Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Beth Mae’r Beibl yn Ei Ddweud?

Beth Mae’r Beibl yn Ei Ddweud?

Beth yw Armagedon?

Mae rhai pobl yn credu . . .

y bydd arfau niwclear neu broblemau amgylcheddol yn dinistrio’r ddaear a phopeth arni. Beth rydych chi’n ei feddwl?

Yr hyn mae’r Beibl yn ei ddweud

Lleoliad symbolaidd “y frwydr olaf ar ddiwrnod mawr y Duw Hollalluog” yw Armagedon, y frwydr yn erbyn y drygionus.—Datguddiad 16:14, 16.

Beth arall y gallwn ni ei ddysgu o’r Beibl?

  • Mae Duw yn ymladd brwydr Armagedon, nid i ddinistrio’r ddaear, ond i achub y ddaear rhag iddi gael ei dinistrio gan ddynolryw.—Datguddiad 11:18.

  • Bydd Armagedon yn rhyfel i roi terfyn ar bob rhyfel arall.—Salm 46:8, 9.

A ydy hi’n bosib goroesi rhyfel Armagedon?

Beth byddech chi’n ei ddweud?

  • Ydy

  • Nac ydy

  • Efallai

Yr hyn mae’r Beibl yn ei ddweud

Bydd “tyrfa enfawr” o bobl sy’n dod o bob cenedl yn goroesi’r “creisis mawr olaf,” neu’r gorthrymder mawr, a fydd yn gorffen gyda rhyfel Armagedon.—Datguddiad 7:9, 14.

Beth arall y gallwn ni ei ddysgu o’r Beibl?

  • Mae Duw eisiau i gymaint o bobl ag sy’n bosib oroesi Armagedon. Dim ond ar ôl rhoi pob cyfle i’r drygionus newid eu ffyrdd y bydd Duw yn eu dinistrio.—Eseciel 18:32.

  • Mae’r Beibl yn esbonio sut gallwn ni oroesi Armagedon.—Seffaneia 2:3.