Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Bobl Ifanc​—Sut Gallwch Chi Baratoi ar Gyfer Bedydd?

Bobl Ifanc​—Sut Gallwch Chi Baratoi ar Gyfer Bedydd?

Rwy’n hoffi gwneud ewyllys fy Nuw.—SALM 40:8.

CANEUON: 51, 58

1, 2. (a) Eglura pam mae bedydd yn gam pwysfawr. (b) Beth dylai person fod yn sicr ohono cyn iddo gael ei fedyddio, a pham?

WYT ti’n berson ifanc sydd eisiau cael dy fedyddio? Os felly, dyma’r anrhydedd mwyaf y gelli di ei gael. Fel y soniwyd amdano yn yr erthygl flaenorol, penderfyniad mawr yw bedydd. Mae’n dangos i eraill dy fod ti wedi ymgysegru i Jehofa, ac wedi addo dy fod ti am ei wasanaethu am byth, ac mai gwneud ei ewyllys yw’r peth pwysicaf yn dy fywyd. Gan fod yr addewid hwn i Dduw mor bwysfawr, dylet ti gael dy fedyddio pan wyt ti’n deall ystyr ymgysegriad i Dduw a dim ond os wyt ti’n ddigon aeddfed ac yn dymuno cael dy fedyddio.

2 Ond efallai nad wyt ti’n teimlo’n barod am hyn eto. Neu efallai rwyt ti’n teimlo dy fod ti’n barod, ond mae dy rieni yn meddwl y dylet ti aros a chael mwy o brofiad mewn bywyd. Beth dylet ti ei wneud? Paid â digalonni. Yn hytrach, defnyddia’r amser hwn i wneud cynnydd fel y gelli di fod yn gymwys yn nes ymlaen. Gyda bedydd mewn golwg, rho sylw i’r tair agwedd hyn: (1) dy ddaliadau, (2) dy weithredoedd, a (3) dy werthfawrogiad.

DY DDALIADAU

3, 4. Pa wers y gall rhai ifanc ei dysgu oddi wrth esiampl Timotheus?

3 Meddylia am sut byddet ti’n ateb y cwestiynau hyn: Pam rydw i’n credu bod Duw yn bodoli? Pam rydw i’n sicr fod y Beibl yn dod o Dduw? Pam rydw i’n ufudd i orchmynion Duw yn hytrach nag efelychu safonau moesol y byd? Gall y cwestiynau hynny dy helpu i ddilyn cyngor yr apostol Paul: “Er mwyn ichwi allu canfod beth yw ei ewyllys, beth sy’n dda a derbyniol a pherffaith yn ei olwg ef.” (Rhufeiniaid 12:2) Pam dylet ti wneud hynny?

Derbyniodd Timotheus y gwir oherwydd ei fod wedi profi’r gwir iddo’i hun

4 Gall esiampl Timotheus dy helpu. Roedd Timotheus yn gyfarwydd iawn â’r Ysgrythurau oherwydd bod ei fam a’i nain wedi dysgu’r Ysgrythurau iddo. Ond, dywedodd Paul wrth Timotheus: “Glŷn di wrth y pethau a ddysgaist, ac y cefaist dy argyhoeddi ganddynt.” (2 Timotheus 3:14, 15) Yma, mae’r gair “argyhoeddi” yn golygu cael dy berswadio neu dy fod ti’n bendant o wirionedd rhywbeth. Felly roedd yn rhaid i Timotheus fod yn hollol sicr bod y gwirionedd i’w ganfod yn yr Ysgrythurau. Roedd yn ei dderbyn, nid oherwydd bod ei fam a’i nain yn dweud wrtho i’w dderbyn, ond oherwydd ei fod wedi profi’r gwir iddo’i hun.—Darllenwch 1 Thesaloniaid 5:21.

5, 6. Pam mae’n bwysig iti ddysgu sut i resymu yn gynnar yn dy fywyd?

5 Beth amdanat tithau? Efallai y gwnest ti ganfod y gwir beth amser yn ôl. Os felly, meddylia o ddifrif am y rhesymau y tu ôl i’th ddaliadau. Bydd hynny yn dy helpu di i gryfhau dy ffydd ac i osgoi gwneud penderfyniadau drwg oherwydd pwysau cyfoedion, meddylfryd y byd, neu hyd yn oed dy deimladau dy hun.

6 Os rwyt ti’n dysgu sut i resymu pan wyt ti’n ifanc, byddet ti’n gallu ateb cwestiynau dy gyfoedion. Er enghraifft: ‘Pam rwyt ti’n sicr fod yna Dduw? Os yw Duw yn ein caru, pam mae’n caniatáu i bethau drwg ddigwydd? Os Duw a greodd bopeth, pwy a greodd Dduw?’ Pan wyt ti wedi paratoi, ni fydd cwestiynau o’r fath yn gwneud iti amau, ond yn hytrach, yn dy annog di i astudio mwy ar y Beibl.

7-9. Disgrifia sut gall y gyfres “What Does the Bible Really Teach?” dy helpu di i fod yn fwy sicr o’th ddaliadau.

7 Gall astudiaeth bersonol ofalus dy helpu i ateb cwestiynau, i gael gwared ar unrhyw amheuon, ac i fod yn gadarn yn dy ddaliadau. (Actau 17:11) Mae sawl cyhoeddiad ar gael i’th helpu di i wneud hynny, gan gynnwys A Gafodd Bywyd ei Greu?, The Origin of Life—Five Questions Worth Asking, a’r llyfr Is There a Creator Who Cares About You? Hefyd, mae llawer o bobl ifanc wedi elwa ar y gyfres “What Does the Bible Really Teach?” ar jw.org. Gelli di ddod o hyd i’r gyfres drwy edrych o dan BIBLE TEACHINGS. Mae pob taflen waith wedi ei hysgrifennu i’th helpu di i gredu’n bendant yng ngwirioneddau’r Beibl.

8 Myfyriwr y Beibl wyt ti, ac mae’n debyg dy fod ti’n gwybod yr atebion i rai o gwestiynau’r taflenni gwaith. Ond wyt ti’n sicr o’r atebion? Bydd y taflenni yn dy helpu di i feddwl yn ofalus am yr adnodau, ac yna yn dy annog di i ysgrifennu’r rhesymau dros dy ddaliadau. Bydd hynny wedyn yn dy helpu di i egluro dy ddaliadau i eraill. Os wyt ti’n gallu mynd ar y we, gelli di ddefnyddio’r gyfres “What Does the Bible Really Teach?” yn dy astudiaeth bersonol er mwyn iti ddod yn fwy sicr o’th ddaliadau.

9 Mae’n rhaid iti brofi i ti dy hun mai dyma yw’r gwirionedd. Bydd hynny yn dy baratoi di ar gyfer bedydd. Dywedodd un chwaer ifanc: “Cyn imi benderfynu cael fy medyddio, astudiais y Beibl a gweld mai dyma yw’r wir grefydd. Wrth i bob diwrnod fynd heibio, mae sicrwydd fy naliadau’n cryfhau.”

DY WEITHREDOEDD

10. Pam mae hi’n rhesymol i ddisgwyl y byddai Cristion yn ymddwyn yn unol â’i ffydd?

10 Dywed y Beibl: “Y mae ffydd ar ei phen ei hun, os nad oes ganddi weithredoedd, yn farw.” (Iago 2:17) Os wyt ti’n wir sicr mai hwn yw’r gwir, bydd hyn yn dangos yn dy weithredoedd. Bydd dy ymddygiad, neu dy ymarweddiad, yn sanctaidd ac yn dduwiol.—Darllenwch 2 Pedr 3:11.

11. Beth yw ymddygiad sanctaidd?

11 Beth yw ystyr ymddygiad sanctaidd? Os yw dy ymddygiad yn sanctaidd, rwyt ti’n foesol lân. Er enghraifft, meddylia am y chwe mis diwethaf. Pan gest ti dy demtio i wneud rhywbeth drwg, a wnest ti feddwl yn ofalus am y peth iawn i’w wneud? (Hebreaid 5:14) Wyt ti’n cofio amser penodol pan na wnest ti ildio i demtasiwn neu bwysau cyfoedion? Yn yr ysgol, wyt ti’n esiampl dda i eraill? Wyt ti’n aros yn ffyddlon i Jehofa, neu wyt ti’n ceisio bod fel dy ffrindiau fel nad ydyn nhw’n gwneud hwyl am dy ben? (1 Pedr 4:3, 4) Wrth gwrs, does neb yn berffaith. Ar adegau, mae hyd yn oed y rhai sydd wedi gwasanaethu Jehofa am flynyddoedd yn teimlo’n swil neu’n ei chael hi’n anodd pregethu. Ond bydd rhywun sydd wedi ymgysegru i Dduw yn falch o fod yn un o Dystion Jehofa, ac yn dangos hyn drwy ei ymddygiad sanctaidd.

12. Beth gall ymddygiad duwiol ei gynnwys, a sut dylet ti deimlo am hyn?

12 Beth felly yw ystyr ymddygiad duwiol? Mae’n cynnwys dy weithgareddau yn y gynulleidfa, fel mynychu’r cyfarfodydd a phregethu. Ond mae hefyd yn cynnwys pethau nad yw pobl eraill yn eu gweld fel gweddïau personol ar Jehofa ac astudiaeth bersonol. Ni fydd rhywun sydd wedi cysegru ei fywyd i Jehofa yn teimlo bod y gweithgareddau hyn yn feichus. Yn hytrach, bydd yn teimlo’n debyg i’r Brenin Dafydd pan ddywedodd ei fod yn hoff o wneud ewyllys Duw, a bod Ei gyfraith yn ei galon.—Salm 40:8.

Pa mor benodol yw dy weddïau, a beth maen nhw’n ei ddatgelu am dy gariad tuag at Jehofa?

13, 14. Beth gall dy helpu di i ymddwyn yn dduwiol, a beth oedd profiad rhai pobl ifanc?

13 Er mwyn dy helpu di i wybod beth i anelu ato, mae gennyn ni daflen waith ar dudalennau 308 a 309 o’r llyfr Questions Young People Ask—Answers That Work, Cyfrol 2. Gelli di ysgrifennu ar y daflen yr atebion i gwestiynau fel: “Pa mor benodol yw dy weddïau, a beth maen nhw’n ei ddatgelu am dy gariad tuag at Jehofa?” “Beth mae dy astudiaeth bersonol yn ei gynnwys?” “Wyt ti’n cymryd rhan yn y weinidogaeth hyd yn oed os nad yw dy rieni?” Mae lle ar y daflen hefyd i ysgrifennu amcanion personol ynglŷn â gweddi, astudiaeth bersonol, a phregethu.

14 Mae llawer o bobl ifanc sy’n meddwl am fedydd wedi gweld bod y daflen hon yn hynod o ddefnyddiol. Dywedodd y chwaer ifanc Tilda: “Defnyddiais y daflen i’m helpu i sefydlu amcanion. Fesul tipyn, roeddwn i’n cyrraedd pob nod, ac yna roeddwn i’n barod i gael fy medyddio tua blwyddyn yn ddiweddarach.” Cafodd brawd o’r enw Patrick lwyddiant tebyg. “Roedd gen i fy amcanion, ond roedd rhoi popeth ar bapur yn gwneud imi weithio’n galetach.”

A fyddet ti’n dal ati i wasanaethu Jehofa hyd yn oed petai dy rieni’n stopio? (Gweler paragraff 15)

15. Eglura pam y dylai ymgysegru fod yn benderfyniad personol.

15 Un cwestiwn ar y daflen yw: “A fyddet ti’n dal ati i wasanaethu Jehofa hyd yn oed petai dy rieni a’th ffrindiau yn stopio?” Pan wyt ti’n ymgysegru i Jehofa a chael dy fedyddio, bydd gen ti dy berthynas dy hun ag ef. Felly ni ddylai dy wasanaeth i Jehofa ddibynnu ar wasanaeth dy rieni nac unrhyw un arall. Mae dy ymddygiad sanctaidd a duwiol yn dangos dy fod ti’n sicr o’r gwir a dy fod ti’n dymuno dilyn safonau Duw. Yn fuan, byddi di’n gymwys ar gyfer bedydd.

DY WERTHFAWROGIAD

16, 17. (a) Beth ddylai ysgogi rhywun i ddod yn Gristion? (b) Sut gall gwerthfawrogiad o’r pridwerth gael ei egluro?

16 Un diwrnod, gofynnodd dyn a oedd yn gyfarwydd â Chyfraith Moses: “Pa orchymyn yw’r mwyaf yn y Gyfraith?” Atebodd Iesu: “Câr yr Arglwydd dy Dduw â’th holl galon ac â’th holl enaid ac â’th holl feddwl.” (Mathew 22:35-37) Eglurodd Iesu mai cariad tuag at Jehofa yw’r rheswm dros gael dy fedyddio a dod yn Gristion. Drwy feddwl yn ofalus am y pridwerth, anrheg fwyaf Duw i ddynolryw, bydd dy gariad tuag at Jehofa yn dyfnhau. (Darllenwch 2 Corinthiaid 5:14, 15; 1 Ioan 4:9, 19.) O ganlyniad, byddi di eisiau dangos dy fod ti’n ddiolchgar am yr anrheg werthfawr honno.

17 Gellir egluro dy werthfawrogiad am y pridwerth fel hyn: Dychmyga dy fod ti’n boddi ac mae rhywun yn dy achub. A fyddet ti’n mynd adref, yn dy sychu dy hun, ac yna’n anghofio am yr hyn a wnaeth y person drosot ti? Na fyddet! Byddet ti’n wastad yn ddiolchgar i’r person am achub dy fywyd! Mewn modd tebyg, dylen ni fod yn ddiolchgar iawn i Jehofa a Iesu am y pridwerth. Rydyn ni’n ddyledus iddyn nhw am ein bywydau! Maen nhw wedi ein hachub ni rhag pechod a marwolaeth. Oherwydd eu cariad tuag aton ni, mae gennyn ni’r gobaith o fyw am byth ym Mharadwys ar y ddaear!

18, 19. (a) Pam na ddylet ti ofni perthyn i Jehofa? (b) Sut mae gwasanaethu Jehofa yn gwella dy fywyd?

18 Wyt ti’n ddiolchgar am yr hyn y mae Jehofa wedi ei wneud drosot ti? Os felly, ymgysegriad a bedydd yw’r camau cywir i’w cymryd. Drwy ymgysegru, rwyt ti’n addo i Dduw dy fod ti am wneud ei ewyllys am byth. A ddylet ti ofni gwneud addewid o’r fath? Na ddylet! Mae Jehofa eisiau’r gorau iti, a bydd yn gwobrwyo’r rhai sy’n gwneud ei ewyllys. (Hebreaid 11:6) Pan wyt ti’n cysegru dy fywyd i Dduw, ni fyddi di byth ar dy golled ond bob amser ar dy ennill! Dywedodd brawd sy’n 24 mlwydd oed ond a gafodd ei fedyddio cyn ei arddegau: “Byddwn efallai wedi cael dealltwriaeth ddyfnach petaswn i wedi bod yn hŷn, ond roedd y penderfyniad i ymgysegru i Jehofa wedi fy amddiffyn rhag maglau’r byd.”

Mae Satan yn hunanol a does dim ots ganddo amdanat ti

19 Mae Jehofa eisiau’r gorau iti. Ond mae Satan yn hunanol a does dim ots ganddo amdanat ti. Nid yw’n gallu rhoi unrhyw beth da iti petaet ti’n ei ddilyn. Sut gallai roi rhywbeth iti nad yw’n berchen arno yn y lle cyntaf? Does ganddo ddim newyddion da, a does ganddo ddim gobaith. Dim ond dyfodol drwg y gallai ei roi iti, oherwydd dyna yw ei ddyfodol ef!—Datguddiad 20:10.

20. Beth gall person ifanc ei wneud er mwyn bod yn gymwys ar gyfer ymgysegriad a bedydd? (Gweler y blwch “I’th Helpu Di i Wneud Cynnydd.”)

20 Cysegru dy fywyd i Jehofa yw’r penderfyniad gorau y medri di ei wneud. Wyt ti’n barod i wneud hynny? Os wyt ti, paid ag ofni gwneud yr addewid. Ond os nad wyt ti’n teimlo’n barod, defnyddia’r awgrymiadau yn yr erthygl hon i ddod yn dy flaen yn ysbrydol. Dywedodd Paul wrth y Philipiaid y dylen nhw barhau i wneud cynnydd. (Philipiaid 3:16) Os wyt ti’n dilyn y cyngor hwnnw, cyn bo hir, byddet ti eisiau ymgysegru i Jehofa a chael dy fedyddio.