Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Ydy’r Beibl yn Dal yn Newid Dy Fywyd?

Ydy’r Beibl yn Dal yn Newid Dy Fywyd?

“Bydded ichwi gael eich trawsffurfio trwy adnewyddu eich meddwl.”—RHUFEINIAID 12:2.

CANEUON: 61, 52

1-3. (a) Pa newidiadau a all fod yn anodd inni eu gwneud ar ôl bedydd? (b) Pan fo gwneud cynnydd yn fwy anodd na’r disgwyl, pa gwestiynau y gallwn ni eu gofyn? (Gweler y lluniau agoriadol.)

AM FLYNYDDOEDD lawer, roedd Kevin yn gamblo, yn ysmygu, yn goryfed, ac yn cymryd cyffuriau. [1] (Gweler yr ôl-nodyn.) Yna, dysgodd am Jehofa, ac roedd eisiau dod yn ffrind iddo. Ond i wneud hynny, roedd yn rhaid iddo wneud newidiadau mawr. Llwyddodd yn hyn o beth drwy ddibynnu ar nerth Jehofa a grym Ei Air, y Beibl.—Hebreaid 4:12.

2 Ar ôl i Kevin gael ei fedyddio, roedd yn rhaid iddo ddal ati i wneud newidiadau i’w bersonoliaeth er mwyn bod yn Gristion gwell. (Effesiaid 4:31, 32) Er enghraifft, roedd yn fyr ei dymer. Roedd wedi synnu o weld pa mor anodd roedd hi i ddysgu sut i reoli ei dymer. Dywedodd Kevin fod dysgu i reoli ei dymer yn anoddach na rhoi’r gorau i’r pethau drwg yr oedd yn eu gwneud cyn iddo gael ei fedyddio! Ond roedd yn gallu gwneud newidiadau drwy ymbil ar Jehofa a thrwy astudio’r Beibl yn drylwyr.

3 Cyn inni gael ein bedyddio, roedd rhaid i lawer ohonon ni wneud newidiadau mawr er mwyn inni fedru byw yn unol â safonau’r Beibl. Ond hyd yn oed nawr, rydyn ni’n derbyn bod newidiadau bychain yn gorfod cael eu gwneud er mwyn bod yn fwy tebyg i Dduw a Christ. (Effesiaid 5:1, 2; 1 Pedr 2:21) Er enghraifft, efallai rydyn ni’n cwyno’n aml, yn hel clecs, neu’n dweud pethau cas am bobl eraill. Ar adegau, efallai ein bod ni’n poeni cymaint am farn pobl eraill fel nad ydyn ni’n gwneud yr hyn sy’n iawn. Efallai rydyn ni wedi bod yn ceisio newid am flynyddoedd lawer ond rydyn ni’n dal yn gwneud yr un camgymeriadau. Gallwn feddwl: ‘Pam mae gwneud y newidiadau bach hyn mor anodd? Beth sydd rhaid imi ei wneud i roi ar waith yr hyn mae’r Beibl yn ei ddweud fel y gallaf barhau i wella fy mhersonoliaeth?’

MAE PLESIO JEHOFA YN BOSIBL ITI

4. Pam na allwn ni blesio Jehofa drwy’r amser?

4 Rydyn ni’n caru Jehofa, a dymuniad ein calon yw ei blesio. Ond, yn anffodus, ni allwn ni ei blesio drwy’r amser, oherwydd ein bod ni’n amherffaith. Yn aml, rydyn ni’n teimlo fel yr apostol Paul, a ddywedodd: “Y mae’r ewyllys i wneud daioni gennyf; y peth nad yw gennyf yw’r gweithredu.”Rhufeiniaid 7:18; Iago 3:2.

5. Pa newidiadau a wnaethon ni cyn cael ein bedyddio, ond pa wendidau a all achosi trafferth inni o hyd?

5 Cyn inni fod yn rhan o’r gynulleidfa, roedd yn rhaid rhoi’r gorau i bethau mae Jehofa yn eu casáu. (1 Corinthiaid 6:9, 10) Ond amherffaith ydyn ni o hyd. (Colosiaid 3:9, 10) Felly, rydyn ni’n dal yn gwneud camgymeriadau hyd yn oed os ydyn wedi cael ein bedyddio ers tro byd. Weithiau, gall chwantau neu deimladau anghywir godi ynon ni, ac mae hi’n anodd rheoli gwendidau yn ein personoliaeth. Yn wir, efallai bydd rhaid inni frwydro i feistroli’r gwendid hwnnw am lawer o flynyddoedd.

6, 7. (a) Beth sy’n ei gwneud hi’n bosibl inni fod yn ffrindiau â Jehofa er ein bod ni’n amherffaith? (b) Pam na ddylen ni ddal yn ôl rhag gofyn i Jehofa am faddeuant?

6 Er ein bod ni’n amherffaith, mae hi’n dal yn bosibl inni fod yn ffrindiau â Jehofa. Cofia sut dest ti’n ffrind iddo yn y lle cyntaf. Duw oedd yr Un a welodd rywbeth da ynot ti, ac roedd eisiau iti ddod i’w adnabod. (Ioan 6:44) Roedd yn gwybod hefyd fod gen ti ffaeleddau a’th fod ti’n mynd i wneud camgymeriadau. Ond roedd Jehofa’n dal eisiau iti fod yn ffrind iddo.

7 Mae Jehofa yn ein caru ni gymaint nes iddo roi anrheg werthfawr iawn inni. Anfonodd ei Fab i’r ddaear fel y gallai Iesu roi ei fywyd yn bridwerth dros ein pechodau. (Ioan 3:16) Pan fyddwn ni’n pechu, gallwn ofyn i Jehofa am faddeuant. Ac oherwydd y pridwerth, gallwn fod yn sicr y bydd yn maddau inni a’n bod ni’n gallu aros yn ffrindiau iddo. (Rhufeiniaid 7:24, 25; 1 Ioan 2:1, 2) Cofia, bu farw Iesu dros bechaduriaid sy’n edifarhau. Felly, hyd yn oed os teimlwn fod yr hyn rydyn ni wedi ei wneud yn ddrwg iawn, ddylen ni byth stopio gweddïo ar Jehofa a gofyn am faddeuant. Os nad oedden ni’n gofyn am faddeuant, byddai hynny’n debyg i wrthod golchi ein dwylo, er eu bod nhw’n fudr. Mor ddiolchgar rydyn ni fod Jehofa wedi ei gwneud hi’n bosibl inni fod yn ffrindiau iddo er ein bod ni’n amherffaith!—Darllen 1 Timotheus 1:15.

Os ydyn ni eisiau dal ati i agosáu at Jehofa, mae’n rhaid inni barhau i efelychu Jehofa a’i Fab

8. Pam na ddylen ni anwybyddu ein gwendidau?

8 Wrth gwrs, ni allwn ni anwybyddu ein gwendidau na’u hesgusodi. Mae Jehofa wedi dweud pa fath o bobl y mae eisiau fel ffrindiau. (Salm 15:1-5) Felly i agosáu ato, mae’n rhaid inni ddal ati i geisio efelychu Jehofa a’i Fab. Hefyd, mae’n rhaid inni geisio rheoli ein chwantau anghywir, ac efallai y bydd hi’n bosibl inni drechu rhai ohonyn nhw yn gyfan gwbl. Ni waeth faint o amser sydd wedi mynd heibio ers inni gael ein bedyddio, mae angen inni barhau i wella ein personoliaeth.—2 Corinthiaid 13:11.

9. Sut rydyn ni’n gwybod ein bod ni’n gallu parhau i wisgo’r bersonoliaeth newydd?

9 Dywedodd yr apostol Paul wrth Gristnogion: “Felly rhaid i chi gael gwared â’r hen ffordd o wneud pethau—y bywyd sydd wedi ei lygru gan chwantau twyllodrus. Rhaid i chi feithrin ffordd newydd o feddwl. Mae fel gwisgo natur o fath newydd—natur sydd wedi ei fodelu ar gymeriad Duw ei hun, yn gyfiawn a glân.” (Effesiaid 4:22-24, beibl.net) Golyga hynny fod rhaid inni barhau i wneud yr ymdrech i newid a gwisgo’r natur, neu’r bersonoliaeth, newydd. Felly, ni waeth pa mor hir yr ydyn ni wedi bod yn gwasanaethu Jehofa, gallwn ddysgu mwy am ei bersonoliaeth. A gall y Beibl ein helpu i ddal ati i wneud newidiadau i’n personoliaeth a dod yn fwy tebyg iddo.

PAM MAE HI MOR ANODD?

10. Beth sy’n rhaid inni ei wneud er mwyn parhau i wneud newidiadau gyda chymorth y Beibl, a pha gwestiynau y gallwn ni eu gofyn?

10 Mae pob un ohonon ni eisiau dilyn y Beibl. Ond mae’n rhaid inni weithio’n galed os ydyn ni eisiau dal ati i newid. Pam mae angen gwneud cymaint o ymdrech? Oni fyddai Jehofa yn gallu ei gwneud hi’n hawdd inni wneud yr hyn sy’n iawn?

11-13. Pam mae Jehofa yn disgwyl inni ymdrechu i feistroli ein gwendidau?

11 Pan feddyliwn ni am y bydysawd a phopeth sydd ynddo, rydyn ni’n gwybod, heb unrhyw amheuaeth, fod gan Jehofa y nerth i wneud unrhyw beth. Er enghraifft, creodd ef yr haul, sydd yn hynod o bwerus. Bob eiliad, mae’r haul yn cynhyrchu golau a gwres aruthrol. Dim ond ychydig o’r egni hwnnw sydd ei angen i gynnal bywyd ar y ddaear. (Salm 74:16; Eseia 40:26) Mae Jehofa hefyd yn rhoi nerth i’w weision ar y ddaear pan fo angen. (Eseia 40:29) Yn amlwg, petai Jehofa yn dymuno, gallai ei gwneud hi’n hawdd iawn inni feistroli ein gwendidau a chael gwared ar ein dymuniadau anghywir. Felly pam nad yw’n gwneud hynny?

12 Rhoddodd Jehofa ewyllys rhydd inni. Mae’n gadael inni benderfynu a fyddwn ni’n ufudd iddo neu beidio. Pan ddewiswn ufuddhau iddo a gweithio’n galed i wneud ei ewyllys, dangoswn ein bod ni’n ei garu a’n bod ni eisiau ei blesio. Dywedodd Satan nad oes gan Jehofa yr hawl i reoli. Ond pan ydyn ni’n ufudd i Jehofa, rydyn ni’n ei ddewis ef yn Rheolwr arnon ni. A’r hyn y gallwn fod yn sicr ohono yw bod ein Tad cariadus yn gwerthfawrogi pob ymdrech rydyn ni’n ei gwneud i fod yn ufudd iddo. (Job 2:3-5; Diarhebion 27:11) Pan ydyn ni’n gweithio’n galed i reoli ein gwendidau, er bod hynny’n anodd, rydyn ni’n ffyddlon i Jehofa ac yn dangos mai ef yw ein Rheolwr.

13 Mae Jehofa yn dweud y dylen ni weithio’n galed i efelychu ei rinweddau. (Colosiaid 3:12; darllen 2 Pedr 1:5-7.) Y mae hefyd yn disgwyl inni weithio’n galed i reoli ein meddyliau a’n teimladau. (Rhufeiniaid 8:5; 12:9) Bob tro y mae angen inni weithio’n galed i wneud newidiadau, ac rydyn ni’n llwyddo i wneud hynny, rydyn ni’n teimlo’n hapus iawn.

GAD I AIR DUW DY NEWID DI’N BARHAOL

14, 15. Beth gallwn ni ei wneud i feithrin rhinweddau y mae Jehofa yn eu caru? (Gweler y blwch “ Mae’r Beibl a Gweddi Wedi Newid eu Bywydau.”)

14 Beth sydd angen inni ei wneud er mwyn meithrin rhinweddau duwiol? Yn hytrach na thorri ein cwys ein hunain, mae’n rhaid gadael i Dduw ein harwain. Dywed Rhufeiniaid 12:2: “A pheidiwch â chydymffurfio â’r byd hwn, ond bydded ichwi gael eich trawsffurfio trwy adnewyddu eich meddwl, er mwyn ichwi allu canfod beth yw ei ewyllys, beth sy’n dda a derbyniol a pherffaith yn ei olwg ef.” Felly, i ganfod beth mae Jehofa eisiau, mae’n rhaid dibynnu ar yr help y mae wedi ei roi inni. Mae’n rhaid darllen y Beibl bob dydd a myfyrio arno, a gweddïo am ysbryd glân Duw. (Luc 11:13; Galatiaid 5:22, 23) Drwy wneud hyn, gall Jehofa ein helpu i ddeall beth sy’n ei blesio, a meddwl fel yntau. O ganlyniad, bydd yr hyn rydyn ni’n ei feddwl, yn ei ddweud, ac yn ei wneud yn fwy pleserus i Jehofa, a byddwn ni’n dysgu i feistroli ein gwendidau. Ond, hyd yn oed bryd hynny, mae’n rhaid inni frwydro o hyd.—Diarhebion 4:23.

Casgla erthyglau o’n cyhoeddiadau neu ysgrythurau o’r Beibl sy’n gallu dy helpu i drechu’r gwendidau hyn, a darllena nhw eto o bryd i’w gilydd (Gweler paragraff 15)

15 Yn ogystal â darllen y Beibl bob dydd, mae’n rhaid inni ei astudio drwy ddefnyddio ein cyhoeddiadau, fel y Tŵr Gwylio a’r Awake! Mae llawer o’r erthyglau yn y cylchgronau hyn yn ein dysgu sut y gallwn ni efelychu rhinweddau Jehofa a sut i orchfygu ein gwendidau. Efallai byddwn ni’n dod o hyd i erthyglau ac ysgrythurau sydd o help mawr inni. Gallwn gasglu’r erthyglau a’r ysgrythurau hyn er mwyn eu darllen rywdro eto.

16. Pam na ddylen ni ddigalonni os nad ydyn ni’n medru gwneud newidiadau yn gyflym?

16 Mae’n cymryd amser i ddysgu sut i efelychu rhinweddau Jehofa. Felly, os wyt ti’n teimlo nad wyt ti wedi gwneud y newidiadau angenrheidiol eto, bydda’n amyneddgar. Ar y cychwyn, efallai bydd yn rhaid iti dy orfodi dy hun i ddilyn beth mae’r Beibl yn ei ddweud. Ond, mwyaf yn y byd rwyt ti’n meddwl ac yn ymddwyn fel y mae Jehofa eisiau iti wneud, hawsaf yn y byd fydd meddwl yn yr un ffordd ag ef a gwneud yr hyn sy’n iawn.—Salm 37:31; Diarhebion 23:12; Galatiaid 5:16, 17.

MEDDYLIA AM EIN DYFODOL BRAF

17. Os ydyn ni’n ffyddlon i Jehofa, pa ddyfodol braf sydd o’n blaenau?

17 Edrychwn ymlaen at yr amser pan fyddwn ni’n berffaith ac yn gwasanaethu Jehofa am byth. Bryd hynny, ni fydd rhaid inni frwydro i feistroli unrhyw wendidau, a bydd yn llawer haws inni efelychu Jehofa. Ond, hyd yn oed nawr, mae’n bosibl inni addoli Jehofa oherwydd iddo roi’r pridwerth yn anrheg inni. Er ein bod ni’n amherffaith, gallwn ei blesio os ydyn ni’n dal ati i weithio’n galed i wneud newidiadau a dilyn yr hyn y mae’n ei ddysgu inni yn y Beibl.

18, 19. Pam rydyn ni’n sicr fod gan y Beibl y grym i barhau i newid ein bywydau?

18 Gwnaeth Kevin bopeth y gallai i ddysgu sut i reoli ei dymer. Myfyriodd ar egwyddorion y Beibl ac fe wnaeth ymdrech fawr i wneud newidiadau yn ei fywyd. Hefyd, dilynodd gyngor a roddwyd iddo gan ei gyd-Gristnogion. Er iddi hi gymryd sawl blwyddyn i Kevin wella, yn y pen draw, roedd yn medru gwasanaethu fel gwas gweinidogaethol. Ac am yr 20 mlynedd diwethaf, mae wedi bod yn gwasanaethu fel henuriad. Ond hyd yn oed nawr, mae Kevin yn gwybod bod rhaid iddo barhau i reoli ei wendidau.

19 Fel Kevin, gallwn ninnau hefyd ddal ati i wella ein personoliaeth. Os gwnawn ni hynny, byddwn ni’n dod yn agosach fyth at Jehofa. (Salm 25:14) A phan fyddwn ni’n gwneud newidiadau sy’n ei blesio, fe fydd yn ein helpu i lwyddo. Gallwn fod yn sicr, gyda chymorth y Beibl, ein bod ni’n medru parhau i wneud newidiadau yn ein bywyd.—Salm 34:8.

^ [1] (paragraff 1) Newidiwyd yr enw.