SUT I DORRI’R CYLCH O GASINEB
3 | Dadwreiddio Casineb o’ch Meddwl
Dysgeidiaeth o’r Beibl:
“Chwyldroi eich ffordd o feddwl am bethau. Byddwch yn gwybod wedyn beth mae Duw eisiau, ac yn gweld fod hynny’n dda ac yn ei blesio fe.”—RHUFEINIAID 12:2.
Beth Mae’n ei Olygu:
Mae’r ffordd rydyn ni’n meddwl yn bwysig i Dduw. (Jeremeia 17:10) Dylen ni osgoi dweud neu wneud pethau cas, ond hefyd mae’n rhaid inni fynd ymhellach. Mae’r cylch o gasineb yn dechrau yn y meddwl a’r galon. Felly mae’n rhaid inni ddadwreiddio unrhyw awgrym o gasineb o’n meddyliau a’n teimladau. Dim ond wedyn byddwn ni’n gallu “chwyldroi [ein] ffordd o feddwl” a thorri’r cylch o gasineb.
Beth Allwch Chi ei Wneud?
Meddyliwch yn ofalus am sut rydych chi’n ystyried ac yn teimlo am eraill—yn enwedig rhai o hil neu ddiwylliant gwahanol. Gofynnwch i chi’ch hun: ‘Sut ydw i’n eu hystyried nhw? Ar sail yr hyn rydw i’n ei wybod amdanyn nhw, neu ar sail rhagfarn?’ Osgowch gyfryngau cymdeithasol, ffilmiau, neu adloniant sy’n cynnwys casineb a thrais.
Gall Gair Duw ein helpu ni i drechu casineb yn ein meddyliau a’n calonnau
Dydy hi ddim bob tro yn hawdd inni farnu ein teimladau yn deg. Ond gall Gair Duw ein helpu ni i ‘farnu beth dŷn ni’n ei feddwl ac yn ei fwriadu.’ (Hebreaid 4:12) Felly daliwch ati i astudio’r Beibl. Cymharwch ei ddysgeidiaethau â’ch meddyliau eich hun, a cheisiwch hyfforddi eich meddwl i fod yn unol â’r Beibl. Gall Gair Duw ein helpu ni i chwalu casineb sy’n gadarn fel “cestyll” yn ein meddyliau a’n calonnau.—2 Corinthiaid 10:4, 5.