ERTHYGL ASTUDIO 45
Sut Mae Jehofa yn Ein Helpu i Bregethu
“Byddan nhw o leia’n gwybod fod proffwyd wedi bod gyda nhw.”—ESEC. 2:5.
CÂN 67 “Pregetha’r Gair”
CIPOLWG a
1. Beth gallwn ni ei ddisgwyl, a beth gallwn ni fod yn sicr ohono?
RYDYN ni’n disgwyl y bydd pobl yn ein gwrthwynebu ni yn ein gweinidogaeth, ac mae’n debyg bydd hynny ond yn mynd yn waeth yn y dyfodol. (Dan. 11:44; 2 Tim. 3:12; Dat. 16:21) Ond rydyn ni’n hollol sicr y bydd Jehofa yn ein helpu ni am ei fod wastad wedi helpu ei bobl, ni waeth pa mor anodd oedd eu haseiniadau. Mae hanes y proffwyd Eseciel yn dystiolaeth o hynny. Cafodd ei aseinio i bregethu i’r Iddewon alltud ym Mabilon. Dewch inni weld beth ddigwyddodd.
2. Sut gwnaeth Jehofa ddisgrifio’r rhai roedd rhaid i Eseciel bregethu iddyn nhw, a beth byddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl hon? (Eseciel 2:3-6)
2 Sut fath o bobl roedd Eseciel yn pregethu iddyn nhw? Dywedodd Jehofa eu bod nhw’n “rebeliaid,” yn “bobl benstiff ac ystyfnig.” Roedden nhw’n bigog fel drain ac yn beryglus fel sgorpionau. Does dim rhyfedd bod Jehofa wedi dweud wrth Eseciel sawl gwaith: “Paid ti bod ag ofn”! (Darllen Eseciel 2:3-6.) Llwyddodd Eseciel i gyflawni ei aseiniad i bregethu oherwydd (1) Jehofa wnaeth ei anfon, (2) cafodd nerth gan ysbryd glân Jehofa, a (3) gwnaeth geiriau Duw gryfhau ei ffydd. Sut gwnaeth y pethau hyn helpu Eseciel, a sut gallan nhw ein helpu ninnau heddiw?
ESECIEL—WEDI EI ANFON GAN JEHOFA
3. Pa eiriau fyddai wedi atgyfnerthu Eseciel, a pham roedd yn sicr y byddai Jehofa yn ei gefnogi?
3 Pan ddywedodd Jehofa: “Dw i’n dy anfon di,” mae’n siŵr ei fod wedi atgyfnerthu Eseciel. (Esec. 2:3, 4) Pam? Mae’n debyg ei fod yn cofio bod Jehofa wedi dweud rhywbeth tebyg i Moses ac Eseia wrth eu dewis nhw fel proffwydi. (Ex. 3:10; Esei. 6:8) Roedd hefyd yn gwybod sut roedd Jehofa wedi helpu’r ddau broffwyd hynny i lwyddo mewn aseiniadau anodd. Ar ben hynny, dywedodd Jehofa ddwywaith, “Dw i’n dy anfon di.” Felly roedd gan Eseciel bob rheswm i gredu y byddai Jehofa yn ei gefnogi. Defnyddiodd Eseciel yr ymadrodd, “Dyma fi’n cael neges gan yr ARGLWYDD,” neu “Dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrtho i,” sawl gwaith yn ei lyfr. (Esec. 3:16; 6:1) Felly yn amlwg, roedd yn hollol sicr mai Jehofa oedd wedi ei anfon. Meddylia hefyd am gefndir Eseciel. Roedd ei dad yn offeiriad, ac mae’n debyg ei fod wedi dysgu Eseciel bod Jehofa wastad wedi addo cefnogi ei broffwydi. Er enghraifft, dywedodd Jehofa wrth Isaac, Jacob, a Jeremeia: “Dw i gyda ti.”—Gen. 26:24; 28:15; Jer. 1:8.
4. Beth fyddai wedi atgyfnerthu Eseciel?
4 Dywedodd Jehofa wrth Eseciel: “Fydd pobl Israel ddim yn gwrando arnat ti, achos dŷn nhw ddim yn fodlon gwrando arna i.” (Esec. 3:7) Yn y bôn, drwy wrthod Eseciel, roedd y bobl yn gwrthod Jehofa. Meddylia gymaint o gysur byddai’r geiriau hynny wedi bod. Roedd Eseciel yn gwybod nad oedd ymateb negyddol y bobl yn golygu ei fod wedi methu fel proffwyd. Ac unwaith i’w broffwydoliaethau ddod yn wir, byddai’r bobl yn “gwybod fod proffwyd wedi bod gyda nhw.” (Esec. 2:5; 33:33) Mae’n hawdd dychmygu sut gwnaeth hyn atgyfnerthu Eseciel ar gyfer ei weinidogaeth.
WEDI EIN HANFON GAN JEHOFA
5. Yn ôl Eseia 44:8, beth sy’n rhoi dewrder inni?
5 Mae gwybod mai Jehofa sydd wedi ein hanfon ni yn rhoi dewrder i ninnau hefyd. Mae’n fraint anhygoel ei fod yn ein galw ni’n ‘dystion’ iddo. (Esei. 43:10) Dywedodd Jehofa wrth Eseciel: “Paid ti bod ag ofn,” ac mae’n dweud yr un peth wrthon ninnau heddiw: “Peidiwch bod ag ofn! Peidiwch dychryn!” Fel Eseciel, Jehofa sydd wedi ein hanfon ni ac mae’n ein cefnogi ni, felly does dim rheswm inni ofni’r rhai sy’n ein gwrthwynebu.—Darllen Eseia 44:8.
6. (a) Sut mae Jehofa yn addo ein helpu ni? (Eseia 43:2) (b) Beth sy’n rhoi cysur a nerth inni?
6 Mae Jehofa yn addo ein helpu ni. Meddylia, cyn iddo ddweud: “Chi ydy fy nhystion i,” dywedodd: “Pan fyddi di’n mynd trwy lifogydd, bydda i gyda ti; neu drwy afonydd, fyddan nhw ddim yn dy gario di i ffwrdd. Wrth i ti gerdded trwy dân, fyddi di’n cael dim niwed; fydd y fflamau ddim yn dy losgi di.” (Esei. 43:2) Weithiau rydyn ni’n mynd drwy gymaint o dreialon maen nhw’n teimlo fel llifogydd, ac mae rhai ohonyn nhw mor anodd, mae fel petasen ni’n cerdded drwy dân. Ond gyda help Jehofa, rydyn ni’n dal ati i bregethu. (Esei. 41:13) Mae’r rhan fwyaf o bobl heddiw hefyd yn gwrthod y neges, fel roedden nhw yn nyddiau Eseciel. Ond dydy hynny ddim yn golygu ein bod ni wedi gwneud jòb wael yn ein gweinidogaeth, nac fel un o Dystion Duw. Rydyn ni’n cael cysur a nerth o wybod y byddwn ni’n plesio Jehofa cyn belled â’n bod ni’n dal ati’n ffyddlon i rannu ei neges. Fel dywedodd yr apostol Paul: “Bydd [pawb] yn cael eu talu am eu gwaith eu hunain.” (1 Cor. 3:8; 4:1, 2) Yn ôl un chwaer sydd wedi arloesi ers blynyddoedd: “Mae’n rhoi llawenydd imi wybod bod Jehofa yn gwobrwyo ein hymdrechion.”
ESECIEL—WEDI EI ATGYFNERTHU GAN YSBRYD DUW
7. Pa effaith byddai meddwl am ei weledigaeth wedi ei chael ar Eseciel? (Gweler y llun ar y clawr.)
7 Cafodd Eseciel weledigaeth ryfeddol, oedd yn dangos yn glir bod ysbryd glân Jehofa yn helpu’r angylion pwerus ac yn troi olwynion anferth y cerbyd nefol. (Esec. 1:20, 21) Pa effaith gafodd hynny ar Eseciel? Roedd wedi rhyfeddu gymaint dywedodd: “Dyma fi’n mynd ar fy ngwyneb ar lawr.” (Esec. 1:28) Meddylia gymaint byddai myfyrio ar y weledigaeth honno wedi cryfhau ei hyder yng ngallu’r ysbryd glân i’w helpu yn y weinidogaeth.
8-9. (a) Pa effaith gafodd gorchymyn Jehofa ar Eseciel? (b) Beth arall wnaeth Jehofa i atgyfnerthu Eseciel i bregethu mewn tiriogaeth anodd?
8 Nesaf, dyma Jehofa yn gorchymyn i Eseciel: “Ddyn, saf ar dy draed; dw i eisiau siarad â ti.” Pa effaith gafodd hynny ar Eseciel? Dywedodd: “Dyma ysbryd yn dod i mewn i mi a gwneud i mi sefyll ar fy nhraed.” Felly rhoddodd gorchymyn ac ysbryd Jehofa y nerth i Eseciel godi unwaith eto. (Esec. 2:1, 2) O hynny ymlaen, a thrwy gydol ei weinidogaeth, roedd Eseciel o dan “ddylanwad” ysbryd glân Duw. (Esec. 3:22; 8:1; 33:22; 37:1; 40:1) Yr ysbryd hwnnw wnaeth atgyfnerthu Eseciel i wynebu’r dasg anodd o bregethu i bobl “benstiff ac ystyfnig.” (Esec. 3:7) Dywedodd Jehofa wrtho: “Dw i’n mynd i dy wneud di’r un mor benderfynol a phenstiff ag ydyn nhw! Bydda i’n dy wneud di yn galed fel diemwnt (sy’n gletach na charreg fflint!) Paid bod ag ofn. Paid gadael iddyn nhw dy ddychryn di.” (Esec. 3:8, 9) Roedd fel petai Jehofa yn dweud: ‘Ydyn, maen nhw’n ystyfnig, ond paid â digalonni. Bydda i’n dy gryfhau di.’
9 Ysbryd Duw wnaeth gario Eseciel yn ei waith pregethu. Dywedodd Eseciel: “Roedd dylanwad yr ARGLWYDD arna i ac roedd yn rheoli beth oedd yn digwydd i mi yn llwyr.” Cymerodd wythnos i’r proffwyd brosesu’r neges a’i deall yn ddigon da i allu ei rhannu’n hyderus. (Esec. 3:14, 15) Yna gwnaeth Jehofa ei anfon i ddyffryn lle daeth yr ysbryd glân arno unwaith eto. (Esec. 3:23, 24) Nawr, roedd Eseciel yn barod i ddechrau ei weinidogaeth.
WEDI EIN HATGYFNERTHU GAN YSBRYD DUW
10. Pa help rydyn ni ei angen i bregethu, a pham?
10 Pa help rydyn ni ei angen i wneud ein gwaith pregethu? Meddylia am beth ddigwyddodd i Eseciel cyn iddo ddechrau pregethu. Cafodd nerth ysbryd glân Duw. Rydyn ni angen nerth yr ysbryd hwnnw hefyd. Pam? Oherwydd mae Satan yn benderfynol o’n stopio ni rhag pregethu, ac allwn ni ddim brwydro yn ei erbyn heb help yr ysbryd glân. (Dat. 12:17) O’n safbwynt ni, mae’n ymddangos bod Satan yn rhy gryf inni allu ei drechu. Ond dyna’n union rydyn ni’n ei wneud drwy ddal ati i bregethu. (Dat. 12:9-11) Sut felly? Bob tro rydyn ni’n mynd allan yn y weinidogaeth, rydyn ni’n dangos nad ydy Satan a’i fygythiadau yn codi ofn arnon ni. A thrwy wneud hynny, rydyn ni’n trechu Satan dro ar ôl tro. Mae’r ffaith ein bod ni’n gallu dal ati i bregethu er gwaethaf gwrthwynebiad yn dangos bod yr ysbryd glân yn rhoi nerth inni, a bod Jehofa yn ein cefnogi.—Math. 5:10-12; 1 Pedr 4:14.
11. Beth bydd ysbryd Duw yn ein helpu ni i’w wneud, a sut gallwn ni barhau i’w dderbyn?
11 O feddwl am y ffordd gwnaeth Jehofa wneud Eseciel mor galed â diemwnt fel petai, rydyn ni’n dysgu bod ysbryd Duw yn gallu ein gwneud ninnau yn hafal i unrhyw her rydyn ni’n dod ar ei thraws yn ein gweinidogaeth. (2 Cor. 4:7-9) Ond cofia, mae’n rhaid inni ddal ati i weddïo os ydyn ni am barhau i dderbyn ysbryd glân Jehofa. Bydd ef yn siŵr o glywed ein gweddïau. Fel dywedodd Iesu wrth ei ddisgyblion: ‘Daliwch ati i ofyn, chwilio, a churo.’ Yna bydd Jehofa “yn siŵr o roi’r Ysbryd Glân i’r rhai sy’n gofyn iddo!”—Luc 11:9, 13; Act. 1:14; 2:4.
FFYDD ESECIEL WEDI EI CHRYFHAU GAN EIRIAU DUW
12. Yn ôl Eseciel 2:9-3:3, o le daeth y sgrôl a beth oedd ynddi?
12 Ar un llaw, cafodd Eseciel y nerth a’r dewrder i allu pregethu gan ysbryd glân Duw. Ond ar y llaw arall, cafodd ei ffydd ei chryfhau gan eiriau Duw. Yn ei weledigaeth, gwelodd Eseciel law yn gafael mewn sgrôl. (Darllen Eseciel 2:9–3:3.) Daeth y sgrôl honno o orsedd Duw. Yn fwy na thebyg, defnyddiodd Jehofa un o’r pedwar angel roedd Eseciel wedi eu gweld yn gynharach i roi’r sgrôl iddo. (Esec. 1:8; 10:7-8, 20) Beth oedd yn y sgrôl? Yn syml, geiriau Duw. Roedd neges hir o farn yn llenwi’r ddwy ochr, a dyna oedd y neges roedd Eseciel i’w chyhoeddi i’r alltudion ystyfnig.—Esec. 2:7.
13. Beth gwnaeth Jehofa ofyn i Eseciel ei wneud â’r sgrôl, a pham roedd hi’n felys?
13 Dywedodd Jehofa wrth Eseciel: “Llenwa dy fol gyda’r sgrôl.” A dyna’n union wnaeth Eseciel. Ond beth oedd ystyr hynny? Roedd rhaid iddo brosesu’r neges yr oedd am ei chyhoeddi yn llawn. Roedd rhaid iddi ddod yn rhan ohono fel petai, ac effeithio’n ddwfn ar ei deimladau er mwyn ei gymell i’w phregethu. Ond er mawr syndod iddo, roedd y sgrôl yn “blasu’n felys fel mêl.” (Esec. 3:3) Pam? Oherwydd, i Eseciel, roedd y fraint o gynrychioli Jehofa yn un felys. (Salm 19:8-11) Roedd yn ddiolchgar bod Jehofa wedi ei ddewis fel proffwyd.
14. Beth wnaeth helpu Eseciel i baratoi ar gyfer ei aseiniad?
14 Yn nes ymlaen, dywedodd Jehofa wrth Eseciel: “Gwranda di’n ofalus ar bopeth dw i’n ddweud, a’i gymryd o ddifrif.” (Esec. 3:10) Drwy ddweud hynny, roedd yn annog Eseciel i drio cofio popeth a oedd wedi ei ysgrifennu yn y sgrôl ac i fyfyrio arno. Gwnaeth hynny, nid yn unig gryfhau ffydd Eseciel, ond hefyd ei baratoi i rannu neges bwerus â’r bobl. (Esec. 3:11) Gyda neges Duw yn ei galon, roedd Eseciel yn barod i fynd amdani a chyflawni ei aseiniad.—Cymhara Salm 19:14.
EIN FFYDD NI YN CAEL EI CHRYFHAU GAN EIRIAU DUW
15. Er mwyn dyfalbarhau, beth sydd rhaid inni ei gymryd “o ddifrif”?
15 Er mwyn dyfalbarhau yn ein gweinidogaeth, mae’n rhaid i ninnau adael i eiriau Duw gryfhau ein ffydd. Mae’n rhaid inni gymryd geiriau Jehofa “o ddifrif.” Heddiw, mae Jehofa yn siarad â ni drwy ei Air, y Beibl. Ond sut gallwn ni wneud yn siŵr bod ei eiriau’n parhau i ddylanwadu ar ein meddyliau, ein teimladau, a’n cymhellion?
16. Beth sydd rhaid inni ei wneud â Gair Duw, a sut gallwn ni sicrhau ei fod yn cyrraedd ein calonnau?
16 Wrth inni fwyta bwyd a’i dreulio, mae ein cyrff yn cryfhau. Mae’r un peth yn wir wrth inni astudio Gair Duw. Mae’n rhaid inni fyfyrio arno er mwyn cryfhau ein ffydd. Mae Jehofa eisiau inni lenwi ein boliau â’i Air fel petai, hynny ydy, prosesu ei Air a’i ddeall yn dda. Sut gallwn ni wneud hynny? Yn gyntaf, dylen ni weddïo er mwyn paratoi ein calonnau i dderbyn Gair Duw. Wedyn, ar ôl darllen rhan o’r Beibl, dylen ni gymryd amser i fyfyrio a meddwl yn ddwfn am beth rydyn ni newydd ei ddarllen. Beth fydd y canlyniad? Y mwyaf rydyn ni’n myfyrio, y cryfaf bydd ein ffydd.
17. Pam mae’n hanfodol ein bod ni’n myfyrio ar beth rydyn ni’n ei ddarllen yn y Beibl?
17 Mae’n hanfodol ein bod ni’n darllen y Beibl a myfyrio arno, oherwydd dyna sy’n rhoi’r nerth inni allu rhannu neges y Deyrnas nawr. A dyna fydd yn rhoi’r nerth inni allu cyhoeddi’r neges o farn bydd rhaid inni ei chyhoeddi yn y dyfodol agos. Ar ben hynny, mae myfyrio ar rinweddau hyfryd Jehofa yn ein helpu ni i glosio ato’n fwy byth. O ganlyniad bydd gynnon ni rywbeth melys a hyfryd—heddwch mewnol a bodlonrwydd.—Salm 119:103.
WEDI EIN HANNOG I DDYFALBARHAU
18. Beth fydd rhaid i bobl yn ein tiriogaeth ei gydnabod, a pham?
18 Dydyn ni ddim yn broffwydi fel Eseciel. Ond rydyn ni’n benderfynol o rannu neges Jehofa nes iddo ddweud bod y gwaith pregethu wedi dod i ben. Pan ddaw’r cyfnod o farnu, fydd pobl yn ein tiriogaeth ddim yn gallu dweud nad ydyn nhw wedi cael rhybudd, na dweud bod Duw wedi eu hanwybyddu nhw. (Esec. 3:19; 18:23) Bydd rhaid iddyn nhw gydnabod bod y neges wedi dod oddi wrth Dduw.
19. Beth fydd yn rhoi’r nerth inni allu gwneud ein gweinidogaeth?
19 Yn yr erthygl hon, rydyn ni wedi trafod tri pheth wnaeth helpu Eseciel i gyflawni ei weinidogaeth. Gall yr un pethau ein helpu ni heddiw. Rydyn ni’n dal ati i bregethu am ein bod ni’n gwybod bod Jehofa wedi ein hanfon ni, bod ei ysbryd yn ein hatgyfnerthu, a bod ei Air yn cryfhau ein ffydd. Gyda help Jehofa, rydyn ni’n benderfynol o wneud ein gweinidogaeth, a dyfalbarhau “i’r diwedd.”—Math. 24:13.
CÂN 65 Bwria Ymlaen!
a Yn yr erthygl hon byddwn ni’n trafod tri pheth wnaeth helpu’r proffwyd Eseciel yn ei aseiniad o bregethu. Bydd trafod hyn yn ein gwneud ni’n fwy sicr byth y bydd Jehofa yn ein helpu ninnau hefyd.