A Elli Di Helpu yn Dy Gynulleidfa Di?
CYN mynd yn ôl i’r nefoedd, dywedodd Iesu wrth ei ddisgyblion: “Byddwch yn dystion i mi . . . hyd eithaf y ddaear.” (Actau 1:8) Sut y byddai hi’n bosibl iddyn nhw bregethu dros y byd i gyd?
Dywedodd yr Athro Martin Goodman, o Brifysgol Rhydychen, fod y “syniad o genhadu wedi gosod Cristnogion ar wahân i grwpiau crefyddol eraill, gan gynnwys Iddewon, yn yr Ymerodraeth Rufeinig gynnar.” Aeth Iesu o un lle i’r llall yn pregethu. Roedd yn rhaid i wir Gristnogion ddilyn ei esiampl a phregethu’r “newydd da am deyrnas Dduw” ym mhobman. Roedd rhaid iddyn nhw chwilio am bobl a oedd eisiau gwybod y gwir. (Luc 4:43) Felly, yn y ganrif gyntaf, roedd yna apostolion, gair sy’n cyfeirio at rai sy’n cael eu hanfon allan i wneud rhywbeth. (Marc 3:14) Gorchmynnodd Iesu i’w ddilynwyr: “Ewch, gan hynny, a gwnewch ddisgyblion o’r holl genhedloedd.”—Mathew 28:18-20.
Nid yw 12 apostol Iesu ar y ddaear mwyach, ond mae llawer o weision Jehofa yn efelychu esiampl yr apostolion yn y weinidogaeth. Ar ôl derbyn gwahoddiad i bregethu lle mae angen mwy o help yn y maes, eu hymateb yw: “Dyma fi, anfon fi.” (Eseia 6:8) Mae rhai wedi symud i wledydd pell, fel y miloedd sydd wedi graddio o Ysgol Gilead. Mae eraill wedi symud i wahanol rannau o’u gwledydd eu hunain. Mae llawer wedi dysgu iaith newydd i helpu cynulleidfa neu grŵp. Nid oedd hyn bob amser yn hawdd, ond roedd pob un o’r brodyr hyn yn fodlon aberthu er mwyn dangos eu cariad at Jehofa ac at bobl. Felly, gwnaethon nhw gynllunio’n ofalus a defnyddio eu hamser, eu hegni, a’u harian i helpu i bregethu lle’r oedd yr angen yn y maes yn fwy. (Luc 14:28-30) Mae cyfraniad y brodyr a’r chwiorydd hyn yn werthfawr dros ben.
Ni allwn ni i gyd symud i faes mewn angen na dysgu iaith newydd. Ond gall pob un ohonon ni fod yn debyg i genhadon yn ein cynulleidfa ein hunain.
BYDDA’N GENHADWR YN DY GYNULLEIDFA DY HUN
Yn y ganrif gyntaf, roedd Cristnogion yn selog yn y gwaith pregethu er bod y rhan fwyaf ohonyn nhw wedi aros gartref heb fynd i genhadu. Dywedodd Paul wrth Timotheus: “Gwna waith efengylwr; cyflawna holl ofynion dy weinidogaeth.” (2 Timotheus 4:5) Roedd y geiriau hyn yn berthnasol i Gristnogion y ganrif gyntaf, ac maen nhw’n dal yn berthnasol i ninnau heddiw. Mae’n rhaid i bob Cristion fod yn ufudd i’r gorchymyn i bregethu neges y Deyrnas a gwneud disgyblion. A hyd yn oed yn ein cynulleidfa ein hunain, gallwn ni fod fel cenhadon mewn amryw o wahanol ffyrdd.
Er enghraifft, pan fydd cenhadon yn symud i wlad ddiarth, mae popeth yn wahanol, ac mae’n rhaid iddyn nhw addasu i fywyd newydd. Hyd yn oed os na allwn ni symud i faes mewn angen, a allwn ni addasu ein dulliau o bregethu i bobl? Er enghraifft, ym 1940, anogwyd ein brodyr am y tro cyntaf i dystiolaethu ar y stryd un diwrnod bob wythnos. Wyt ti wedi tystiolaethu ar y stryd? Wyt ti erioed wedi defnyddio trolïau llyfrau i bregethu? Y pwynt yw: A wyt ti’n fodlon defnyddio dulliau newydd o bregethu’r newyddion da?
Os yw dy agwedd yn bositif, byddi di’n selog a brwdfrydig dros y weinidogaeth. Yn aml, mae’r rhai sy’n symud i ardal mewn angen neu sy’n dysgu iaith newydd yn gyhoeddwyr cymwys iawn sy’n medru bod o help mawr i’r gynulleidfa. Er enghraifft, maen nhw’n arwain yn y gwaith pregethu. Hefyd, mae cenhadon yn aml yn arwain yn y gynulleidfa hyd nes i’r brodyr lleol fod yn gymwys i 1 Timotheus 3:1.
wneud hynny. Os wyt ti’n frawd sydd wedi dy fedyddio, a wyt ti wedi gosod dy fryd ar helpu a gwasanaethu dy frodyr yn y gynulleidfa fel gwas gweinidogaethol neu fel henuriad?—BYDDA’N “GYSUR MAWR”
Gallwn ni hefyd helpu ein cynulleidfa mewn ffyrdd eraill. Gall pob un ohonon ni, boed yn ifanc neu’n hen, yn frodyr neu’n chwiorydd, fod “yn gysur mawr” i’n cyd-gredinwyr mewn angen.—Colosiaid 4:11.
Os ydyn ni eisiau helpu ein brodyr, mae’n rhaid inni eu hadnabod yn dda. Mae’r Beibl yn ein hannog ni i ystyried ein gilydd, neu i feddwl am anghenion ein brodyr pan ydyn ni’n cwrdd gyda’n gilydd. (Hebreaid 10:24) Nid yw hyn yn golygu y gallwn ni fusnesu ym mywydau personol ein brodyr. Mae’n golygu y dylen ni geisio adnabod ein brodyr a deall eu hanghenion. Efallai fod angen help ymarferol, cefnogaeth emosiynol, neu anogaeth o’r Beibl arnyn nhw. Mewn rhai achosion, fodd bynnag, dim ond henuriaid a gweision gweinidogaethol sy’n gallu helpu. (Iago 5:14, 15) Ond gall pob un ohonon ni helpu ein brodyr oedrannus, neu deuluoedd cyfan, sy’n wynebu anawsterau.
Derbyniodd Salvatore help o’r fath. Oherwydd problemau ariannol dybryd, roedd rhaid iddo werthu ei fusnes, ei gartref, a llawer o feddiannau’r teulu. Roedd yn poeni am ei deulu. Gwnaeth teulu arall yn y gynulleidfa weld bod angen help arnyn nhw. Rhoddon nhw ychydig o arian i Salvatore a helpu ef a’i wraig i gael swyddi. Treulion nhw lawer o nosweithiau gyda’i deulu yn gwrando arnyn nhw ac yn eu hannog. Daethon nhw’n ffrindiau da. Erbyn hyn, mae gan y ddau deulu atgofion melys o’r amser y treulion nhw gyda’i gilydd yn ystod y cyfnod anodd hwnnw.
Nid yw gwir Gristnogion yn oedi rhag rhannu eu cred ag eraill. Mae’n bwysig inni efelychu Iesu a rhoi gwybod i bawb am addewidion hyfryd Jehofa. Os ydyn ni’n medru symud i ardal arall neu beidio, gall pob un ohonon ni wneud ein gorau i helpu eraill yn ein cynulleidfa ni’n hunain. (Galatiaid 6:10) Pan ydyn ni’n rhoi i eraill, byddwn ni’n hapus ac yn parhau i “ddwyn ffrwyth mewn gweithredoedd da o bob math.”—Colosiaid 1:10; Actau 20:35.