Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Bobl Ifanc​—Ydych Chi’n Barod i Gael Eich Bedyddio?

Bobl Ifanc​—Ydych Chi’n Barod i Gael Eich Bedyddio?

“Os bydd un ohonoch chwi yn dymuno adeiladu tŵr, oni fydd yn gyntaf yn eistedd i lawr i gyfrif y gost, er mwyn gweld a oes ganddo ddigon i gwblhau’r gwaith?”​—LUC 14:28.

CANEUON: 120, 64

Ysgrifennwyd yr erthygl hon a’r un nesaf ar gyfer pobl ifanc sydd eisiau cael eu bedyddio

1, 2. (a) Beth sy’n gwneud i bobl Dduw lawenhau heddiw? (b) Sut gall rhieni Cristnogol a henuriaid helpu pobl ifanc i ddeall ystyr bedydd?

“MI YDW i wedi dy adnabod di ers iti gael dy eni,” dywedodd henuriad wrth fachgen 12 mlwydd oed o’r enw Christopher, “a dwi’n falch o glywed dy fod ti eisiau cael dy fedyddio. Ga’ i ofyn, pam rwyt ti eisiau cymryd y cam hwn?” Roedd gan yr henuriad resymau da dros holi. Pleser mawr yw gweld miloedd o bobl ifanc yn cael eu bedyddio bob blwyddyn. (Pregethwr 12:1) Ond mae rhieni Cristnogol a henuriaid eisiau sicrhau bod pobl ifanc yn penderfynu drostyn nhw eu hunain ac yn deall ystyr bedydd.

2 Dysgwn yn y Beibl mai ymgysegriad a bedydd yw dechrau bywyd newydd ar gyfer Cristnogion. Bydd y bywyd newydd hwn yn dod â llawer o fendithion oddi wrth Jehofa, ond gwrthwynebiad oddi wrth Satan. (Diarhebion 10:22; 1 Pedr 5:8) Dyna pam mae angen i rieni neilltuo’r amser i ddysgu eu plant beth mae bod yn ddisgybl i Grist yn ei olygu. Pan nad oes gan bobl ifanc rieni Cristnogol, bydd yr henuriaid yn eu helpu nhw i ddeall ystyr ymgysegriad a bedydd. (Darllenwch Luc 14:27-30.) Fel y mae’n rhaid paratoi cyn cyflawni prosiect adeiladu, mae’n rhaid i bobl ifanc baratoi cyn iddyn nhw gael eu bedyddio fel y gallan nhw wasanaethu Jehofa yn ffyddlon hyd y diwedd. (Mathew 24:13) Beth fydd yn helpu pobl ifanc i fod yn benderfynol o wasanaethu Jehofa am byth? Gad inni weld.

3. (a) Beth mae geiriau Iesu a Pedr yn ei ddysgu inni am bwysigrwydd bedydd? (Mathew 28:19, 20; 1 Pedr 3:21) (b) Pa gwestiynau byddwn ni’n eu trafod, a pham?

3 Wyt ti’n berson ifanc sydd eisiau cael dy fedyddio? Os felly, dyna rywbeth gwych i anelu ato! Anrhydedd mawr yw cael dy fedyddio’n un o Dystion Jehofa. Mae hefyd yn angenrheidiol ar gyfer Cristnogion ac yn gam hanfodol i’r rhai a fydd yn cael eu hachub yn ystod y gorthrymder mawr. (Mathew 28:19, 20; 1 Pedr 3:21) Drwy gael dy fedyddio, rwyt ti’n dangos dy fod ti wedi addo i Jehofa dy fod ti am ei wasanaethu am byth. Rwyt ti eisiau cadw’r addewid hwnnw, felly bydd y cwestiynau canlynol yn dy helpu i weld a wyt ti’n barod am fedydd: (1) Ydw i’n ddigon aeddfed i wneud y penderfyniad? (2) Ai fy nymuniad personol i yw hyn? (3) Ydw i’n deall ystyr ymgysegru i Jehofa? Gad inni drafod y cwestiynau hynny.

PAN WYT TI’N DDIGON AEDDFED

4, 5. (a) Pam nad yw bedydd i bobl hŷn yn unig? (b) Beth mae’n ei olygu i Gristion fod yn aeddfed?

4 Nid yw’r Beibl yn dweud mai dim ond rhai sydd wedi cyrraedd oed penodol sy’n cael eu bedyddio. Beth sydd gan Diarhebion 20:11 i’w ddweud am hyn? Mae’n dweud mai trwy ei weithredoedd y mae person ifanc yn dangos a yw ei ymddygiad yn bur neu beidio. Felly, gall hyd yn oed plentyn ddeall yr hyn sy’n iawn a hefyd ystyr ymgysegru i’w Greawdwr. Felly, mae bedydd yn gam priodol ar gyfer person ifanc sydd wedi ei brofi ei hun yn aeddfed ac sydd wedi ymgysegru i Jehofa.—Diarhebion 20:7.

5 Beth yw ystyr aeddfedrwydd? Nid yw’n cyfeirio bob tro at oed rhywun nac at ei dyfiant corfforol. Dywed y Beibl fod pobl aeddfed wedi hyfforddi eu synhwyrau i wybod y gwahaniaeth rhwng da a drwg. (Hebreaid 5:14) Mae rhywun aeddfed yn gwybod yr hyn sy’n iawn ac wedi penderfynu gwneud hynny yn ei galon. Felly, nid yw’n cael ei gamarwain yn hawdd, ac nid yw’n dibynnu ar rywun arall i ddweud wrtho bob amser beth yw’r peth cywir i’w wneud. Rhesymol felly yw disgwyl y bydd person ifanc sy’n cael ei fedyddio yn gwneud yr hyn sy’n iawn hyd yn oed pan nad yw ei rieni nac oedolion eraill o gwmpas.—Cymhara Philipiaid 2:12.

6, 7. (a) Disgrifia’r her roedd Daniel yn ei hwynebu ym Mabilon. (b) Sut roedd Daniel yn dangos ei fod yn aeddfed?

6 A all person ifanc ddangos y math hwnnw o aeddfedrwydd? Meddylia am hanes Daniel. Mae’n debyg iddo fod yn ei arddegau pan gafodd ei alltudio i Fabilon heb ei rieni. Yn fwyaf sydyn, roedd Daniel yn byw ymysg pobl nad oedden nhw’n dilyn gorchmynion Duw. Ond, gad inni ystyried sefyllfa Daniel yn fanylach. Cafodd ei drin fel rhywun arbennig ym Mabilon. Roedd Daniel yn perthyn i grŵp bach o bobl ifanc a gafodd eu dewis i wasanaethu’r brenin. (Daniel 1:3-5, 13) Mae’n debyg fod gan Daniel swydd well ym Mabilon nag y byddai wedi ei chael yn Israel.

7 Felly, beth oedd ymateb Daniel? A oedd yn caniatáu i bobl Babilon ddylanwadu arno neu iddyn nhw wanhau ei ffydd? Dim o gwbl! Tra oedd Daniel ym Mabilon, dywed y Beibl fod Daniel wedi penderfynu yn ei galon i “beidio â’i halogi ei hun,” a byddai’n cadw draw rhag unrhyw beth a oedd yn perthyn i gau grefydd. (Daniel 1:8) Dyna aeddfedrwydd!

Nid yw person ifanc aeddfed yn ymddwyn fel ffrind i Dduw yn Neuadd y Deyrnas, ond fel ffrind i’r byd yn yr ysgol (Gweler paragraff 8)

8. Beth gallwn ni ei ddysgu oddi wrth esiampl Daniel?

8 Beth ddysgi di oddi wrth esiampl Daniel? Bydd person ifanc aeddfed yn gadarn yn ei ddaliadau, hyd yn oed o dan amgylchiadau anodd. Ni fyddai’n debyg i’r camelion, y creadur hwnnw sy’n newid ei liw yn unol â’i amgylchedd. Nid yw’n ymddwyn fel ffrind i Dduw yn Neuadd y Deyrnas, ond fel ffrind i’r byd yn yr ysgol. Yn hytrach, bydd yn aros yn ffyddlon hyd yn oed o dan brawf.—Darllenwch Effesiaid 4:14, 15.

Bydd person ifanc aeddfed yn gadarn yn ei ddaliadau, hyd yn oed o dan amgylchiadau anodd

9, 10. (a) Sut gall person ifanc elwa ar feddwl am ei ymateb i brofion diweddar ar ei ffydd? (b) Beth yw ystyr bedydd?

9 Wrth gwrs, does neb yn berffaith. Mae pobl ifanc ac oedolion yn gwneud camgymeriadau. (Pregethwr 7:20) Ond, os wyt ti’n dymuno cael dy fedyddio, peth doeth fyddai gweld pa mor benderfynol rwyt ti o fod yn ufudd i Jehofa. Gofynna i ti dy hun: ‘Ydw i wedi ufuddhau i Jehofa dros gyfnod o amser?’ Meddylia am dy ymateb y tro diwethaf y cafodd dy ffydd ei phrofi. Oeddet ti’n gwybod beth oedd y peth cywir i’w wneud? Fel Daniel, oes rhywun wedi dy annog i ddefnyddio dy ddoniau ym myd Satan? O gael dy demtio fel hyn, wyt ti’n deall drosot ti dy hun beth yw ewyllys Jehofa?—Effesiaid 5:17.

10 Pam mae’n bwysig iti wybod yr atebion i’r cwestiynau personol hynny? Oherwydd y byddan nhw’n dy helpu i weld arwyddocâd bedydd. Mae bedydd yn arwydd cyhoeddus o’th addewid pwysig i Jehofa. Rwyt ti’n addo i Jehofa dy fod ti’n ei garu ac eisiau ei wasanaethu â’th holl galon am byth. (Marc 12:30) Dylai pawb sy’n cael ei fedyddio fod yn benderfynol o gadw ei addewid i Jehofa.—Darllenwch Pregethwr 5:4, 5.

AI DY DDYMUNIAD PERSONOL DI YW HYN?

11, 12. (a) Am beth y mae rhywun sy’n ystyried cael ei fedyddio yn gorfod bod yn sicr ohono? (b) Beth fydd yn dy helpu di i feithrin yr agwedd iawn at fedydd?

11 Yn ôl y Beibl, byddai pobl Jehofa, gan gynnwys y rhai ifanc, yn barod i’w ddilyn. (Salm 110:3, beibl.net) Felly mae’n rhaid i’r sawl sydd eisiau cael ei fedyddio fod yn sicr mai dymuniad personol yw hyn. Meddylia’n ofalus am dy ddymuniad, yn enwedig os wyt ti wedi cael dy fagu yn y gwir.

12 Wrth dyfu i fyny, mae’n debyg dy fod ti wedi gweld llawer yn cael eu bedyddio, efallai rhai o’th ffrindiau a’th deulu. Ond bydda’n ofalus nad wyt ti’n dechrau teimlo y dylet ti gael dy fedyddio oherwydd dy fod ti wedi cyrraedd oed penodol, neu oherwydd bod pawb arall yn cael eu bedyddio. Sut gallet ti feithrin yr un agwedd â Jehofa at fedydd? Myfyria ar bwysigrwydd bedydd. Cei hyd i lawer o resymau yn yr erthygl hon ac yn yr un nesaf.

13. Sut rwyt ti’n gwybod a yw’r penderfyniad i gael dy fedyddio yn dod o’th galon?

13 Ffordd ardderchog o weld a yw’r penderfyniad yn dod o’th galon neu beidio yw ystyried dy weddïau personol. Pa mor aml rwyt ti’n gweddïo? Wyt ti’n benodol yn dy weddïau? Gall yr atebion i’r cwestiynau hyn ddangos pa mor agos yw dy berthynas â Jehofa. (Salm 25:4) Yn aml, mae Jehofa yn ateb ein gweddïau yn nhudalennau’r Beibl. Felly, ffordd arall o weld a wyt ti’n dymuno cael perthynas agosach â Jehofa yw edrych ar dy raglen astudio. (Josua 1:8) Gofynna i ti dy hun: ‘Pa mor rheolaidd ydw i’n astudio’r Beibl? Ydw i’n cymryd rhan yn ein noson addoliad teuluol o’m gwirfodd?’ Bydd yr atebion i’r cwestiynau hyn yn dy helpu di i weld ai dymuniad personol yw cael dy fedyddio neu beidio.

YSTYR YMGYSEGRIAD

14. Beth yw’r gwahaniaeth rhwng ymgysegriad a bedydd?

14 Nid yw rhai pobl ifanc yn deall y gwahaniaeth rhwng ymgysegriad a bedydd. Mae rhai yn dweud eu bod nhw wedi cysegru eu bywydau i Jehofa ond nad ydyn nhw’n barod i gael eu bedyddio. Ond a yw hynny’n bosibl? Gweddi yw ymgysegriad sy’n cynnwys dy addewid i wasanaethu Jehofa am byth. Pan wyt ti’n cael dy fedyddio, rwyt ti’n dangos yn gyhoeddus dy fod ti wedi dy gysegru dy hun i Jehofa. Felly, cyn iti gael dy fedyddio, pwysig yw deall ystyr ymgysegru i Dduw.

15. Beth yw ystyr ymgysegriad?

15 Pan wyt ti’n cysegru dy fywyd i Jehofa, rwyt ti’n dweud wrtho fod dy fywyd yn perthyn iddo ef. Rwyt ti’n addo mai gwasanaethu ef yw’r peth pwysicaf yn dy fywyd. (Darllenwch Mathew 16:24.) Penderfyniad difrifol yw addewid o’r fath! (Mathew 5:33) Felly, sut rwyt ti’n dangos dy fod ti’n gwybod nad wyt ti’n perthyn i ti dy hun bellach, ond yn hytrach yn perthyn i Jehofa?—Rhufeiniaid 14:8.

16, 17. (a) Beth mae rhoi dy fywyd i Jehofa yn ei gynnwys? (b) Beth mae person sy’n cysegru ei fywyd yn ei fynegi?

16 Ystyria’r enghraifft hon. Dychmyga fod ffrind yn rhoi car yn anrheg iti. Mae’n rhoi’r papurau swyddogol iti ac yn dweud: “Ti biau’r car.” Ond wedyn mae dy ffrind yn dweud: “Ond mi wna i gadw’r goriadau. A minnau fydd yn gyrru’r car, nid tithau.” Sut byddet ti’n teimlo am yr anrheg? Sut byddet ti’n teimlo am dy ffrind sydd wedi rhoi’r car iti?

17 Pan fydd rhywun yn ei gysegru ei hun i Jehofa, mae’n dweud wrth Dduw: “Rwy’n rhoi fy mywyd i ti. Rwy’n perthyn i ti.” Mae gan Jehofa yr hawl i ddisgwyl i’r person hwnnw gadw ei addewid. Ond beth os yw’r person hwnnw yn anufudd i Jehofa drwy ddechrau canlyn, mewn ffordd gyfrinachol, rywun nad yw’n addoli Duw? Neu beth os yw’r person yn derbyn swydd sy’n cyfyngu ar yr amser sydd ganddo i’w dreulio yn y weinidogaeth, neu sy’n achosi iddo fethu’r cyfarfodydd yn aml? Wel, nid yw’r person hwnnw yn cadw ei addewid i Jehofa. Byddai hynny fel cadw goriadau’r car. Pan ydyn ni’n cysegru ein bywydau i Jehofa, rydyn ni’n dweud wrtho: “Mae fy mywyd i yn perthyn i ti, nid i mi.” Felly rydyn ni’n ceisio gwneud ewyllys Jehofa yn hytrach na’r hyn rydyn ni’n dymuno ei wneud. Gad inni efelychu Iesu a ddywedodd: “Yr wyf wedi disgyn o’r nef nid i wneud fy ewyllys fy hun ond ewyllys yr hwn a’m hanfonodd i.”—Ioan 6:38.

Penderfyniad mawr a braint aruthrol yw bedydd

18, 19. (a) Sut mae’r ffordd y mae Rose a Christopher yn teimlo yn dangos bod bedydd yn fraint sy’n arwain at fendithion? (b) Pam rwyt ti’n teimlo bod bedydd yn fraint?

18 Mae’n glir felly fod bedydd yn benderfyniad pwysfawr. Braint enfawr yw dy gysegru dy hun i Jehofa a chael dy fedyddio. Nid yw pobl ifanc sy’n caru Jehofa, ac yn deall ystyr ymgysegriad, yn dal yn ôl rhag ymgysegru a chael eu bedyddio. Nid yw’r penderfyniad yn un maen nhw’n ei ddifaru. Dywedodd Rose, chwaer a gafodd ei bedyddio yn ei harddegau: “Rwy’n caru Jehofa, ac ni allwn i fod yn hapusach yn gwneud unrhyw beth arall na’i wasanaethu. Dydw i erioed wedi bod yn fwy sicr am unrhyw beth arall yn fy mywyd na chael fy medyddio.”

19 A beth am Christopher, y bachgen y soniwyd amdano ar ddechrau’r erthygl hon? Sut mae’n teimlo ar ôl iddo benderfynu cael ei fedyddio yn 12 mlwydd oed? Mae’n dweud ei fod yn hapus iawn ei fod wedi gwneud y penderfyniad hwnnw. Dechreuodd arloesi’n llawn amser yn 17 mlwydd oed, a daeth yn was gweinidogaethol yn 18. Heddiw mae’n gwasanaethu ym Methel. Mae’n dweud: “Bedydd oedd y penderfyniad iawn. Mae fy mywyd yn llawn ystyr oherwydd y gwaith rwy’n ei wneud i Jehofa a’i gyfundrefn.” Os wyt ti’n dymuno cael dy fedyddio, sut gelli di baratoi ar ei gyfer? Bydd yr erthygl nesaf yn ateb y cwestiwn hwnnw.