 2005. Mae’n amlwg bod Jehofa wedi gwobrwyo ei ffyddlondeb iddo ef a’i gyfundrefn. Bellach, mae ei merched hefyd yn gwasanaethu Jehofa yn ffyddlon, ac mae ’na ddwy gynulleidfa arall yn yr ardal honno! Mae Brizit yn sicr bod Jehofa wedi rhoi’r nerth iddi ymdopi drwy ei threialon, gan gynnwys cael ei thrin yn gas gan ei theulu.

ARHOSA’N FFYDDLON I JEHOFA A’I GYFUNDREFN

17. Beth dylen ni fod yn benderfynol o’i wneud?

17 Mae Satan eisiau inni gredu bod Jehofa’n cefnu arnon ni mewn amseroedd anodd, ac y bydd cefnogi cyfundrefn Jehofa ond yn gwneud bywyd yn anoddach inni. Mae ef hefyd eisiau codi ofn mawr arnon ni pan mae’r brodyr sy’n cymryd y blaen yn cael eu sarhau, eu herlid, neu eu carcharu. Ac mae ef eisiau inni amau safonau Jehofa a cholli hyder yn ei gyfundrefn pan fydd eraill yn gwneud hwyl am ein pennau. Ond gallwn ni osgoi cael ein twyllo ganddo, oherwydd rydyn ni’n gwybod yn iawn am ei dactegau. (2 Cor. 2:11) Bydda’n benderfynol o gymryd dim sylw o gelwyddau Satan, ac i aros yn ffyddlon i Jehofa a’i gyfundrefn. Mae’n bwysig cofio, fydd Jehofa byth yn cefnu arnat ti. Felly, paid â gadael i unrhyw beth dy wahanu di oddi wrtho!—Salm 28:7; Rhuf. 8:35-39.

18. Beth byddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl nesaf?

18 Yn yr erthygl hon, rydyn ni wedi trafod heriau sy’n dod o tu allan i’r gynulleidfa. Ond nid dyna’r unig bethau all wneud inni amau Jehofa a’i gyfundrefn. Mae rhai heriau sy’n dod o tu mewn i’r gynulleidfa yn gallu gwneud hynny hefyd. Yn yr erthygl nesaf, byddwn ni’n trafod sut gallwn ni ddelio â’r heriau hynny yn llwyddiannus.

CÂN 118 Rho Inni Fwy o Ffydd

a Rydyn ni eisiau dal ati’n ffyddlon yn y dyddiau diwethaf hyn. Ond er mwyn gwneud hynny, rhaid inni barhau i drystio Jehofa a’i gyfundrefn, er bod y Diafol yn trio ein stopio ni rhag gwneud hynny. Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n trafod tair her mae ef yn ei defnyddio, a sut gallwn ni ei rwystro rhag llwyddo.

b Newidiwyd rhai enwau.