Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Cwestiynau Ein Darllenwyr

Cwestiynau Ein Darllenwyr

Pa bryd oedd pobl Dduw yn gaethion, neu’n garcharorion, i Fabilon Fawr?

Dechreuodd y cyfnod hwn ryw dro ar ôl y flwyddyn 100 OG a gorffennodd ym 1919. Pam mae’r newid hwn i’n dealltwriaeth yn angenrheidiol?

Mae’r holl dystiolaeth yn dangos bod Cristnogion eneiniog wedi eu rhyddhau o Fabilon Fawr ym 1919 a’u hel ynghyd mewn cynulleidfa wedi ei phuro. Meddylia am hyn: Yn syth ar ôl i Deyrnas Dduw ddechrau rheoli yn y nefoedd ym 1914, cafodd pobl Dduw eu profi a’u puro, fesul tipyn, o ddylanwad gau grefydd. * (Gweler y troednodyn.) (Malachi 3:1-4) Yna, ym 1919, penododd Iesu’r “gwas ffyddlon a chall” i roi bwyd yn ei bryd i bobl ysbrydol lân Duw. (Mathew 24:45-47) Yn ystod yr un flwyddyn, rhyddhawyd pobl Dduw o’u caethiwed symbolaidd i Fabilon Fawr. (Datguddiad 18:4) Ond pryd y daeth pobl Dduw yn gaethion?

Yn y gorffennol, esboniwyd bod pobl Dduw wedi dod yn gaethion i Fabilon Fawr am gyfnod byr a ddechreuodd ym 1918. Yn ôl yr hyn a ddywedwyd yn Y Tŵr Gwylio Saesneg 15 Mawrth 1992, fel yr oedd yr Israeliaid yn gaethion i Fabilon gynt, roedd gweision Jehofa ym 1918 wedi dod yn gaethion i Fabilon Fawr. Ond mae ymchwil bellach yn dangos bod pobl Dduw wedi dod yn gaethion ymhell cyn y flwyddyn 1918.

Rhagfynegodd y broffwydoliaeth yn Eseciel 37:1-14 y byddai pobl Dduw yn dod yn garcharorion ac yn cael eu rhyddhau yn ddiweddarach. Mewn gweledigaeth, gwelodd Eseciel ddyffryn a oedd yn llawn esgyrn. Dywedodd Jehofa: “Holl dŷ Israel yw’r esgyrn hyn.” (Adnod 11) Roedd hyn yn wir yn achos cenedl Israel ac yn nes ymlaen yn achos “Israel Duw,” sef yr eneiniog. (Galatiaid 6:16; Actau 3:21) Yn y weledigaeth, daeth yr esgyrn yn fyw a chodi ar eu traed yn fyddin fawr. Roedd hyn yn disgrifio’r ffordd a gafodd pobl Dduw eu rhyddhau o Fabilon Fawr ym 1919. Ond sut mae’r broffwydoliaeth hon yn dangos eu bod nhw wedi bod yn gaethion am amser maith?

Yn gyntaf, sylwodd Eseciel fod esgyrn y meirw yn sych iawn. (Eseciel 37:2, 11) Roedd y bobl felly wedi bod yn farw am amser hir iawn. Yn ail, gwelodd Eseciel fod y meirw wedi dod yn ôl yn fyw yn raddol, nid yn sydyn. Clywodd “sŵn, a hefyd gynnwrf, a daeth yr esgyrn ynghyd, asgwrn at asgwrn.” Yna, gwelodd fod “gewynnau arnynt, a chnawd hefyd.” Nesaf, daeth croen dros y cnawd. Wedyn, “daeth anadl iddynt ac aethant yn fyw.” Yn olaf, ar ôl i’r bobl ddod yn ôl yn fyw, cawson nhw dir gan Jehofa iddyn nhw gael byw arno. Byddai hyn i gyd yn cymryd amser.—Eseciel 37:7-10, 14.

Yn union fel y rhagfynegwyd, roedd yr Israeliaid yn garcharorion am amser hir. Dechreuodd cyfnod eu caethiwed yn y flwyddyn 740 COG pan gafodd deg llwyth Israel, y deyrnas ogleddol, eu gorfodi i adael eu tiroedd. Yn ddiweddarach, yn y flwyddyn 607 COG, dinistriwyd Jerwsalem gan y Babiloniaid ac fe gafodd y ddau lwyth arall, teyrnas ddeheuol Jwda, hefyd eu gorfodi i adael eu tiroedd. Yna, yn y flwyddyn 537 COG, daeth y caethiwed i ben pan ddychwelodd nifer bach o Iddewon i ailadeiladu’r deml ac addoli Jehofa unwaith eto yn Jerwsalem.

Roedd yn rhaid i’r Cristnogion eneiniog hyn, felly, fod wedi bod yn gaethion i Fabilon Fawr am gyfnod hir iawn, nid o 1918 hyd 1919 yn unig. Cyfeiriodd Iesu hefyd at y cyfnod hir hwn pan ddywedodd y byddai gau Gristnogion, yr efrau, yn tyfu ymysg “plant y deyrnas,” yr ŷd. (Mathew 13:36-43) Yn ystod y cyfnod hwnnw, roedd gwir Gristnogion yn brin. Gwnaeth y rhan fwyaf o’r rhai a oedd yn honni bod yn Gristnogion dderbyn gau athrawiaethau a gwrthgilio. Dyna pam y gellir dweud bod y gynulleidfa Gristnogol wedi ei chaethiwo gan Fabilon Fawr. Dechreuodd y caethiwed hwnnw ryw dro ar ôl 100 OG a pharhau hyd nes i deml ysbrydol Duw gael ei phuro yn amser y diwedd.—Actau 20:29, 30; 2 Thesaloniaid 2:3, 6; 1 Ioan 2:18, 19.

Yn ystod y canrifoedd hynny, roedd arweinwyr yr eglwysi ac arweinwyr gwleidyddol eisiau arglwyddiaethu ar y bobl. Er enghraifft, roedd bod yn berchen ar Feibl neu ddarllen y Beibl mewn iaith gyffredin wedi eu gwahardd. Llosgwyd rhai wrth y stanc am ddarllen y Beibl. Cafodd y rhai a siaradodd yn erbyn dysgeidiaethau arweinwyr yr eglwys eu cosbi’n llym. Roedd hi’n amhosibl bron i unrhyw un ddysgu’r gwirionedd neu ei ddysgu i eraill.

O ddarllen am weledigaeth Eseciel, dysgwn fod pobl Dduw wedi dod yn ôl yn fyw ac wedi cael eu rhyddhau o gau grefydd yn raddol. Felly, pryd y digwyddodd hyn a sut? Mae’r weledigaeth yn sôn am sŵn a chynnwrf. Dechreuodd hyn yn ystod yr ychydig ganrifoedd cyn amser y diwedd. Yn ystod y blynyddoedd hynny, roedd rhai ffyddlon eisiau canfod y gwirionedd a gwasanaethu Duw er gwaethaf gau ddysgeidiaethau o’u hamgylch. Gwnaethon nhw astudio’r Beibl a gwneud cymaint ag y gallen nhw i ddweud wrth bobl am yr hyn yr oedden nhw yn ei ddysgu. Gweithiodd eraill yn galed i gyfieithu’r Beibl i ieithoedd y bobl.

Yna, tua 1870, roedd fel petai cnawd a chroen yn dod dros yr esgyrn. Gweithiodd Charles Taze Russell a’i ffrindiau yn galed i ddarganfod gwirioneddau’r Beibl a gwasanaethu Jehofa. Gwnaethon nhw hefyd helpu eraill i ddeall y gwirionedd drwy ddefnyddio Zion’s Watch Tower a chyhoeddiadau eraill. Yn ddiweddarach, gwnaeth y “Photo-Drama of Creation” ym 1914 a’r llyfr The Finished Mystery ym 1917 helpu pobl Jehofa i gryfhau eu ffydd. O’r diwedd, ym 1919, roedd fel petai pobl Dduw wedi cael bywyd a thir newydd. Wedi hynny, mae’r rhai sydd â’r gobaith o fyw am byth ar y ddaear wedi ymuno â’r eneiniog. Maen nhw i gyd yn addoli Jehofa, ac wedi dod yn “fyddin gref iawn.”—Eseciel 37:10; Sechareia 8:20-23. *—Gweler y troednodyn.

Yn amlwg felly, daeth pobl Dduw yn gaethion i Fabilon Fawr ar ôl 100 OG. Dyma’r cyfnod pryd y daeth llawer yn wrthgilwyr drwy goleddu gau ddysgeidiaethau a gwrthod y gwirionedd. Am flynyddoedd, anodd iawn oedd gwasanaethu Jehofa, yn union fel yr oedd hi i’r Israeliaid pan oedden nhw’n garcharorion. Ond heddiw mae’r gwirionedd yn cael ei bregethu i bawb. Braf iawn yw cael byw yn yr amser pan fydd y deallus yn disgleirio fel yr awyr las! Heddiw, mae “llawer yn ymlanhau,” “yn cael eu puro,” ac yn derbyn gwir addoliad!—Daniel 12:3, 10.

Pan geisiodd Satan demtio Iesu, a wnaeth y Diafol ei gymryd i’r deml go iawn, neu ddangos y deml i Iesu mewn gweledigaeth?

Ni allwn fod yn sicr o’r union ffordd y dangosodd Satan y deml i Iesu.

Ysgrifennodd Mathew a Luc am yr hyn a ddigwyddodd i Iesu. Dywedodd Mathew: “Yna cymerodd y diafol ef i’r ddinas sanctaidd, a’i osod ar dŵr uchaf y deml.” (Mathew 4:⁠5) Dywedodd Luc: “Ond aeth y diafol ag ef i Jerwsalem, a’i osod ar dŵr uchaf y deml.”—Luc 4:9.

Yn y gorffennol, mae ein cyhoeddiadau wedi awgrymu nad oedd Satan wedi mynd â Iesu yn gorfforol i’r deml. Roedd Y Tŵr Gwylio Saesneg, 1 Mawrth 1961, yn cymharu hyn â Satan yn temtio Iesu drwy ddangos holl deyrnasoedd y byd o gopa mynydd uchel. Dywedodd yr erthygl nad oes unrhyw fynydd yn ddigon uchel i rywun fedru gweld holl deyrnasoedd y byd ohono. Yn ôl Y Tŵr Gwylio, annhebyg iawn y byddai Satan wedi mynd â Iesu’n gorfforol i’r deml go iawn. Fodd bynnag, mae erthyglau diweddarach yn Y Tŵr Gwylio yn dweud y byddai Iesu wedi cael ei ladd petai wedi neidio oddi ar y deml.

Yn ôl rhai, gan nad oedd Iesu yn Lefiad, ni fyddai wedi cael caniatâd i sefyll ar ben cysegr y deml. Felly, maen nhw’n dweud bod Satan, yn fwy na thebyg, wedi defnyddio gweledigaeth i demtio Iesu. Ganrifoedd yn gynharach, aeth Jehofa ag Eseciel i deml mewn gweledigaeth.—Eseciel 8:3, 7-10; 11:1, 24; 37:1, 2.

Ond, os oedd Iesu wedi mynd i’r deml mewn gweledigaeth, gall rhai ofyn:

  • A fyddai Iesu wedyn wedi cael ei demtio i’w daflu ei hun oddi ar y deml?

  • Ar yr achlysuron eraill pan geisiodd Satan demtio Iesu, gofynnodd i Iesu droi cerrig go iawn yn fara go iawn, ac roedd eisiau i Iesu ymgrymu iddo a’i addoli go iawn. Felly, a yw hi’n bosibl fod Satan wir eisiau i Iesu neidio oddi ar y deml go iawn?

Ond os nad oedd Satan wedi defnyddio gweledigaeth ac wedi mynd â Iesu i’r deml go iawn, gall rhai ofyn:

  • A oedd Iesu yn torri Cyfraith Moses drwy sefyll ar ben cysegr y deml?

  • Sut aeth Iesu o’r anialwch i’r deml yn Jerwsalem?

Gad inni ystyried ychydig o wybodaeth bellach a fydd yn ein helpu i ateb y ddau gwestiwn olaf hynny.

Ym marn yr Athro D. A. Carson, mae’r gair Groeg “teml” a ddefnyddir yn Mathew a Luc yn fwy na thebyg yn cyfeirio at yr ardal gyfan o gwmpas y deml yn hytrach na’r cysegr yn unig, sef rhan o’r deml lle’r oedd y Lefiaid yn unig yn cael mynd iddo. Roedd gan gornel dde-ddwyreiniol y deml do fflat a dyna oedd man uchaf y deml. Gallai Satan fod wedi gosod Iesu ar y to hwnnw. Roedd 140 metr (450 troedfedd) o’r fan honno i waelod Nant Cidron. Dywedodd yr hanesydd Josephus fod y lle hwn mor uchel fel y byddai person sy’n sefyll yno ac yn edrych i lawr yn “teimlo’n benysgafn.” Er nad oedd Iesu yn Lefiad, byddai wedi gallu sefyll yno ac ni fyddai neb wedi gwrthwynebu.

Ond sut gallai Iesu fod wedi mynd o’r anialwch i’r deml yn Jerwsalem? Dydyn ni ddim yn sicr. Mae’r Beibl yn dweud yn syml fod Iesu wedi ei gymryd i Jerwsalem. Nid yw’n dweud pa mor bell o Jerwsalem yr oedd Iesu nac am faint o amser y cafodd ei demtio gan Satan. Felly, mae hi’n bosibl y byddai Iesu wedi gallu cerdded i Jerwsalem, er y byddai hyn wedi cymryd cryn dipyn o amser.

Pan ddangosodd Satan i Iesu “holl deyrnasoedd y byd,” defnyddiodd weledigaeth yn ôl pob tebyg, oherwydd nad yw’n bosibl i weld yr holl deyrnasoedd hyn o gopa unrhyw fynydd ar y ddaear. Gallai hyn fod wedi bod yn debyg i’r ffordd rydyn ninnau yn defnyddio sgrin deledu i ddangos lluniau o wahanol rannau o’r byd i rywun. Efallai, defnyddio gweledigaeth a wnaeth Satan, ond yr hyn yr oedd yn ei wir ddymuno oedd i Iesu ymgrymu o’i flaen a’i addoli. (Mathew 4:​8, 9) Felly, pan aeth Satan â Iesu i’r deml, mae’n bosibl ei fod eisiau gweld Iesu yn risgio ei fywyd drwy neidio oddi ar y deml. Ond gwrthododd Iesu ef. Onid oedd temtasiwn o’r fath yn llawer mwy effeithiol nag y byddai wedi bod petasai Iesu wedi cael ei demtio mewn gweledigaeth yn unig?

Felly, mae hi’n bosibl fod Iesu yn llythrennol wedi mynd i Jerwsalem a sefyll ar fan uchaf y deml. Wrth gwrs, fel y dywedwyd ar ddechrau’r erthygl hon, ni allwn ni fod yn sicr o’r union ffordd y dangosodd Satan y deml i Iesu. Ond fe allwn ni fod yn sicr fod Satan wedi bod yn benderfynol o wneud i Fab Duw bechu, ond cafodd ei wrthod, bob tro, gan Iesu.

^ Par. 4 Gweler Y Tŵr Gwylio Saesneg, 15 Gorffennaf 2013, tudalennau 10-12, paragraffau 5-8, 12.

^ Par. 12 Mae Eseciel 37:1-14 a Datguddiad 11:7-12 yn trafod rhywbeth a ddigwyddodd ym 1919. Mae’r broffwydoliaeth yn Eseciel 37:1-14 yn cyfeirio at holl bobl Dduw yn dychwelyd i wir addoliad ym 1919 yn dilyn cyfnod hir o gaethiwed. Ond mae Datguddiad 11:7-12 yn cyfeirio at adfywio, ym 1919, grŵp bach o frodyr eneiniog i arwain ymysg pobl Dduw. Nid oedd y brodyr hynny yn gallu bod yn weithredol am gyfnod o amser.