Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Bydd Casineb yn Cael ei Drechu!

Bydd Casineb yn Cael ei Drechu!

Ydych chi erioed wedi dioddef casineb?

Os ddim, mae’n debyg eich bod chi wedi gweld eraill yn dioddef casineb. Mae’r newyddion yn llawn adroddiadau am hiliaeth, homoffobia, a senoffobia—pobl yn cael eu cam-drin ar sail lliw eu croen, o le maen nhw’n dod, neu eu rhywioldeb. O ganlyniad, mae llawer o lywodraethau yn gwneud cyfreithiau yn erbyn troseddau casineb.

Mae casineb yn arwain at fwy o gasineb. Yn aml, mae’r rhai sy’n cael eu casáu yn talu’r pwyth yn ôl ac yn ychwanegu at y cylch o gasineb.

Efallai eich bod chi wedi profi rhagfarn, stereoteipio, sarhad, a bygythiadau. Ond gall casineb fynd ymhellach. Yn aml, mae’n dirywio i gynnwys ymosodiadau corfforol, bwlio, fandaliaeth, trais, llofruddiaeth, neu hyd yn oed hil-laddiad.

Bydd y cylchgrawn hwn yn ateb y cwestiynau canlynol ac yn dangos sut gall casineb gael ei drechu:

  • Pam mae ’na gymaint o gasineb?

  • Sut gall y cylch o gasineb gael ei dorri?

  • A welwn ni amser pan fydd casineb wedi diflannu am byth?