Awgrymiad ar Gyfer Astudio
Dysga’r Geiriau i’n “Caneuon Ysbrydol”
“Pan ydw i’n teimlo’n ddiwerth, mae Jehofa yn fy nghalonogi i drwy’r caneuon ar JW Broadcasting®.”—Lorraine, UDA.
Mae “caneuon ysbrydol” wastad wedi bod yn rhan o’n haddoliad Cristnogol. (Col. 3:16) Os wyt ti’n dysgu’r geiriau i’r caneuon hyn, gallan nhw dy helpu hyd yn oed pan nad oes gen ti lyfr caneuon neu ddyfais electronig wrth law. Dilyna’r awgrymiadau hyn i dy helpu di i gofio geiriau’r caneuon.
Darllena’r geiriau’n ofalus er mwyn deall yr ystyr. Gelli di gofio gwybodaeth yn well pan mae’n gwneud synnwyr iti. Mae’r geiriau ar gyfer ein holl ganeuon, gan gynnwys y caneuon gwreiddiol a’r caneuon i blant, ar gael ar jw.org. O dan y rhan Llyfrgell, dos i Cerddoriaeth.
Ysgrifenna’r geiriau i lawr. Bydd hyn yn ei gwneud hi’n haws byth iti gofio’r geiriau.—Deut. 17:18.
Cana’n uchel. Darllena neu cana’r caneuon dro ar ôl tro.
Gweld faint rwyt ti’n gallu ei gofio. Tria gofio’r geiriau heb edrych ar y daflen arwain, ac yna gweld pa mor dda y gwnest ti.