ERTHYGL ASTUDIO 34
Dysga Gan Broffwydoliaethau’r Beibl
“Dim ond y rhai doeth fydd yn deall beth sy’n digwydd.”—DAN. 12:10.
CÂN 98 Ysgrythurau Ysbrydoledig Duw
CIPOLWG a
1. Beth sy’n gallu ein helpu ni i fwynhau astudio proffwydoliaethau’r Beibl?
DYWEDODD brawd o’r enw Ben: “Dw i’n caru astudio proffwydoliaethau’r Beibl.” A wyt ti’n cytuno ag ef? Neu a ydy proffwydoliaeth yn codi ofn arnat ti? Efallai byddi di’n meddwl bod astudio proffwydoliaethau’n ddiflas. Mae’n debyg y byddi di’n newid dy feddwl pan wyt ti’n gweld pam mae Jehofa wedi eu cynnwys nhw yn ei Air.
2. Beth byddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl hon?
2 Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n trafod nid yn unig pam dylen ni ddysgu am broffwydoliaethau’r Beibl, ond hefyd sut gallwn ni eu hastudio. Yna byddwn ni’n trafod dwy broffwydoliaeth yn llyfr Daniel i weld sut maen nhw’n ein helpu ni heddiw.
PAM ASTUDIO PROFFWYDOLIAETHAU’R BEIBL?
3. Beth sy’n rhaid inni ei wneud er mwyn deall proffwydoliaethau’r Beibl?
3 Rydyn ni angen help i ddeall proffwydoliaethau’r Beibl. Ystyria’r eglureb hon. Rwyt ti’n teithio i rywle anghyfarwydd, ond mae dy ffrind yn ’nabod yr ardal yn iawn. Mae’n gwybod i ba gyfeiriad mae pob ffordd yn mynd. Mae’n siŵr y byddet ti’n ddiolchgar am gael dy ffrind gyda ti. Mewn ffordd debyg, Jehofa yw’r ffrind sy’n gwybod beth sydd o’n blaenau ni. Felly er mwyn deall proffwydoliaethau’r Beibl, mae’n rhaid inni ofyn yn ostyngedig i Jehofa am help.—Dan. 2:28; 2 Pedr 1:19, 20.
4. Pam rhoddodd Jehofa broffwydoliaethau yn ei Air? (Jeremeia 29:11) (Gweler hefyd y llun.)
4 Fel unrhyw riant da, mae Jehofa eisiau i’w blant gael dyfodol hapus. (Darllen Jeremeia 29:11.) Ond yn wahanol i unrhyw riant ar y ddaear, mae Jehofa’n gallu rhagweld y dyfodol, ac y mae bob tro’n gywir. Rhoddodd Jehofa broffwydoliaethau yn ei Air inni gael deall pethau pwysig cyn iddyn nhw ddigwydd. (Esei. 46:10) Mae proffwydoliaethau’n anrhegion cariadus oddi wrth ein Tad nefol. Ond pam gallwn ni fod yn hyderus bod yr hyn mae’r Beibl yn ei ddweud am ddod yn wir?
5. Os wyt ti’n ifanc, beth gelli di ei ddysgu o brofiad Max?
5 Yn yr ysgol, mae’r rhai ifanc yn treulio amser gyda phobl sydd ddim yn parchu’r Beibl. Mae’r hyn maen nhw’n ei ddweud ac yn ei wneud yn gallu achosi i Dystion ifanc amau beth maen nhw’n ei gredu. Sylwa ar brofiad brawd o’r enw Max. Mae’n dweud: “Pan o’n i yn fy arddegau, doeddwn i ddim yn siŵr a oedd beth roedd fy rhieni yn ei ddysgu imi yn wir ac a oedd y Beibl wedi ei ysbrydoli gan Dduw.” Beth wnaeth ei rieni? Mae’n dweud: “Wnaethon nhw ddim gorymateb, ond roeddwn i’n gwybod eu bod nhw’n poeni.” Atebodd rhieni Max ei gwestiynau o’r Beibl, a gwnaeth Max rywbeth hefyd. “Astudiais broffwydoliaethau’r Beibl drosto i fy hun,” meddai, “a gwnes i drafod beth roeddwn ni’n ei ddysgu gyda rhai ifanc eraill.” Beth oedd y canlyniad? Mae Max yn dweud: “Ar ôl hynny, roeddwn i’n hollol sicr bod y Beibl wedi ei ysbrydoli gan Dduw!”
6. Beth sy’n rhaid iti ei wneud os oes gen ti amheuon, a pham?
6 Os wyt ti’n dechrau meddwl, fel Max, nad ydy’r Beibl yn dweud y gwir, does dim angen teimlo’n euog. Ond mae’n rhaid gwneud rhywbeth amdani. Mae amheuon yn debyg i rwd. Os nad wyt ti’n rhoi sylw iddo mae’n gallu dinistrio rhywbeth gwerthfawr. I ddod dros unrhyw amheuon a all ddinistrio dy ffydd, mae’n rhaid gofyn, ‘Ydw i’n credu beth mae’r Beibl yn ei ddweud am y dyfodol?’ Os nad wyt ti’n siŵr, yna mae’n rhaid iti astudio proffwydoliaethau’r Beibl sydd eisoes wedi dod yn wir. Sut gelli di wneud hynny?
SUT I ASTUDIO PROFFWYDOLIAETHAU’R BEIBL
7. Beth oedd yn helpu Daniel i astudio proffwydoliaethau? (Daniel 12:10) (Gweler hefyd y llun.)
7 Gosododd Daniel esiampl dda inni o sut i astudio proffwydoliaethau. Roedd Daniel yn astudio proffwydoliaeth gyda’r bwriad cywir, i ddeall y gwir. Roedd Daniel hefyd yn ostyngedig, ac yn gwybod y byddai Jehofa yn ei helpu i ddeall y proffwydoliaethau hyn petai’n aros yn agos ato ac yn ufudd iddo. (Dan. 2:27, 28; darllen Daniel 12:10.) Profodd ei fod yn ostyngedig drwy ddibynnu ar Jehofa am help. (Dan. 2:18) Hefyd, roedd Daniel yn astudio yn fanwl. Edrychodd am atebion yn y rhannau o’r Beibl oedd ar gael iddo ar y pryd. (Jer. 25:11, 12; Dan. 9:2) Sut gelli di efelychu Daniel?
8. Pam mae rhai yn gwrthod credu yng ngwirioneddau’r Beibl, ond beth dylen ni ei wneud?
8 Beth yw dy fwriad? A oes gen ti awydd cryf i astudio proffwydoliaethau’r Beibl er mwyn dod i adnabod y gwir? Os felly, bydd Jehofa yn dy helpu. (Ioan 4:23, 24; 14:16, 17) Pam efallai bydd rhywun yn astudio proffwydoliaethau? Efallai bydd rhai yn gobeithio dod o hyd i dystiolaeth a fyddai’n dangos nad yw’r Beibl wedi ei ysbrydoli gan Dduw. Os nad ydyn nhw’n meddwl bod y Beibl wedi dod oddi wrth Dduw, byddai hynny wedyn yn rhoi esgus iddyn nhw fyw yn ôl eu safonau eu hunain. Ond mae angen inni astudio am y rhesymau cywir. Ar ben hynny, er mwyn inni ddeall proffwydoliaethau’r Beibl, mae angen rhinwedd bwysig arall arnon ni.
9. Pa rinwedd sydd ei angen er mwyn inni ddeall proffwydoliaethau’r Beibl? Eglura.
9 Bydda’n ostyngedig. Mae Jehofa’n addo helpu’r rhai sy’n ostyngedig. (Iago 4:6) Felly mae’n rhaid inni weddïo am Ei help er mwyn deall y proffwydoliaethau yn y Beibl. Rhaid inni gydnabod hefyd bod Jehofa’n defnyddio’r gwas ffyddlon i roi bwyd ysbrydol inni ar yr adeg iawn. (Luc 12:42) Mae Jehofa yn Dduw trefnus, felly mae’n gwneud synnwyr ei fod yn defnyddio un ffynhonnell i’n helpu ni i ddeall gwirioneddau ei Air.—1 Cor. 14:33; Eff. 4:4-6.
10. Beth rwyt ti’n ei ddysgu o brofiad Esther?
10 Bydda’n fanwl. Dewisa broffwydoliaeth sydd o ddiddordeb i ti a gwna ymchwil arni’n gyntaf. Dyna a wnaeth chwaer o’r enw Esther. Roedd ganddi ddiddordeb yn y proffwydoliaethau am y Meseia yn dod yn ôl. Dywedodd hi: “Pan o’n i’n bymtheg oed, gwnes i ddechrau cloddio am dystiolaeth bod y proffwydoliaethau hyn wedi cael eu hysgrifennu cyn amser Crist.” Roedd yr hyn a ddarllenodd am Sgroliau’r Môr Marw yn ei pherswadio hi. Dywedodd Esther: “Roedd rhai o’r sgroliau wedi cael eu hysgrifennu cyn amser Iesu, felly roedd yn rhaid i’r proffwydoliaethau ddod oddi wrth Dduw.” Mae Esther yn cyfaddef: “Roedd rhaid imi ddarllen pethau dro ar ôl tro er mwyn deall.” Ond mae hi’n hapus ei bod hi wedi gwneud yr ymdrech. Ar ôl astudio nifer o broffwydoliaethau’r Beibl yn fanwl, dywedodd hi: “Roeddwn i’n gallu gweld yn glir fod y Beibl yn wir!”
11. Pam mae’n beth da inni brofi i ni’n hunain bod y Beibl yn wir?
11 Pan fyddwn ni’n gweld bod rhai proffwydoliaethau yng Ngair Duw eisoes wedi cael eu cyflawni, byddwn ni’n trystio Jehofa ac yn trystio’r cyfarwyddiadau y mae’n eu rhoi inni. Hefyd, mae proffwydoliaethau’r Beibl yn ein helpu ni i gael gobaith ar gyfer y dyfodol, ni waeth pa heriau rydyn ni’n eu hwynebu nawr. Gad inni ystyried dwy broffwydoliaeth yn llyfr Daniel sy’n cael eu cyflawni heddiw. Bydd eu deall nhw yn ein helpu ni i wneud penderfyniadau doeth.
SUT MAE’R TRAED HAEARN A CHLAI YN EFFEITHIO ARNAT TI?
12. Beth mae’r traed “o haearn ac o glai” yn eu cynrychioli? (Daniel 2:41-43, BCND)
12 Darllen Daniel 2:41-43, BCND. Yn y freuddwyd gwnaeth Daniel ei dehongli ar gyfer y Brenin Nebwchadnesar, roedd traed y ddelw wedi eu gwneud “o haearn ac o glai.” Drwy gymharu’r broffwydoliaeth hon ag eraill yn llyfr Daniel ac yn llyfr Datguddiad, rydyn ni’n gweld bod y traed yn cynrychioli’r cynghrair Eingl-Americanaidd, sef y grym byd mwyaf pwerus heddiw. Ynglŷn â’r grym byd hwn, dywedodd Daniel y byddai “rhan o’r frenhiniaeth yn gryf a rhan yn wan.” Pam mae rhan ohono yn wan? Oherwydd bod y bobl gyffredin, sy’n cael eu cynrychioli gan y clai, yn tanseilio ei allu i fod yn gryf fel haearn. b
13. Pa wirioneddau pwysig gallwn ni eu dysgu o’r broffwydoliaeth hon?
13 Rydyn ni’n dysgu llawer o wirioneddau pwysig o’r ddelw y gwnaeth Daniel ei ddisgrifio, yn enwedig am y traed. Yn gyntaf, mae’r Grym Byd Eingl-Americanaidd wedi dangos ei nerth mewn rhai ffyrdd. Er enghraifft, chwaraeodd ran allweddol yn y buddugoliaethau yn y ddau ryfel byd. Ond, mae ei ddinasyddion wedi brwydro yn erbyn ei gilydd ac yn erbyn y llywodraeth. O ganlyniad, mae’r Grym Byd hwn wedi cael ei wanhau a bydd yn parhau i gael ei wanhau. Yn ail, hwn fydd y Grym Byd olaf i reoli cyn i Deyrnas Dduw ddod â llywodraethau dynol i ben. Ar adegau, efallai bydd cenhedloedd eraill yn herio’r Grym Byd Eingl-Americanaidd, ond fyddan nhw ddim yn ei ddisodli. Rydyn ni’n gwybod hyn oherwydd bod “y garreg” sy’n malu traed y ddelw, sef y Grym Byd Eingl-Americanaidd, yn cynrychioli Teyrnas Dduw.—Dan. 2:34, 35, 44, 45.
14. Sut gall deall y broffwydoliaeth am y traed o haearn ac o glai ein helpu ni i wneud penderfyniadau doeth?
14 A wyt ti’n sicr bod proffwydoliaeth Daniel ynglŷn â’r traed o haearn a chlai yn wir? Os felly, bydd hynny yn effeithio ar y ffordd rwyt ti’n byw dy fywyd. Fyddi di ddim yn ceisio cyfoeth mewn byd sydd am gael ei ddinistrio. (Luc 12:16-21; 1 Ioan 2:15-17) Bydd deall y broffwydoliaeth hon hefyd yn dy helpu di i weld pwysigrwydd y gwaith pregethu. (Math. 6:33; 28:18-20) Beth am astudio’r broffwydoliaeth hon ac yna gofyn iti dy hun, ‘Ydy fy mhenderfyniadau yn dangos mod i’n sicr y bydd Duw yn dinistrio pob llywodraeth ddynol?’
SUT MAE “BRENIN Y GOGLEDD” A “BRENIN Y DE” YN EFFEITHIO ARNAT TI?
15. Pwy yw brenhinoedd y gogledd a’r de heddiw? (Daniel 11:40)
15 Darllen Daniel 11:40. Mae Daniel pennod 11 yn sôn am ddau frenin, neu rym gwleidyddol, sy’n cystadlu yn erbyn ei gilydd. Drwy gymharu’r broffwydoliaeth hon ag eraill yn y Beibl, gallwn ddweud mai Rwsia a’i chynghreiriaid yw “brenin y gogledd” a’r Grym Byd Eingl-Americanaidd yw “brenin y de.” c
16. Sut mae “brenin y gogledd” yn trin pobl Dduw?
16 Mae pobl Dduw sy’n byw o dan “brenin y gogledd” yn cael eu herlid yn uniongyrchol gan y brenin hwn. Mae rhai Tystion wedi cael eu curo a’u taflu i’r carchar am eu ffydd. Ond yn hytrach na chael eu gwanhau, mae eu ffydd yn gryfach byth. Pam? Oherwydd bod ein brodyr yn gwybod bod yr erledigaeth yn cyflawni proffwydoliaethau yn llyfr Daniel. d (Dan. 11:41) Gall gwybod hyn ein helpu ni i gadw ein gobaith yn gryf a bod yn ffyddlon i Jehofa.
17. Sut mae “brenin y de” wedi rhoi prawf ar bobl Dduw?
17 Yn y gorffennol, mae “brenin y de” hefyd wedi ymosod ar bobl Jehofa. Er enghraifft, yn ystod hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif, cafodd llawer o frodyr eu carcharu oherwydd eu niwtraliaeth, a chafodd rhai plant a oedd yn Dystion eu gwahardd o’r ysgol am yr un rheswm. Ond yn fwy diweddar, mae ffyddlondeb Tystion Jehofa sy’n byw o dan frenin y de wedi cael ei brofi mewn ffyrdd eraill. Er enghraifft, yn ystod etholiadau, gall Cristion gael ei demtio i gefnogi un blaid wleidyddol dros y lleill. Efallai na fydd yn mynd mor bell â phleidleisio, ond yn ei feddwl a’i galon, mae’n cymryd ochr. Felly er mwyn bod yn gwbl niwtral, mae’n rhaid inni fod yn ofalus, nid yn unig yn y pethau rydyn ni’n eu gwneud, ond hefyd yn y pethau rydyn ni’n meddwl ac yn teimlo.—Ioan 15:18, 19; 18:36.
18. Sut rydyn ni’n ymateb i’r drwgdeimlad rhwng y ddau frenin? (Gweler hefyd y llun.)
18 Gall y rhai heb ffydd ym mhroffwydoliaethau’r Beibl bryderu’n arw o weld “brenin y de” yn taro yn erbyn “brenin y gogledd.” (Dan. 11:40) Mae gan y ddau frenin ddigon o arfau i ddinistrio’r holl fywyd ar y ddaear. Ond rydyn ni’n gwybod na fydd Jehofa’n caniatáu i hynny ddigwydd. (Esei. 45:18) Felly yn hytrach na’n poeni ni, mae’r drwgdeimlad rhwng brenin y gogledd a brenin y de yn cryfhau ein ffydd ac yn cadarnhau bod diwedd y drefn yn agos.
DAL ATI I DALU SYLW I BROFFWYDOLIAETHAU
19. Beth dylen ni ei gydnabod am broffwydoliaethau’r Beibl?
19 Dydyn ni ddim yn gwybod yn union sut bydd rhai proffwydoliaethau’r Beibl yn cael eu cyflawni. Doedd hyd yn oed y proffwyd Daniel ddim yn deall popeth roedd yn ei ysgrifennu. (Dan. 12:8, 9) Ond bydd proffwydoliaethau’n dal yn dod yn wir p’un a ydyn ni’n eu deall nhw neu ddim. Yn bendant, gallwn drystio y bydd Jehofa yn helpu ni i ddeall yr hyn rydyn ni angen gwybod ar yr adeg iawn, yn union fel y gwnaeth yn y gorffennol.—Amos 3:7.
20. Pa broffwydoliaethau cyffrous fydd yn cael eu cyflawni’n fuan, a beth dylen ni ei wneud yn y cyfamser?
20 Bydd ’na ddatganiad o “heddwch a diogelwch.” (1 Thes. 5:3) Yna bydd grymoedd gwleidyddol y byd yn troi ar gau grefydd a’i dinistrio. (Dat. 17:16, 17) Ar ôl hynny, byddan nhw’n ymosod ar bobl Dduw. (Esec. 38:18, 19) Bydd y digwyddiadau hyn yn arwain yn uniongyrchol at ryfel Armagedon. (Dat. 16:14, 16) Gallwn fod yn sicr y bydd y pethau hyn yn digwydd yn fuan. Ond tan hynny, gad inni ddangos i’n Tad nefol ein bod ni’n ddiolchgar drwy dalu sylw i broffwydoliaethau’r Beibl a thrwy helpu eraill i wneud yr un fath.
CÂN 95 Ar Gynnydd Mae’r Llewyrch
a Ni waeth pa mor ddrwg ydy sefyllfa’r byd heddiw, gallwn fod yn hyderus y bydd pethau’n well yn y dyfodol. Rydyn ni’n cael yr hyder hwn drwy astudio proffwydoliaethau’r Beibl. Bydd yr erthygl hon yn trafod rhesymau pam y dylen ni astudio’r proffwydoliaethau hyn. Byddwn ni hefyd yn edrych ar ddwy o broffwydoliaethau Daniel i weld sut gallwn ni elwa’n bersonol o’u deall nhw.
b Gweler yr erthygl “Jehovah Reveals What ‘Must Shortly Take Place,’” paragraffau 7-9, yn y Tŵr Gwylio Saesneg, Mehefin 15, 2012.
c Gweler yr erthygl “Pwy Yw Brenin y Gogledd Heddiw?” paragraffau 3-4, yn rhifyn Mai 2020 y Tŵr Gwylio.
d Gweler yr erthygl “Pwy Yw Brenin y Gogledd Heddiw?” paragraffau 7-9, yn rhifyn Mai 2020 y Tŵr Gwylio.