Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Manteisio’n Llawn ar Ddarpariaethau Jehofa

Manteisio’n Llawn ar Ddarpariaethau Jehofa

“Myfi yw’r ARGLWYDD dy Dduw, sy’n dy ddysgu er dy les, ac yn dy arwain yn y ffordd y dylit ei cherdded.”—ESEIA 48:17.

CANEUON: 117, 114

1, 2. (a) Sut mae Tystion Jehofa yn teimlo am y Beibl? (b) Beth yw dy hoff ran o’r Beibl?

FEL Tystion Jehofa, mae gennyn ni gariad mawr tuag at y Beibl. Mae’n rhoi cysur, gobaith, a chyfarwyddyd y gallwn ni ymddiried ynddo. (Rhufeiniaid 15:4) Nid llyfr sy’n cynnwys syniadau dyn mohono ond “gair Duw.”—1 Thesaloniaid 2:13.

2 Yn fwy na thebyg, mae gan bawb eu hoff rannau o’r Beibl. Mae rhai yn hoff iawn o’r Efengylau oherwydd drwy ddarllen am Iesu y mae personoliaeth hardd Jehofa yn dod yn eglur. (Ioan 14:9) Mae’n well gan eraill lyfrau proffwydol fel llyfr y Datguddiad, sy’n dangos beth fydd yn digwydd yn fuan. (Datguddiad 1:1) Cysurwyd rhai gan y Salmau, ac mae eraill yn hoff o gyngor ymarferol llyfr y Diarhebion. Felly, llyfr i bawb yw’r Beibl.

3, 4. (a) Sut rydyn ni’n teimlo am ein cyhoeddiadau? (b) Pa gyhoeddiadau sydd ar gael ar gyfer grwpiau penodol o bobl?

3 Oherwydd bod gennyn ni gariad at y Beibl, rydyn ni hefyd yn hoff iawn o’n cyhoeddiadau gan eu bod nhw’n seiliedig ar Air Duw. Mae pob cyhoeddiad yn ddarpariaeth oddi wrth Jehofa sy’n ein helpu ni i aros yn agos ato ac i gadw ein ffydd yn gryf.—Titus 2:2.

4 Mae llawer o’n cyhoeddiadau wedi eu hysgrifennu ar gyfer Tystion Jehofa yn gyffredinol. Fodd bynnag, ysgrifennwyd rhai cyhoeddiadau ar gyfer grwpiau penodol fel pobl ifanc neu rieni. Paratowyd y rhan fwyaf o’r erthyglau a’r fideos ar ein gwefan yn benodol ar gyfer pobl nad ydyn nhw’n Dystion Jehofa. Mae amrywiaeth o’r fath yn dangos bod Jehofa wedi cadw ei addewid i ddarparu digon o fwyd ysbrydol ar gyfer pawb.—Eseia 25:6.

5. Beth mae Jehofa yn ei werthfawrogi?

5 Byddai’r rhan fwyaf ohonon ni yn hoffi cael mwy o amser ar gyfer darllen y Beibl a’n cyhoeddiadau. Oherwydd bod ein hamser yn brin, nid ydyn ni’n wastad yn treulio amser yn astudio pob cyhoeddiad i’r un graddau. Yn sicr, mae Jehofa’n falch o’n gweld ni’n dal ar bob cyfle i ddarllen ac astudio’r Beibl a’n cyhoeddiadau. (Effesiaid 5:15, 16) Fodd bynnag, mae yna fagl sy’n rhaid inni ei hosgoi. Pa fagl yw honno?

6. Er mwyn elwa’n llawn ar ddarpariaethau Jehofa, pa agwedd y dylen ni ei hosgoi?

6 Os nad ydyn ni’n ofalus, gallwn feddwl nad yw rhai rhannau o’r Beibl, neu rai cyhoeddiadau, yn briodol inni. Er enghraifft, beth os nad ydyn ni’n meddwl bod un rhan o’r Beibl yn berthnasol i’n hamgylchiadau? Neu beth os nad ydyn ni’n rhan o brif gynulleidfa’r cyhoeddiad? Ydyn ni ond yn bwrw golwg gyflym arno neu’n peidio â’i ddarllen o gwbl? Os felly, mae’n bosibl na fydden ni’n cael budd o’r wybodaeth werthfawr honno. Sut gallwn osgoi’r perygl hwnnw? Trwy gofio mai Jehofa yw ffynhonnell yr holl wybodaeth rydyn ni’n ei derbyn. Dywed y Beibl: “Myfi yw’r ARGLWYDD dy Dduw, sy’n dy ddysgu er dy les.” (Eseia 48:17) Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n trafod tair ffordd a fydd yn ein helpu ni i elwa ar ddarpariaethau Jehofa.

DARLLEN Y BEIBL MEWN FFORDD FUDDIOL

7. Pam y dylen ni ddarllen y Beibl â meddwl agored?

7 Darllen â meddwl agored. Mae’n wir fod rhai rhannau o’r Beibl wedi eu hysgrifennu ar gyfer person neu grŵp penodol. Fodd bynnag, mae’r Beibl yn dweud fod “pob Ysgrythur wedi ei hysbrydoli gan Dduw ac yn fuddiol.” (2 Timotheus 3:16) Dyna pam mae’n rhaid inni ddarllen y Beibl â meddwl agored. Mae un brawd yn ceisio cofio ei fod yn gallu dysgu sawl gwers oddi wrth un hanes yn unig. O wneud hynny, mae gwersi llai amlwg yn dod i’r wyneb. Felly, cyn darllen y Beibl, dylen ni ofyn i Jehofa am feddwl agored a doethineb er mwyn deall y wybodaeth a’r hyn y mae eisiau inni ei roi ar waith.—Esra 7:10; darllen Iago 1:5, beibl.net.

Wyt ti’n elwa’n llawn ar yr hyn rwyt yn ei ddarllen yn y Beibl? (Gweler paragraff 7)

8, 9. (a) Wrth ddarllen y Beibl, pa gwestiynau y gallwn ni eu gofyn? (b) Beth mae’r cymwysterau ar gyfer henuriaid yn ei ddweud wrthyn ni am Jehofa?

8 Gofynna gwestiynau. Wrth ddarllen y Beibl, gofynna’r cwestiynau canlynol: ‘Beth mae hyn yn ei ddweud wrthyf am Jehofa? Sut gallaf ddefnyddio’r wybodaeth yn fy mywyd? Sut gallaf ddefnyddio’r deunydd i helpu eraill?’ Wrth fyfyrio ar y cwestiynau hyn, bydd darllen y Beibl yn fwy buddiol. Gad inni ystyried un esiampl. Mae’r Beibl yn disgrifio cymwysterau ar gyfer henuriaid Cristnogol. (Darllen 1 Timotheus 3:2-7.) Ond nid yw’r rhan fwyaf ohonon ni’n henuriaid a hawdd fyddai meddwl nad yw’r wybodaeth o fudd inni. Fodd bynnag, gad inni ofyn y tri chwestiwn y cyfeirir atyn nhw uchod i weld sut gall y rhestr hon o gymwysterau helpu pob un ohonon ni.

9 “Beth mae hyn yn ei ddweud wrthyf am Jehofa?” Jehofa a roddodd inni’r rhestr o gymwysterau ar gyfer henuriaid. Mae ganddo safonau uchel ar gyfer y dynion sy’n gofalu am y gynulleidfa. Mae hyn yn dangos bod y gynulleidfa yn werthfawr i Jehofa. Dywed y Beibl fod Duw wedi ei phrynu â gwaed ei Fab ei hun. (Actau 20:28) Felly, mae Jehofa yn disgwyl i henuriaid fod yn esiamplau da, ac maen nhw’n atebol iddo am y ffordd y maen nhw’n trin y gynulleidfa. Mae eisiau inni deimlo’n ddiogel o dan eu gofal. (Eseia 32:1, 2) Felly, o ddarllen y cymwysterau hyn dysgwn fod Jehofa yn ein caru yn fawr iawn.

Mae Jehofa yn disgwyl i bob un ohonon ni fod yn addfwyn ac i bwyso a mesur sefyllfaoedd yn ofalus

10, 11. (a) Ym mha ffordd y mae’r cymwysterau ar gyfer henuriaid yn berthnasol i bob un ohonon ni? (b) Sut gallwn ni ddefnyddio’r wybodaeth hon i helpu eraill?

10 “Sut gallaf ddefnyddio’r wybodaeth yn fy mywyd?” Os wyt ti eisoes yn henuriad, dylet ti adolygu’r cymwysterau hyn yn rheolaidd a cheisio gwella. Os yw dy “fryd ar swydd arolygydd,” dylet ti geisio cwrdd â’r gofynion hyn hyd eithaf dy allu. (1 Timotheus 3:1) Ond gall pob Cristion ddysgu o’r cymwysterau hyn. Er enghraifft, mae Jehofa yn disgwyl i bob un ohonon ni fod yn addfwyn ac i bwyso a mesur sefyllfaoedd yn ofalus. (Philipiaid 4:5, 1 Pedr 4:7, beibl.net) Pan fydd yr henuriaid yn “esiamplau i’r praidd,” gallwn ni ddysgu oddi wrthyn nhw ac efelychu eu ffydd.—1 Pedr 5:3, Hebreaid 13:7.

11 “Sut gallaf ddefnyddio’r deunydd i helpu eraill?” Yn y weinidogaeth, gallwn ddefnyddio’r rhestr hon o gymwysterau ar gyfer henuriaid Cristnogol i dynnu sylw pobl at y gwahaniaeth rhwng yr henuriaid a chlerigwyr crefyddol. Gall y rhestr hon ein helpu ninnau hefyd i gofio’r gwaith caled y mae henuriaid yn ei wneud yn ein cynulleidfa. Bydd hyn, yn ei dro, yn ein helpu ni i barchu’r henuriaid. (1 Thesaloniaid 5:12) Po fwyaf y bydden ni’n eu parchu nhw, y mwyaf llawen y byddan nhw yn eu haseiniad.—Hebreaid 13:17.

12, 13. (a) Gan ddefnyddio’r adnoddau sydd ar gael inni, pa fath o ymchwil y gallen ni ei gwneud? (b) Sut gall ymchwil ddatgelu gwersi pwysig nad ydyn nhw’n amlwg ar yr olwg gyntaf?

12 Gwna ymchwil. Wrth astudio’r Beibl, cawn atebion i’r cwestiynau canlynol:

  • Pwy ysgrifennodd y rhan hon o’r Beibl?

  • Pryd y cafodd y rhan hon ei hysgrifennu ac yn lle?

  • Pa bethau pwysig a ddigwyddai pan ysgrifennwyd y llyfr hwn?

Gall gwybodaeth o’r fath ein helpu ni i ddysgu gwersi nad ydyn nhw’n amlwg ar yr olwg gyntaf.

13 Er enghraifft, dywed Eseciel 14:13, 14: “‘Os bydd gwlad yn pechu yn f’erbyn trwy fod yn anffyddlon, a minnau’n estyn fy llaw yn ei herbyn, yn torri ei chynhaliaeth o fara, yn anfon newyn arni, ac yn torri ymaith ohoni ddyn ac anifail; hyd yn oed pe byddai Noa, Daniel a Job, y tri ohonynt, yn ei chanol, ni fyddent yn arbed ond eu bywydau eu hunain trwy eu cyfiawnder,’ medd yr ARGLWYDD Dduw.” Trwy wneud ymchwil, dysgwn fod Eseciel wedi ysgrifennu’r geiriau hynny ryw 612 o flynyddoedd cyn Crist. Roedd Noa a Job wedi marw ers canrifoedd, ond nid oedd Jehofa wedi anghofio am eu ffyddlondeb. Ond roedd Daniel yn fyw o hyd. Yn fwy na thebyg, roedd tua 20 mlwydd oed pan ddisgrifiwyd gan Jehofa yn ddyn cyfiawn fel Noa a Job. Beth yw’r wers? Mae Jehofa yn gweld ac yn gwerthfawrogi pob un o’i weision ffyddlon, gan gynnwys pobl ifanc.—Salm 148:12-14.

ELWA AR AMRYWIAETH O GYHOEDDIADAU

14. Sut mae’r deunydd a ysgrifennwyd ar gyfer pobl ifanc yn eu helpu nhw, a sut mae eraill yn gallu elwa hefyd? (Gweler y llun agoriadol.)

14 Deunydd ar gyfer pobl ifanc. Dysgwn fod pob rhan o’r Beibl yn fuddiol. Mewn ffordd debyg, gallwn elwa ar ein holl gyhoeddiadau. Gad inni ystyried ychydig o esiamplau. Mae Jehofa wedi darparu cryn dipyn o wybodaeth ar gyfer pobl ifanc. [1] (Gweler yr ôl-nodyn.) Mae’r wybodaeth yn eu helpu nhw i ymdopi â phroblemau yn yr ysgol ac wrth iddyn nhw dyfu i fyny. Ond sut gall pobl hŷn elwa ar ddarllen y deunydd hwn? Pan ydyn ni’n darllen y wybodaeth hon, rydyn ni’n dysgu am broblemau mae pobl ifanc yn eu hwynebu ac yn gallu eu helpu a’u hannog mewn ffordd fwy effeithiol.

Ni ddylai oedolion fod yn rhy falch i ddarllen deunydd ar gyfer pobl ifanc

15. Pam y dylai deunydd ar gyfer pobl ifanc fod o ddiddordeb i oedolion?

15 Ni ddylai oedolion fod yn rhy falch i ddarllen gwybodaeth ar gyfer pobl ifanc. Mae llawer o’r problemau a drafodir yn yr erthyglau hyn yn effeithio ar bob Cristion. Er enghraifft, mae pob un ohonon ni’n gorfod amddiffyn ein daliadau, meistroli ein hemosiynau, gwrthod pwysau gan gyfoedion, ac osgoi cwmni ac adloniant drwg. Felly, er mai cyhoeddiadau ar gyfer pobl ifanc yw’r rhain, mae’r wybodaeth yn dod o’r Beibl ac yn fuddiol i bawb.

16. Beth arall mae ein cyhoeddiadau yn helpu ein pobl ifanc i’w wneud?

16 Gall cyhoeddiadau ar gyfer pobl ifanc gryfhau eu cyfeillgarwch â Jehofa. (Darllen Pregethwr 12:1, 13.) A gall oedolion elwa hefyd. Er enghraifft, roedd rhifyn mis Ebrill 2009 o’r Awake! yn cynnwys yr erthygl “Young People Ask . . . How Can I Make Bible Reading Enjoyable?” Yn yr erthygl honno, roedd awgrymiadau da a blwch y gellid ei dorri a’i gadw ar gyfer astudio. Oedd yr erthygl yn berthnasol i oedolion? Dywedodd chwaer a oedd yn wraig a mam fod darllen y Beibl yn wastad wedi bod yn her. Ond, dilynodd yr awgrymiadau yn yr erthygl a nawr mae hi’n edrych ymlaen at ddarllen ei Beibl. Mae hi’n dweud cymaint y mae hi’n mwynhau gweld sut mae llyfrau’r Beibl yn gysylltiedig â’i gilydd, gan ychwanegu: “Dydw i erioed wedi teimlo mor gyffrous ynglŷn â darllen y Beibl.”

17, 18. Sut gallwn ni elwa ar ddarllen deunydd sydd wedi ei ysgrifennu ar gyfer y cyhoedd? Rho enghraifft.

17 Cyhoeddiadau ar gyfer y cyhoedd. Er 2008, defnyddiwyd y Tŵr Gwylio astudio. Yn bennaf, mae’r cylchgrawn hwn ar gyfer Tystion Jehofa, ond mae gennyn ni gylchgronau ar gyfer y cyhoedd hefyd. Sut gallwn ni elwa ar y rheini? Meddylia am hyn: Pan wyt ti’n gwahodd rhywun i Neuadd y Deyrnas ac mae’r person yn dod, rwyt ti wedi gwirioni. Wrth i’r siaradwr draddodi ei anerchiad, rwyt ti’n meddwl am yr unigolyn. Rwyt ti’n meddwl am ymateb y person a sut gall y wybodaeth newid ei fywyd. O ganlyniad, mae’r wybodaeth yn cyffwrdd â’th galon ac rwyt ti’n ddiolchgar iawn fod y pwnc yn cael sylw.

18 Gall rhywbeth tebyg ddigwydd wrth inni ddarllen deunydd sydd wedi ei ysgrifennu ar gyfer y cyhoedd. Er enghraifft, mae rhifyn y cyhoedd o’r Tŵr Gwylio ac erthyglau ar jw.org yn esbonio’r Beibl drwy ddefnyddio geiriau ac ymadroddion hawdd eu deall. O ddarllen y wybodaeth hon, rydyn ni’n dyfnhau ein dealltwriaeth a’n cariad tuag at wirioneddau’r Beibl sydd eisoes yn hysbys inni. Hefyd, gallwn ddysgu ffyrdd newydd o esbonio ein daliadau yn y weinidogaeth. Mewn modd tebyg, mae’r cylchgrawn Awake! yn cryfhau ein ffydd yn y Creawdwr. Mae’n ein dysgu ni hefyd sut i amddiffyn ein daliadau.—Darllen 1 Pedr 3:15.

19. Sut gallwn ni ddangos ein bod ni’n ddiolchgar i Jehofa am ei ddarpariaethau?

19 Yn amlwg, mae Jehofa wedi darparu digon o gyngor a chyfarwyddyd buddiol. (Mathew 5:3) Gad inni ddal ati i ddarllen a rhoi ar waith yr holl wybodaeth y mae wedi ei rhoi inni. Os ydyn ni’n gwneud hynny, byddwn ni ar ein hennill, a byddwn ni’n dangos i Jehofa ein bod ni’n ddiolchgar am ei holl ddarpariaethau.—Eseia 48:17.

^ [1] (paragraff 14) Mae gwybodaeth o’r fath yn cynnwys Questions Young People Ask—Answers That Work, Cyfrolau 1 a 2, ynghyd â’r gyfres “Young People Ask,” sydd i’w chael ar lein yn unig.