Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 36

Beth Mae’n Rhaid iti ei Gario yn y Ras am Fywyd

Beth Mae’n Rhaid iti ei Gario yn y Ras am Fywyd

“Gadewch inni hefyd daflu i ffwrdd bopeth sy’n pwyso arnon ni . . . a gadewch inni redeg y ras sydd wedi ei gosod o’n blaenau ni gyda dyfalbarhad.”—HEB. 12:1.

CÂN 33 Bwrw Dy Faich ar Jehofa

CIPOLWG a

1. Yn ôl Hebreaid 12:1, beth mae’n rhaid inni ei wneud i gyrraedd llinell derfyn y ras am fywyd?

 MAE’R Beibl yn cymharu ein bywyd Cristnogol â ras. Bydd y rhedwyr sy’n croesi’r llinell derfyn yn derbyn y wobr o fywyd tragwyddol. (2 Tim. 4:7, 8) Mae’n rhaid inni wneud pob ymdrech i ddal ati i redeg, yn enwedig gyda’r llinell derfyn mor agos. Llwyddodd yr apostol Paul i gyrraedd terfyn ei ras am fywyd. Hefyd, datgelodd rywbeth a fydd yn ein helpu ni i ennill yn ras. Dywedodd wrthon ni am “daflu i ffwrdd bopeth sy’n pwyso arnon ni . . . a gadewch inni redeg y ras sydd wedi ei gosod o’n blaenau ni gyda dyfalbarhad.”—Darllen Hebreaid 12:1.

2. Beth mae’n ei olygu i “daflu i ffwrdd bopeth sy’n pwyso arnon ni”?

2 Pan ysgrifennodd Paul fod rhaid inni “daflu i ffwrdd bopeth sy’n pwyso arnon ni,” a oedd hynny’n golygu nad oedd Cristion i gario unrhyw lwyth? Nac oedd. Ei bwynt oedd bod rhaid inni gael gwared ar bob llwyth diangen. Gallai llwyth fel hyn ein dal ni’n ôl ac achosi inni flino’n llwyr. Er mwyn dyfalbarhau, mae’n rhaid inni gydnabod ein bod ni’n cario llwyth diangen ac yna cael gwared ohono’n syth. Ond, mae ’na bethau y dylen ni eu cario, ac mae’n bwysig inni wneud hynny. Os nad ydyn ni, byddwn ni’n anghymwys i redeg y ras. (2 Tim. 2:5) Pa lwythi y dylen ni eu cario?

3. (a) Yn ôl Galatiaid 6:5, beth mae’n rhaid inni ei gario? (b) Beth byddwn ni yn ei ystyried yn yr erthygl hon, a pham?

3 Darllen Galatiaid 6:5. Cyfeiriodd Paul at rywbeth mae’n rhaid inni ei gario. Ysgrifennodd, “bydd pob un yn cario ei lwyth ei hun.” Yma, roedd Paul yn cyfeirio at ein cyfrifoldeb personol o flaen Duw, rhywbeth mae’n rhaid inni ei ysgwyddo ein hunain. Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n ystyried beth mae ‘llwyth ein hunain’ yn ei gynnwys a sut gallwn ni ei gario. Hefyd, byddwn ni’n ystyried mathau o bwysau diangen a sut i’w taflu i ffwrdd. Bydd cario ein llwyth ein hunain a thaflu i ffwrdd unrhyw bwysau diangen yn ein helpu ni i redeg y ras am fywyd yn llwyddiannus.

LLWYTHI MAE’N RHAID INNI EU CARIO

Mae cario ein llwythi ein hunain yn cynnwys byw yn ôl ein cysegriad i Jehofa, cyflawni ein dyletswyddau teuluol, a derbyn canlyniadau ein penderfyniadau (Gweler paragraffau 4-9)

4. Pam nad ydy ein hymgysegriad yn faich? (Gweler hefyd y llun.)

4 Ein hymgysegriad. Pan wnaethon ni gysegru ein hunain i Jehofa, gwnaethon ni adduned i’w addoli ac i wneud ei ewyllys. Mae’n rhaid inni gadw’r adduned honno. Mae’n rhaid inni gymryd ein hymgysegriad o ddifri, ond nid yw’n faich. Wedi’r cwbl, gwnaeth Jehofa ein creu ni i fyw yn unol â’i ewyllys. (Dat. 4:11) Mae wedi rhoi angen ysbrydol ynon ni ac wedi ein creu ni ar ei ddelw. O ganlyniad, gallwn ni agosáu ato a mwynhau gwneud ei ewyllys. (Salm 40:8, BCND) Ar ben hynny, pan ydyn ni’n gwneud ewyllys Duw ac yn dilyn ei Fab, byddwn ni’n ‘cael ein hadfywio.’—Math. 11:28-30.

(Gweler paragraffau 4-5)

5. Beth all dy helpu di i gyflawni dy ymgysegriad? (1 Ioan 5:3)

5 Sut gelli di gario dy lwyth? Gall dau beth dy helpu di. Yn gyntaf, parha i gryfhau dy gariad at Jehofa drwy fyfyrio ar y pethau da mae wedi eu gwneud ar dy gyfer a’r bendithion sydd i ddod yn y dyfodol. Y mwyaf yn y byd mae dy gariad at Dduw yn tyfu, yr haws bydd hi iti ufuddhau iddo. (Darllen 1 Ioan 5:3.) Yn ail, efelycha Iesu. Llwyddodd i wneud ewyllys Duw gan ei fod wedi gweddïo ar Jehofa am help a chadw ei lygad ar y wobr. (Heb. 5:7; 12:2) Fel Iesu, gweddïa am nerth a chanolbwyntia ar dy obaith o fyw am byth. Wrth i dy gariad at Dduw dyfu ac wrth iti efelychu ei fab, byddi di’n gallu cyflawni dy ymgysegriad.

6. Pam mae’n rhaid inni ofalu am ein dyletswyddau teuluol? (Gweler hefyd y llun.)

6 Ein dyletswyddau teuluol. Yn ein ras am fywyd, mae’n rhaid inni garu Jehofa ac Iesu yn fwy na’n perthnasau a’n teulu. (Math. 10:37) Dydy hyn ddim yn golygu y dylen ni anwybyddu ein dyletswyddau teuluol. Er mwyn plesio Duw a Christ, mae’n rhaid inni ofalu am ein teulu. (1 Tim. 5:4, 8) Pan wnawn ni hyn, byddwn ni’n hapusach. Wedi’r cwbl, mae Jehofa’n gwybod bydd teuluoedd yn ffynnu pan fydd gŵr a gwraig yn trin ei gilydd â chariad a pharch, pan fydd rhieni yn caru ac yn hyfforddi eu plant, a phan fydd plant yn ufuddhau i’w rhieni.—Eff. 5:33; 6:1, 4.

(Gweler paragraffau 6-7)

7. Sut gelli di gyflawni dy rôl yn y teulu?

7 Sut gelli di gario’r llwyth? Beth bynnag yw dy rôl yn y teulu, trystia gyngor doeth y Beibl yn lle dibynnu ar dy deimladau, ar dy ddiwylliant, neu ar beth mae arbenigwyr yn ei ddweud. (Diar. 24:3, 4.) Defnyddia ein cyhoeddiadau sy’n llawn awgrymiadau ymarferol ar sut i roi egwyddorion y Beibl ar waith. Er enghraifft, mae ’na wybodaeth ar ein gwefan, jw.org, i helpu cyplau, rhieni, a phobl ifanc gyda’u problemau penodol. b Bydda’n benderfynol o roi cyngor y Beibl ar waith hyd yn oed os nad ydy eraill yn y teulu yn gwneud hynny. Pan wnei di hyn, bydd dy deulu yn elwa a byddi di’n mwynhau bendithion gan Jehofa.—1 Pedr 3:1, 2.

8. Sut gall ein penderfyniadau effeithio arnon ni?

8 Bod yn Atebol am Ein Penderfyniadau. Mae Jehofa wedi rhoi ewyllys rhydd inni, ac mae eisiau inni fwynhau’r bendithion sy’n dod o wneud penderfyniadau da. Ond os ydyn ni’n gwneud penderfyniadau drwg, dydy Ef ddim yn ein gwarchod ni rhag y canlyniadau. (Gal. 6:7, 8) Oherwydd hynny, os ydyn ni’n gwneud penderfyniadau drwg, yn siarad yn ddifeddwl, neu’n ymddwyn y fyrbwyll, mae’n rhaid inni fyw gyda’r canlyniadau. Mae’n bosib i’n cydwybod ein poeni ni ar ôl gwneud rhai pethau. Ond, gall gwybod ein bod ni’n atebol am ein penderfyniadau wneud inni gyffesu ein pechodau, eu cywiro, ac osgoi eu gwneud nhw eto. Mae gwneud hyn yn ein helpu ni i aros yn y ras am fywyd.

(Gweler paragraffau 8-9)

9. Os wyt ti wedi gwneud penderfyniad drwg, beth gelli di ei wneud? (Gweler hefyd y llun.)

9 Sut gelli di gario’r llwyth? Os wyt ti wedi gwneud penderfyniad drwg, beth gelli di ei wneud? Rhaid sylweddoli nad wyt ti’n gallu newid y gorffennol. Paid â gwastraffu dy egni emosiynol a meddyliol yn cyfiawnhau dy hun na rhoi’r bai arnat ti dy hun nac eraill. Yn hytrach, derbynia dy gamgymeriadau a gwna dy orau o dan dy amgylchiadau presennol. Os wyt ti’n teimlo’n euog am rywbeth rwyt ti wedi ei wneud o’i le, tro at Jehofa mewn gweddi i gyfaddef dy bechod a gofyn iddo am faddeuant. (Salm 25:11; 51:3, 4) Dyweda sori wrth unrhyw un rwyt ti wedi ei brifo, ac os oes angen, gofynna am help gan yr henuriaid. (Iago 5:14, 15) Dysga o dy gamgymeriadau, a gwna dy orau i beidio â’u hailadrodd. Wrth iti wneud hyn, gelli di fod yn siŵr bydd Jehofa yn dangos trugaredd atat ti ac yn darparu y cefnogaeth rwyt ti ei angen.—Salm 103:8-13.

PWYSAU MAE’N RHAID INNI EI “DAFLU I FFWRDD”

10. Pam mae disgwyliadau afresymol yn faich trwm? (Galatiaid 6:4)

10 Disgwyliadau afresymol. Gall cymharu ein hunain ag eraill a chael disgwyliadau afresymol bwyso’n drwm arnon ni. (Darllenwch Galatiaid 6:4.) Os ydyn ni’n wastad yn cymharu ein hunain ag eraill, gallwn ni ddod yn genfigennus ac yn gystadleuol. (Gal. 5:26) Os ydyn ni’n trio cadw i fyny gyda beth mae pobl eraill yn ei wneud, gallwn ni niweidio ein hunain. Ac os ydy “gobaith sy’n cael ei ohirio yn torri’r galon,” cymaint waeth byddai hi i osod disgwyliadau na allwn ni eu cyrraedd! (Diar. 13:12) Gall gwneud hynny ein gwanhau a’n harafu yn y ras am fywyd—Diar. 24:10.

11. Sut gelli di osgoi cael disgwyliadau afresymol?

11 Sut gallwn ni daflu i ffwrdd y pwysau hwnnw? Paid â disgwyl mwy ohonot ti dy hun nag y mae Jehofa yn ei ofyn. Dydy ef byth yn disgwyl mwy gynnon ni na gallwn ni ei roi. (2 Cor. 8:12) Dydy ef ddim yn dy gymharu di ag eraill chwaith. (Math. 25:20-23) Mae’n trysori dy ffyddlondeb, dy ddyfalbarhad, a’r ffaith dy fod ti’n gwasanaethu â dy holl enaid. Bydda’n ddigon wylaidd i gydnabod gall dy oed, dy iechyd, a dy amgylchiadau gyfyngu ar beth rwyt ti’n gallu ei wneud nawr. Fel Barsilai, bydda’n barod i ddweud ‘na’ os ydy dy oed neu dy iechyd yn ei gwneud hi’n anodd iti gyflawni aseiniad. (2 Sam. 19:35, 36) Fel Moses, bydda’n barod i dderbyn help ac i rannu cyfrifoldebau gydag eraill pan mae’n briodol. (Ex. 18:21, 22) Bydd bod yn wylaidd yn dy stopio di rhag cael disgwyliadau afresymol a allai dy flino di yn y ras am fywyd.

12. A ydyn ni’n gyfrifol am y penderfyniadau gwael mae eraill yn eu gwneud? Esbonia.

12 Teimlo’n gyfrifol am benderfyniadau pobl eraill. Dydyn ni ddim yn gallu gwneud penderfyniadau dros eraill, na’u gwarchod nhw rhag canlyniadau eu dewisiadau drwg. Er enghraifft, gallai mab neu ferch benderfynu stopio gwasanaethu Jehofa. Gall y fath benderfyniad achosi tristwch mawr i’r rhieni. Ond, dydy Jehofa ddim yn disgwyl i’r rhieni roi’r bai arnyn nhw eu hunain am benderfyniadau gwael eu plant.—Rhuf. 14:12.

13. Sut gall rhiant ddelio â phenderfyniad gwael ei blentyn?

13 Sut gelli di daflu’r pwysau i ffwrdd? Sylweddola fod Jehofa wedi rhoi ewyllys rhydd inni i gyd. Mae’n gadael i bawb wneud penderfyniadau eu hunain. Mae hynny’n cynnwys y dewis i’w wasanaethu. Mae Jehofa’n ymwybodol nad wyt ti’n rhiant perffaith. Y cyfan mae’n disgwyl ydy dy fod ti’n gwneud dy orau. Nid ti, ond dy blentyn sy’n gyfrifol am beth mae’n dewis ei wneud. (Diar. 20:11) Eto, gall y camgymeriadau wnest ti fel rhiant fod yn boenus. Os felly, siarada â Jehofa am dy deimladau a gofynna iddo am faddeuant. Mae’n gwybod nad wyt ti’n gallu newid y gorffennol. Ond dydy ef ddim yn disgwyl iti amddiffyn dy blentyn rhag canlyniadau ei benderfyniadau gwael. Cofia os bydd dy blentyn yn gwneud ymdrech i ddod yn ôl i Jehofa, bydd Ef yn hapus i’w dderbyn yn ôl.—Luc 15:18-20.

14. Pam mae’n rhaid inni daflu i ffwrdd y pwysau o euogrwydd gormodol?

14 Euogrwydd gormodol. Pan ydyn ni’n pechu, mae’n naturiol i deimlo’n euog. Ond, mae teimladau o euogrwydd gormodol yn faich nad oedden ni erioed i fod i’w gario. Mae’n bwysau mae’n rhaid inni ei daflu i ffwrdd. Sut gallwn ni wybod os ydy ein heuogrwydd yn ormodol? Os ydyn ni wedi cyffesu ein pechod, wedi edifarhau, ac yn cymryd camau i beidio â gwneud yr un peth eto, gallwn ni drystio bod Jehofa wedi maddau inni. (Act. 3:19) Ar ôl inni wneud hyn, dydy Jehofa ddim eisiau inni barhau i deimlo’n euog. Mae’n gwybod pa mor niweidiol gall teimladau o euogrwydd fod. (Salm 31:10) Petasen ni’n cael ein llethu gan dristwch, efallai bydden ni’n stopio rhedeg yn y ras am fywyd.—2 Cor. 2:7.

Ar ôl iti wir edifarhau, dydy Jehofa ddim yn parhau i feddwl am dy bechodau, a ddylet tithau ddim chwaith (Gweler paragraff 15)

15. Beth all dy helpu di i ddelio ag euogrwydd gormodol? (1 Ioan 3:19, 20) (Gweler hefyd y llun.)

15 Sut gelli di daflu’r pwysau i ffwrdd? Os wyt ti’n parhau i deimlo’n euog, canolbwyntia ar y ffaith bod Duw yn “barod i faddau.” (Salm 130:4) Pan mae’n maddau i’r rhai sy’n wir yn edifarhau, mae’n addo “anghofio eu pechodau am byth.” (Jer. 31:34) Mae hyn yn golygu na fydd Jehofa byth yn meddwl am y pechodau y mae Ef wedi maddau yn barod. Felly, paid â meddwl bod canlyniadau dy bechod yn arwydd nad ydy Jehofa wedi maddau iti. A phaid â chosbi dy hun am golli cyfrifoldebau yn y gynulleidfa. Dydy Jehofa ddim yn parhau i feddwl am dy bechodau, a dylet ti ddim chwaith.—Darllen 1 Ioan 3:19, 20.

RHEDA ER MWYN ENNILL

16. Fel rhedwyr, beth mae’n rhaid inni ei gydnabod?

16 Wrth inni redeg yn y ras am fywyd, mae’n rhaid inni ‘redeg er mwyn ei hennill.’ (1 Cor. 9:24) Gallwn ni wneud hynny os ydyn ni’n deall y gwahaniaeth rhwng y llwythi mae’n rhaid inni eu cario a’r pwysau mae’n rhaid inni ei daflu i ffwrdd. Yn yr erthygl hon, rydyn ni wedi trafod ychydig o esiamplau o beth mae’n rhaid inni ei gario a beth mae’n rhaid inni ei ollwng. Ond mae ’na esiamplau eraill hefyd. Rhybuddiodd Iesu: “Gwyliwch eich hunain fel na fydd eich calonnau byth o dan faich oherwydd gorfwyta a goryfed a phryderon bywyd.” (Luc 21:34) Gall yr adnod hon ac eraill dy helpu di i weld pa newidiadau sydd ei angen er mwyn iti redeg y ras am fywyd hyd y diwedd.

17. Pam gallwn ni fod yn sicr y byddwn ni’n ennill y ras am fywyd?

17 Yn bendant, byddwn ni’n ennill y ras am fywyd oherwydd bydd Jehofa’n rhoi inni’r nerth rydyn ni ei angen. (Esei. 40:29-31) Felly, paid ag arafu! Efelycha’r apostol Paul a roddodd bob mymryn o’i egni i mewn i ennill y wobr a oedd o’i flaen. (Phil. 3:13, 14) Does neb arall yn gallu rhedeg yn y ras drostot ti. Ond gyda help Jehofa, gelli di lwyddo a dyfalbarhau. Gall Jehofa dy helpu i gario dy lwythi ac i daflu i ffwrdd pwysau diangen. (Salm 68:19. BCND) Gyda Jehofa wrth dy ochr, gelli di redeg y ras ac ennill!

CÂN 65 Bwria Ymlaen!

a Bydd yr erthygl hon yn ein helpu ni i redeg y ras am fywyd. Fel rhedwyr, mae’n rhaid inni gario rhai llwythi. Mae’r rhain yn cynnwys ein hymgysegriad, ein dyletswyddau teuluol, a bod yn atebol am ein penderfyniadau. Ond mae’n rhaid inni daflu i ffwrdd unrhyw bwysau diangen a all ein dal ni’n ôl. Beth mae hyn yn ei gynnwys? Bydd yr erthygl hon yn ateb y cwestiwn hwnnw.

b Gelli di ddod o hyd i wybodaeth o dan y pynciau “Priodas a’r Teulu” ac “Arddegau” ar jw.org. Dyma enghreifftiau o’r erthyglau sydd ar gael i gyplau priod: “Sut i Ddangos Cariad” a “Sut i Feithrin Amynedd”; i rieni: “Sut i Ddysgu Eich Plentyn” a “Dysgu Plant i Wneud Defnydd Doeth o Ffonau Clyfar”; ac i arddegau: “Sut Galla’ i Wrthsefyll Temtasiwn?” a “Beth os Dydy Pobl Ddim yn Fy Nerbyn I?