Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Torri Dadleuon Mewn Ffordd Gariadus

Torri Dadleuon Mewn Ffordd Gariadus

“Byddwch heddychlon tuag at eich gilydd.”—MARC 9:50.

CANEUON: 39, 77

1, 2. Pa wrthdaro y soniwyd amdano yn Genesis, a pham mae hyn o ddiddordeb inni?

A WYT ti wedi meddwl am y gwrthdaro sy’n cael ei ddisgrifio yn y Beibl? Yn llyfr Genesis rydyn ni’n dysgu am Cain yn lladd Abel (Genesis 4:3-8); Lamech yn lladd dyn ifanc a oedd wedi ei daro (Genesis 4:23); ffraeo rhwng bugeiliaid Abraham a Lot (Genesis 13:5-7); Hagar yn edrych i lawr ar Sara, a Sara’n flin gydag Abraham (Genesis 16:3-6); Ismael yn erbyn pawb, a phawb yn ei erbyn ef.—Genesis 16:12.

2 Pam adrodd hanesion o’r fath yn y Beibl? Oherwydd y gallwn ddysgu oddi wrth esiamplau pobl amherffaith a oedd yn wynebu problemau. Rydyn ninnau hefyd yn amherffaith, a phan ydyn ni’n wynebu problemau tebyg, gallwn ddilyn yr esiamplau da sydd yn y Beibl ac osgoi efelychu’r rhai drwg. (Rhufeiniaid 15:4) Gall hyn ein helpu ni i ddysgu sut i gadw heddwch ag eraill.

3. Pa bynciau a drafodir yn yr erthygl hon?

3 Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n dysgu pam y dylen ni ddatrys dadleuon, neu anghytundebau, a sut gallwn ni wneud hynny. Byddwn ni hefyd yn dysgu am egwyddorion yn y Beibl sy’n gallu ein helpu ni i ddatrys problemau a chadw perthynas dda â Jehofa a chyda eraill.

MAE ANGEN I WEISION DUW DORRI DADLEUON

4. Pa agwedd a ledaenodd drwy’r byd a beth yw’r canlyniad?

4 Y prif reswm y mae pobl yn rhanedig ac yn gwrthdaro yw Satan. Pam rydyn ni’n dweud hynny? Yn Eden, dywedodd Satan y dylai pawb benderfynu drostyn nhw eu hunain yr hyn sy’n dda neu’n ddrwg a hynny’n annibynnol ar Dduw. (Genesis 3:1-5) Ond, o edrych ar y byd heddiw, hawdd yw gweld bod agwedd o’r fath yn dod â phroblemau. Mae llawer o bobl yn teimlo bod ganddyn nhw’r hawl i benderfynu drostyn nhw eu hunain yr hyn sy’n dda neu’n ddrwg. Mae pobl yn falch, yn hunanol, ac yn gystadleuol, a does dim ots ganddyn nhw a yw eu penderfyniadau yn brifo eraill neu beidio. Mae agwedd o’r fath yn arwain at anghydfod. Yn ôl y Beibl, os ydyn ni’n gwylltio’n hawdd, byddwn ni’n ffraeo ac yn pechu’n aml.—Diarhebion 29:22.

5. Sut gwnaeth Iesu ddysgu pobl i ddelio gydag anghytundebau?

5 Pan roddodd Iesu’r Bregeth ar y Mynydd, dysgodd ei ddisgyblion i fod yn heddychlon ac osgoi dadlau, hyd yn oed pe bydden ni ar ein colled o wneud hynny. Er enghraifft, dywedodd wrthyn nhw am fod yn ffeind, am gadw heddwch, am gael gwared ar deimladau cas, am gymodi’n gyflym, ac am garu eu gelynion.—Mathew 5:5, 9, 22, 25, 44.

6, 7. (a) Pam mae hi’n bwysig i ddatrys anghytundebau’n gyflym? (b) Pa gwestiynau y dylai pob un o bobl Jehofa eu gofyn iddyn nhw eu hunain?

6 Heddiw, rydyn ni’n addoli Jehofa pan ydyn ni’n gweddïo, yn pregethu, ac yn mynychu ein cyfarfodydd. Os nad ydyn ni’n cymodi â’n brodyr, ni fydd Jehofa yn derbyn ein haddoliad. (Marc 11:25) Er mwyn bod yn ffrindiau â Jehofa, mae’n rhaid inni faddau i eraill pan fyddan nhw’n gwneud camgymeriadau.—Darllen Luc 11:4; Effesiaid 4:32.

Wyt ti’n gyflym i faddau i’th frodyr?

7 Mae Jehofa yn disgwyl bod pob un o’i weision yn faddeugar ac yn heddychlon. Gallwn ofyn i ni’n hunain: ‘Ydw i’n gyflym i faddau fy mrodyr? Ydw i’n mwynhau treulio amser gyda nhw?’ Os wyt ti’n sylweddoli bod angen iti fod yn fwy maddeugar, gofynna i Jehofa am help. Bydd ein Tad nefol yn gwrando ac yn ateb gweddïau gostyngedig o’r fath.—1 Ioan 5:14, 15.

ELLI DI ANWYBYDDU TRAMGWYDD?

8, 9. Beth dylen ni ei wneud petai rhywun yn ein pechu?

8 Gallwn ddisgwyl y byddai pobl amherffaith, o bryd i’w gilydd, yn dweud neu’n gwneud pethau sy’n ein brifo ni. (Pregethwr 7:20; Mathew 18:7) Sut byddi di’n ymateb? Ystyria’r esiampl ganlynol: Gwnaeth chwaer gyfarch dau frawd mewn parti. Ond cafodd un o’r brodyr ei ddigio gan y ffordd y gwnaeth y chwaer ei gyfarch. Pan oedd y ddau frawd ar eu pennau eu hunain, dechreuodd y brawd hwnnw ladd ar y chwaer. Fodd bynnag, dyma’r brawd arall yn ei atgoffa bod y chwaer wedi gwasanaethu Jehofa am 40 mlynedd er gwaethaf anawsterau mawr. Roedd yn sicr nad oedd y chwaer wedi bwriadu ei frifo. Beth oedd ymateb y brawd cyntaf? Dywedodd: “Mi wyt ti’n iawn.” Yna, penderfynodd anghofio am yr hyn a ddigwyddodd.

9 Beth mae’r profiad hwn yn ei ddysgu inni? Pan fydd rhywun yn ein brifo ni, ein dewis ni yw sut i ymateb. Mae person cariadus yn faddeugar. (Darllen Diarhebion 10:12; 1 Pedr 4:8.) Mae “maddau tramgwydd” yn rhywbeth hardd yng ngolwg Jehofa. (Diarhebion 19:11; Pregethwr 7:9) Felly, y tro nesaf y bydd rhywun yn dy bechu, gofynna i ti dy hun: ‘Ydw i’n gallu anwybyddu’r tramgwydd hwn? A oes angen imi gnoi cil ar hyn drwy’r amser?’

10. (a) Ar y cychwyn, sut gwnaeth un chwaer ymateb i feirniadaeth? (b) Pa gyngor Ysgrythurol a helpodd y chwaer i gadw ei heddwch meddwl?

10 Pan fo rhywun yn dweud pethau negyddol amdanon ni, gall fod yn anodd anwybyddu’r geiriau. Rho sylw i’r hyn a ddigwyddodd i chwaer y byddwn ni’n ei galw’n Lucy. Roedd rhai yn y gynulleidfa wedi gwneud sylwadau negyddol am safon ei gweinidogaeth a’r ffordd roedd hi’n trefnu ei hamser. Roedd hyn wedi brifo ei theimladau a gofynnodd i frodyr aeddfed am gyngor. Beth oedd y canlyniad? Dywedodd eu bod nhw wedi defnyddio’r Beibl i’w helpu hi i beidio â hel meddyliau am sylwadau negyddol pobl eraill ac iddi feddwl mwy am Jehofa. Cafodd anogaeth o ddarllen Mathew 6:1-4. (Darllen.) Roedd yr adnodau hynny yn ei hatgoffa mai plesio Jehofa yw’r peth pwysicaf. Felly, penderfynodd anwybyddu’r sylwadau negyddol. Erbyn hyn, petai eraill yn sôn am ei gweinidogaeth mewn ffordd negyddol, mae hi’n hapus o wybod ei bod hi’n gwneud ei gorau i blesio Jehofa.

PAN NA ELLI DI ANWYBYDDU TRAMGWYDD

11, 12. (a) Sut dylai Cristion ymddwyn os yw’n credu bod gan ei frawd gŵyn yn ei erbyn? (b) Beth gallwn ni ei ddysgu o’r ffordd y gwnaeth Abraham dorri dadl? (Gweler y llun agoriadol.)

11 “Dyn ni i gyd yn gwneud pob math o gamgymeriadau.” (Iago 3:2, beibl.net) Dychmyga fod brawd wedi ei bechu o ganlyniad i rywbeth rwyt ti wedi ei ddweud neu ei wneud. Sut dylet ti ymateb? Dywedodd Iesu: “Os wyt ti wrth yr allor yn y deml yn addoli Duw, ac yn cofio yno fod gan rhywun gŵyn yn dy erbyn, gad dy offrwm yno. Dos i wneud pethau’n iawn gyda nhw’n gyntaf; cei di gyflwyno dy offrwm i Dduw wedyn.” (Mathew 5:23, 24, beibl.net) Felly, siarada â’th frawd. Wrth wneud hynny, dy fwriad yw cadw heddwch. Dylet ti syrthio ar dy fai yn hytrach na cheisio rhoi’r bai arno ef. Ceisio heddwch yw’r peth pwysicaf.

Ein bwriad yw cadw heddwch â’n brodyr

12 Mae’r Beibl yn dangos sut gall gweision Duw gadw heddwch pan fo anghydfod yn codi. Er enghraifft, roedd gan Abraham a Lot lawer o anifeiliaid, a dechreuodd eu bugeiliaid ffraeo oherwydd diffyg tir. Oherwydd bod Abraham yn ceisio heddwch, gadawodd i Lot ddewis y tir gorau. (Genesis 13:1, 2, 5-9) Am esiampl dda i ni! A oedd Abraham ar ei golled yn y tymor hir oherwydd ei haelioni? Dim o gwbl. Yn syth wedyn, addawodd Jehofa y byddai’n bendithio Abraham gyda llawer mwy nag yr oedd wedi ei golli. (Genesis 13:14-17) Beth yw’r wers? Hyd yn oed os ydyn ni’n dioddef colledion, bydd Jehofa yn ein bendithio ni pan fyddwn ni’n torri dadleuon mewn ffordd gariadus. [1]—Gweler yr ôl-nodyn.

13. Sut gwnaeth un arolygwr ymateb i eiriau cas, a beth gallwn ni ei ddysgu o’i esiampl?

13 Ystyria esiampl gyfoes: Dyma arolygwr newydd un o adrannau’r gynhadledd yn galw brawd i ofyn a fyddai’n fodlon gweithio gyda’r tîm. Roedd y brawd yn frwnt ei dafod cyn taro’r ffôn i lawr oherwydd ei fod yn dal yn flin gyda chyn-arolygwr yr adran. Ni chafodd yr arolygwr newydd ei bechu, ond nid oedd yn gallu anwybyddu’r hyn a ddigwyddodd. Ar ôl awr, ffoniodd y brawd unwaith eto i drefnu cyfarfod. Yr wythnos ganlynol, cwrddon nhw yn Neuadd y Deyrnas, ac ar ôl gweddïo ar Jehofa, dyma nhw’n siarad am awr. Esboniodd y brawd yr hyn a ddigwyddodd rhyngddo ef a’r hen arolygwr. Gwrandawodd yr arolygwr newydd yn garedig gan drafod adnodau perthnasol. O ganlyniad, gwnaeth y brodyr gymodi a chydweithio yn y gynhadledd. Mae’r brawd yn ddiolchgar fod yr arolygwr wedi siarad ag ef mewn ffordd garedig ac addfwyn.

A DDYLET TI GYNNWYS YR HENURIAID?

14, 15. (a) Pa bryd y dylen ni roi ar waith gyngor Mathew 18:15-17? (b) Pa dri cham roedd Iesu’n gofyn inni eu dilyn, ac i ba ddiben?

14 Gall y rhan fwyaf o broblemau sy’n codi rhwng Cristnogion gael eu datrys heb gynnwys neb arall. Ond, ar adegau, dydy hyn ddim yn bosibl ac mae ambell sefyllfa yn gofyn am help ychwanegol yn ôl Mathew 18:15-17. (Darllen.) Nid anghytundeb bach rhwng Cristnogion oedd y pechod y soniodd Iesu amdano. Sut rydyn ni’n gwybod? Yn ôl Iesu, petai pechadur yn gwrthod edifarhau ar ôl iddo siarad â’i frawd, â thystion, ac â brodyr cyfrifol, dylai gael ei gyfrif “fel un o’r Cenhedloedd a’r casglwr trethi.” Heddiw, mae hyn yn golygu y dylai’r unigolyn gael ei ddiarddel. Gallai’r pechod gynnwys pethau fel twyll neu enllib, ond ni fyddai’n cynnwys pechodau fel godineb, cyfunrhywiaeth, gwrthgiliad, neu eilunaddoliaeth. Yn bendant, mae’n rhaid i’r henuriaid ddelio gyda’r mathau hyn o bechodau.

Efallai y bydd rhaid siarad â’th frawd fwy nag unwaith er mwyn cadw heddwch (Gweler paragraff 15)

15 Wrth roi’r cyngor hwn, bwriad Iesu oedd dangos sut i helpu brawd oherwydd ein bod ni’n ei garu. (Mathew 18:12-14) Sut gallwn ni ddilyn y cyngor hwn? (1) Dylen ni geisio heddwch â’n brawd heb gynnwys eraill. Efallai y bydd rhaid inni siarad ag ef sawl gwaith drosodd. Ond beth dylen ni ei wneud os nad yw hynny’n torri’r ddadl? (2) Dylen ni siarad â’n brawd gyda rhywun sy’n deall y sefyllfa neu sy’n gallu gweld a oes drwgweithredu wedi digwydd. Os wyt ti’n datrys y broblem, byddi di wedi ennill dy frawd. Dim ond ar ôl iti siarad â’th frawd sawl gwaith, a bod dy ymdrechion i dorri’r ddadl wedi methu, y dylet ti (3) roi gwybod i’r henuriaid am y broblem.

16. Beth sy’n dangos bod dilyn cyngor Iesu yn ymarferol ac yn gariadus?

16 Yn y rhan fwyaf o achosion, nid yw dilyn pob un o’r tri cham yn Mathew 18:15-17 yn angenrheidiol. Mae hynny’n galonogol. Pam y gellir dweud hynny? Oherwydd yn y rhan fwyaf o achosion, mae’r pechadur yn syrthio ar ei fai ac yn datrys y broblem, felly nid oes rhaid iddo gael ei ddiarddel. Dylai’r sawl sydd wedi ei dramgwyddo faddau i’w frawd er mwyn cadw heddwch. Felly, mae cyngor Iesu yn dweud yn glir na ddylen ni fynd i siarad â’r henuriaid yn rhy fuan. Dylen ni roi gwybod i’r henuriaid dim ond ar ôl cymryd y ddau gam cyntaf a bod tystiolaeth yn profi bod drwgweithredu wedi digwydd.

17. Pa fendithion sy’n dod i’r rhai sy’n ceisio heddwch?

17 Cyhyd ag ein bod ni’n amherffaith, byddwn i’n dal i bechu yn erbyn eraill. Ysgrifennodd yr apostol Iago: “Os oes rhywun yn gallu rheoli ei dafod, a dweud dim byd o’i le byth, dyna i chi berson perffaith! Rhywun sy’n gallu rheoli ei hun yn llwyr.” (Iago 3:2, beibl.net) I dorri dadleuon, mae’n rhaid inni wneud ein gorau i geisio heddwch a’i ddilyn. (Salm 34:14) Pan ydyn ni’n parhau i geisio heddwch, bydd ein brodyr a’n chwiorydd yn ffrindiau da inni, a bydd hyn yn ein helpu ni i aros yn gytûn. (Salm 133:1-3) Ond y peth pwysicaf oll yw ein perthynas glòs â Jehofa, y “Duw, sy’n rhoi ei heddwch perffaith.” (Rhufeiniaid 15:33, beibl.net) Os byddwn ni’n torri dadleuon mewn ffordd gariadus, bydd y bendithion hyn yn dod inni.

^ [1] (paragraff 12) Ymhlith eraill a geisiodd heddwch oedd Jacob, wrth ddelio gydag Esau (Genesis 27:41-45; 33:1-11); Joseff, wrth ddelio gyda’i frodyr (Genesis 45:1-15); a Gideon, wrth ddelio gyda phobl Effraim (Barnwyr 8:1-3). Efallai y gelli di feddwl am esiamplau tebyg o’r Beibl.