Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 46

Sut Mae Jehofa yn Ein Helpu Ni i Ddal Ati’n Llawen

Sut Mae Jehofa yn Ein Helpu Ni i Ddal Ati’n Llawen

“Mae’r ARGLWYDD wir eisiau bod yn garedig atoch chi; bydd yn siŵr o godi i faddau i chi.”—ESEI. 30:18.

CÂN 3 Ein Nerth, Ein Gobaith, Ein Hyder

CIPOLWG a

1-2. (a) Pa gwestiynau byddwn ni’n eu hateb? (b) Beth sy’n dangos bod Jehofa wir eisiau ein helpu ni?

 WRTH inni wynebu treialon bywyd, mae Jehofa yn ein helpu ni i aros yn llawen wrth ei wasanaethu. Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n trafod sut mae’n gwneud hynny a sut gallwn ni elwa ar ei help. Ond yn gyntaf, dewch inni drafod cwestiwn arall: Ydy Jehofa wir eisiau ein helpu ni?

2 Meddylia am beth ddywedodd yr apostol Paul: “Yr Arglwydd ydy’r un sy’n fy helpu i; fydd gen i ddim ofn. Beth all pobl ei wneud i mi?” (Heb. 13:6) Yn ôl rhai cyfeirlyfrau Beiblaidd, mae’r term “un sy’n fy helpu,” yn cyfeirio at rywun sy’n rhuthro i helpu rhywun arall sy’n galw am help. Dychmyga Jehofa yn rhuthro i achub rhywun mewn trafferthion. Onid ydy hynny’n dweud y cwbl? Mae Jehofa wir eisiau ein helpu ni. A gyda Jehofa ar ein hochr, gallwn ni ddal ati’n llawen drwy ein treialon.

3. Sut mae Jehofa yn ein helpu ni i ddal ati’n llawen drwy ein treialon?

3 Dewch inni weld sut mae Jehofa yn ein helpu ni i ddal ati’n llawen yn ystod ein treialon drwy drafod llyfr Eseia. Beth sydd mor arbennig am lyfr Eseia? Mae llawer o’r proffwydoliaethau ynddo yn berthnasol i bobl Dduw heddiw. Ar ben hynny, mae Eseia yn disgrifio Jehofa mewn ffordd sy’n hawdd ei deall. Er enghraifft, ym mhennod 30, mae Eseia yn ein helpu ni i greu darlun clir yn ein meddyliau o’r ffordd mae Jehofa yn ein helpu ni (1) drwy wrando ar ein gweddïau a’u hateb, (2) drwy ein harwain, a (3) drwy ein bendithio nawr ac yn y dyfodol. Beth am inni drafod y rhain fesul un?

MAE JEHOFA YN GWRANDO ARNON NI

4. (a) Sut gwnaeth Jehofa ddisgrifio’r Iddewon yn nyddiau Eseia, a beth wnaeth ef ganiatáu i ddigwydd iddyn nhw? (b) Pa obaith roddodd Jehofa i’r rhai ffyddlon? (Eseia 30:18, 19)

4 Ar ddechrau Eseia pennod 30, mae Jehofa yn dweud bod yr Iddewon yn “blant ystyfnig,” sy’n “pentyrru un pechod ar y llall.” Aeth ymlaen i ddweud: “Maen nhw’n bobl anufudd . . . sy’n gwrthod gwrando ar beth mae’r ARGLWYDD yn ei ddysgu.” (Esei. 30:1, 9) Oherwydd hynny, dywedodd Eseia y byddai Jehofa yn caniatáu iddyn nhw fynd drwy adeg anodd. (Esei. 30:5, 17; Jer. 25:8-11) A dyna’n union ddigwyddodd pan wnaeth y Babiloniaid eu cymryd yn gaethweision. Ond roedd gan Eseia neges o obaith i’r Iddewon ffyddlon—un diwrnod, byddai Jehofa yn gadael iddyn nhw fynd yn ôl i Jerwsalem. (Darllen Eseia 30:18, 19.) Ond byddai llawer o flynyddoedd yn mynd heibio cyn i hynny ddigwydd. Fel mae’r geiriau, “mae’r ARGLWYDD wir eisiau bod yn garedig atoch chi,” yn awgrymu, gwnaeth Jehofa ddisgwyl yn amyneddgar cyn eu hachub nhw. Aeth 70 mlynedd heibio cyn i rai o’r Israeliaid gael mynd yn ôl i Jerwsalem. (Esei. 10:21; Jer. 29:10) Ar ôl gollwng cymaint o ddagrau o dristwch ym Mabilon, roedd yr Israeliaid yn ôl yn eu mamwlad, yn crio dagrau o lawenydd!

5. O ddarllen Eseia 30:19, beth gallwn ni fod yn sicr ohono?

5 Mae Eseia 30:19 yn mynd ymlaen i ddweud: “Bydd e’n garedig atoch chi pan fyddwch chi’n galw.” Onid ydy’r geiriau hynny yn gysur mawr i ni heddiw? Bydd Jehofa yn sicr o wrando’n astud ar ein gweddïau, ac ymateb yn sydyn. Fel dywedodd Eseia: ‘Bydd e’n ateb yr eiliad mae’n dy glywed di.’ Mae hynny’n pwysleisio pa mor awyddus ydy Jehofa i helpu’r rhai sy’n galw arno. Does dim dwywaith amdani, mae gwybod hyn yn ein helpu ni i ddal ati’n llawen.

6. Sut mae geiriau Eseia yn dangos bod Jehofa yn gwrando ar weddïau pob un o’i weision?

6 Mae’r adnod hon hefyd yn dangos bod Jehofa yn talu sylw i weddïau pob un ohonon ni. Yn rhan gyntaf pennod 30, mae Jehofa yn defnyddio’r “chi” lluosog, oherwydd mae’n siarad â’i bobl fel grŵp. Ond yn adnod 19, mae’n defnyddio “ti” yn yr iaith wreiddiol, am fod y neges yn cael ei chyfeirio at unigolion. Er enghraifft: “Fyddi di ddim yn wylo”; “Bydd yn garedig atat ti”; “Bydd e’n ateb yr eiliad mae’n dy glywed di.” Mae Jehofa yn dad cariadus. Mae’n gofalu am bob un ohonon ni fel unigolion, ac mae’n cymryd arno’i hun i wrando ar ein gweddïau. (Salm 116:1; Eseia 57:15) Felly pan ydyn ni wedi digalonni, fyddai Jehofa byth yn meddwl, ‘Pam na elli di fod yr un mor gryf â dy frawd neu dy chwaer?’

Beth roedd Eseia yn ei olygu drwy ddweud, “Peidiwch rhoi llonydd [i Jehofa]”? (Gweler paragraff 7)

7. Sut gwnaeth Eseia ac Iesu ddangos pa mor bwysig yw gweddïo’n ddi-baid?

7 Pan fyddwn ni’n gweddïo ar Dduw am rywbeth sy’n ein poeni, efallai’r peth cyntaf bydd Jehofa’n ei wneud yw rhoi’r nerth inni ymdopi â’r sefyllfa. Ond beth os bydd y treial yn para yn hirach nag oedden ni’n ei ddisgwyl? Mae Jehofa yn ein hannog ni i weddïo eto ac eto. Dywedodd Eseia: “Peidiwch rhoi llonydd [i Jehofa].” (Esei. 62:7) Felly, mae’n rhaid inni weddïo’n ddi-baid, fel nad ydy Jehofa yn cael llonydd gynnon ni fel petai. Mae hynny’n atgoffa ni o eglureb Iesu am weddi yn Luc 11:8-10, 13. Yno mae Iesu’n ein hannog ni i weddïo’n daer, gan ddweud y dylen ni ‘ddal ati i ofyn’ am yr ysbryd glân. Gallwn ni hefyd weddïo ar Jehofa am help i wneud penderfyniadau da.

MAE JEHOFA YN EIN HARWAIN

8. Sut daeth geiriau Eseia 30:20, 21 yn wir yn adeg yr Israeliaid?

8 Darllen Eseia 30:20, 21. Pan wnaeth y Babiloniaid amgylchynu Jerwsalem am flwyddyn a hanner, roedd dioddefaint mor gyfarwydd i’r bobl â dŵr a bara. Ond fel rydyn ni newydd ddarllen, gwnaeth Jehofa addo achub yr Iddewon petasen nhw’n newid eu hagwedd a’u hymddygiad. Pan ddywedodd Eseia, “Duw sy’n eich tywys,” roedd yn dweud, i bob pwrpas, y byddai Jehofa yn eu dysgu nhw sut i’w addoli yn y ffordd iawn. Ac yn sicr, fe wnaeth Jehofa hynny. Ar ôl i’r Iddewon gael eu rhyddhau o Fabilon, gwnaethon nhw lwyddo i adfer gwir addoliad o dan arweiniad Jehofa. Ac rydyn ni’n hynod o falch bod Jehofa hefyd yn ein harwain ninnau heddiw.

9. Beth ydy un ffordd mae Jehofa yn ein harwain ni heddiw?

9 Yn yr adnodau hyn, mae Eseia yn dweud ein bod ni’n cael ein harwain gan Jehofa mewn dwy ffordd. Drwy ddweud, “byddwch yn ei weld yn eich arwain” yn fan hyn, mae fel petai Jehofa yn sefyll o’n blaenau ni i’n dysgu, fel mae athro yn sefyll o flaen dosbarth. Onid ydy hynny’n anhygoel! Meddylia am yr holl ffyrdd mae Jehofa yn ein dysgu ni drwy ei gyfundrefn heddiw. Mae gynnon ni’r cyfarfodydd a chynadleddau, cyhoeddiadau, darllediadau, a llawer iawn mwy. Ac maen nhw i gyd yn ein helpu ni i ddal ati’n llawen drwy adegau anodd.

10. Ym mha ystyr ydyn ni’n clywed “llais y tu ôl [inni]”?

10 Dywedodd Eseia hefyd: “Byddwch yn clywed llais y tu ôl i chi.” Y tro hwn, mae Jehofa y tu ôl inni fel petai, fel mae athro yn cerdded tu ôl i’w fyfyrwyr yn dweud wrthon nhw pa ffordd i fynd. Ond sut rydyn ni’n clywed llais Duw y tu ôl inni heddiw? Cafodd geiriau Duw eu cofnodi yn y Beibl amser maith yn ôl. Felly pan fyddwn ni’n ei ddarllen, mae fel petai Duw yn siarad â ni o’r gorffennol, neu y tu ôl inni.—Esei. 51:4.

11. Beth sydd rhaid inni ei wneud er mwyn dal ati’n llawen, a pham?

11 Nesaf, dywedodd Eseia: “Dyma’r ffordd,” ac “ewch y ffordd yma.” (Esei. 30:21) Mae hynny’n awgrymu bod angen inni wneud dau beth er mwyn elwa’n llawn ar help Jehofa. Dydy gwybod pa ffordd i fynd ddim yn ddigon. Mae’n rhaid inni fynd ar hyd y ffordd honno. Rydyn ni’n dysgu beth mae Jehofa yn ei ofyn gynnon ni drwy astudio ei Air a’r cyhoeddiadau. Ond mae angen inni hefyd roi ar waith beth rydyn ni’n ei ddysgu. Mae’r ddau gam yn allweddol er mwyn dal ati’n llawen yn ein gwasanaeth a chael bendith Jehofa.

MAE JEHOFA YN EIN BENDITHIO

12. Yn ôl Eseia 30:23-26, sut byddai Jehofa yn bendithio ei bobl?

12 Darllen Eseia 30:23-26. Sut cafodd y broffwydoliaeth hon ei chyflawni ar ôl i rai o’r Iddewon ddod yn ôl i Israel o Fabilon? Rhoddodd Jehofa ddigonedd o fendithion corfforol ac ysbrydol iddyn nhw. Er enghraifft, bwyd, ond yn bwysicach byth, bwyd ysbrydol. Rhoddodd bopeth oedden nhw ei angen i glosio ato, ac i’w addoli mewn ffordd dderbyniol unwaith eto. Doedden nhw erioed wedi cael cymaint o fendithion! Ar ben hynny, rydyn ni’n gweld yn adnod 26 bod Jehofa wedi taflu goleuni ar ei Air i’w helpu nhw i’w ddeall. (Esei. 60:2) Roedd hyn yn gymaint o eli i’w calonnau, cawson nhw’r nerth i allu dal ati i wasanaethu Jehofa yn llawen.—Esei. 65:14.

13. Sut mae’r broffwydoliaeth am adfer addoliad pur wedi cael ei chyflawni yn ein dyddiau ni?

13 Mae’r broffwydoliaeth am adfer addoliad pur yn berthnasol i ni heddiw. Sut? Ers 1919, mae miliynau o bobl wedi dianc o Fabilon Fawr, ymerodraeth fyd-eang gau grefydd. Ond yn hytrach na chael eu harwain i Wlad yr Addewid, fel yn achos yr Israeliaid, maen nhw wedi cael eu harwain at rywbeth llawer gwell, sef paradwys ysbrydol. (Esei. 51:3; 66:8) Ond beth ydy hynny?

14. Beth ydy’r baradwys ysbrydol, a phwy sy’n byw yno heddiw? (Gweler Esboniad.)

14 Mae’r eneiniog wedi bod yn byw mewn paradwys ysbrydol b ers 1919. Ers hynny, mae’r “defaid eraill” hefyd wedi dod i mewn i’r wlad ysbrydol honno, ac wedi cael eu bendithio gan Jehofa.—Ioan 10:16; Esei. 25:6; 65:13.

15. Lle mae’r baradwys ysbrydol?

15 Lle mae’r wlad neu’r baradwys ysbrydol honno? Mae pobl yn addoli Jehofa ledled y byd, felly mae’n rhaid bod y baradwys ysbrydol hefyd yn ymestyn i bedwar ban byd. Felly cyn belled â’n bod ni’n gwneud ein gorau i wasanaethu Jehofa, gallwn ni fod yn rhan o’r baradwys ysbrydol, ni waeth lle rydyn ni’n byw.

Sut gall pob un ohonon ni gyfrannu at hyfrydwch y baradwys ysbrydol? (Gweler paragraffau 16-17)

16. Sut gallwn ni barhau i werthfawrogi’r baradwys ysbrydol?

16 Unwaith ein bod ni yn y baradwys ysbrydol, dydyn ni ddim eisiau ei chymryd yn ganiataol. Mae’n rhaid inni barhau i’w gwerthfawrogi. Gallwn ni wneud hynny drwy ganolbwyntio ar gryfderau ein brodyr a chwiorydd yn hytrach nag ar eu gwendidau. (Ioan 17:20, 21) Meddylia am barc neu ardd hyfryd. Mewn rhywle felly, bydden ni’n disgwyl gweld amrywiaeth o wahanol goed. Mewn ffordd debyg, mae’r cynulleidfaoedd heddiw yn llawn amrywiaeth o wahanol unigolion gwnaeth Eseia eu cymharu â choed. (Esei. 44:4; 61:3) Felly yn hytrach na chraffu ar amherffeithion y “coed” o’n cwmpas ni, rhaid inni ganolbwyntio ar hyfrydwch y “goedwig” gyfan. Paid â gadael i dy amherffeithion dy hun na rhai pobl eraill wneud iti golli golwg ar ba mor arbennig ydy’r frawdoliaeth fyd-eang.

17. Beth gall pob un ohonon ni ei wneud i gyfrannu at undod y gynulleidfa?

17 Gall pob un ohonon ni gyfrannu at undod y gynulleidfa drwy hyrwyddo heddwch ag eraill. (Math. 5:9; Rhuf. 12:18) Rydyn ni’n gwneud y baradwys ysbrydol yn fwy hyfryd byth bob tro rydyn ni’n gwneud hynny. Bydd cofio bod pob person sydd yn y baradwys ysbrydol yno am fod Jehofa wedi ei ddenu yn ein helpu ni i gadw heddwch. (Ioan 6:44) Dychmyga pa mor hapus ydy Jehofa o’n gweld ni’n gweithio’n galed i gyfrannu at yr heddwch a’r undod ymysg ein gilydd!—Esei. 26:3; Hag. 2:7.

18. Beth dylen ni fyfyrio arno’n aml, a pham?

18 Mae Jehofa yn bendithio ei bobl mewn llawer o wahanol ffyrdd. Sut gallwn ni wneud y gorau o’r bendithion hynny? Gallwn ni fyfyrio ar beth rydyn ni’n ei ddysgu o Air Duw a’n cyhoeddiadau. Bydd hynny yn ei gwneud hi’n haws inni feithrin rhinweddau Cristnogol a fydd yn ein helpu ni i ‘fod o ddifri yn ein gofal am ein gilydd.’ (Rhuf. 12:10) Byddwn ni’n closio at Jehofa drwy feddwl am yr holl ffyrdd mae ef yn ein helpu ni nawr. A bydd meddwl am yr holl bethau gwych mae Jehofa wedi eu haddo ar gyfer y dyfodol yn ein helpu ni i gadw ein gobaith o’i wasanaethu am byth yn fyw. Bydd hyn ond yn cyfrannu at ein llawenydd wrth wasanaethu Jehofa heddiw.

YN BENDERFYNOL O DDAL ATI

19. (a) Yn ôl Eseia 30:18, beth gallwn ni fod yn sicr ohono? (b) Beth fydd yn ein helpu i ddal ati’n llawen?

19 Mae Jehofa “yn siŵr o godi” yn fuan i ddod â’r byd drwg hwn i ben. (Esei. 30:18) Mae Jehofa “yn Dduw cyfiawn,” felly does dim dwywaith amdani, fydd ef ddim yn gadael i fyd Satan fynd ymlaen eiliad yn hirach nag sy’n rhaid. (Esei. 25:9) Rydyn ni, fel Jehofa, yn disgwyl yn awyddus am y diwrnod hwnnw. Ond yn y cyfamser, rydyn ni’n benderfynol o ddal ati i drysori’r fraint o weddïo, o astudio Gair Duw a’i roi ar waith, ac o fyfyrio ar ein bendithion. Os gwnawn ni hynny, bydd Jehofa yn ein helpu ni i ddal ati i’w wasanaethu yn llawen.

CÂN 142 Dal Ein Gafael yn Ein Gobaith

a Mae Jehofa yn helpu ei bobl i ddal ati yn llawen drwy dreialon bywyd. Yn yr erthygl hon byddwn ni’n trafod tair ffordd mae’n gwneud hynny, drwy edrych ar Eseia pennod 30. Bydd hyn yn ein hatgoffa ni pa mor bwysig ydy gweddïo ar Jehofa, astudio ei Air, a myfyrio ar y bendithion sydd gynnon ni heddiw, a’r rhai y gallwn ni edrych ymlaen atyn nhw yn y dyfodol.

b ESBONIAD: Rydyn ni yn y “baradwys ysbrydol” pan ydyn ni’n gwasanaethu Jehofa mewn undod. Yno, mae gynnon ni ddigonedd o fwyd ysbrydol sydd heb ei lygru gan unrhyw gelwyddau crefyddol, ac rydyn ni’n cadw’n brysur yn pregethu’r newyddion da am Deyrnas Dduw. Mae gynnon ni berthynas agos â Jehofa a heddwch gyda’r brodyr a chwiorydd sy’n ein helpu ni i ddal ati’n llawen yn wyneb heriau bywyd. Rydyn ni’n mynd i mewn i’r baradwys ysbrydol pan ydyn ni’n dechrau addoli Jehofa yn y ffordd iawn, ac yn gwneud ein gorau i’w efelychu.