Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

“Closiwch at Dduw a bydd e’n closio atoch chi.”—Iago 4:8.

Ydy Duw yn Gwrando ar Ein Gweddïau?

Ydy Duw yn Gwrando ar Ein Gweddïau?

Ydych chi erioed wedi gofyn a ydy Duw yn gwrando ar eich gweddïau? Os felly dydych chi ddim ar eich pen eich hun. Mae llawer wedi gweddïo ar Dduw am help, ond mae eu problemau yn parhau. Ydy hynny yn golygu bod Duw yn anwybyddu ein gweddïau? Nac ydy! Mae’r Beibl yn addo bod Duw yn gwrando arnon ni pan weddïwn yn y ffordd iawn. Gadewch inni ystyried beth mae’r Beibl yn ei ddweud.

MAE DUW YN GWRANDO.

“Ti sy’n gwrando gweddïau, boed i bob person byw ddod atat ti!”—Salm 65:2.

Mae rhai yn dweud eu bod nhw’n teimlo’n well ar ôl gweddïo, er nad ydyn nhw’n credu bod neb yn gwrando. Ond mae gweddïo yn llawer mwy nag ymarfer therapiwtig i’n helpu ni i wynebu ein problemau. Mae’r Beibl yn addo: “Mae’r ARGLWYDD [Jehofa *] yn agos at y rhai sy’n galw arno; at bawb sy’n ddidwyll pan maen nhw’n galw arno. . . . Mae’n eu clywed nhw’n galw.”—Salm 145:18, 19.

Felly gallwn fod yn sicr bod Jehofa Dduw yn gwrando ar weddïau ei addolwyr. Mae’n dweud yn garedig: “Byddwch yn galw arna i ac yn gweddïo, a bydda i’n gwrando.”—Jeremeia 29:12.

MAE DUW YN DYMUNO ICHI WEDDÏO ARNO.

“Daliwch ati i weddïo.”—Rhufeiniaid 12:12.

Mae’r Beibl yn ein hannog i ‘ddal ati i weddïo,’ ac i weddïo “bob amser.” Mae’n amlwg bod Jehofa yn dymuno inni weddïo arno.—1 Thesaloniaid 5:17; Effesiaid 6:18.

Pam mae Duw eisiau i ni weddïo arno? Ystyriwch: A oes rhiant da yn y byd na fyddai’n hapus i glywed ei blentyn yn dweud “Wnei di helpu fi, Dad”? Mae’n debyg bydd y tad eisoes yn gwybod beth sydd ei angen ar y plentyn, ond o glywed y geiriau, y mae’n gwybod bod ei blentyn yn ymddiried ynddo ac yn agos ato. Yn yr un modd, pan fyddwn ni’n gweddïo ar Jehofa Dduw, dangoswn ein bod ni’n ymddiried ynddo ac eisiau bod yn agos ato.—Diarhebion 15:8; Iago 4:8.

MAE DUW YN GOFALU AMDANOCH.

“Rhowch y pethau dych chi’n poeni amdanyn nhw iddo fe, achos mae e’n gofalu amdanoch chi.”1 Pedr 5:7.

Mae Duw eisiau inni weddïo arno oherwydd y mae’n ein caru ni yn fawr. Mae’n gwybod yn iawn am ein problemau a’n pryderon, ac mae’n awyddus i’n helpu.

Roedd y Brenin Dafydd yn gweddïo ar Jehofa am help drwy gydol ei oes, ac yn sôn wrtho am ei feddyliau a’i deimladau. (Salm 23:1-6) Sut roedd Duw yn teimlo am Dafydd? Roedd Duw yn caru Dafydd ac yn gwrando ar ei weddïau. (Actau 13:22) Mae Duw yn ein caru ni ac yn gwrando ar ein gweddïau ninnau hefyd.

DW I WIR YN CARU’R ARGLWYDD AM EI FOD YN GWRANDO AR FY NGWEDDI”

Dyna ddywedodd awdur un o’r salmau yn y Beibl. Roedd ei sicrwydd fod Duw yn gwrando ar ei weddïau yn ei helpu’n fawr. Teimlodd yn nes at Dduw, a thrwy hynny fe gafodd y nerth i ymdopi â’r trallod a’r tristwch a ddaeth i’w ran.—Salm 116:1-9.

Os ydyn ni’n sicr bod Duw yn gwrando ar ein gweddïau, byddwn ni’n dal ati i siarad ag ef. Ystyriwch brofiad Pedro a’i wraig, sy’n byw yng ngogledd Sbaen. Bu farw eu mab 19 oed mewn damwain ffordd. Yn ei alar, tywalltodd Pedro ei galon o flaen Jehofa gan ofyn dro ar ôl tro am gysur a chefnogaeth. Beth ddigwyddodd? “Daeth ateb Jehofa drwy’r cysur a’r gefnogaeth a gawson ni gan ein cyd-Gristnogion,” meddai Pedro.

Yn aml daw’r ateb i’n gweddïau trwy gysur a chefnogaeth ffrindiau annwyl

Er nad oedd gweddïau yn dod a’i fab yn ôl, roedden nhw’n helpu Pedro a’i deulu mewn ffyrdd pwysig. Mae ei wraig, María Carmen, yn cofio: “Roedd gweddïo yn help mawr imi yn fy ngalar. Roeddwn i’n gwybod bod Jehofa yn fy neall oherwydd, ar ôl i mi weddïo, roeddwn yn teimlo’n dawel fy meddwl.”

Mae’r Beibl a phrofiadau personol yn dangos yn glir bod Jehofa yn gwrando ar weddïau. Eto i gyd, mae’n amlwg nad ydy Duw yn ateb pob gweddi. Pam mae Duw yn ateb rhai gweddïau ond nid eraill?

^ Par. 5 Jehofa ydy enw personol Duw.—Salm 83:18 Beibl Cysegr-lân.