SUT I DORRI’R CYLCH O GASINEB
1 | Peidio â Dangos Ffafriaeth
Dysgeidiaeth o’r Beibl:
“[Dydy] Duw ddim yn dangos ffafriaeth! Mae’n derbyn pobl o bob gwlad sy’n ei addoli ac yn gwneud beth sy’n iawn.”—ACTAU 10:34, 35.
Beth Mae’n ei Olygu:
Dydy Jehofa * Dduw ddim yn ein barnu ni ar sail ein cenedl, hil, lliw croen, neu ddiwylliant. Yn hytrach, mae’n canolbwyntio ar beth sydd wir yn bwysig—yr hyn rydyn ni ar y tu mewn. Yn wir, “mae pobl yn edrych ar y tu allan, ond mae’r ARGLWYDD yn edrych ar sut berson ydy rhywun go iawn.”—1 Samuel 16:7.
Beth Allwch Chi ei Wneud:
Er nad ydyn ni’n gallu gweld beth sydd yng nghalonnau pobl, gallwn ni geisio efelychu Duw a pheidio â barnu eraill. Ceisiwch weld pobl fel unigolion yn hytrach na grwpiau o bobl. Os ydych chi’n sylwi bod gynnoch chi deimladau negyddol tuag at eraill—efallai rhai o hil neu ddiwylliant gwahanol—gweddïwch ar Dduw a gofynnwch iddo eich helpu chi i ddod dros deimladau felly. (Salm 139:23, 24) Os ydych chi’n gweddïo’n daer ar Jehofa i’ch helpu chi i beidio â dangos ffafriaeth, gallwch chi fod yn sicr y bydd yn gwrando ar eich gweddïau ac yn eich helpu chi.—1 Pedr 3:12.
^ Par. 6 Jehofa ydy enw personol Duw.—Salm 83:18, Beibl Cysegr-lân.
“Doeddwn i erioed wedi eistedd i lawr yn heddychlon gyda pherson gwyn . . . Nawr, o’n i’n rhan o deulu byd-eang.”—TITUS