Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Sut Gelli Di Gyfrannu at Ein Hundod Cristnogol?

Sut Gelli Di Gyfrannu at Ein Hundod Cristnogol?

“Wrtho ef y mae’r holl gorff yn cael ei ddal wrth ei gilydd a’i gysylltu.”​—EFFESIAID 4:16.

CANEUON: 53, 107

1. Beth sydd wedi nodweddu gwaith Duw o’r cychwyn cyntaf?

MAE Jehofa a Iesu wedi bod yn unedig o’r dechrau cyntaf. Cafodd Iesu ei greu gan Jehofa cyn popeth arall. Yna, roedd Iesu’n gweithio wrth ochr Jehofa yn gyson. (Diarhebion 8:30) Roedd gweision Jehofa hefyd yn cydweithio. Er enghraifft, adeiladodd Noa a’i deulu’r arch gyda’i gilydd. Yn nes ymlaen, cydweithiodd yr Israeliaid i adeiladu’r tabernacl, i’w ddatod, ac i’w symud o un lle i’r llall. Yn y deml, canodd yr Israeliaid gyda’i gilydd a chwarae offerynnau er mwyn creu cerddoriaeth swynol a oedd yn clodfori Jehofa. Roedd pobl Jehofa yn medru cyflawni hyn i gyd oherwydd eu bod nhw’n gweithio ar y cyd.—Genesis 6:14-16, 22; Numeri 4:4-32; 1 Cronicl 25:1-8.

2. (a) Beth sy’n nodweddiadol o Gristnogion y ganrif gyntaf? (b) Pa gwestiynau y byddwn ni’n eu hateb?

2 Roedd Cristnogion y ganrif gyntaf hefyd yn cydweithio. Er bod ganddyn nhw wahanol alluoedd ac aseiniadau, eglurodd yr apostol Paul eu bod nhw’n gytûn. Roedden nhw i gyd yn dilyn eu Harweinydd, Iesu Grist. Cymharodd Paul y Cristnogion â chorff sydd â gwahanol aelodau yn gweithio gyda’i gilydd. (Darllenwch 1 Corinthiaid 12:4-6, 12.) Ond beth amdanon ninnau heddiw? Sut gallwn ni gydweithio yn y gwaith pregethu, yn y gynulleidfa, ac yn y teulu?

CYDWEITHIO YN Y GWAITH PREGETHU

3. Pa weledigaeth a gafodd yr apostol Ioan?

3 Yn y ganrif gyntaf, cafodd Ioan weledigaeth o saith angel yn seinio utgyrn. Pan seiniodd y pumed angel ei utgorn, gwelodd Ioan “seren wedi syrthio o’r nef i’r ddaear.” Defnyddiodd y seren honno allwedd i agor y drws i bwll y dyfnder. Yn gyntaf, daeth cwmwl o fwg allan o’r dyfnder, ac yna locustiaid yn heidio allan o’r mwg. Yn hytrach na niweidio’r coed a’r planhigion, ymosododd y locustiaid ar y bobl a oedd heb sêl Duw ar eu talcennau. (Datguddiad 9:1-4) Roedd Ioan yn gwybod y gall haid o locustiaid achosi niwed mawr, fel y gwnaethon nhw yn yr Aifft adeg Moses. (Exodus 10:12-15) Mae’r locustiaid a welodd Ioan yn cynrychioli Cristnogion eneiniog sydd wedi bod yn pregethu neges gref yn erbyn gau grefydd. Ac mae miliynau o bobl sy’n edrych ymlaen at fywyd ar y ddaear wedi ymuno â nhw yn y gwaith pregethu hwn. Gwaith yw hwn sydd wedi helpu llawer o bobl i adael gau grefydd a dod yn rhydd o afael Satan.

Rydyn ni’n gallu pregethu’n fyd-eang oherwydd ein bod ni’n cydweithio

4. Pa waith y mae’n rhaid i bobl Jehofa ei wneud, a beth yw’r unig ffordd y gallan nhw wneud y gwaith hwn?

4 Ein haseiniad ni yw pregethu’r newyddion da i bobl ym mhob cwr o’r byd cyn i’r diwedd ddod. Mae hynny’n waith enfawr! (Mathew 24:14; 28:19, 20) Mae’n rhaid inni wahodd pawb sy’n sychedig i yfed dŵr y bywyd, hynny yw, mae’n rhaid inni ddysgu gwirionedd y Beibl i bawb sydd eisiau ei ddeall. (Datguddiad 22:17) Ond, yr unig ffordd o lwyddo yn hyn o beth yw gweithio’n agos gyda’n gilydd yn y gynulleidfa.—Effesiaid 4:16.

5, 6. Sut mae’r gwaith pregethu yn ein gwneud ni’n unedig?

5 Er mwyn cyrraedd cymaint o bobl ag y medrwn ni, mae’n rhaid i’n gwaith pregethu fod yn drefnus. Mae cyfarwyddiadau sy’n dod o’r gynulleidfa yn ein helpu ni i wneud hyn. Ar ôl cyfarfod ar gyfer y weinidogaeth, rydyn ni’n mynd allan a siarad â phobl am newyddion da’r Deyrnas. Rydyn ni hefyd yn cynnig cyhoeddiadau sy’n trafod y Beibl. Erbyn hyn, rydyn ni wedi dosbarthu miliynau o’r cyhoeddiadau hyn ar draws y byd. Weithiau, rydyn ni’n cymryd rhan mewn ymgyrchoedd pregethu arbennig. Pan fyddi di’n gwneud y gwaith hwn, rwyt ti’n cydweithio â miliynau o bobl sy’n pregethu’r un neges o gwmpas y byd! Rwyt ti hefyd yn cydweithio â’r angylion sy’n helpu pobl Dduw i bregethu’r newyddion da.—Datguddiad 14:6.

6 Cyffrous yw darllen yr Yearbook a gweld canlyniadau’r gwaith pregethu trwy’r byd! Hefyd, mae gwahodd pobl i’n cynadleddau yn gwneud inni deimlo’n rhan o frawdoliaeth fyd-eang. Yno, rydyn ni’n gwrando ar yr un wybodaeth. Mae’r anerchiadau, y dramâu, a’r dangosiadau yn ein hannog ni i roi ein gorau i Jehofa. Hefyd, pan awn i’r Goffadwriaeth bob blwyddyn rydyn ni’n teimlo’n unedig. (1 Corinthiaid 11:23-26) Rydyn ni’n cyfarfod ar yr un dyddiad, Nisan 14, wedi machlud yr haul, i ddangos gwerthfawrogiad am yr hyn a wnaeth Jehofa ar ein cyfer, ac i fod yn ufudd i orchymyn Iesu. Hefyd, yn yr wythnos cyn y Goffadwriaeth, rydyn ni’n gweithio ar y cyd i wahodd cymaint o bobl ag sy’n bosibl i ymuno â ni ar yr achlysur pwysig hwn.

7. Wrth inni gydweithio, beth rydyn ni’n medru ei wneud?

7 Ni all un locust fod mor effeithiol ar ei ben ei hun. Ac ar ein pennau ein hunain, nid ydyn ninnau’n gallu pregethu i bawb chwaith. Ond oherwydd ein bod ni’n cydweithio, mae miliynau o bobl yn gwybod am Jehofa a rhai ohonyn nhw’n dod i’w glodfori a’i anrhydeddu.

CYDWEITHIO YN Y GYNULLEIDFA

8, 9. (a) Pa eglureb a ddefnyddiodd Paul i ddysgu Cristnogion i fod yn unedig? (b) Sut gallwn ni gydweithio yn y gynulleidfa?

8 Esboniodd Paul i’r Effesiaid sut mae’r gynulleidfa yn cael ei threfnu, a dywedodd fod angen i bob un yn y gynulleidfa dyfu, neu wneud cynnydd, ym mhob peth. (Darllenwch Effesiaid 4:15, 16.) Roedd Paul yn cymharu’r gynulleidfa â’r corff er mwyn egluro bod pob Cristion yn gallu helpu’r gynulleidfa i aros yn unedig ac i ddilyn Iesu, Arweinydd y gynulleidfa. Dywedodd Paul fod pob rhan o’r corff yn cydweithredu “drwy bob cymal sy’n rhan ohono.” Felly, os ydyn ni’n hen neu’n ifanc, yn iach neu beidio, beth dylai pob un ohonon ni ei wneud?

Sut gelli di helpu’r gynulleidfa i aros yn unedig?

9 Mae’r henuriaid wedi eu penodi gan Iesu i arwain yn y gynulleidfa, ac mae Iesu eisiau inni eu parchu nhw a dilyn y cyfarwyddiadau maen nhw’n eu rhoi inni. (Hebreaid 13:7, 17) Nid yw hynny bob amser yn hawdd. Ond gallwn ofyn i Jehofa am help. Gall ei ysbryd glân ein helpu i ddilyn unrhyw gyfarwyddyd mae’r henuriaid yn ei roi inni. Meddylia hefyd am gymaint y gallwn ni helpu’r gynulleidfa drwy fod yn ostyngedig a chydweithio â’r henuriaid. Bydd ein cynulleidfa yn unedig, a bydd ein cariad tuag at ein gilydd yn cryfhau.

10. Sut mae gweision gweinidogaethol yn helpu’r gynulleidfa i fod yn unedig? (Gweler y llun agoriadol.)

10 Hefyd, mae gweision gweinidogaethol yn helpu cadw’r gynulleidfa yn unedig. Maen nhw’n gweithio’n galed yn helpu’r henuriaid, ac rydyn ni’n ddiolchgar iddyn nhw. Er enghraifft, mae’r gweision gweinidogaethol yn sicrhau bod gennyn ni ddigon o lenyddiaeth i’w defnyddio yn y weinidogaeth, ac maen nhw’n croesawu ymwelwyr i’n cyfarfodydd. Hefyd, maen nhw’n gweithio’n galed i gynnal a chadw Neuadd y Deyrnas a’i glanhau. Pan ydyn ni’n cydweithio â’r brodyr hyn, rydyn ni’n unedig ac yn gwasanaethu Jehofa mewn ffordd drefnus.—Cymhara Actau 6:3-6.

11. Beth gall y rhai ifanc ei wneud i helpu’r gynulleidfa i fod yn unedig?

11 Mae rhai o’r henuriaid wedi gweithio’n galed yn y gynulleidfa am flynyddoedd maith. Ond efallai ni allan nhw wneud cymaint ag yr oedden nhw oherwydd eu hoed. Gall brodyr ifanc helpu. Os ydyn nhw’n cael eu hyfforddi, gallan nhw dderbyn mwy o gyfrifoldebau yn y gynulleidfa. A phan fydd gweision gweinidogaethol yn gweithio’n galed, efallai y cân nhw wasanaethu fel henuriaid yn y dyfodol. (1 Timotheus 3:1, 10) Mae rhai henuriaid iau wedi gwneud cynnydd mawr. Maen nhw bellach yn gwasanaethu fel arolygwyr y gylchdaith ac yn helpu brodyr a chwiorydd mewn llawer o gynulleidfaoedd. Rydyn ni’n ddiolchgar o weld pobl ifanc yn fodlon helpu’r brodyr a’r chwiorydd.—Darllenwch Salm 110:3, beibl.net; Pregethwr 12:1.

CYDWEITHIO YN Y TEULU

12, 13. Beth fydd yn helpu pawb yn y teulu i gydweithio?

12 Sut gallwn ni helpu aelodau o’n teulu i weithio’n gytûn? Drwy gynnal addoliad teuluol bob wythnos. Pan fydd y teulu’n treulio amser gyda’i gilydd yn dysgu am Jehofa, mae eu cariad tuag at ei gilydd yn dyfnhau. Gallen nhw ymarfer yr hyn maen nhw am ei ddweud yn y weinidogaeth er mwyn bod yn barod. Ac o glywed y naill a’r llall yn trafod y gwirionedd a gweld bod pawb yn y teulu yn caru Jehofa ac yn ceisio ei blesio, maen nhw’n dod yn agosach fyth at ei gilydd.

Pan fydd gŵr a gwraig yn caru Jehofa ac yn ei wasanaethu gyda’i gilydd, bydd undod a hapusrwydd yn eu priodas

13 Sut gall gŵr a gwraig fod yn gytûn? (Mathew 19:6) Pan fydd y ddau ohonyn nhw’n caru Jehofa ac yn ei wasanaethu ar y cyd, bydd undod a hapusrwydd yn eu priodas. Dylen nhw hefyd ddangos cariad tuag at ei gilydd, fel y gwnaeth Abraham a Sara, Isaac a Rebeca, ac Elcana a Hanna. (Genesis 26:8; 1 Samuel 1:5, 8; 1 Pedr 3:5, 6) Pan fydd gŵr a gwraig yn gwneud hyn, maen nhw’n unedig ac yn agosáu at Jehofa.—Darllenwch Pregethwr 4:12.

Mae addoliad teuluol yn helpu’r hen a’r ifanc i agosáu at ei gilydd (Gweler paragraffau 12, 15)

14. Os nad yw dy ŵr neu dy wraig yn gwasanaethu Jehofa, sut gelli di gadw dy briodas yn gryf?

14 Mae’r Beibl yn dweud na ddylen ni briodi rhywun nad yw’n gwasanaethu Jehofa. (2 Corinthiaid 6:14) Ond, mae yna frodyr a chwiorydd sy’n briod â rhywun nad yw’n un o’r Tystion. Dysgodd rhai’r gwirionedd ar ôl iddyn nhw briodi, ond ni dderbyniodd eu cymar y gwirionedd. Efallai fod eraill wedi priodi un o weision Jehofa, ond wedyn gadawodd y gŵr neu’r wraig y gynulleidfa. Mewn sefyllfaoedd o’r fath, mae Cristnogion yn gwneud cymaint ag y medran nhw i gadw’r briodas yn gryf drwy ddilyn cyngor y Beibl. Nid yw gwneud hynny bob amser yn hawdd. Er enghraifft, roedd Mary a’i gŵr David yn gwasanaethu Jehofa gyda’i gilydd. Yna, stopiodd David fynychu’r cyfarfodydd. Ond ceisiodd Mary ddangos rhinweddau Cristnogol. Dysgodd y fam ei chwe phlentyn am Jehofa a mynychu’r cyfarfodydd a’r cynadleddau. Flynyddoedd yn ddiweddarach, ar ôl i’r plant dyfu i fyny a symud oddi cartref, parhaodd Mary i wasanaethu Jehofa er bod y sefyllfa yn anoddach iddi. Ond wedyn, dechreuodd David ddarllen y cylchgronau roedd Mary yn eu gadael yn fwriadol ar ei gyfer. Mewn amser, dechreuodd fynd i’r cyfarfodydd unwaith eto. Roedd ei ŵyr chwe blwydd oed yn wastad yn cadw sêt iddo, ac os nad oedd David yno, byddai’r bachgen bach yn dweud, “Wnes i dy fethu di yn y cyfarfod heddiw Taid.” Dychwelodd David at Jehofa ar ôl 25 o flynyddoedd, ac mae ef a’i wraig yn hapus yn gwasanaethu Jehofa gyda’i gilydd unwaith eto.

15. Sut gall cyplau hŷn helpu cyplau iau?

15 Heddiw, mae Satan yn ymosod ar y teulu. Dyna pam y mae’n rhaid i wŷr a gwragedd Cristnogol gydweithio. Ni waeth pa mor hir rwyt ti wedi bod yn briod, meddylia am beth gallet ti ei ddweud, neu ei wneud, i gryfhau dy briodas. Os wyt ti a’th gymar yn gwpl hŷn, gallwch fod yn esiamplau da i gyplau iau. Gallwch chi wahodd cwpl iau i’ch addoliad teuluol. Fe welan nhw fod rhaid dangos cariad tuag at ei gilydd a bod yn unedig, ni waeth pa mor hir maen nhw wedi bod yn briod.—Titus 2:3-7.

GAD INNI DDRINGO MYNYDD JEHOFA

16, 17. Beth mae gweision unedig Duw yn edrych ymlaen ato?

16 Pan oedd yr Israeliaid yn mynd i ddathlu eu gwyliau crefyddol yn Jerwsalem, roedden nhw’n cydweithio. Roedden nhw’n paratoi popeth ar gyfer y daith, yn teithio gyda’i gilydd, ac yn helpu ei gilydd. Yn y deml, roedden nhw i gyd yn clodfori Jehofa a’i addoli. (Luc 2:41-44) Heddiw, wrth inni baratoi ar gyfer bywyd yn y byd newydd, mae angen inni fod yn unedig a gwneud cymaint ag y medrwn ni i fod yn gytûn. A oes modd iti wella yn hyn o beth?

17 Heddiw, mae pobl yn anghytuno ac yn ymladd. Ond rydyn ni’n ddiolchgar i Jehofa oherwydd iddo ein helpu i gael heddwch ac i ddeall y gwirionedd! Mae ei bobl ym mhob rhan o’r byd yn ei addoli yn y ffordd y mae Ef yn ei dymuno. Yn enwedig yn y dyddiau diwethaf hyn, mae pobl Jehofa yn fwy unedig nag erioed. Yn union fel y rhagfynegodd Eseia a Micha, rydyn ni’n dringo mynydd Jehofa gyda’n gilydd. (Eseia 2:2-4; darllenwch Micha 4:2-4.) Dychmyga’r dyfodol pan fydd pawb ar y ddaear yn cydweithio’n hapus wrth iddyn nhw addoli Jehofa!