Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 33

Dysga Gan Esiampl Daniel

Dysga Gan Esiampl Daniel

“Rwyt ti’n sbesial iawn yng ngolwg Duw.”—DAN. 9:23.

CÂN 73 Dyro Inni Hyder

CIPOLWG a

1. Pam roedd Daniel yn creu argraff ar y Babiloniaid?

 ROEDD y proffwyd Daniel yn ddyn ifanc pan gafodd ei gipio gan y Babiloniaid a’i gymryd yn garcharor i Fabilon, yn bell o Jerwsalem. Ond er ei fod yn ifanc, mae’n amlwg bod Daniel wedi gwneud argraff fawr ar y swyddogion. Roedden nhw’n “edrych ar y tu allan” ac yn gweld bod Daniel yn “iach a golygus” a’i fod yn dod o deulu pwysig. (1 Sam. 16:7) Am y rhesymau hynny, fe wnaeth y Babiloniaid ei hyfforddi i wasanaethu yn y palas.—Dan. 1:3, 4, 6.

2. Sut roedd Jehofa yn teimlo am Daniel? (Eseciel 14:14)

2 Roedd Jehofa yn caru Daniel, nid oherwydd y ffordd roedd yn edrych neu ei statws cymdeithasol, ond oherwydd y math o berson dewisodd Daniel i fod. Mewn gwirionedd, pan ddywedodd Jehofa fod Daniel fel Noa a Job, mae’n debyg bod Daniel tua ugain mlwydd oed. Felly roedd Jehofa yn ystyried Daniel i fod mor gyfiawn â Noa a Job a oedd wedi ei wasanaethu yn ffyddlon am lawer o flynyddoedd. (Gen. 5:32; 6:9, 10; Job 42:16, 17; darllen Eseciel 14:14.) Roedd Jehofa yn parhau i garu Daniel ar hyd ei oes.—Dan. 10:11, 19.

3. Beth byddwn ni’n ei ystyried yn yr erthygl hon?

3 Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n ystyried dwy rinwedd oedd yn gwneud Daniel yn werthfawr i Jehofa. Yn gyntaf byddwn ni’n edrych ar y rhinweddau hyn ac yn adolygu achlysuron pan wnaeth Daniel eu dangos nhw. Nesaf byddwn ni’n gweld beth helpodd Daniel i feithrin y rhinweddau hyn. Yn olaf gwnawn ni drafod sut gallwn ni ei efelychu. Er bod yr erthygl hon wedi ei hysgrifennu ar gyfer pobl ifanc, gallwn ni i gyd ddysgu o esiampl Daniel.

EFELYCHA DDEWRDER DANIEL

4. Sut dangosodd Daniel ddewrder? Rho esiampl.

4 Gall pobl ddewr deimlo ofn, ond dydyn nhw ddim yn gadael iddo eu stopio nhw rhag gwneud beth sy’n iawn. Roedd Daniel yn ddyn ifanc hynod o ddewr. Ystyria ddau achlysur pan oedd Daniel yn ddewr iawn. Yr achlysur cyntaf, mae’n debyg, oedd tua dwy flynedd ar ôl i’r Babiloniaid ddinistrio Jerwsalem. Cafodd y Brenin Nebwchadnesar o Fabilon freuddwyd arswydus am ddelw fawr. Roedd yn bygwth lladd ei ddynion doeth i gyd, gan gynnwys Daniel, os nad oedden nhw’n gallu dehongli’r freuddwyd iddo. (Dan. 2:3-5) Roedd yn rhaid i Daniel weithredu’n gyflym neu byddai llawer o bobl yn colli eu bywydau. Aeth Daniel a “gofyn i’r brenin roi ychydig amser iddo, a byddai’n esbonio iddo beth oedd ystyr y freuddwyd.” (Dan. 2:16) Roedd hynny’n cymryd dewrder a ffydd. Does dim cofnod o Daniel yn dehongli breuddwydion cyn hynny. Gofynnodd i’w ffrindiau, Shadrach, Meshach, ac Abednego “weddïo y byddai Duw y nefoedd yn drugarog, ac yn dweud wrthyn nhw beth oedd ystyr ddirgel y freuddwyd.” (Dan. 2:18) Atebodd Jehofa eu gweddïau. Gyda help Duw, llwyddodd Daniel i ddehongli breuddwyd Nebwchadnesar. Cafodd bywydau Daniel a’i ffrindiau eu harbed.

5. Pam roedd yn rhaid i Daniel ddangos dewrder unwaith eto?

5 Ychydig ar ôl i Daniel ddehongli’r freuddwyd am y ddelw fawr, cafodd ei ddewrder ei brofi unwaith eto pan gafodd Nebwchadnesar freuddwyd arall oedd yn codi ofn arno. Y tro hwn, roedd y freuddwyd am goeden fawr. Esboniodd Daniel ystyr y freuddwyd i’r brenin. Dywedodd yn ddewr y byddai’r brenin yn mynd yn wallgof ac ni fyddai’n teyrnasu am gyfnod. (Dan. 4:25) Gallai’r brenin fod wedi gweld Daniel yn elyn a’i ddedfrydu i farwolaeth. Ond parhaodd Daniel yn ddewr i gyhoeddi’r neges.

6. Yn ôl pob tebyg, beth oedd yn helpu Daniel i fod yn ddewr?

6 Beth efallai oedd yn helpu Daniel i aros yn ddewr drwy gydol ei fywyd? Yn sicr, fel plentyn, byddai Daniel wedi dysgu o esiampl ei rieni. Heb os, roedden nhw’n ufudd i’r gorchmynion a roddodd Jehofa i rieni yn Israel, a dysgon nhw Gyfraith Duw i’w mab. (Deut. 6:6-9) Roedd Daniel yn gwybod am y Deg Gorchymyn ond roedd hefyd yn gwybod llawer o fanylion am y Gyfraith. Er enghraifft, roedd yn gwybod beth roedd yr Israeliaid yn cael bwyta. b (Lef. 11:4-8; Dan. 1:8, 11-13) Roedd Daniel wedi dysgu am hanes pobl Dduw ac roedd yn gwybod beth oedd yn digwydd pan oedden nhw’n methu byw yn ôl safonau Jehofa. (Dan. 9:10, 11) Roedd profiadau Daniel drwy gydol ei fywyd yn ei helpu i wybod bod Jehofa a’i angylion pwerus yn gofalu amdano.—Dan. 2:19-24; 10:12, 18, 19.

Fe wnaeth Daniel fagu dewrder drwy astudio, gweddïo, ac ymddiried yn Jehofa (Gweler paragraff 7)

7. Beth arall oedd yn helpu Daniel i fod yn ddewr? (Gweler hefyd y llun.)

7 Roedd Daniel yn astudio ysgrifau proffwydi Duw, gan gynnwys proffwydoliaethau Jeremeia. Drwy astudio, dysgodd Daniel fod caethiwed yr Iddewon ym Mabilon ar fin dod i ben. (Dan. 9:2) Gwelodd Daniel fod geiriau Jehofa yn dod yn wir. Gwnaeth hyn gryfhau ei hyder yn Jehofa ac mae’r rhai sy’n ymddiried yn llwyr yn Jehofa yn gallu bod yn ddewr iawn. (Cymhara Rhufeiniaid 8:31, 32, 37-39) Yn bwysicach byth, roedd Daniel yn gweddïo ar Jehofa yn aml. (Dan. 6:10) Roedd yn cyffesu eu pechodau i Jehofa, yn rhannu ei deimladau, ac yn gofyn am ei help. (Dan. 9:4, 5, 19) Fel pob un ohonon ni, doedd Daniel ddim wedi ei eni’n ddewr. Yn hytrach, drwy astudio, gweddïo, ac ymddiried yn Jehofa, llwyddodd Daniel i feithrin y rhinwedd honno.

8. Sut gallwn ni feithrin dewrder?

8 Er mwyn meithrin dewrder, beth sy’n rhaid inni ei wneud? Efallai bydd ein rhieni yn ein hannog ni i fod yn ddewr, ond dydy’r rhinwedd hon ddim yn rhywbeth allwn ni ei etifeddu gan ein rhieni. Mae meithrin dewrder yn debyg i ddysgu sgìl newydd. Un ffordd gelli di feistroli sgìl yw drwy wylio ac efelychu esiampl yr athro. Mewn ffordd debyg, rydyn ni’n dysgu bod yn ddewr drwy edrych yn ofalus ar ddewrder pobl eraill a dilyn eu hesiampl. Felly, beth rydyn ni wedi ei ddysgu gan Daniel? Fel Daniel, mae’n rhaid inni adnabod Gair Duw yn dda. Mae’n rhaid inni feithrin perthynas agos gyda Jehofa drwy siarad yn agored ag ef yn aml. Ac mae’n rhaid inni drystio Jehofa a bod yn gwbl hyderus y bydd yn ein helpu ni. Yna pan fydd ein ffydd yn cael ei phrofi, byddwn ni’n ddewr.

9. Sut rydyn ni’n elwa o fod yn ddewr?

9 Rydyn ni’n elwa mewn sawl ffordd o fod yn ddewr. Ystyria brofiad Ben. Roedd Ben yn mynd i ysgol yn yr Almaen lle roedd pawb yn credu mewn esblygiad ac yn diystyru hanes y creu yn y Beibl. Un diwrnod, cafodd Ben y cyfle i sefyll o flaen y dosbarth ac esbonio pam ei fod yn credu mewn creadigaeth. Fe wnaeth gyflwyno ei ddaliadau yn ddewr. Beth oedd y canlyniad? Dywedodd Ben: “Gwrandawodd fy athro’n astud. Fe wnaeth gopïau o’r wybodaeth roeddwn i’n ei defnyddio i gefnogi fy nadl a’u rhoi i bawb yn y dosbarth.” Beth oedd ymateb ei gyd-ddisgyblion? “Roedd gan lawer ohonyn nhw feddwl agored,” meddai Ben, “a dywedon nhw eu bod nhw’n fy edmygu.” Fel mae profiad Ben yn ei ddangos, yn aml, bydd pobl ddewr yn ennill parch. Gallan nhw hefyd helpu eraill i ddod i adnabod Jehofa. Yn bendant, mae rhesymau da dros feithrin dewrder.

EFELYCHA FFYDDLONDEB DANIEL

10. Beth yw ffyddlondeb?

10 Yn y Beibl, mae’r gair Hebraeg am “ffyddlondeb” neu “cariad ffyddlon” yn aml yn disgrifio’r cariad mae Duw yn ei deimlo at ei ffrindiau. Mae’r un gair yn yr iaith wreiddiol yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio’r cariad mae gweision Duw yn ei ddangos tuag at ei gilydd. (2 Sam. 9:6, 7) Mae’n bosib i’n ffyddlondeb gryfhau dros amser. Gad inni weld sut cryfhaodd ffyddlondeb Daniel.

Gwnaeth Jehofa wobrwyo ffyddlondeb Daniel drwy anfon angel a thrwy gau cegau’r llewod (Gweler paragraff 11)

11. Sut dangosodd Daniel yn ei henaint ei fod yn ffyddlon i Jehofa? (Gweler y llun ar y clawr.)

11 Cafodd ffyddlondeb Daniel ei brofi drwy gydol ei fywyd. Ond wynebodd ef un o’i heriau mwyaf pan oedd yn ei nawdegau. Erbyn hyn, roedd y Mediaid a’r Persiaid wedi gorchfygu Babilon, a Dareius oedd y brenin. Roedd aelodau’r Llys Brenhinol yn casáu Daniel a doedd dim parch ganddyn nhw tuag at ei Dduw. Felly cynllwynion nhw i’w ladd. Fe wnaethon nhw orfodi’r brenin i arwyddo cyfraith a fyddai’n dangos a oedd Daniel yn ffyddlon i Dduw neu i’r brenin. Er mwyn profi ei ffyddlondeb i’r brenin ac i fod fel pawb arall, yr unig beth roedd rhaid iddo ei wneud, oedd peidio â gweddïo ar Jehofa am 30 diwrnod. Ond gwrthododd Daniel gyfaddawdu. O ganlyniad cafodd ei daflu i ffau’r llewod. Ond gwobrwyodd Jehofa ei ffyddlondeb drwy ei achub rhag y llewod. (Dan. 6:12-15, 20-22) Sut gallwn ni aros yn ffyddlon i Jehofa fel y gwnaeth Daniel?

12. Sut gwnaeth Daniel barhau i fod yn ffyddlon i Jehofa?

12 Fel y trafodwyd yn gynt, cariad cryf sy’n ysgogi ffyddlondeb. Arhosodd Daniel yn ffyddlon i Jehofa oherwydd ei fod yn caru ei Dad nefol. Heb os, roedd gan Daniel gariad cryf tuag at Jehofa gan ei fod wedi treulio amser yn meddwl am rinweddau Jehofa. (Dan. 9:4) Roedd Daniel hefyd yn myfyrio ar yr holl bethau da roedd Jehofa wedi eu gwneud iddo ef ac i’w bobl.—Dan. 2:20-23; 9:15, 16.

Fel Daniel, gelli di aros yn ffyddlon i Jehofa drwy Ei garu’n fawr (Gweler paragraff 13)

13. (a) Sut mae ffydd ein rhai ifanc yn cael ei phrofi? Rho esiampl. (Gweler hefyd y llun.) (b) Yn ôl y fideo, sut gelli di ymateb pan fydd eraill yn gofyn a ydy Tystion Jehofa yn cefnogi’r rhai sy’n dewis byw bywyd hoyw?

13 Fel Daniel, mae ein rhai ifanc heddiw yng nghanol pobl sydd ddim yn parchu Jehofa a’i safonau. Mae’r fath bobl yn casáu pobl Dduw. Mae rhai hyd yn oed yn bwlio ein rhai ifanc i geisio torri eu ffyddlondeb i Jehofa. Ystyria beth ddigwyddodd i ddyn ifanc o’r enw Graeme, sy’n byw yn Awstralia. Wynebodd sefyllfa heriol yn yr ysgol uwchradd. Gofynnodd yr athrawes i’r dosbarth sut byddan nhw’n ymateb petasai ffrind yn dod atyn nhw’n ddistaw bach a dweud ei fod yn hoyw. Roedd yn rhaid i’r disgyblion a fyddai’n cefnogi ffordd o fyw y ffrind hwnnw sefyll ar un ochr y dosbarth, a’r rhai na fyddai, sefyll ar yr ochr arall. Mae Graeme yn dweud: “Roedd pawb yn sefyll ar yr ochr a fyddai’n cefnogi ffordd o fyw y ffrind hwnnw heblaw amdana i ac un Tyst arall.” Aeth pethau’n waeth i Graeme ac roedd rhaid iddo brofi ei ffyddlondeb i Jehofa. “Parhaodd y wers am awr,” meddai, “ac roedd pawb yn y dosbarth, gan gynnwys yr athrawes, yn gwneud hwyl am ein pennau. Fe wnes i fy ngorau i beidio â chynhyrfu ac i amddiffyn fy ffydd mewn ffordd resymol, ond doedden nhw ddim yn gwrando ar yr un gair o’n i’n ddweud.” Pa effaith gafodd hyn ar Graeme? “Do’n i ddim yn hoffi bod pawb yn y dosbarth yn dweud pethau cas amdana i,” meddai, “ond ro’n i’n teimlo’n hynod o hapus fy mod wedi aros yn ffyddlon i Jehofa ac amddiffyn fy naliadau.” c

14. Beth yw un ffordd y gallwn ni gryfhau ein ffydd yn Jehofa?

14 Gallwn ni gael ffydd gref yn Jehofa os ydyn ni wir yn caru Jehofa. Gallwn ni gryfhau’r cariad hwnnw drwy wneud pethau fel dysgu am rinweddau Jehofa ac astudio’r pethau y mae wedi eu creu. (Rhuf. 1:20) A wyt ti eisiau cryfhau dy gariad a dy barch tuag at Jehofa? Os felly, darllena’r gyfres o erthyglau “Wedi Ei Ddylunio?” neu gwylia’r fideos. Hefyd mae’n werth darllen y llyfrynnau A Gafodd Bywyd ei Greu? a The Origin of Life—Five Questions Worth Asking. Ar ôl darllen y cyhoeddiadau hyn, dywedodd chwaer ifanc o Denmarc: “Roedd y rhesymeg yn ffantastig. Dydy’r llyfrynnau ddim yn dweud wrthoch chi beth i’w gredu, ond yn syml maen nhw’n rhoi’r ffeithiau ac yn gadael i chi benderfynu drostoch chi’n hunain.” Mae Ben, y gwnaethon ni ei ddyfynnu yn gynt, yn dweud: “Mae’r deunydd hwn wir wedi cryfhau fy ffydd. Mae wedi profi imi mai Duw sydd wedi creu bywyd.” Ar ôl astudio’r deunydd, mae’n debygol y byddi di’n cytuno â’r Beibl pan mae’n dweud: “Rwyt ti’n deilwng, Jehofa ein Duw, i dderbyn y gogoniant a’r anrhydedd a’r grym, oherwydd ti a greodd bob peth.”—Dat. 4:11. d

15. Ym mha ffordd arall gallwn ni feithrin perthynas agos â Jehofa?

15 Ffordd arall inni gryfhau ein cariad tuag at Jehofa yw drwy astudio bywyd ei Fab, Iesu. Dyna a wnaeth Samira, sy’n byw yn yr Almaen. Roedd hi’n cyfaddef pan oedd hi’n blentyn ei bod hi’n ei chael hi’n anodd deall bod gan Jehofa deimladau. Ond roedd hi’n gallu cydymdeimlo â Iesu. Roedd hi’n hoffi Iesu gan ei fod yn gyfeillgar ac yn caru plant, a fesul tipyn gwnaeth hyn achosi iddi ddod i adnabod Jehofa yn well. Y mwyaf roedd hi’n dysgu am Iesu, y mwyaf roedd ei chariad tuag at Jehofa yn tyfu. “Fe wnes i ddod i sylweddoli bod Jehofa ac Iesu’n hynod o debyg a bod Iesu’n efelychu ei Dad yn berffaith. Hefyd, sylweddolais fod Iesu wedi cael ei anfon i’r ddaear er mwyn inni allu dod i adnabod Jehofa yn well.” (Ioan 14:9) Os wyt ti eisiau cryfhau dy berthynas â Jehofa, dysga gymaint ag y gelli di am Iesu. Yna bydd dy gariad at Jehofa a dy ffyddlondeb iddo yn tyfu.

16. Pam dylen ni fod yn ffyddlon? (Salm 18:25; Micha 6:8)

16 Os ydyn ni’n ffyddlon, mae’n debyg y bydd eraill yn ffyddlon i ni. (Ruth 1:14-17) Ar ben hynny, mae Jehofa yn addo bod yn ffyddlon i’r rhai sy’n ffyddlon iddo ef, ac mae hynny yn rhoi heddwch meddwl inni. (Darllen Salm 18:25; Micha 6:8.) Meddylia am hyn—mae’r Creawdwr eisiau cael perthynas agos â ni! Ac ni fydd unrhyw dreial, gwrthwynebwr, na hyd yn oed marwolaeth yn gallu ein gwahanu ni oddi wrtho. (Dan. 12:13; Luc 20:37, 38; Rhuf. 8:38, 39) Mae’n hynod o bwysig inni efelychu Daniel a pharhau i fod yn ffyddlon i Jehofa!

PARHA I DDYSGU ODDI WRTH DANIEL

17-18. Beth arall gallwn ni ei ddysgu oddi wrth Daniel?

17 Yn yr erthygl hon, rydyn ni wedi trafod dwy o rinweddau Daniel. Ond mae yna lawer mwy gallwn ni ei ddysgu o’i esiampl. Er enghraifft, rhoddodd Jehofa gyfres o weledigaethau a breuddwydion i Daniel, yn ogystal â’r gallu i ddehongli negeseuon proffwydol. Mae llawer o’r proffwydoliaethau hynny eisoes wedi eu cyflawni. Ac mae eraill yn sôn am ddigwyddiadau yn y dyfodol a fydd yn effeithio ar bawb ar y ddaear.

18 Yn yr erthygl nesaf, byddwn ni’n edrych ar ddwy o broffwydoliaethau Daniel. Bydd eu deall nhw yn helpu pob un ohonon ni i wneud penderfyniadau doeth. Byddan nhw hefyd yn ein helpu ni i fod yn ddewr ac yn ffyddlon er mwyn inni allu wynebu unrhyw her sydd i ddod.

CÂN 119 Rhaid Inni Gael Ffydd

a Mae gweision ifanc Jehofa heddiw yn wynebu heriau sy’n rhoi prawf ar eu dewrder a’i ffyddlondeb i Jehofa. Efallai bydd cyd-ddisgyblion yn gwneud hwyl am eu pennau am gredu yng nghreadigaeth. Neu efallai bydd eu cyfoedion yn ceisio gwneud iddyn nhw deimlo’n dwp am wasanaethu Duw a byw yn ôl ei safonau. Ond fel byddwn ni’n gweld yn yr erthygl hon, mae’r rhai sy’n efelychu’r proffwyd Daniel ac sy’n gwasanaethu Jehofa gyda dewrder a ffyddlondeb yn wir ddoeth.

b Mae’n debyg bod gan Daniel dri rheswm i ystyried bwyd y Babiloniaid yn aflan. (1) Efallai fod y cig wedi dod o anifail oedd wedi ei wahardd dan y Gyfraith. (Deut. 14:7, 8) (2) Efallai nad oedd y cig wedi cael ei waedu’n iawn. (Lef. 17:10-12) (3) Gallai bwyta’r cig fod wedi ei ystyried yn rhan o addoli gau dduwiau.—Cymhara Lefiticus 7:15 a 1 Corinthiaid 10:18, 21, 22.

c Gwylia’r fideo Bydd Cyfiawnder yn Arwain i Heddwch ar jw.org.

d Er mwyn cryfhau dy gariad tuag at Jehofa, a dod i adnabod ei rinweddau a’i bersonoliaeth yn well, beth am astudio’r llyfr Draw Close to Jehovah?