Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Sut Rwyt Ti’n Gwneud Penderfyniadau Personol?

Sut Rwyt Ti’n Gwneud Penderfyniadau Personol?

“Deallwch beth yw ewyllys yr Arglwydd.”—EFFESIAID 5:17.

CANEUON: 69, 57

1. Beth yw rhai o’r cyfreithiau yn y Beibl, a sut mae bod yn ufudd iddyn nhw o fudd inni?

YN Y Beibl, mae Jehofa wedi rhoi cyfreithiau inni sy’n dangos yr hyn y mae eisiau inni ei wneud. Er enghraifft, mae’n dweud na ddylen ni addoli eilunod, dwyn, meddwi, na gwneud pethau sy’n anfoesol yn rhywiol. (1 Corinthiaid 6:9, 10, beibl.net) A rhoddodd Mab Jehofa, Iesu, y gorchymyn penodol hwn i’w ddilynwyr: “Ewch, gan hynny, a gwnewch ddisgyblion o’r holl genhedloedd, gan eu bedyddio hwy yn enw’r Tad a’r Mab a’r Ysbryd Glân, a dysgu iddynt gadw’r holl orchmynion a roddais i chwi. Ac yn awr, yr wyf fi gyda chwi yn wastad hyd ddiwedd amser.” (Mathew 28:19, 20) Mae popeth y mae Jehofa a Iesu yn gofyn inni ei wneud yn fuddiol inni. Mae cyfreithiau Jehofa yn ein dysgu ni sut i ofalu amdanon ni’n hunain a’n teuluoedd, ac yn ein helpu ni i gael iechyd gwell ac i fod yn hapus. Ond yn bwysicach na hynny, mae bod yn ufudd i orchmynion Jehofa, gan gynnwys y gorchymyn i bregethu, yn ei blesio ac fe gawn ein bendithio ganddo.

2, 3. (a) Pam nad yw’r Beibl yn rhoi rheolau inni ar gyfer pob sefyllfa mewn bywyd? (b) Pa gwestiynau byddwn ni’n eu trafod yn yr erthygl hon? (Gweler y llun agoriadol.)

2 Ond, ar yr un pryd, nid yw’r Beibl yn gosod rheolau ar gyfer pob sefyllfa mewn bywyd. Er enghraifft, nid oes cyfarwyddyd penodol yn y Beibl ynglŷn â’r hyn y dylen ni ei wisgo. Mae hyn yn dangos doethineb Jehofa. Er bod ffasiynau yn newid dros amser a phobl yn gwisgo’n wahanol ar draws y byd, dydy’r Beibl byth yn dyddio. A dydy’r Beibl ddim yn cynnwys rhestr o reolau ynglŷn â’r math o swyddi neu adloniant y dylen ni eu dewis, neu’r ffordd dylen ni gadw’n heini. Mae Jehofa yn caniatáu i unigolion a phennau teuluoedd benderfynu drostyn nhw eu hunain yn achos y pethau hyn.

3 Felly, pan nad yw’r Beibl yn deddfu ar fater penodol ac mae angen inni wneud penderfyniad pwysig, gallwn ni ofyn: ‘Oes gan Jehofa ddiddordeb yn fy mhenderfyniad i? A fydd Duw yn hapus â’m penderfyniad cyn belled nad ydw i’n torri un o gyfreithiau’r Beibl? Sut gallaf fod yn sicr y bydd Jehofa yn hapus â’m dewisiadau?’

MAE EIN PENDERFYNIADAU YN EFFEITHIO ARNON NI AC ERAILL

4, 5. Sut gall ein penderfyniadau effeithio arnon ni ac eraill?

4 Mae rhai pobl yn credu y gallan nhw wneud fel y mynnon nhw. Ond rydyn ni eisiau gwneud yr hyn sy’n plesio Jehofa. Felly, cyn inni wneud penderfyniad, mae angen meddwl am yr hyn mae’r Beibl yn ei ddweud ac yna ufuddhau iddo. Er enghraifft, dywed y Beibl sut mae Duw yn teimlo am y ffordd rydyn ni’n defnyddio gwaed, felly rydyn ni’n dilyn hynny. (Genesis 9:4; Actau 15:28, 29) Gallwn weddïo ar Jehofa am help i wneud penderfyniadau a fydd yn ei blesio.

5 Mae ein penderfyniadau yn effeithio arnon ni. Gall penderfyniad da ein helpu ni i agosáu at Jehofa. Ond gall penderfyniad drwg niweidio ein perthynas ag ef. A gall ein penderfyniadau effeithio ar eraill hefyd. Nid ydyn ni eisiau gwneud unrhyw beth a all ddigio ein brodyr neu wanhau eu ffydd. Hefyd, nid ydyn ni eisiau achosi problemau rhwng brodyr yn y gynulleidfa. Felly, pwysig yw gwneud penderfyniadau da.—Darllen Rhufeiniaid 14:19; Galatiaid 6:7.

6. Beth ddylai fod yn sail i’n penderfyniadau?

6 Sut gallwn ni wneud penderfyniadau da pan nad yw’r Beibl yn dweud yn union beth y dylwn ni ei wneud? Yn hytrach na gwneud yn union fel y mynnon ni, mae angen meddwl yn ofalus am ein sefyllfa bersonol a gwneud penderfyniad a fydd yn plesio Jehofa. Yna, gallwn fod yn sicr y bydd Jehofa yn ein helpu ni i lwyddo yn ein penderfyniadau.—Darllen Salm 37:5, beibl.net.

BETH MAE JEHOFA YN DYMUNO IMI EI WNEUD?

7. Pan nad oes deddf yn y Beibl, sut gallwn ni ddeall beth mae Duw eisiau inni ei wneud mewn sefyllfa benodol?

7 Ond sut gallwn wybod beth fydd yn plesio Jehofa? Dywed Effesiaid 5:17: “Deallwch beth yw ewyllys yr Arglwydd.” Pan nad oes deddf benodol yn y Beibl, mae angen inni ddeall yr hyn y mae Jehofa eisiau inni ei wneud yn ein sefyllfa ni. Sut gallwn ni wneud hynny? Mae’n rhaid inni weddïo arno a gadael i’w ysbryd glân ein harwain ni.

8. Sut roedd Iesu yn deall ewyllys Jehofa? Rho esiampl.

8 Roedd Iesu yn wastad yn deall beth roedd Jehofa eisiau iddo ei wneud. Er enghraifft, pan oedd angen bwyd ar y tyrfaoedd ar ddau achlysur gwahanol, gweddïodd Iesu ac yna eu bwydo nhw drwy gyflawni gwyrth. (Mathew 14:17-20; 15:34-37) Ond pan oedd angen bwyd arno yn yr anialwch ac roedd y Diafol yn ei annog i droi’r cerrig yn fara, fe wrthododd. (Darllen Mathew 4:2-4, beibl.net.) Roedd Iesu’n adnabod ei Dad yn dda iawn, felly gwyddai na fyddai Jehofa eisiau iddo ddefnyddio’r ysbryd glân at ei ddibenion ei hun. Roedd yn sicr y byddai ei Dad yn rhoi arweiniad a bwyd iddo bryd bynnag roedd yn eu hangen.

9, 10. Beth fydd yn ein helpu ni i wneud penderfyniadau doeth? Eglura.

9 Fel Iesu, gallwn wneud penderfyniadau da os ydyn ni’n dibynnu ar Jehofa i’n harwain. Mae’r Beibl yn dweud: “Ymddiried yn llwyr yn yr ARGLWYDD, a phaid â dibynnu ar dy ddeall dy hun. Cydnabydda ef yn dy holl ffyrdd, bydd ef yn sicr o gadw dy lwybrau’n union. Paid â bod yn ddoeth yn dy olwg dy hun; ofna’r ARGLWYDD, a chilia oddi wrth ddrwg.” (Diarhebion 3:5-7) Pan ydyn ni’n astudio’r Beibl ac yn dysgu am feddyliau Jehofa, byddwn yn deall yr hyn y mae eisiau inni ei wneud mewn sefyllfa benodol. Mwyaf yn y byd rydyn ni’n dysgu am feddylfryd Jehofa, hawsaf yn y byd y bydd hi i wneud penderfyniadau sy’n ei blesio. Fel hyn, gallwn fod yn “barod i ymateb i Dduw ac ufuddhau iddo.”—Eseciel 11:19, troednodyn, Y Beibl Canllaw.

10 Dychmyga fod dynes briod yn siopa ac yn gweld pâr o esgidiau hyfryd. Ond, maen nhw’n ofnadwy o ddrud. Er nad yw ei gŵr gyda hi, mae hi’n gwybod beth y byddai’n ei feddwl petai hi’n gwario’r fath arian. Sut mae hi’n gwybod? Oherwydd iddi fod yn briod iddo ers peth amser, felly mae hi’n gwybod sut y mae ef eisiau iddyn nhw ddefnyddio eu harian. Yn yr un modd, pan ydyn ni’n dysgu am y ffordd y mae Jehofa yn meddwl, ac am ei weithredoedd yn y gorffennol, byddwn yn gwybod beth y byddai ef eisiau inni ei wneud mewn gwahanol sefyllfaoedd.

SUT GELLI DI DDARGANFOD BETH MAE JEHOFA YN EI FEDDWL?

11. Pa gwestiynau y gelli di eu gofyn i ti dy hun wrth ddarllen neu astudio’r Beibl? (Gweler y blwch “ Pan Wyt Ti’n Astudio’r Beibl, Gofynna Iti Dy Hun.”)

11 Sut gallwn ni ddarganfod barn Jehofa? Y peth pwysicaf y gallwn ni ei wneud yw darllen ac astudio’r Beibl yn rheolaidd. Wrth iti wneud hynny, gofynna i ti dy hun: ‘Beth mae hyn yn fy nysgu am Jehofa? Pam gwnaeth Jehofa weithredu fel hynny?’ Ac fel Dafydd, mae angen inni ofyn i Jehofa am iddo ein helpu ni i ddod i’w adnabod yn well. Ysgrifennodd Dafydd: “Gwna imi wybod dy ffyrdd, O ARGLWYDD, hyffordda fi yn dy lwybrau. Arwain fi yn dy wirionedd a dysg fi, oherwydd ti yw Duw fy iachawdwriaeth; wrthyt ti y bûm yn disgwyl trwy’r dydd.” (Salm 25:4, 5) Pan wyt ti’n dysgu rhywbeth am Jehofa, meddylia am wahanol sefyllfaoedd lle y gelli di ddefnyddio’r wybodaeth honno. A elli di ddefnyddio’r wybodaeth yn y teulu, yn y gweithle, yn yr ysgol, neu yn y weinidogaeth? Bydd meddwl am sefyllfa benodol yn ei gwneud hi’n haws gwybod sut mae Jehofa eisiau iti ddefnyddio’r wybodaeth.

Er mwyn darganfod yr hyn y mae Jehofa yn ei feddwl, mae angen inni ddarllen ac astudio’r Beibl yn rheolaidd

12. Sut gall ein cyhoeddiadau a’n cyfarfodydd ein helpu ni i ddod yn fwy cyfarwydd â meddwl Jehofa ar faterion?

12 Ffordd arall o ddod i adnabod meddylfryd Jehofa yw rhoi sylw manwl i’r hyn y mae ei gyfundrefn yn ei ddysgu am y Beibl. Er enghraifft, pan fo gennyn ni benderfyniad i’w wneud, gall y Watch Tower Publications Index a Llawlyfr Cyhoeddiadau Tystion Jehofa ein helpu ni i ddarganfod beth mae Jehofa yn ei feddwl. Gallwn hefyd elwa ar ein cyfarfodydd Cristnogol pan ydyn ni’n gwrando’n astud, yn rhoi atebion, ac yn myfyrio ar yr hyn sy’n cael ei ddysgu. Bydd hyn yn ein helpu ni i ddysgu ffordd Jehofa o feddwl. O ganlyniad, byddwn yn gwneud penderfyniadau a fydd yn plesio Duw a bydd ef yn ein bendithio.

MYFYRIA AR FEDDYLIAU JEHOFA CYN ITI WNEUD PENDERFYNIAD

13. Rho enghraifft sy’n dangos sut gallwn wneud penderfyniad doeth pan ydyn ni’n ystyried yr hyn y mae Jehofa yn ei feddwl.

13 Gad inni feddwl am enghraifft o sut y gallwn wneud penderfyniad doeth drwy ystyried yr hyn y mae Jehofa yn ei feddwl. Efallai y byddet ti’n hoffi dechrau arloesi. Rwyt ti wedi gorfod gwneud penderfyniadau yn dy fywyd fel y gelli di dreulio mwy o amser ar y weinidogaeth. Ond nid wyt ti eto’n sicr y byddet ti’n hapus yn byw ar lai o arian a phethau materol. Wrth gwrs, nid yw’r Beibl yn dweud dy fod ti’n gorfod arloesi i wasanaethu Jehofa. Bydden ni’n gallu parhau i’w wasanaethu fel cyhoeddwyr. Ond ar y llaw arall, dywedodd Iesu y byddai Jehofa yn bendithio’r rhai sy’n aberthu dros y Deyrnas. (Darllen Luc 18:29, 30.) Dywed y Beibl hefyd fod Jehofa wrth ei fodd pan ydyn ni’n gwneud popeth y medrwn ni i ddod â chlod iddo, ac mae eisiau inni fod yn hapus wrth inni ei wasanaethu. (Salm 119:108; 2 Corinthiaid 9:7) Drwy weddïo a myfyrio ar y pethau hyn, gallwn wneud penderfyniad sy’n addas i’n sefyllfa, a bydd Jehofa yn bendithio’r penderfyniad hwnnw.

14. Sut gelli di benderfynu a yw steil arbennig o wisgo yn plesio Jehofa neu beidio?

14 Dyma enghraifft arall: Rwyt ti’n hoff iawn o wisgo mewn steil arbennig, ond rwyt ti’n gwybod y byddai rhai yn y gynulleidfa yn cael eu pechu petaet ti’n gwisgo fel hynny. Nid yw’r Beibl yn dweud unrhyw beth penodol am y steil hwnnw. Felly sut gelli di gael barn Jehofa ar y mater? Dywed y Beibl: “A bod y gwragedd, yr un modd, yn gwisgo dillad gweddus, yn wylaidd a diwair, ac yn eu harddu eu hunain, nid â phlethiadau gwallt a thlysau aur a pherlau a gwisgoedd drud, ond â gweithredoedd da, fel sy’n gweddu i wragedd sy’n honni bod yn dduwiol.” (1 Timotheus 2:9, 10) Wrth gwrs, gall pob un o weision Jehofa, gan gynnwys dynion, ddysgu oddi wrth y geiriau hyn. Pan ydyn ni’n wylaidd, rydyn ni’n meddwl am deimladau pobl eraill wrth ddewis beth i’w wisgo. Ac oherwydd ein bod ni’n caru ein brodyr, rydyn ni’n osgoi eu brifo neu eu digio nhw. (1 Corinthiaid 10:23, 24; Philipiaid 3:17) Os ydyn ni’n ystyried yr hyn y mae’r Beibl yn ei ddweud, a’r ffordd mae Jehofa yn meddwl, gallwn wneud penderfyniadau a fydd yn ei blesio.

15, 16. (a) Sut mae Jehofa yn teimlo os ydyn ni’n meddwl o hyd am bethau sy’n anfoesol yn rhywiol? (b) Wrth inni ddewis ein hadloniant, sut gallwn ni wybod beth sy’n plesio Jehofa? (c) Sut dylen ni wneud penderfyniadau pwysfawr?

15 Dysgwn yn y Beibl fod Jehofa yn cael ei frifo i’r byw pan fo pobl yn gwneud pethau ofnadwy ac yn meddwl am bethau drwg. (Darllen Genesis 6:5, 6.) Mae’n amlwg, felly, nad yw Jehofa eisiau inni ffantasïo am bethau sy’n anfoesol yn rhywiol. Os ydyn ni’n meddwl o hyd am y pethau hyn, mae’n bosibl y bydden ni’n eu gwneud nhw. Yn hytrach, mae Jehofa eisiau inni feddwl am bethau pur a da. Ysgrifennodd y disgybl Iago fod doethineb Jehofa “yn y lle cyntaf yn bur, ac yna’n heddychol, yn dirion, yn hawdd ymwneud â hi, yn llawn o drugaredd a’i ffrwythau daionus, yn ddiragfarn ac yn ddiragrith.” (Iago 3:17) Felly, mae’r Beibl yn ein dysgu bod angen osgoi adloniant a all achosi inni ddychmygu neu flysio am bethau sy’n anfoesol neu’n ddrwg. Ac os ydyn ni’n deall yn glir yr hyn y mae Jehofa yn ei garu ac yn ei gasáu, haws fyddai inni wybod pa lyfrau, ffilmiau, a gemau i’w dewis. Ni fydd angen gofyn i eraill ynglŷn â’r hyn y dylwn ni ei wneud.

16 Pan fo rhaid inni wneud penderfyniad, yn aml y mae sawl opsiwn yn agored inni a phob un ohonyn nhw’n plesio Jehofa. Ond, pan fo angen inni wneud penderfyniad pwysig iawn, peth da fyddai gofyn i henuriad neu frawd neu chwaer brofiadol am gyngor. (Titus 2:3-5; Iago 5:13-15) Wrth gwrs, ni ddylen ni ofyn i’r person hwnnw wneud y penderfyniad droson ni. Yn hytrach, mae angen inni feddwl yn ofalus am yr hyn rydyn ni wedi ei ddysgu o’r Beibl am y pwnc ac yna gwneud ein penderfyniad ein hunain. (Hebreaid 5:14) Dywedodd yr apostol Paul: “Dyn ni’n gyfrifol am yr hyn dyn ni’n hunain wedi ei wneud.”—Galatiaid 6:5, beibl.net.

17. Sut rydyn ni’n elwa ar wneud penderfyniadau sy’n plesio Jehofa?

17 Pan ydyn ni’n gwneud penderfyniadau sy’n plesio Jehofa, rydyn ni’n nesáu ato ac yn derbyn ei gymeradwyaeth a’i fendith. (Iago 4:8) Yna, mae ein ffydd yn Jehofa yn cryfhau. Felly, gad inni fyfyrio ar yr hyn rydyn ni’n ei ddarllen yn y Beibl fel ein bod ni’n deall y ffordd y mae Jehofa yn meddwl. Wrth gwrs, byddan ni’n wastad yn dysgu rhywbeth newydd am Jehofa. (Job 26:14, beibl.net) Ond os ydyn ni’n gweithio’n galed nawr i ddysgu amdano, byddwn yn dod yn ddoeth ac yn gallu gwneud penderfyniadau da. (Diarhebion 2:1-5) Mae syniadau a chynlluniau pobl yn newid, ond dydy Jehofa byth yn newid. Dywedodd y salmydd: “Ond saif cyngor yr ARGLWYDD am byth, a’i gynlluniau dros yr holl genedlaethau.” (Salm 33:11) Mae’n amlwg felly, gallwn wneud y penderfyniadau gorau wrth ddysgu sut i feddwl fel y mae Jehofa, ac yna gwneud yr hyn sy’n ei blesio.